Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ceidwadaeth"
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
Yn nhyb Ceidwadwyr mae gwerth cynhenid i arferion neu sefydliadau hanesyddol cymdeithas. I ddechrau, mae’r ffaith syml bod rhai o’n traddodiadau wedi llwyddo i oroesi dros gyfnodau o genedlaethau yn brawf clir eu bod yn ‘gweithio’ ac yn medru cyflawni swyddogaethau pwysig o fewn cymdeithas. Yn ail, yn sgil eu hirhoedledd byddant wedi dod i ymgorffori doethineb a gwybodaeth bwysig all fod o ddefnydd i bobl yn ystod y cyfnod presennol, neu rywbryd yn y dyfodol. Yn drydydd, mae bodolaeth cyfres o arferion neu sefydliadau traddodiadol yn medru cyfrannu at hybu ymdeimlad o berthyn a sefydlogrwydd ymhlith aelodau cymdeithas ac yn atgyfnerthu’r syniad bod cysylltiad cryf rhyngddynt â’r cenedlaethau a ddaeth o’u blaen. Am enghraifft drawiadol o’r math yma o ddadleuon yn cael eu defnyddio ystyrier y modd y mae Ceidwadwyr yn y Deyrnas Unedig wedi dadlau o blaid parhad y frenhiniaeth. Mae’r dadleuon hyn yn aml yn cyffwrdd ar ffactorau megis oed, profiad, gwybodaeth, sefydlogrwydd ac arwyddocâd symbolaidd. | Yn nhyb Ceidwadwyr mae gwerth cynhenid i arferion neu sefydliadau hanesyddol cymdeithas. I ddechrau, mae’r ffaith syml bod rhai o’n traddodiadau wedi llwyddo i oroesi dros gyfnodau o genedlaethau yn brawf clir eu bod yn ‘gweithio’ ac yn medru cyflawni swyddogaethau pwysig o fewn cymdeithas. Yn ail, yn sgil eu hirhoedledd byddant wedi dod i ymgorffori doethineb a gwybodaeth bwysig all fod o ddefnydd i bobl yn ystod y cyfnod presennol, neu rywbryd yn y dyfodol. Yn drydydd, mae bodolaeth cyfres o arferion neu sefydliadau traddodiadol yn medru cyfrannu at hybu ymdeimlad o berthyn a sefydlogrwydd ymhlith aelodau cymdeithas ac yn atgyfnerthu’r syniad bod cysylltiad cryf rhyngddynt â’r cenedlaethau a ddaeth o’u blaen. Am enghraifft drawiadol o’r math yma o ddadleuon yn cael eu defnyddio ystyrier y modd y mae Ceidwadwyr yn y Deyrnas Unedig wedi dadlau o blaid parhad y frenhiniaeth. Mae’r dadleuon hyn yn aml yn cyffwrdd ar ffactorau megis oed, profiad, gwybodaeth, sefydlogrwydd ac arwyddocâd symbolaidd. | ||
− | '''3.2. | + | '''3.2. <nowiki>Pragmatiaeth</nowiki>''' |
− | At ei gilydd mae Ceidwadwyr wedi mynegi amheuon mawr ynglŷn â’r syniad o resymoliaeth. I geidwadwyr, megis Michael Oakeshott (1962), ffwlbri yw’r awgrym y gall bodau dynol obeithio | + | At ei gilydd mae Ceidwadwyr wedi mynegi amheuon mawr ynglŷn â’r syniad o resymoliaeth. I geidwadwyr, megis Michael Oakeshott (1962), ffwlbri yw’r awgrym y gall bodau dynol obeithio <nowiki>datblygu</nowiki> dealltwriaeth drylwyr o’r byd trwy fyfyrio, astudio a defnyddio eu gallu i resymu. O ganlyniad, mae Ceidwadwyr wedi ymwrthod â safbwyntiau gwleidyddol sy’n awgrymu y dylid dyrchafu corff o egwyddorion haniaethol, megis rhyddid, cydraddoldeb neu oddefgarwch, fel canllawiau i’n harwain wrth ymhél â gwleidyddiaeth ac wrth benderfynu sut y dylid trefnu cymdeithas. Dadleuir bod y byd yn lle llawer rhy gymhleth ar gyfer hyn. Yn wir, llawer gwell yn nhyb y ceidwadwr yw rhoi ffydd yn ein profiadau ymarferol, gan ymddwyn mewn modd pragmataidd. Golyga hyn y dylai penderfyniadau gwleidyddol gael eu seilio ar ystyriaeth ofalus o’r hyn sy’n ymddangos yn briodol ar y pryd, yn hytrach nag ar ragdybiaethau egwyddorol. Mewn geiriau eraill dylid ffafrio beth bynnag sy’n debygol o ‘weithio’, beth bynnag fo hynny. Mae’r ffydd yma mewn [[pragmatiaeth]] wedi peri i rai hawlio mai nid [[ideoleg]] wleidyddol mo Ceidwadaeth mewn gwirionedd, ond yn hytrach ‘ffordd o feddwl’ neu ‘ffordd o fyw’ (Schneider 2013). Yn wir, mae <nowiki>pragmatiaeth</nowiki> yn egwyddor sylfaenol i Geidwadaeth. |
'''3.3. Amherffeithrwydd Dynol''' | '''3.3. Amherffeithrwydd Dynol''' | ||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
Mae ceidwadwyr yn arddel dehongliad negyddol iawn o natur bodau dynol (Welsh 2003). Yn wahanol i Ryddfrydwyr neu Sosialwyr, nid ydynt yn derbyn ein bod oll, yn ein hanfod, yn greaduriaid ‘da’. Yn hytrach, creaduriaid amherffaith a sathredig sy’n meddu ar ystod o wendidau cynhenid ydym. | Mae ceidwadwyr yn arddel dehongliad negyddol iawn o natur bodau dynol (Welsh 2003). Yn wahanol i Ryddfrydwyr neu Sosialwyr, nid ydynt yn derbyn ein bod oll, yn ein hanfod, yn greaduriaid ‘da’. Yn hytrach, creaduriaid amherffaith a sathredig sy’n meddu ar ystod o wendidau cynhenid ydym. | ||
