Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Polisi cymdeithasol"
B (Symudodd AdamPierceCaerdydd y dudalen Polisi Cymdeithasol i Polisi cymdeithasol) |
|||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
(Saesneg: ''Social Policy'') | (Saesneg: ''Social Policy'') | ||
− | Mae Dean yn diffinio polisi cymdeithasol fel ‘astudio’r cysylltiadau cymdeithasol sy’n angenrheidiol ar gyfer lles dynol’ | + | Mae Dean (2012: 1) yn diffinio polisi cymdeithasol fel ‘astudio’r cysylltiadau cymdeithasol sy’n angenrheidiol ar gyfer lles dynol’. Mae’n mynd ymlaen i ddweud, yn greiddiol, fod polisi cymdeithasol yn effeithio ar y math o fywyd y gallwch chi, fi a phawb arall, ei fyw a’r pethau sydd eu hangen ar bobl, fel bwyd, dŵr, gofal iechyd, addysg, bywoliaeth, a phethau hanfodol ond anfaterol fel cariad a diogelwch. Mae polisi cymdeithasol hefyd yn ymwneud â nifer o ffyrdd y gall y llywodraeth a chyrff swyddogol, busnesau, grwpiau cymdeithasol, elusennau, cymdeithas sifil, cymdeithasau lleol ac eglwysi, cymdogion, neu deuluoedd ac anwyliaid drefnu darpariaeth i ddiwallu’r anghenion a’r dymuniadau hyn. |
Mae polisi cymdeithasol yn dod â syniadau a dulliau dadansoddol o gymdeithaseg, gwyddor gwleidyddiaeth, economeg, anthropoleg gymdeithasol, demograffeg, astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol, seicoleg gymdeithasol, hanes cymdeithasol, daearyddiaeth ddynol ac athroniaeth. Mewn gwirionedd, meddai Dean (2012), mae polisi cymdeithasol yn mynd bron iawn lle bynnag y mae ei angen er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o astudio materion sy'n berthnasol i les dynol. | Mae polisi cymdeithasol yn dod â syniadau a dulliau dadansoddol o gymdeithaseg, gwyddor gwleidyddiaeth, economeg, anthropoleg gymdeithasol, demograffeg, astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol, seicoleg gymdeithasol, hanes cymdeithasol, daearyddiaeth ddynol ac athroniaeth. Mewn gwirionedd, meddai Dean (2012), mae polisi cymdeithasol yn mynd bron iawn lle bynnag y mae ei angen er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o astudio materion sy'n berthnasol i les dynol. | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Mae eraill, fel Alcock (2016), yn dadlau bod polisi cymdeithasol yn ddisgyblaeth oherwydd ei adrannau unigryw, ei raglenni gradd unigryw ac oherwydd ei gyrhaeddiad eang o fewn y llywodraeth a chymdeithas. Hyd yn oed pan ystyriwn y symiau syfrdanol o arian cyhoeddus y cofnodir eu bod yn cael eu gwario ar bolisi cymdeithasol, nid yw hyn yn wir ddangosydd o’r graddau y gall polisi cymdeithasol gyffwrdd â’n bywydau wrth inni dyfu i fyny a heneiddio, fel gweithwyr ac fel dinasyddion, yn ein bywydau preifat a thrwy’r sefydliadau cyhoeddus yr ydym yn ymgysylltu â hwy. | Mae eraill, fel Alcock (2016), yn dadlau bod polisi cymdeithasol yn ddisgyblaeth oherwydd ei adrannau unigryw, ei raglenni gradd unigryw ac oherwydd ei gyrhaeddiad eang o fewn y llywodraeth a chymdeithas. Hyd yn oed pan ystyriwn y symiau syfrdanol o arian cyhoeddus y cofnodir eu bod yn cael eu gwario ar bolisi cymdeithasol, nid yw hyn yn wir ddangosydd o’r graddau y gall polisi cymdeithasol gyffwrdd â’n bywydau wrth inni dyfu i fyny a heneiddio, fel gweithwyr ac fel dinasyddion, yn ein bywydau preifat a thrwy’r sefydliadau cyhoeddus yr ydym yn ymgysylltu â hwy. | ||
