Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Unigolyddiaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
(Saesneg: ''Individualism'')
 
(Saesneg: ''Individualism'')
  
Mae cymdeithasegwyr yn defnyddio’r term unigolyddiaeth i ddisgrifio ffurf o fyw sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd yr unigolyn yn hytrach na lles y gymdeithas ehangach. Mae’n gysyniad pwysig yng ngwaith nifer o gymdeithasegwyr, gan gynnwys [[Émile Durkheim]]. Roedd Durkheim yn poeni am effaith twf unigolyddiaeth ar [[solidariaeth]] gymdeithasol yn sgil y newidiadau a ddeilliodd o’r Chwyldro Diwydiannol. Credai Durkheim fod cyfuniad o ddiwydianeiddio llafur a dirywiad mewn [[crefydd]] yn arwain at ddiffyg gwerthoedd a normau cymdeithasol. Er hyn, roedd yn dal i feddwl ei bod yn bosib cynnal [[solidariaeth]] mewn cymdeithasau modern. Mewn cymdeithasau traddodiadol mae’r tebygrwydd rhwng pobl, o ran eu gwerthoedd a’u credoau, yn sicrhau bod [[solidariaeth]] gymdeithasol yn cael ei chynnal. Solidariaeth fecanyddol oedd y gair a ddefnyddiodd Durkheim i ddisgrifio’r math hwn o solidariaeth.  
+
Mae cymdeithasegwyr yn defnyddio’r term unigolyddiaeth i ddisgrifio ffurf o fyw sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd yr unigolyn yn hytrach na lles y gymdeithas ehangach. Mae’n gysyniad pwysig yng ngwaith nifer o gymdeithasegwyr, gan gynnwys [[Émile Durkheim]]. Roedd Durkheim yn poeni am effaith twf unigolyddiaeth ar [[solidariaeth]] gymdeithasol yn sgil y newidiadau a ddeilliodd o’r Chwyldro Diwydiannol. Credai Durkheim fod cyfuniad o ddiwydianeiddio llafur a dirywiad mewn [[crefydd]] yn arwain at ddiffyg gwerthoedd a normau cymdeithasol. Er hyn, roedd yn dal i feddwl ei bod yn bosib cynnal [[solidariaeth]] mewn cymdeithasau modern. Mewn cymdeithasau traddodiadol mae’r tebygrwydd rhwng pobl, o ran eu gwerthoedd a’u credoau, yn sicrhau bod [[solidariaeth]] gymdeithasol yn cael ei chynnal. [[Solidariaeth]] fecanyddol oedd y gair a ddefnyddiodd Durkheim i ddisgrifio’r math hwn o [[solidariaeth]].  
  
Ond, o fewn cymdeithasau diwydiannol, roedd Durkheim yn credu bod angen math arall o solidariaeth, sef solidariaeth organig. Yn ôl Durkheim, roedd y gyfraith yn hollbwysig er mwyn cynnal solidariaeth organig. Credai fod newidiadau yn natur y gyfraith ar ôl y Chwyldro Diwydiannol yn adlewyrchu anghenion a gofynion cymdeithasau oedd yn fwy unigolyddol, ag amrywiaeth ehangach o ran eu credoau. Tra oedd y gyfraith mewn cymdeithasau traddodiadol yn canolbwyntio ar gosbi pobl oedd yn gwyro oddi wrth y gwerthoedd a’r credoau cyffredin, mewn cymdeithasau diwydiannol, roedd cyfreithiau wedi’u seilio ar gydweithrediad yn fwy amlwg, gan gynnwys cyfreithiau sifil, masnachol.  
+
Ond, o fewn cymdeithasau diwydiannol, roedd Durkheim yn credu bod angen math arall o [[solidariaeth]], sef [[solidariaeth]] organig. Yn ôl Durkheim, roedd y gyfraith yn hollbwysig er mwyn cynnal solidariaeth organig. Credai fod newidiadau yn natur y gyfraith ar ôl y Chwyldro Diwydiannol yn adlewyrchu anghenion a gofynion cymdeithasau oedd yn fwy unigolyddol, ag amrywiaeth ehangach o ran eu credoau. Tra oedd y gyfraith mewn cymdeithasau traddodiadol yn canolbwyntio ar gosbi pobl oedd yn gwyro oddi wrth y gwerthoedd a’r credoau cyffredin, mewn cymdeithasau diwydiannol, roedd cyfreithiau wedi’u seilio ar gydweithrediad yn fwy amlwg, gan gynnwys cyfreithiau sifil, masnachol.  
Mae cymdeithasegwyr diweddarach, fel Ulrich Beck ac Elisabeth Beck-Gernsheim, hefyd wedi canolbwyntio ar unigolyddiaeth. Dadleua Beck a Beck-Gernsheim (2001) fod unigolyddiaeth yn rhinwedd reddfol mewn cymdeithasau modern. Mae eu gwaith yn gwahaniaethu rhwng dau gyfnod o foderniaeth. Daeth y cyfnod cyntaf i fodolaeth yn sgil datblygiad diwydiannau newydd a dirywiad dylanwad [[crefydd]] ar foesau a gwerthoedd. Yn debyg i Durkheim, credant fod hyn wedi golygu bod mwy o amrywiaeth o ran credoau o fewn cymdeithasau yr adeg hon. Ond mae eu gwaith yn mynd yn bellach, ac yn disgrifio ail gyfnod modern sy’n gweld dirywiad sefydliadau pwysig i fywyd torfol, fel [[dosbarth]] a’r [[teulu]], y [[wladwriaeth]] a’r gymuned leol.
+
Mae cymdeithasegwyr diweddarach, fel Ulrich Beck ac Elisabeth Beck-Gernsheim, hefyd wedi canolbwyntio ar unigolyddiaeth. Dadleua Beck a Beck-Gernsheim (2001) fod unigolyddiaeth yn rhinwedd reddfol mewn cymdeithasau modern. Mae eu gwaith yn gwahaniaethu rhwng dau gyfnod o foderniaeth. Daeth y cyfnod cyntaf i fodolaeth yn sgil datblygiad diwydiannau newydd a dirywiad dylanwad [[crefydd]] ar foesau a gwerthoedd. Yn debyg i Durkheim, credant fod hyn wedi golygu bod mwy o amrywiaeth o ran credoau o fewn cymdeithasau yr adeg hon. Ond mae eu gwaith yn mynd yn bellach, ac yn disgrifio ail gyfnod modern sy’n gweld dirywiad sefydliadau pwysig i fywyd torfol, fel [[dosbarth]] a’r [[teulu]], y wladwriaeth a’r gymuned leol.
  