− | I ddechrau, hawlir fod bodau dynol yn greaduriaid ansicr sydd angen teimlo’n ddiogel. Mae hyn wedi arwain ceidwadwyr i fynnu bod medru byw mewn cymunedau trefnus a sefydlog, ac sy’n meddu ar strwythurau awdurdod clir, yn hanfodol i les pob unigolyn. Mynnir bod bodau dynol hefyd yn greaduriaid hunanol a barus a fydd yn rhoi eu lles eu hunain uwchlaw eraill. Mae cred o’r fath wedi peri i nifer o geidwadwyr wrthod yr awgrym bod trosedd ac | + | I ddechrau, hawlir fod bodau dynol yn greaduriaid ansicr sydd angen teimlo’n ddiogel. Mae hyn wedi arwain ceidwadwyr i fynnu bod medru byw mewn cymunedau trefnus a sefydlog, ac sy’n meddu ar strwythurau awdurdod clir, yn hanfodol i les pob unigolyn. Mynnir bod bodau dynol hefyd yn greaduriaid hunanol a barus a fydd yn rhoi eu lles eu hunain uwchlaw eraill. Mae cred o’r fath wedi peri i nifer o geidwadwyr wrthod yr awgrym bod trosedd ac <nowiki>anhrefn</nowiki> cymdeithasol yn bethau sy’n medru deillio o amgylchiadau cymdeithasol anffodus, megis [[tlodi]] neu anghydraddoldeb (Newburn 2017). Yn hytrach honnir eu bod yn bethau sy’n deillio o wendid moesol sylfaenol ar ran yr unigolyn. Dyma reswm pellach felly pam mae ceidwadwyr yn tueddu i roi pwyslais ar yr angen am drefn ac am lywodraeth sy’n gweinyddu system gyfiawnder lem er mwyn cynnal y drefn honno. |
'''3.4.Cymdeithas Organig''' | '''3.4.Cymdeithas Organig''' | ||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
Er bod ceidwadwyr yn barod i dderbyn bod pob unigolyn yn greadur unigryw, maent hefyd gochel rhag meddwl am yr unigolyn fel creadur sy’n medru bodoli ar wahân i gymdeithas. Yn hytrach, mae pob unigolyn wedi’i wreiddio o fewn cymdeithas benodol ac fe fydd y strwythur ehangach hwn yn cyfrannu at ein cynnal, at siapio ein cymeriadau, ac at feithrin ymdeimlad o berthyn. | Er bod ceidwadwyr yn barod i dderbyn bod pob unigolyn yn greadur unigryw, maent hefyd gochel rhag meddwl am yr unigolyn fel creadur sy’n medru bodoli ar wahân i gymdeithas. Yn hytrach, mae pob unigolyn wedi’i wreiddio o fewn cymdeithas benodol ac fe fydd y strwythur ehangach hwn yn cyfrannu at ein cynnal, at siapio ein cymeriadau, ac at feithrin ymdeimlad o berthyn. | ||
− | Ymhellach, mae’r elfennau gwahanol sy’n cynnal ein [[strwythur cymdeithasol]] yn rhai ‘organig’ – elfennau ‘byw’ sydd wedi esblygu’n naturiol ac sydd nawr yn gweithio gyda’i gilydd yn union fel y gwna’r galon, yr ysgyfaint, yr afu a’r ymennydd yn y corff dynol. Yn achos y corff, mae angen i bob un o’r organau hyn weithio mewn cytgord neu bydd y cyfan yn methu. Yn nhyb nifer o geidwadwyr, mae’r un peth yn wir wrth feddwl am gymdeithas. Tybir bod elfennau allweddol megis y | + | Ymhellach, mae’r elfennau gwahanol sy’n cynnal ein [[strwythur cymdeithasol]] yn rhai ‘organig’ – elfennau ‘byw’ sydd wedi esblygu’n naturiol ac sydd nawr yn gweithio gyda’i gilydd yn union fel y gwna’r galon, yr ysgyfaint, yr afu a’r ymennydd yn y corff dynol. Yn achos y corff, mae angen i bob un o’r organau hyn weithio mewn cytgord neu bydd y cyfan yn methu. Yn nhyb nifer o geidwadwyr, mae’r un peth yn wir wrth feddwl am gymdeithas. Tybir bod elfennau allweddol megis y<nowiki>teulu</nowiki>, y gymuned leol, yr eglwys ac ystod o sefydliadau traddodiadol eraill yn gweithredu fel organau ‘byw’ sy’n cynnal bywyd y gymdeithas ac yn sicrhau ei bod yn rhedeg yn esmwyth o ddydd i ddydd (Norton 2008). |
− | O ganlyniad, bu | + | O ganlyniad, bu <nowiki>tuedd</nowiki> ymhlith ceidwadwyr i wrthwynebu datblygiadau sy’n peri newid i natur neu swyddogaeth rhai o’n sefydliadau cymdeithasol traddodiadol. Er enghraifft, yn achos y <nowiki>teulu</nowiki> mynegwyd pryder ynglŷn â datblygiadau megis y newid ym mhatrymau gwaith rhieni, y newid mewn arferion magu plant, ac yn fwyaf arwyddocaol, y newid yn ein dehongliadau o beth yw ffurf yr uned deuluol a phwy all fod yn rhieni (gweler Daniel 2011). Yn nhyb y ceidwadwyr, gallai camau o’r fath beryglu’r ffabrig bregus sy’n cynnal ein cymdeithas organig. |
'''3.5. Anghydraddoldeb Naturiol a Hierarchaeth''' | '''3.5. Anghydraddoldeb Naturiol a Hierarchaeth''' | ||
