Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Comiwnyddiaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''Communism'') Er bod sawl ffurf gynharach ar gomiwnyddiaeth, deillia comiwnyddiaeth, yn ei hystyr fodern, o weithiau Karl Marx a Friedrich...')
 
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 3: Llinell 3:
 
Er bod sawl ffurf gynharach ar gomiwnyddiaeth, deillia comiwnyddiaeth, yn ei hystyr fodern, o weithiau [[Karl Marx]] a Friedrich Engels.
 
Er bod sawl ffurf gynharach ar gomiwnyddiaeth, deillia comiwnyddiaeth, yn ei hystyr fodern, o weithiau [[Karl Marx]] a Friedrich Engels.
  
Yng ngwaith Marx, comiwnyddiaeth yw’r ffurf gymdeithasol sy’n [[datblygu]] yn dilyn diddymu [[cyfalafiaeth]] drwy chwyldro’r proletariat. Er nad yw Marx yn cynnig darlun pendant o natur y gymdeithas hon, gan mai comiwnyddiaeth yw’r ‘symudiad real’ sy’n diddymu’r erchyllterau sy’n deillio o berchnogaeth eiddo preifat mewn cyfalafiaeth (Marx ac Engels 1845/2000), gellir nodi mai cymdeithas ddiddosbarth a diwladwriaeth, heb eiddo preifat, fydd cymdeithas gomiwnyddol (gweler Marx ac Engels 1848/2014: 44–5 passim.; cf. Engels 1880/2003: 78). Yr hyn sy’n gwneud cymdeithas gomiwnyddol yn bosibl yw’r grym aruthrol i gynhyrchu a ddatblygir gan gyfalafiaeth. Ond, dan gomiwnyddiaeth, defnyddir y gormodedd o gynnyrch a grëir er mwyn bodloni anghenion a galluogi ffyniant pob unigolyn yn y gymdeithas, ac nid er gwasanaethu buddiannau’r dosbarth llywodraethol.
+
Yng ngwaith Marx, comiwnyddiaeth yw’r ffurf gymdeithasol sy’n <nowiki>datblygu</nowiki> yn dilyn diddymu [[cyfalafiaeth]] drwy chwyldro’r proletariat. Er nad yw Marx yn cynnig darlun pendant o natur y gymdeithas hon, gan mai comiwnyddiaeth yw’r ‘symudiad real’ sy’n diddymu’r erchyllterau sy’n deillio o berchnogaeth eiddo preifat mewn [[cyfalafiaeth]] (Marx ac Engels 1845/2000), gellir nodi mai cymdeithas ddiddosbarth a diwladwriaeth, heb eiddo preifat, fydd cymdeithas gomiwnyddol (gweler Marx ac Engels 1848/2014: 44–5 passim.; cf. Engels 1880/2003: 78). Yr hyn sy’n gwneud cymdeithas gomiwnyddol yn bosibl yw’r grym aruthrol i gynhyrchu a ddatblygir gan gyfalafiaeth. Ond, dan gomiwnyddiaeth, defnyddir y gormodedd o gynnyrch a grëir er mwyn bodloni anghenion a galluogi ffyniant pob unigolyn yn y gymdeithas, ac nid er gwasanaethu buddiannau’r dosbarth llywodraethol.
  
 
'''Garmon Iago'''
 
'''Garmon Iago'''
Llinell 9: Llinell 9:
 
== Llyfryddiaeth ==
 
== Llyfryddiaeth ==
  
Engels, F. (1880/2003), Socialism: Utopian and Scientific, https://www.marxists.org/archive/marx/works/download/Engels_Socialism_Utopian_and_Scientific.pdf [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
+
Engels, F. (1880/2003), ''Socialism: Utopian and Scientific'', https://www.marxists.org/archive/marx/works/download/Engels_Socialism_Utopian_and_Scientific.pdf [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
  
Marx, K. ac Engels, F. (1845/2000), The German Ideology, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1845/german-ideology/ch01a.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
+
Marx, K. ac Engels, F. (1845/2000), ''The German Ideology'', https://www.marxists.org/archive/marx/works/1845/german-ideology/ch01a.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
  
Marx, K ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
+
Marx, K ac Engels, F. (1848/2014), ''Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol'', https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].
  
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]]
 
[[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]]

Y diwygiad cyfredol, am 12:38, 13 Mawrth 2023

(Saesneg: Communism)

Er bod sawl ffurf gynharach ar gomiwnyddiaeth, deillia comiwnyddiaeth, yn ei hystyr fodern, o weithiau Karl Marx a Friedrich Engels.

Yng ngwaith Marx, comiwnyddiaeth yw’r ffurf gymdeithasol sy’n datblygu yn dilyn diddymu cyfalafiaeth drwy chwyldro’r proletariat. Er nad yw Marx yn cynnig darlun pendant o natur y gymdeithas hon, gan mai comiwnyddiaeth yw’r ‘symudiad real’ sy’n diddymu’r erchyllterau sy’n deillio o berchnogaeth eiddo preifat mewn cyfalafiaeth (Marx ac Engels 1845/2000), gellir nodi mai cymdeithas ddiddosbarth a diwladwriaeth, heb eiddo preifat, fydd cymdeithas gomiwnyddol (gweler Marx ac Engels 1848/2014: 44–5 passim.; cf. Engels 1880/2003: 78). Yr hyn sy’n gwneud cymdeithas gomiwnyddol yn bosibl yw’r grym aruthrol i gynhyrchu a ddatblygir gan gyfalafiaeth. Ond, dan gomiwnyddiaeth, defnyddir y gormodedd o gynnyrch a grëir er mwyn bodloni anghenion a galluogi ffyniant pob unigolyn yn y gymdeithas, ac nid er gwasanaethu buddiannau’r dosbarth llywodraethol.

Garmon Iago

Llyfryddiaeth

Engels, F. (1880/2003), Socialism: Utopian and Scientific, https://www.marxists.org/archive/marx/works/download/Engels_Socialism_Utopian_and_Scientific.pdf [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K. ac Engels, F. (1845/2000), The German Ideology, https://www.marxists.org/archive/marx/works/1845/german-ideology/ch01a.htm [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].

Marx, K ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 13 Mai 2021].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.