 
Nid yn unig y mae gan unigolion fwy o ddewis o ran eu gwaith yn yr ail gyfnod modern, ond mae gwahaniaethau mawr hefyd yn y mathau o berthynas rhwng unigolion a’u bywydau teuluol. Nid yw Beck a Beck-Gernsheim yn credu bod dosbarth yn diffinio bywydau pobl bellach. Ceir [[tlodi]] ac anghydraddoldeb o hyd, ond oherwydd unigolyddiaeth, mae diffyg ymdeimlad o ddosbarth fel rhywbeth sy’n uno pobl o ran ymddygiad, credoau a [[diwylliant]]. Mae yna hefyd ddiffyg cysylltiadau rhwng pobl sy’n dioddef [[tlodi]], sy’n golygu bod llai o sefyll yn erbyn polisïau gwleidyddol ac anghydraddoldeb.  
 
Nid yn unig y mae gan unigolion fwy o ddewis o ran eu gwaith yn yr ail gyfnod modern, ond mae gwahaniaethau mawr hefyd yn y mathau o berthynas rhwng unigolion a’u bywydau teuluol. Nid yw Beck a Beck-Gernsheim yn credu bod dosbarth yn diffinio bywydau pobl bellach. Ceir [[tlodi]] ac anghydraddoldeb o hyd, ond oherwydd unigolyddiaeth, mae diffyg ymdeimlad o ddosbarth fel rhywbeth sy’n uno pobl o ran ymddygiad, credoau a [[diwylliant]]. Mae yna hefyd ddiffyg cysylltiadau rhwng pobl sy’n dioddef [[tlodi]], sy’n golygu bod llai o sefyll yn erbyn polisïau gwleidyddol ac anghydraddoldeb.  
  
 
Dadleuodd Beck (1992) fod diffyg strwythur moesau cyffredin yn creu straen, gan nad oedd yr un cysylltiadau rhwng pobl i’w huno. Yn ogystal, erbyn hyn mae llawer mwy o ryddid gan bobl i ddiffinio’u bywydau eu hunain, e.e. penderfynu ar eu gyrfaoedd, eu partneriaid a’u [[crefydd]] eu hunain. Ond dadleua Beck ymhellach fod y dewisiadau hyn yn gallu achosi straen a phryder, yn enwedig gan fod unigolion, yn hytrach na’r gymdeithas ehangach, nawr yn cael eu beio am eu methiannau o fewn systemau [[cyfalafiaeth|cyfalafol]] modern.  
 
Dadleuodd Beck (1992) fod diffyg strwythur moesau cyffredin yn creu straen, gan nad oedd yr un cysylltiadau rhwng pobl i’w huno. Yn ogystal, erbyn hyn mae llawer mwy o ryddid gan bobl i ddiffinio’u bywydau eu hunain, e.e. penderfynu ar eu gyrfaoedd, eu partneriaid a’u [[crefydd]] eu hunain. Ond dadleua Beck ymhellach fod y dewisiadau hyn yn gallu achosi straen a phryder, yn enwedig gan fod unigolion, yn hytrach na’r gymdeithas ehangach, nawr yn cael eu beio am eu methiannau o fewn systemau [[cyfalafiaeth|cyfalafol]] modern.  
'''
+
 
Rhian Barrance'''
+
'''Rhian Barrance'''
  
 
== Llyfryddiaeth ==
 
== Llyfryddiaeth ==

Y diwygiad cyfredol, am 11:32, 25 Mai 2023

(Saesneg: Individualism)