− | Yn draddodiadol mae ceidwadwyr wedi dadlau bod elfen o anghydraddoldeb yn anochel o fewn unrhyw gymdeithas (Dorey 2010). O ganlyniad, mynnir mai ofer yw gweithio i geisio sicrhau cydraddoldeb cymdeithasol, er enghraifft o ran statws, cyfoeth neu rym. Fe welir felly fod elfen o orgyffwrdd rhwng Ceidwadaeth a [[Rhyddfrydiaeth]]. Fodd bynnag, tra bo Rhyddfrydwyr yn trin bodolaeth anghydraddoldeb fel cyfaddawd sy’n rhaid ei dderbyn er mwyn caniatáu ar gyfer amrywiaethau o ran chwaeth neu allu ymhlith gwahanol unigolion, tuedda ceidwadwyr i’w ddehongli fel rhywbeth dyfnach sy’n allweddol i weithrediad cymdeithas – rhywbeth y dylid ei ddehongli mewn termau naturiol a chadarnhaol. | + | Yn draddodiadol mae ceidwadwyr wedi dadlau bod elfen o anghydraddoldeb yn anochel o fewn unrhyw gymdeithas (Dorey 2010). O ganlyniad, mynnir mai ofer yw gweithio i geisio sicrhau cydraddoldeb cymdeithasol, er enghraifft o ran [[statws]], cyfoeth neu rym. Fe welir felly fod elfen o orgyffwrdd rhwng Ceidwadaeth a [[Rhyddfrydiaeth]]. Fodd bynnag, tra bo Rhyddfrydwyr yn trin bodolaeth anghydraddoldeb fel cyfaddawd sy’n rhaid ei dderbyn er mwyn caniatáu ar gyfer amrywiaethau o ran chwaeth neu allu ymhlith gwahanol unigolion, tuedda ceidwadwyr i’w ddehongli fel rhywbeth dyfnach sy’n allweddol i weithrediad cymdeithas – rhywbeth y dylid ei ddehongli mewn termau naturiol a chadarnhaol. |
Mae’r arfer o drin anghydraddoldeb cymdeithasol fel nodwedd naturiol a chadarnhaol yn deillio o’r ddelwedd organig sy’n rhan o’r bydolwg Ceidwadol. Yn yr un modd ag y mae organau gwahanol yn cyflawni swyddogaethau penodol o fewn y corff dynol mae grwpiau a dosbarthiadau gwahanol yn ysgwyddo cyfrifoldebau penodol o fewn cymdeithas. Mae hyn yn arwain at ddehongliad sy’n tybio bod elfen o hierarchaeth yn angenrheidiol er mwyn i gymdeithas fedru gweithredu’n esmwyth: rhaid derbyn y dylai rhai arwain tra bo eraill yn dilyn; y dylai rhai reoli tra bo eraill yn gweithio; neu y dylai rhai fynd allan i ennill cyflog tra bo eraill yn aros adref i fagu plant. Syniadau tebyg i hyn oedd y gyfrifol am y ffaith bod ceidwadwyr cynnar, megis Edmund Burke (1790/1951), wedi dadlau o blaid y syniad o ‘aristocratiaeth naturiol’, sef y dybiaeth bod y gallu a’r doethineb i ysgwyddo swyddi arweinyddol o fewn cymdeithas yn rhinweddau cynhenid sy’n perthyn i rai dosbarthiadau uwch yn unig. | Mae’r arfer o drin anghydraddoldeb cymdeithasol fel nodwedd naturiol a chadarnhaol yn deillio o’r ddelwedd organig sy’n rhan o’r bydolwg Ceidwadol. Yn yr un modd ag y mae organau gwahanol yn cyflawni swyddogaethau penodol o fewn y corff dynol mae grwpiau a dosbarthiadau gwahanol yn ysgwyddo cyfrifoldebau penodol o fewn cymdeithas. Mae hyn yn arwain at ddehongliad sy’n tybio bod elfen o hierarchaeth yn angenrheidiol er mwyn i gymdeithas fedru gweithredu’n esmwyth: rhaid derbyn y dylai rhai arwain tra bo eraill yn dilyn; y dylai rhai reoli tra bo eraill yn gweithio; neu y dylai rhai fynd allan i ennill cyflog tra bo eraill yn aros adref i fagu plant. Syniadau tebyg i hyn oedd y gyfrifol am y ffaith bod ceidwadwyr cynnar, megis Edmund Burke (1790/1951), wedi dadlau o blaid y syniad o ‘aristocratiaeth naturiol’, sef y dybiaeth bod y gallu a’r doethineb i ysgwyddo swyddi arweinyddol o fewn cymdeithas yn rhinweddau cynhenid sy’n perthyn i rai dosbarthiadau uwch yn unig. | ||
Llinell 73: | Llinell 73: | ||
([[Saunders Lewis]] (1929) dyfynnwyd yn Jones (1996; 28) | ([[Saunders Lewis]] (1929) dyfynnwyd yn Jones (1996; 28) | ||
− | Yn ganolog i syniadaeth neu ideoleg [[cenedlaetholdeb|genedlaetholdeb]] Cymraeg Lewis oedd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Credai Lewis fod yr iaith Gymraeg yn gwbl greiddiol i gysyniad o hunaniaeth genedlaetholdeb Cymraeg. Yn ei araith enwog, Tynged yr Iaith , fe honnai Lewis (1962/1998) y byddai’r iaith Gymraeg yn parhau i ddirywio heb ddulliau chwyldroadol i’w amddiffyn, ac fe alwodd ar Blaid Cymru i fynd i’r afael ar hyn yn syth. Arweiniodd hyn tuag at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962, symudiad ddaeth yn ganolog tuag at sefydlu Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1967 a 1993 yn ogystal â Mesur yr Iaith Gymraeg yn 2011. | + | Yn ganolog i syniadaeth neu [[ideoleg]] [[cenedlaetholdeb|genedlaetholdeb]] Cymraeg Lewis oedd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Credai Lewis fod yr iaith Gymraeg yn gwbl greiddiol i gysyniad o hunaniaeth genedlaetholdeb Cymraeg. Yn ei araith enwog, Tynged yr Iaith , fe honnai Lewis (1962/1998) y byddai’r iaith Gymraeg yn parhau i ddirywio heb ddulliau chwyldroadol i’w amddiffyn, ac fe alwodd ar Blaid Cymru i fynd i’r afael ar hyn yn syth. Arweiniodd hyn tuag at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962, symudiad ddaeth yn ganolog tuag at sefydlu Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1967 a 1993 yn ogystal â Mesur yr Iaith Gymraeg yn 2011. |
