Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Daearyddiaeth Ymgorfforol"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
B (clean up)
(nodyn ar y drwydded CC)
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 5: Llinell 5:
 
Yn y 1990au, fe ddaeth y corff yn destun ymchwil poblogaidd. Wrth i agweddau deuol tuag at y meddwl / corff gael eu herio yn sgil datblygiadau ym meysydd hunaniaethol megis rhywioldeb ac astudiaethau ôl-drefedigaethol, fe ddaeth y corff i gael ei ystyried fel arwyneb o hunanfynegiant yn hytrach na rhywbeth a labelwyd o’r tu allan. Trwy safbwynt ymgorfforiad, mae hunaniaeth yn rhywbeth sy’n cael ei ddeall a’i ffurfio nid yn unig yn feddyliol ac yn drafodaethol, ond yn gorfforol hefyd, ac nid oes modd gwahaniaethu’n daclus rhwng y ddwy agwedd yma o brofiad. Erbyn hyn mae’r corff yn cael ei ddeall nid fel wal neu wahanfa rhwng yr unigolyn a chymdeithas, ond yn hytrach, fel arwyneb athraidd sy’n cyfryngu rhwng y ddau.
 
Trwy weld y corff fel safle lle mae disgwyliadau unigolion a chymdeithasau yn cwrdd ac yn cael eu trafod, gallwn weld y corff fel maes grymus a dylanwadol. Mae pŵer symbolaidd a phrofiadol cyrff fel llwyfannau i fynegi a pherfformio hunaniaethau amgen, wedi eu gwneud yn destun poblogaidd ymysg astudiaethau hil, rhyw, anabledd, a llywodraethu. O safbwynt daearyddol, mae talu sylw i brofiadau corfforol ac ystyried y corff fel safle o gystadleuaeth a gwrthdaro yn llwyddo i wneud dau beth pwysig. Yn gyntaf, mae’n llythrennol yn ail-osod pobl ar ein map cysyniadol o’r byd, lle cynt roedd [[gofod]]. Sut allwn ni, er enghraifft, geisio deall sut mae pobl yn profi [[gofod]] y ddinas, heb gydnabod bod gan unigolion bresenoldeb (ac felly brofiadau) corfforol? Yn ail, mae dealltwriaeth o’r corff fel arwyneb sy’n cael ei fapio ac sydd hefyd yn ffin athraidd rhwng dau faes o brofiad a mynegiant yn golygu fod y corff ei hun yn cael ei astudio fel ‘[[gofod]]’, gan greu tirwedd ffrwythlon newydd i ddaearyddwyr dynol.
+
Trwy weld y corff fel safle lle mae disgwyliadau unigolion a chymdeithasau yn cwrdd ac yn cael eu trafod, gallwn weld y corff fel maes grymus a dylanwadol. Mae pŵer symbolaidd a phrofiadol cyrff fel llwyfannau i fynegi a pherfformio hunaniaethau amgen, wedi eu gwneud yn destun poblogaidd ymysg astudiaethau hil, rhyw, anabledd, a llywodraethu. O safbwynt daearyddol, mae talu sylw i brofiadau corfforol ac ystyried y corff fel safle o gystadleuaeth a gwrthdaro yn llwyddo i wneud dau beth pwysig. Yn gyntaf, mae’n llythrennol yn ail-osod pobl ar ein map cysyniadol o’r byd, lle cynt roedd [[gofod]]. Sut allwn ni, er enghraifft, geisio deall sut mae pobl yn profi gofod y ddinas, heb gydnabod bod gan unigolion bresenoldeb (ac felly brofiadau) corfforol? Yn ail, mae dealltwriaeth o’r corff fel arwyneb sy’n cael ei fapio ac sydd hefyd yn ffin athraidd rhwng dau faes o brofiad a mynegiant yn golygu fod y corff ei hun yn cael ei astudio fel ‘gofod’, gan greu tirwedd ffrwythlon newydd i ddaearyddwyr dynol.
  