Mae cymdeithasegwyr yn defnyddio’r term unigolyddiaeth i ddisgrifio ffurf o fyw sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd yr unigolyn yn hytrach na lles y gymdeithas ehangach. Mae’n gysyniad pwysig yng ngwaith nifer o gymdeithasegwyr, gan gynnwys Émile Durkheim. Roedd Durkheim yn poeni am effaith twf unigolyddiaeth ar solidariaeth gymdeithasol yn sgil y newidiadau a ddeilliodd o’r Chwyldro Diwydiannol. Credai Durkheim fod cyfuniad o ddiwydianeiddio llafur a dirywiad mewn crefydd yn arwain at ddiffyg gwerthoedd a normau cymdeithasol. Er hyn, roedd yn dal i feddwl ei bod yn bosib cynnal solidariaeth mewn cymdeithasau modern. Mewn cymdeithasau traddodiadol mae’r tebygrwydd rhwng pobl, o ran eu gwerthoedd a’u credoau, yn sicrhau bod solidariaeth gymdeithasol yn cael ei chynnal. Solidariaeth fecanyddol oedd y gair a ddefnyddiodd Durkheim i ddisgrifio’r math hwn o solidariaeth.

Ond, o fewn cymdeithasau diwydiannol, roedd Durkheim yn credu bod angen math arall o solidariaeth, sef solidariaeth organig. Yn ôl Durkheim, roedd y gyfraith yn hollbwysig er mwyn cynnal solidariaeth organig. Credai fod newidiadau yn natur y gyfraith ar ôl y Chwyldro Diwydiannol yn adlewyrchu anghenion a gofynion cymdeithasau oedd yn fwy unigolyddol, ag amrywiaeth ehangach o ran eu credoau. Tra oedd y gyfraith mewn cymdeithasau traddodiadol yn canolbwyntio ar gosbi pobl oedd yn gwyro oddi wrth y gwerthoedd a’r credoau cyffredin, mewn cymdeithasau diwydiannol, roedd cyfreithiau wedi’u seilio ar gydweithrediad yn fwy amlwg, gan gynnwys cyfreithiau sifil, masnachol. Mae cymdeithasegwyr diweddarach, fel Ulrich Beck ac Elisabeth Beck-Gernsheim, hefyd wedi canolbwyntio ar unigolyddiaeth. Dadleua Beck a Beck-Gernsheim (2001) fod unigolyddiaeth yn rhinwedd reddfol mewn cymdeithasau modern. Mae eu gwaith yn gwahaniaethu rhwng dau gyfnod o foderniaeth. Daeth y cyfnod cyntaf i fodolaeth yn sgil datblygiad diwydiannau newydd a dirywiad dylanwad crefydd ar foesau a gwerthoedd. Yn debyg i Durkheim, credant fod hyn wedi golygu bod mwy o amrywiaeth o ran credoau o fewn cymdeithasau yr adeg hon. Ond mae eu gwaith yn mynd yn bellach, ac yn disgrifio ail gyfnod modern sy’n gweld dirywiad sefydliadau pwysig i fywyd torfol, fel dosbarth a’r teulu, y wladwriaeth a’r gymuned leol.

Nid yn unig y mae gan unigolion fwy o ddewis o ran eu gwaith yn yr ail gyfnod modern, ond mae gwahaniaethau mawr hefyd yn y mathau o berthynas rhwng unigolion a’u bywydau teuluol. Nid yw Beck a Beck-Gernsheim yn credu bod dosbarth yn diffinio bywydau pobl bellach. Ceir tlodi ac anghydraddoldeb o hyd, ond oherwydd unigolyddiaeth, mae diffyg ymdeimlad o ddosbarth fel rhywbeth sy’n uno pobl o ran ymddygiad, credoau a diwylliant. Mae yna hefyd ddiffyg cysylltiadau rhwng pobl sy’n dioddef tlodi, sy’n golygu bod llai o sefyll yn erbyn polisïau gwleidyddol ac anghydraddoldeb.

Dadleuodd Beck (1992) fod diffyg strwythur moesau cyffredin yn creu straen, gan nad oedd yr un cysylltiadau rhwng pobl i’w huno. Yn ogystal, erbyn hyn mae llawer mwy o ryddid gan bobl i ddiffinio’u bywydau eu hunain, e.e. penderfynu ar eu gyrfaoedd, eu partneriaid a’u crefydd eu hunain. Ond dadleua Beck ymhellach fod y dewisiadau hyn yn gallu achosi straen a phryder, yn enwedig gan fod unigolion, yn hytrach na’r gymdeithas ehangach, nawr yn cael eu beio am eu methiannau o fewn systemau cyfalafol modern.

Rhian Barrance

Llyfryddiaeth

Beck, U. (1992), Risk Society: Towards a New Modernity (London: Thousand Oaks).

Beck, U. a Beck-Gernsheim, E. (2001), Individualization: Institutionalized Individualism and its Social and Political Consequences (London: Thousand Oaks).

Durkheim, É. (1893/2014), The Division of Labour in Society (New York: Free Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.