− | Disgrifia Saunders Lewis ei hun fel gwrthfodernydd (''anti-modernist'') wrth iddo feirniadu’r broses o ddiwydianeiddio (''industrialisation'') yn Nhe Cymru. Honnai Lewis fod diwydiannu yn y De yn erydu iaith, diwylliant a thraddodiadau, ac fe gyhuddodd y Blaid Lafur am fod yn gyfrifol wrth iddi fod y grym wleidyddiaeth ddominyddol bryd hynny. | + | Disgrifia [[Saunders Lewis]] ei hun fel gwrthfodernydd (''anti-modernist'') wrth iddo feirniadu’r broses o ddiwydianeiddio (''industrialisation'') yn Nhe Cymru. Honnai Lewis fod diwydiannu yn y De yn erydu iaith, diwylliant a thraddodiadau, ac fe gyhuddodd y Blaid Lafur am fod yn gyfrifol wrth iddi fod y grym wleidyddiaeth ddominyddol bryd hynny. |
− | Dadleuodd Lewis y dylai Cymru ddychwelyd yn ôl i gymdeithas amaethyddol, a amlinellwyd hyn ym mhamffled Deg Pwynt Polisi Plaid Cymru yn 1934: | + | Dadleuodd Lewis y dylai Cymru ddychwelyd yn ôl i gymdeithas amaethyddol, a amlinellwyd hyn ym mhamffled Deg Pwynt Polisi [[Plaid]] Cymru yn 1934: |
− | Agriculture should be Wales’ chief industry and the foundation of its | + | Agriculture should be Wales’ chief industry and the foundation of its civilisation….For the sake of the moral wellbeing of Wales and for the moral and physical benefit of its population, South Wales must be de-industrialised. |
− | (Saunders Lewis (1934) yn Jones (1996: 32). | + | ([[Saunders Lewis]] (1934) yn Jones (1996: 32). |
Fel ceidwadwyr eraill, doedd Saunders Lewis ddim yn ymddiried yn y wladwriaeth ac yn teimlo’n gryf na ddylai’r wladwriaeth ymyrryd mewn agweddau o fywyd oedd y teulu’n draddodiadol yn gyfrifol ohonynt (Williams 2009). | Fel ceidwadwyr eraill, doedd Saunders Lewis ddim yn ymddiried yn y wladwriaeth ac yn teimlo’n gryf na ddylai’r wladwriaeth ymyrryd mewn agweddau o fywyd oedd y teulu’n draddodiadol yn gyfrifol ohonynt (Williams 2009). | ||
Llinell 123: | Llinell 123: | ||
Williams, E. ''‘The Social and Political Thought of [[Saunders Lewis]].’'' traethawd PhD. Prifysgol <nowiki> Caerdydd</nowiki>, <nowiki> Caerdydd</nowiki>. 2009 | Williams, E. ''‘The Social and Political Thought of [[Saunders Lewis]].’'' traethawd PhD. Prifysgol <nowiki> Caerdydd</nowiki>, <nowiki> Caerdydd</nowiki>. 2009 | ||
+ | |||
+ | {{CC BY-SA}} | ||
+ | [[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]] |
Y diwygiad cyfredol, am 12:45, 7 Medi 2024
(Saesneg: Conservatism)
1. Cyflwyno Ceidwadaeth
Gellir disgrifio ceidwadaeth fel ideoleg wleidyddol sy’n ymrwymo i amddiffyn a chynnal traddodiadau. Golygai hyn fod ceidwadaeth yn feirniadol o gynigion neu ymdrechion ar gyfer newid cymdeithasol radical, ac yn ceisio cynnal y ‘status quo’ o fewn y gymdeithas (neu o leiaf yn ceisio diwygio newid cymdeithas yn araf). Mae Ceidwadwyr hefyd yn rhoi pwyslais ar drefn gymdeithasol a harmoni. Dywed Noel O’Sullivan (1976: 9) yn ei lyfr, Conservatism, y canlynol am Geidwadaeth:
[c]onservatism as an ideology, then, is characterized in the first instance, by opposition to the idea of total or radical change, and not by the absurd idea of opposition to change as such, or by any commitment to preserving all existing institutions.
Mae’r termau ‘ceidwadol’ neu ‘geidwadaeth’ yn rhai a ddefnyddir fel rhan o sgyrsiau bob dydd mewn nifer o gyd-destunau gwahanol. Er enghraifft, fe’u defnyddir i ddisgrifio ymddygiad cymedrol a phwyllog, ffordd o fyw gonfensiynol a chydymffurfiol sy’n rhoi pwyslais ar lynu at arferion penodol, neu amharodrwydd i gofleidio newid o unrhyw fath. Wrth gwrs, gellid dadlau bod tueddiadau ceidwadol o’r math hwn mor hen â’r hil ddynol – byth ers i rywun geisio newid rhywbeth, mae eraill wedi mynegi gwrthwynebiad. Er hyn, y consensws ymhlith y mwyafrif o ysgolheigion fel Jones (2017) yw mai dim ond yn ystod degawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth Ceidwadaeth i gael ei harddel fel ideoleg wleidyddol benodol, gan ddynodi ymlyniad at gorff cydlynol o syniadau ynglŷn â sut y dylid trefnu cymdeithas.
2. Datblygiad Ceidwadaeth
Y cyd-destun ar gyfer datblygiad Ceidwadaeth ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y gyfres o newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol a oedd yn sgubo ar draws gorllewin Ewrop ar y pryd. Un digwyddiad mawr y mae haneswyr megis Muller (1997) yn tueddu i gyfeirio ato fel symbol amlwg o’r newid hwn – y symud i’r hyn a ddisgrifir fel y cyfnod modern – yw Chwyldro Ffrengig ym 1789. Roedd hwn yn ddigwyddiad gwleidyddol arbennig o arwyddocaol. Yn ystod y Chwyldro, gwelwyd yr hen drefn frenhinol absoliwt yn cael ei dymchwel a gweriniaeth newydd yn cael ei sefydlu ar sail egwyddorion blaengar, megis rhyddid, cydraddoldeb a brawdoliaeth.