[[Categori:Esboniadur Daearyddiaeth]]
+
 
 +
{{CC BY-SA}}
 +
[[Categori:Daearyddiaeth]]
  
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__

Y diwygiad cyfredol, am 15:05, 13 Awst 2014

(Saesneg: embodied geographies)

Mae daearyddiaeth ymgorfforol yn ystyried y corff fel safle o wrthdaro a chystadleuaeth, ac felly’n agored i newid ac addasiad gan unigolion a dylanwadau allanol. Mae hyn yn cyferbynnu ag agweddau traddodiadol ym maes daearyddiaeth ddynol, sydd wedi tueddu i ymdrin â’r corff fel gwrthrych cysyniadol, gan gyfeirio ato yn anuniongyrchol trwy drafodaethau am ‘hil’ neu ‘rhyw’. Fe ddeallwyd y corff i raddau helaeth, fel rhywbeth gosodedig ac anghyfnewidiol - yn wrthgyferbyniad i’r meddwl, ac fe’i gwelwyd fel sylfaen i unigolion ddeall eu hunaniaeth. Roedd y driniaeth yma o’r corff a’r meddwl yn cyd-fynd â deallusrwydd Cartesaidd o hunaniaeth, lle mynnwyd deuoliaeth gysyniadol a phrofiadol rhwng y ddau, gan eu trin fel elfennau digyswllt ym mhrofiadau a deallusrwydd unigolion. Yn ôl damcaniaethau Cartesaidd, y meddwl oedd canolbwynt profiadau a deallusrwydd pobl o’r byd. Roedd y corff ar y llaw arall, yn rhywbeth cyson - yn gyfrwng ac yn gefndir i brofiad ond nid yn ddyfais a oedd yn cyfrannu ohono’i hun at brofiadau a deallusrwydd yr unigolyn. Roedd y corff yn rhywbeth a gymerwyd yn ganiataol, fel rhywbeth nad oedd gan unigolion lawer o ddylanwad drosto - rhoddwyd mwy o sylw i gategorïau cymdeithasol cyrff yn ôl rhyw neu hil, gan eu bychanu i statws gwrthrychol yn hytrach nag i safle o fynegiant a gwrthwynebiad hunaniaethol. Gan fod dewis a dylanwad unigolion yn cael eu deall fel pethau a oedd yn wybyddol (ac felly yn ymwneud â’r meddwl), i raddau helaeth, fe anwybyddwyd y corff gan ymchwilwyr.

Yn y 1990au, fe ddaeth y corff yn destun ymchwil poblogaidd. Wrth i agweddau deuol tuag at y meddwl / corff gael eu herio yn sgil datblygiadau ym meysydd hunaniaethol megis rhywioldeb ac astudiaethau ôl-drefedigaethol, fe ddaeth y corff i gael ei ystyried fel arwyneb o hunanfynegiant yn hytrach na rhywbeth a labelwyd o’r tu allan. Trwy safbwynt ymgorfforiad, mae hunaniaeth yn rhywbeth sy’n cael ei ddeall a’i ffurfio nid yn unig yn feddyliol ac yn drafodaethol, ond yn gorfforol hefyd, ac nid oes modd gwahaniaethu’n daclus rhwng y ddwy agwedd yma o brofiad. Erbyn hyn mae’r corff yn cael ei ddeall nid fel wal neu wahanfa rhwng yr unigolyn a chymdeithas, ond yn hytrach, fel arwyneb athraidd sy’n cyfryngu rhwng y ddau.

Trwy weld y corff fel safle lle mae disgwyliadau unigolion a chymdeithasau yn cwrdd ac yn cael eu trafod, gallwn weld y corff fel maes grymus a dylanwadol. Mae pŵer symbolaidd a phrofiadol cyrff fel llwyfannau i fynegi a pherfformio hunaniaethau amgen, wedi eu gwneud yn destun poblogaidd ymysg astudiaethau hil, rhyw, anabledd, a llywodraethu. O safbwynt daearyddol, mae talu sylw i brofiadau corfforol ac ystyried y corff fel safle o gystadleuaeth a gwrthdaro yn llwyddo i wneud dau beth pwysig. Yn gyntaf, mae’n llythrennol yn ail-osod pobl ar ein map cysyniadol o’r byd, lle cynt roedd gofod. Sut allwn ni, er enghraifft, geisio deall sut mae pobl yn profi gofod y ddinas, heb gydnabod bod gan unigolion bresenoldeb (ac felly brofiadau) corfforol? Yn ail, mae dealltwriaeth o’r corff fel arwyneb sy’n cael ei fapio ac sydd hefyd yn ffin athraidd rhwng dau faes o brofiad a mynegiant yn golygu fod y corff ei hun yn cael ei astudio fel ‘gofod’, gan greu tirwedd ffrwythlon newydd i ddaearyddwyr dynol.

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.