− | Dadleua Jonathan Bradshaw (2012) mai un o’r anawsterau wrth nodi beth yw polisi cymdeithasol yw ei fod wedi newid dros amser. Mae’n nodi pedwar cam: yr astudiaeth gynnar o bolisi cymdeithasol o’r 1930au; y cyfnod ar ôl y Rhyfel; yr 1980au; a’r cyfnod presennol. Ond mae gwreiddiau polisi cymdeithasol yn dyddio o gyfnod cynharach, sef 1912, pan sefydlodd Ysgol Economeg Llundain (LSE) Adran Gwyddorau Cymdeithasol a Gweinyddiaeth. Roedd Clement Attlee, a fyddai wedyn yn dod yn Brif Weinidog, yn un o’r darlithwyr cyntaf, rhwng 1912 a 1923. Mabwysiadodd Adran yr LSE safbwynt o blaid [[Democratiaeth Gymdeithasol|democratiaeth gymdeithasol]] a chredai’r rhai a’i sefydlodd yn gryf yng ngwerth ymchwil, gwybodaeth ac ymchwil gymdeithasol oedd ymwneud yn uniongyrchol â pholisi ac yn dylanwadu arnynt i fynd i’r afael ag | + | Dadleua Jonathan Bradshaw (2012) mai un o’r anawsterau wrth nodi beth yw polisi cymdeithasol yw ei fod wedi newid dros amser. Mae’n nodi pedwar cam: yr astudiaeth gynnar o bolisi cymdeithasol o’r 1930au; y cyfnod ar ôl y Rhyfel; yr 1980au; a’r cyfnod presennol. Ond mae gwreiddiau polisi cymdeithasol yn dyddio o gyfnod cynharach, sef 1912, pan sefydlodd Ysgol Economeg Llundain (LSE) Adran Gwyddorau Cymdeithasol a Gweinyddiaeth. Roedd Clement Attlee, a fyddai wedyn yn dod yn Brif Weinidog, yn un o’r darlithwyr cyntaf, rhwng 1912 a 1923. Mabwysiadodd Adran yr LSE safbwynt o blaid [[Democratiaeth Gymdeithasol|democratiaeth gymdeithasol]] a chredai’r rhai a’i sefydlodd yn gryf yng ngwerth ymchwil, gwybodaeth ac ymchwil gymdeithasol oedd ymwneud yn uniongyrchol â pholisi ac yn dylanwadu arnynt i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, anghyfiawnder a [[tlodi|thlodi]]. |
Roedd rhaglenni’r LSE ‘ar gyfer rhai a oedd yn dymuno’u paratoi eu hunain i gymryd rhan mewn sawl math o ymdrech gymdeithasol ac elusennol’ (Calendr LSE, a ddyfynnwyd yn Donnison, 1961: 203). Daeth Richard Titmuss yn Athro Gweinyddiaeth Gymdeithasol cyntaf yr LSE ym 1950, ac roedd ganddo awydd cryf i wahaniaethu rhwng polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, fel pwnc ynddo’i hun. Mae’n bwysig nodi mai dyna’r darlun prif ffrwd o ddatblygiad polisi cymdeithasol, ac mae’n bwysig ystyried ffurfiau eraill, fel y rhai a sydd yn cael eu hawgrymu gan Fiona Williams (1987), sy’n tynnu sylw at hiliaeth mewn polisi cymdeithasol cynnar. | Roedd rhaglenni’r LSE ‘ar gyfer rhai a oedd yn dymuno’u paratoi eu hunain i gymryd rhan mewn sawl math o ymdrech gymdeithasol ac elusennol’ (Calendr LSE, a ddyfynnwyd yn Donnison, 1961: 203). Daeth Richard Titmuss yn Athro Gweinyddiaeth Gymdeithasol cyntaf yr LSE ym 1950, ac roedd ganddo awydd cryf i wahaniaethu rhwng polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, fel pwnc ynddo’i hun. Mae’n bwysig nodi mai dyna’r darlun prif ffrwd o ddatblygiad polisi cymdeithasol, ac mae’n bwysig ystyried ffurfiau eraill, fel y rhai a sydd yn cael eu hawgrymu gan Fiona Williams (1987), sy’n tynnu sylw at hiliaeth mewn polisi cymdeithasol cynnar. | ||