I rai o feddylwyr gwleidyddol y cyfnod, roedd cyflymder a dwyster y newidiadau a ddeilliodd o’r Chwyldro yn Ffrainc yn destun pryder difrifol. Er enghraifft, yn ei gyfrol enwog Reflections on the Revolution in France (1790/1951), ceisiodd Edmund Burke (1729-1797) amlinellu athrawiaeth gymdeithasol a gwleidyddol amgen a oedd yn pwysleisio themâu megis traddodiad, pwyll, graddoliaeth, ynghyd â pharch at awdurdod. Erbyn heddiw caiff cyfrol Burke (1790/1951) ei thrin fel y datganiad cyflawn cyntaf o hanfodion Ceidwadaeth, ac yn sgil hynny meddylir yn aml am yr ideoleg fel un a ddatblygodd yn wreiddiol fel ymateb i Chwyldro Ffrengig ym 1789.
3. Nodweddion Allweddol Ceidwadaeth
Wrth gwrs ers eu dyddiau cynnar ychydig dros ddwy ganrif yn ôl mae syniadau ceidwadol wedi esblygu cryn dipyn, gwelwyd ystod o ffrydiau ceidwadol gwahanol yn datblygu dros y blynyddoedd. Mae’r rhain yn cynnwys Ceidwadaeth Awdurdodaidd, ceidwadaeth Draddodiadol, a’r Dde Newydd. Serch nifer y ffrydiau gwahanol, gellir rhestru cyfres o elfennau pwysig sy’n tueddu i gael eu hystyried fel rhai sy’n nodweddu’r bydolwg Ceidwadol; elfennau sy’n caniatáu i ni wahaniaethu rhwng Ceidwadaeth ac ideolegau gwleidyddol eraill, yn arbennig Rhyddfrydiaeth neu Sosialaeth.
3.1. Traddodiad
Ers cyfnod Edmund Burke mae Ceidwadwyr wedi dadlau’n gyson y dylid gochel rhag cyflwyno diwygiadau sy’n debygol o drawsnewid agweddau ar drefniadau cymdeithas, yn enwedig os oes bwriad i wneud hynny mewn modd sydyn, chwyldroadol. Deillia hyn o’r ffaith fod Ceidwadwyr o’r farn bod angen parchu’r hyn sy’n draddodiadol – dylid rhoi bri ar hen arferion a sefydliadau sydd wedi llwyddo i oroesi dros gyfnod hir. Fel y datganodd Edmund Burke (1790/2003: 51) mewn dyfyniad enwog:
It is with infinite caution that any man ought to venture upon pulling down an edifice which has answered in any tolerable degree for ages the common purposes of society.
Yn nhyb Ceidwadwyr mae gwerth cynhenid i arferion neu sefydliadau hanesyddol cymdeithas. I ddechrau, mae’r ffaith syml bod rhai o’n traddodiadau wedi llwyddo i oroesi dros gyfnodau o genedlaethau yn brawf clir eu bod yn ‘gweithio’ ac yn medru cyflawni swyddogaethau pwysig o fewn cymdeithas. Yn ail, yn sgil eu hirhoedledd byddant wedi dod i ymgorffori doethineb a gwybodaeth bwysig all fod o ddefnydd i bobl yn ystod y cyfnod presennol, neu rywbryd yn y dyfodol. Yn drydydd, mae bodolaeth cyfres o arferion neu sefydliadau traddodiadol yn medru cyfrannu at hybu ymdeimlad o berthyn a sefydlogrwydd ymhlith aelodau cymdeithas ac yn atgyfnerthu’r syniad bod cysylltiad cryf rhyngddynt â’r cenedlaethau a ddaeth o’u blaen. Am enghraifft drawiadol o’r math yma o ddadleuon yn cael eu defnyddio ystyrier y modd y mae Ceidwadwyr yn y Deyrnas Unedig wedi dadlau o blaid parhad y frenhiniaeth. Mae’r dadleuon hyn yn aml yn cyffwrdd ar ffactorau megis oed, profiad, gwybodaeth, sefydlogrwydd ac arwyddocâd symbolaidd.
3.2. Pragmatiaeth
At ei gilydd mae Ceidwadwyr wedi mynegi amheuon mawr ynglŷn â’r syniad o resymoliaeth. I geidwadwyr, megis Michael Oakeshott (1962), ffwlbri yw’r awgrym y gall bodau dynol obeithio datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r byd trwy fyfyrio, astudio a defnyddio eu gallu i resymu. O ganlyniad, mae Ceidwadwyr wedi ymwrthod â safbwyntiau gwleidyddol sy’n awgrymu y dylid dyrchafu corff o egwyddorion haniaethol, megis rhyddid, cydraddoldeb neu oddefgarwch, fel canllawiau i’n harwain wrth ymhél â gwleidyddiaeth ac wrth benderfynu sut y dylid trefnu cymdeithas. Dadleuir bod y byd yn lle llawer rhy gymhleth ar gyfer hyn. Yn wir, llawer gwell yn nhyb y ceidwadwr yw rhoi ffydd yn ein profiadau ymarferol, gan ymddwyn mewn modd pragmataidd. Golyga hyn y dylai penderfyniadau gwleidyddol gael eu seilio ar ystyriaeth ofalus o’r hyn sy’n ymddangos yn briodol ar y pryd, yn hytrach nag ar ragdybiaethau egwyddorol. Mewn geiriau eraill dylid ffafrio beth bynnag sy’n debygol o ‘weithio’, beth bynnag fo hynny. Mae’r ffydd yma mewn pragmatiaeth wedi peri i rai hawlio mai nid ideoleg wleidyddol mo Ceidwadaeth mewn gwirionedd, ond yn hytrach ‘ffordd o feddwl’ neu ‘ffordd o fyw’ (Schneider 2013). Yn wir, mae pragmatiaeth yn egwyddor sylfaenol i Geidwadaeth.
3.3. Amherffeithrwydd Dynol
Mae ceidwadwyr yn arddel dehongliad negyddol iawn o natur bodau dynol (Welsh 2003). Yn wahanol i Ryddfrydwyr neu Sosialwyr, nid ydynt yn derbyn ein bod oll, yn ein hanfod, yn greaduriaid ‘da’. Yn hytrach, creaduriaid amherffaith a sathredig sy’n meddu ar ystod o wendidau cynhenid ydym.
I ddechrau, hawlir fod bodau dynol yn greaduriaid ansicr sydd angen teimlo’n ddiogel. Mae hyn wedi arwain ceidwadwyr i fynnu bod medru byw mewn cymunedau trefnus a sefydlog, ac sy’n meddu ar strwythurau awdurdod clir, yn hanfodol i les pob unigolyn. Mynnir bod bodau dynol hefyd yn greaduriaid hunanol a barus a fydd yn rhoi eu lles eu hunain uwchlaw eraill. Mae cred o’r fath wedi peri i nifer o geidwadwyr wrthod yr awgrym bod trosedd ac anhrefn cymdeithasol yn bethau sy’n medru deillio o amgylchiadau cymdeithasol anffodus, megis tlodi neu anghydraddoldeb (Newburn 2017). Yn hytrach honnir eu bod yn bethau sy’n deillio o wendid moesol sylfaenol ar ran yr unigolyn. Dyma reswm pellach felly pam mae ceidwadwyr yn tueddu i roi pwyslais ar yr angen am drefn ac am lywodraeth sy’n gweinyddu system gyfiawnder lem er mwyn cynnal y drefn honno.
3.4.Cymdeithas Organig
Er bod ceidwadwyr yn barod i dderbyn bod pob unigolyn yn greadur unigryw, maent hefyd gochel rhag meddwl am yr unigolyn fel creadur sy’n medru bodoli ar wahân i gymdeithas. Yn hytrach, mae pob unigolyn wedi’i wreiddio o fewn cymdeithas benodol ac fe fydd y strwythur ehangach hwn yn cyfrannu at ein cynnal, at siapio ein cymeriadau, ac at feithrin ymdeimlad o berthyn.
Ymhellach, mae’r elfennau gwahanol sy’n cynnal ein strwythur cymdeithasol yn rhai ‘organig’ – elfennau ‘byw’ sydd wedi esblygu’n naturiol ac sydd nawr yn gweithio gyda’i gilydd yn union fel y gwna’r galon, yr ysgyfaint, yr afu a’r ymennydd yn y corff dynol. Yn achos y corff, mae angen i bob un o’r organau hyn weithio mewn cytgord neu bydd y cyfan yn methu. Yn nhyb nifer o geidwadwyr, mae’r un peth yn wir wrth feddwl am gymdeithas. Tybir bod elfennau allweddol megis yteulu, y gymuned leol, yr eglwys ac ystod o sefydliadau traddodiadol eraill yn gweithredu fel organau ‘byw’ sy’n cynnal bywyd y gymdeithas ac yn sicrhau ei bod yn rhedeg yn esmwyth o ddydd i ddydd (Norton 2008).
O ganlyniad, bu tuedd ymhlith ceidwadwyr i wrthwynebu datblygiadau sy’n peri newid i natur neu swyddogaeth rhai o’n sefydliadau cymdeithasol traddodiadol. Er enghraifft, yn achos y teulu mynegwyd pryder ynglŷn â datblygiadau megis y newid ym mhatrymau gwaith rhieni, y newid mewn arferion magu plant, ac yn fwyaf arwyddocaol, y newid yn ein dehongliadau o beth yw ffurf yr uned deuluol a phwy all fod yn rhieni (gweler Daniel 2011). Yn nhyb y ceidwadwyr, gallai camau o’r fath beryglu’r ffabrig bregus sy’n cynnal ein cymdeithas organig.
3.5. Anghydraddoldeb Naturiol a Hierarchaeth
Yn draddodiadol mae ceidwadwyr wedi dadlau bod elfen o anghydraddoldeb yn anochel o fewn unrhyw gymdeithas (Dorey 2010). O ganlyniad, mynnir mai ofer yw gweithio i geisio sicrhau cydraddoldeb cymdeithasol, er enghraifft o ran statws, cyfoeth neu rym. Fe welir felly fod elfen o orgyffwrdd rhwng Ceidwadaeth a Rhyddfrydiaeth. Fodd bynnag, tra bo Rhyddfrydwyr yn trin bodolaeth anghydraddoldeb fel cyfaddawd sy’n rhaid ei dderbyn er mwyn caniatáu ar gyfer amrywiaethau o ran chwaeth neu allu ymhlith gwahanol unigolion, tuedda ceidwadwyr i’w ddehongli fel rhywbeth dyfnach sy’n allweddol i weithrediad cymdeithas – rhywbeth y dylid ei ddehongli mewn termau naturiol a chadarnhaol.
Mae’r arfer o drin anghydraddoldeb cymdeithasol fel nodwedd naturiol a chadarnhaol yn deillio o’r ddelwedd organig sy’n rhan o’r bydolwg Ceidwadol. Yn yr un modd ag y mae organau gwahanol yn cyflawni swyddogaethau penodol o fewn y corff dynol mae grwpiau a dosbarthiadau gwahanol yn ysgwyddo cyfrifoldebau penodol o fewn cymdeithas. Mae hyn yn arwain at ddehongliad sy’n tybio bod elfen o hierarchaeth yn angenrheidiol er mwyn i gymdeithas fedru gweithredu’n esmwyth: rhaid derbyn y dylai rhai arwain tra bo eraill yn dilyn; y dylai rhai reoli tra bo eraill yn gweithio; neu y dylai rhai fynd allan i ennill cyflog tra bo eraill yn aros adref i fagu plant. Syniadau tebyg i hyn oedd y gyfrifol am y ffaith bod ceidwadwyr cynnar, megis Edmund Burke (1790/1951), wedi dadlau o blaid y syniad o ‘aristocratiaeth naturiol’, sef y dybiaeth bod y gallu a’r doethineb i ysgwyddo swyddi arweinyddol o fewn cymdeithas yn rhinweddau cynhenid sy’n perthyn i rai dosbarthiadau uwch yn unig.