− | Ers dechrau’r 1900au felly, mae polisi cymdeithasol wedi newid o fod â ffocws sylweddol ar y | + | Ers dechrau’r 1900au felly, mae polisi cymdeithasol wedi newid o fod â ffocws sylweddol ar y wladwriaeth i fod â ffocws cynyddol ar ganlyniadau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn ddisgyblaeth sy’n canolbwyntio ar broblemau ac atebion, gan dynnu ar ystod o ddulliau, damcaniaethau a dulliau empirig i ddeall, beirniadu a gwella’r [[strwythur cymdeithasol|strwythurau cymdeithasol]], y sefydliadau a’r actorion sy’n gyfrifol am les cymdeithasol. |
'''Sioned Pearce''' | '''Sioned Pearce''' | ||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
Donnison, D. V. (1961), ‘The Teaching of Social Administration’, ''The British Journal of Sociology'', 12 (3), 203–23. | Donnison, D. V. (1961), ‘The Teaching of Social Administration’, ''The British Journal of Sociology'', 12 (3), 203–23. | ||
− | Spicker, P. (1984), Stigma and Social Welfare (London: Croom Helm). | + | Spicker, P. (1984), ''Stigma and Social Welfare'' (London: Croom Helm). |
Williams, F. (1987), ‘Racism and the discipline of social policy: a critique of welfare theory’, ''Critical Social Policy''. 7, 20, 4–29. | Williams, F. (1987), ‘Racism and the discipline of social policy: a critique of welfare theory’, ''Critical Social Policy''. 7, 20, 4–29. |
Y diwygiad cyfredol, am 11:34, 25 Mai 2023
(Saesneg: Social Policy)
Mae Dean (2012: 1) yn diffinio polisi cymdeithasol fel ‘astudio’r cysylltiadau cymdeithasol sy’n angenrheidiol ar gyfer lles dynol’. Mae’n mynd ymlaen i ddweud, yn greiddiol, fod polisi cymdeithasol yn effeithio ar y math o fywyd y gallwch chi, fi a phawb arall, ei fyw a’r pethau sydd eu hangen ar bobl, fel bwyd, dŵr, gofal iechyd, addysg, bywoliaeth, a phethau hanfodol ond anfaterol fel cariad a diogelwch. Mae polisi cymdeithasol hefyd yn ymwneud â nifer o ffyrdd y gall y llywodraeth a chyrff swyddogol, busnesau, grwpiau cymdeithasol, elusennau, cymdeithas sifil, cymdeithasau lleol ac eglwysi, cymdogion, neu deuluoedd ac anwyliaid drefnu darpariaeth i ddiwallu’r anghenion a’r dymuniadau hyn.
Mae polisi cymdeithasol yn dod â syniadau a dulliau dadansoddol o gymdeithaseg, gwyddor gwleidyddiaeth, economeg, anthropoleg gymdeithasol, demograffeg, astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol, seicoleg gymdeithasol, hanes cymdeithasol, daearyddiaeth ddynol ac athroniaeth. Mewn gwirionedd, meddai Dean (2012), mae polisi cymdeithasol yn mynd bron iawn lle bynnag y mae ei angen er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o astudio materion sy'n berthnasol i les dynol.
Mae polisi cymdeithasol bob amser wedi bod yn ‘broblem-ganolog’ (problem-centred) ac felly’n mynnu’r gallu i integreiddio dysgu o wahanol feysydd academaidd. Mewn llawer o bynciau, mae problem ddiffiniedig yn rhywbeth i’w ddeall; mewn polisi cymdeithasol mae problem hefyd yn rhywbeth i’w ddatrys. Dro ar ôl tro, gelwir ar fyfyrwyr y pwnc i ystyried yr hyn y dylid ei wneud i ddatrys problem (Donnison, 1961: 219).
Mae rhai, fel Paul Spicker (1984), yn dadlau mai maes astudio yw polisi cymdeithasol, ac nid disgyblaeth. Gyda’r ddadl hon mae Spicker hefyd yn gwahaniaethu rhwng gwasanaethau cymdeithasol sy’n delio ag amodau dibyniaeth – fel tai, iechyd, nawdd cymdeithasol, addysg a gwaith cymdeithasol – a gwasanaethau cyhoeddus nad ydyn nhw’n delio ag amodau dibyniaeth – fel cynllunio trefol, adeiladu ffyrdd, llyfrgelloedd a’r heddlu. Fodd bynnag, mae polisi cymdeithasol yn cynnwys unrhyw bolisi sy’n effeithio ar gysylltiadau mewn cymdeithas.