3.6. Awdurdod
Tuedda ceidwadwyr i ddehongli awdurdod fel rhywbeth sy’n cael ei osod arnom ‘oddi fry’, a hynny gyda’r bwriad o gynnig arweiniad a chefnogaeth i’r sawl sydd heb y wybodaeth neu’r profiad i fedru penderfynu drostynt eu hunain (Muller 1997). O ganlyniad, yn y cartref dylid derbyn y bydd rhieni yn arddel awdurdod mewn perthynas â’u plant; yn yr ysgol bydd yr athro yn arddel awdurdod mewn perthynas â’r disgyblion; yn y gweithle bydd y rheolwr yn arddel awdurdod mewn perthynas â’i weithwyr; ac yn achos cymdeithas dylai llywodraeth arddel awdurdod mewn perthynas â dinasyddion unigol. Nid yw’r syniad o awdurdod sy’n deillio ‘oddi fry’ yn cael ei weld gan geidwadwyr fel rhywbeth drwg. Yn hytrach, credir ei fod yn cyfrannu at hybu sefydlogrwydd cymdeithasol, gan greu ymdeimlad ymhlith y boblogaeth o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt. Yn ogystal, mynnir bod awdurdod clir yn cyfrannu at hybu disgyblaeth.
Credai’r ceidwadwyr hefyd heb hierarchaeth a pharch tuag at awdurdod y gallai gymdeithas ddisgyn i mewn i gyflwr o anarchiaeth. Yn ei lyfr, Leviathan (1651/2005), mae Thomas Hobbes (1588-1679) yn trafod yr angen i gynnal trefn gymdeithasol. Yn ogystal â hyn roedd Hobbes o’r farn fod rhyddid absoliwt heb drefn ac awdurdod yn drychinebus i gymdeithas ddynol. Credai fod unigolion rhesymegol yn dewis aberthu o’u hawliau a’u rhyddid er mwyn sicrhau fod y wladwriaeth yn cynnal trefn a diogelwch. Fe roddir yr awdurdod felly i lywodraeth lywodraethau.
3.7. Eiddo
Cred ceidwadwyr fod sawl rhinwedd yn perthyn i’n gallu i fod yn berchen ar eiddo neu asedau preifat (Riden 1982). Mae meddu ar eiddo, megis tŷ a char, neu meddu ar gynilon sylweddol yn y banc yn rhoi sicrwydd i bobl gan eu bod felly yn meddu ar adnoddau y gellir dibynnu arnynt os ydynt yn digwydd wynebu amgylchiadau anodd (e.e. diweithdra neu salwch tymor tir). Dyma sydd wedi arwain at y duedd ymhlith ceidwadwyr i fawrygu ymddygiad darbodus ac i roi bri ar y syniad o fuddsoddi mewn eiddo. Yn ogystal, dadleua ceidwadwyr fod cymdeithas sy’n caniatáu perchnogaeth ar eiddo preifat yn un sy’n cymell ei haelodau i barchu’r gyfraith ac ymddwyn mewn modd trefnus. Deillia hyn o’r gred y bydd y sawl sy’n berchen ar eiddo eu hunain yn debygol o barchu eiddo pobl eraill. Byddant hefyd yn hapus i gyfrannu at drefniadau sy’n atal trosedd a chynnal cyfraith a threfn gan y bydd hyn yn gwarchod eiddo pawb. Ar lefel ddyfnach a mwy personol, awgryma ceidwadwyr fod perchnogaeth ar eiddo yn caniatáu i unigolion fynegi eu personoliaeth – mae’r ddadl hon yn seiliedig ar y dybiaeth bod ein heiddo (er enghraifft y dillad neu’r nwyddau tŷ a brynwn) bron yn estyniad ohonom ni ein hunain ac yn gyfrwng sy’n caniatáu i ni gyfleu ein chwaeth a’n cymeriad i eraill.
4. Ceidwadaeth a Chymru
Roedd y Blaid Geidwadol gyda phresenoldeb amlwg ym myd gwleidyddol Cymru hyd at y pedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda thirfeddianwyr ceidwadwyr yn dominyddu gwleidyddiaeth y wlad bryd hynny. Fel hyn y roedd ers dyddiau’r Ddeddf Uno. Ond roedd ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod heriol i’r Blaid Geidwadol wrth iddi ymgodymu â chanlyniadau’r broses o ddemocrateiddio’r Deyrnas Unedig (Aubel 1996). Gydag fwyfwy o ddynion cyffredin yn ennill yr hawl i bleidleisio fe ddaeth y Blaid Ryddfrydol yn gystadleuaeth fawr i’r ceidwadwyr wrth iddynt ennill cefnogaeth fawr gan bobl Cymru. Digwyddiad symbolaidd o’r newid tirwedd wleidyddol hwn oedd buddugoliaeth y Rhyddfrydwr, Henry Richard, ym Merthyr Tudful yn etholiad 1868.
Er wnaeth y ceidwadwyr ddim diflannu o wleidyddiaeth Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, wnaeth y blaid ddim dod yn agos at adennill y statws oedd ganddynt yn ystod y cyfnod cyn-ddemocrataidd. Yn ei draethawd hir PhD, The Conservative Party in Wales 1945-1997, mae Sam Blaxland yn trafod hanes y Blaid Ceidwadol ar ôl yr Ail Rhyfel Byd hyd at sefydlu’r Cynulliad Cendedlaethol yn 1997. Yn ystod y refferendwm dros datganoli, fe ymgyrchodd y Blaid Geidwadol yn erbyn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1997 (Jones a Lewis 1999). Serch hyn, mae’r blaid Ceidwadol wedi cael cynrychiolaeth o aelodau seneddol yn y Senedd ers iddi hi gael ei sefydlu yn 1999.
Ffigwr amlwg Ceidwadaeth yng Nghymru oedd Saunders Lewis. Roedd Saunders Lewis yn genedlaetholwr ond nid yn weriniaethwr. Roedd iddo eisiau gweld Cymru yn ffynnu fel grym gwleidyddol o fewn y DU o dan y frenhiniaeth (monarchy) yn hytrach na dilyn esiampl Iwerddon ble sefydlwyd y Wladwriaeth Rydd Iwerddon (Irish Free State) yn 1922 yn sgil rhyfel annibyniaeth Iwerddon yn erbyn y Prydeinwyr. Yn trafod y gwahaniaeth hwn, fe ddywedai Lewis:
The National Party has strong reasons for being loyal - let us not fear the word - to the throne of England, and for suspecting and rejecting every political anti-royalist movement ... Monarchy in England is better for Wales than a republic ... Wales's links with the English throne are centuries older than its link with the House of Commons ... the English Parliament is Wales's arch-enemy ... the truth about the Nationalist Party's attitude to England is that it differs from the policy of Ireland's Sinn Fein. What we want is not to cut the link with England: that is what Ireland wanted. What we want is to base our union with England on the basis of the throne, and have a separate parliament for Wales. We are wholly prepared to swear an oath of loyalty to the King [but] we must be able to swear an oath in Welsh, in a Welsh Parliament on Welsh
(Saunders Lewis (1929) dyfynnwyd yn Jones (1996; 28)
Yn ganolog i syniadaeth neu ideoleg genedlaetholdeb Cymraeg Lewis oedd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Credai Lewis fod yr iaith Gymraeg yn gwbl greiddiol i gysyniad o hunaniaeth genedlaetholdeb Cymraeg. Yn ei araith enwog, Tynged yr Iaith , fe honnai Lewis (1962/1998) y byddai’r iaith Gymraeg yn parhau i ddirywio heb ddulliau chwyldroadol i’w amddiffyn, ac fe alwodd ar Blaid Cymru i fynd i’r afael ar hyn yn syth. Arweiniodd hyn tuag at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962, symudiad ddaeth yn ganolog tuag at sefydlu Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1967 a 1993 yn ogystal â Mesur yr Iaith Gymraeg yn 2011.
Disgrifia Saunders Lewis ei hun fel gwrthfodernydd (anti-modernist) wrth iddo feirniadu’r broses o ddiwydianeiddio (industrialisation) yn Nhe Cymru. Honnai Lewis fod diwydiannu yn y De yn erydu iaith, diwylliant a thraddodiadau, ac fe gyhuddodd y Blaid Lafur am fod yn gyfrifol wrth iddi fod y grym wleidyddiaeth ddominyddol bryd hynny.
Dadleuodd Lewis y dylai Cymru ddychwelyd yn ôl i gymdeithas amaethyddol, a amlinellwyd hyn ym mhamffled Deg Pwynt Polisi Plaid Cymru yn 1934: Agriculture should be Wales’ chief industry and the foundation of its civilisation….For the sake of the moral wellbeing of Wales and for the moral and physical benefit of its population, South Wales must be de-industrialised. (Saunders Lewis (1934) yn Jones (1996: 32).
Fel ceidwadwyr eraill, doedd Saunders Lewis ddim yn ymddiried yn y wladwriaeth ac yn teimlo’n gryf na ddylai’r wladwriaeth ymyrryd mewn agweddau o fywyd oedd y teulu’n draddodiadol yn gyfrifol ohonynt (Williams 2009).
Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Cenedlaetholdeb: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
Llyfryddiaeth
Aubel, F. (1996). ‘The Conservatives in Wales, 1880-1935’, yn Francis, M., a Zweiniger-Bargielowska, I. (goln.) The Conservatives and British Society, 1880-1990 ( Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt 96-110
Blaxland, S. ‘The Conservative Party in Wales 1945-1997’, traethawd PhD. Prifysgol Abertawe, Abertawe. 2016
Burke, E. (1790/2003), ‘Reflections on the Revolution in France’, yn Turner, F. (gol.) Reflections on the Revolution in France. (New Haven: Yale University Press), tt. 3-211
Daniel, P. (2011), ‘Conservative Policy and the Family’, yn Bochel, H. (gol.), The Conservative Party and social policy. (Bristol: Policy Press), tt 197-214
Dorey, P. (2010). British conservatism: the politics and philosophy of inequality. (London: I.B Taurus)
Hobbes, T. (1651/2005). Leviathan. (London: Continnum International)
Jones, D (1996).‘I Failed Utterly’: Saunders Lewis and the Cultural Politics of Welsh Modernism. The Irish Review, 19, 22-43.
Jones, E. (2017), Edmund Burke and the Invention of Modern Conservatism, 1830-1914: An Intellectual History. (Oxford: Oxford University Press) Jones, R.W., a Lewis, B. (1999). ‘The Welsh National Referendum’. Politics, 19 (1), 37-46
Lewis, S. (1962/1998). Tynged yr Iaith. https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/archif/pdf/tynged.pdf [Cyrchwyd: 12 Awst 2021]
Muller, J. (1997). Conservatism: An Anthology of Social and Political Thought from David Hume to the Present. (Princeton: Princeton University Press)
Newburn, T. (2017). Criminology. 3ydd argraffiad. (London: Routledge)
Norton, P. (2008), ‘The Future of Conservatism.’ The Political Quarterly, 79 (3), 324-332
Oakeshott, M. (1962). Rationalism in politics, and other essays. (London: Meuthen)
O’Sullivan, N. (1976), Conservatism, (London: Littlehampton).
Radin, M. (1982) ‘Property and Personhood’. Stanford Law Review, 34 (5), 957-1015
Schneider, I. (2013), ‘Veering Left and Right on the Road to Serfdom: Why both left and right create illiberal outcomes.’, yn Rosas, J., Ferreira, A. (goln.), Left and Right: The Great Dichotomy Revisited.(Newcastle Upon Tyne: Cambridge Scholars Publishing), tt. 377-394
Welsh, J. (2003), ‘ "I" is for Ideology: Conservatism in International Affairs’, Global Society, 17 (2), 165-185
Williams, E. ‘The Social and Political Thought of Saunders Lewis.’ traethawd PhD. Prifysgol Caerdydd, Caerdydd. 2009
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.