Mae eraill, fel Alcock (2016), yn dadlau bod polisi cymdeithasol yn ddisgyblaeth oherwydd ei adrannau unigryw, ei raglenni gradd unigryw ac oherwydd ei gyrhaeddiad eang o fewn y llywodraeth a chymdeithas. Hyd yn oed pan ystyriwn y symiau syfrdanol o arian cyhoeddus y cofnodir eu bod yn cael eu gwario ar bolisi cymdeithasol, nid yw hyn yn wir ddangosydd o’r graddau y gall polisi cymdeithasol gyffwrdd â’n bywydau wrth inni dyfu i fyny a heneiddio, fel gweithwyr ac fel dinasyddion, yn ein bywydau preifat a thrwy’r sefydliadau cyhoeddus yr ydym yn ymgysylltu â hwy.
Dadleua Jonathan Bradshaw (2012) mai un o’r anawsterau wrth nodi beth yw polisi cymdeithasol yw ei fod wedi newid dros amser. Mae’n nodi pedwar cam: yr astudiaeth gynnar o bolisi cymdeithasol o’r 1930au; y cyfnod ar ôl y Rhyfel; yr 1980au; a’r cyfnod presennol. Ond mae gwreiddiau polisi cymdeithasol yn dyddio o gyfnod cynharach, sef 1912, pan sefydlodd Ysgol Economeg Llundain (LSE) Adran Gwyddorau Cymdeithasol a Gweinyddiaeth. Roedd Clement Attlee, a fyddai wedyn yn dod yn Brif Weinidog, yn un o’r darlithwyr cyntaf, rhwng 1912 a 1923. Mabwysiadodd Adran yr LSE safbwynt o blaid democratiaeth gymdeithasol a chredai’r rhai a’i sefydlodd yn gryf yng ngwerth ymchwil, gwybodaeth ac ymchwil gymdeithasol oedd ymwneud yn uniongyrchol â pholisi ac yn dylanwadu arnynt i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, anghyfiawnder a thlodi.
Roedd rhaglenni’r LSE ‘ar gyfer rhai a oedd yn dymuno’u paratoi eu hunain i gymryd rhan mewn sawl math o ymdrech gymdeithasol ac elusennol’ (Calendr LSE, a ddyfynnwyd yn Donnison, 1961: 203). Daeth Richard Titmuss yn Athro Gweinyddiaeth Gymdeithasol cyntaf yr LSE ym 1950, ac roedd ganddo awydd cryf i wahaniaethu rhwng polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, fel pwnc ynddo’i hun. Mae’n bwysig nodi mai dyna’r darlun prif ffrwd o ddatblygiad polisi cymdeithasol, ac mae’n bwysig ystyried ffurfiau eraill, fel y rhai a sydd yn cael eu hawgrymu gan Fiona Williams (1987), sy’n tynnu sylw at hiliaeth mewn polisi cymdeithasol cynnar.
Ers dechrau’r 1900au felly, mae polisi cymdeithasol wedi newid o fod â ffocws sylweddol ar y wladwriaeth i fod â ffocws cynyddol ar ganlyniadau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn ddisgyblaeth sy’n canolbwyntio ar broblemau ac atebion, gan dynnu ar ystod o ddulliau, damcaniaethau a dulliau empirig i ddeall, beirniadu a gwella’r strwythurau cymdeithasol, y sefydliadau a’r actorion sy’n gyfrifol am les cymdeithasol.
Sioned Pearce
Llyfryddiaeth
Alcock, P. et al. (goln) (2016), The Student’s Companion to Social Policy. 5ed argraffiad (London: Wiley-Blackwell).
Bradshaw, J. (2012), What is social policy? www.youtube.com/watch?v=7zUv4bHdHMc [Cyrchwyd: 13 Gorffennaf 2021].
Dean, H. (2012), Social Policy (Cambridge: Polity Press).
Donnison, D. V. (1961), ‘The Teaching of Social Administration’, The British Journal of Sociology, 12 (3), 203–23.
Spicker, P. (1984), Stigma and Social Welfare (London: Croom Helm).
Williams, F. (1987), ‘Racism and the discipline of social policy: a critique of welfare theory’, Critical Social Policy. 7, 20, 4–29.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.