Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gohebydd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
Saesneg: ''Correspondent'', ynghyd â ''reporter, stringer, foreign correspondent''
Mae gohebydd yn unigolyn sy’n cael ei gyflogi ar gytundeb neu’n llawrydd gan gyfnodolyn, asiantaeth newyddion, gwefan neu ddarlledwr er mwyn darparu newyddion, yn hytrach nag erthyglau barn. Bydd gohebydd yn aml yn ymdrin ag ardal ddaearyddol neu bwnc penodol ac yn rhoi gwybod ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf.
 
  
Gyda thwf masnachol y wasg oddi ar 50au’r 19g., a datblygiad rheilffyrdd a hwylusai deithio o le i le, ymddangosodd y gohebwyr cyntaf a wnâi fywoliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Dichon mai gohebydd enwocaf y Gymraeg yn y ganrif honno fu ‘Y Gohebydd’, sef John Griffith, a gyfrannodd at ''Baner ac Amserau Cymru'' rhwng 1857 a 1877. Ysgrifennodd ‘Lythyr y Gohebydd o Lundain’ yn wythnosol, yn ogystal ag adroddiadau o’i deithiau yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Penllanw ei weithgaredd fu ei adroddiadau am etholiad 1868 yng Nghymru, ac ymdrechion rhai tirfeddianwyr i yrru tenantiaid o’u tai wedi iddynt bleidleisio o blaid y Rhyddfrydwyr.
+
Mae gohebydd neu ‘riportar’ yn casglu gwybodaeth er mwyn ei adrodd fel newyddion.  
  
Serch hynny, pethau prin oedd gohebwyr proffesiynol megis John Griffith yn y Gymraeg yn yr 19g. Dwy bunt o gyflog a gâi’r wythnos, ‘y tâl uchaf a dderbyniodd un ysgrifennydd Cymraeg am bastyno ei ymennydd er budd ei gydwladwyr’, yn ôl J. R. Kilsby Jones. Cwynai E. Morgan Humphreys fod y diffyg gwobrau ariannol am newyddiadura yng Nghymru yn golygu bod nifer o’u ‘bechgyn gorau’ wedi mynd dros y ffin i weithio ar bapurau yn Lloegr. Nodai golygydd y ''South Wales Daily Post'' yn yr un modd bod safon isel cynnyrch y wasg Gymraeg yn deillio o’u hanallu i gynnig cyflog teg i ysgrifennwyr da o Gymru. Gyda dyfodiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn yr 20g., gwelwyd cynnydd trawiadol yn nifer y gohebwyr proffesiynol yn Gymraeg; serch hynny, ymddengys mai gohebwyr print a wnâi’r cyfraniad mwyaf at lenyddiaeth Gymraeg.
+
Yn nyddiau’r papurau newydd cynnar, yr argraffydd ei hun oedd yn casglu pytiau a gohebiaeth, ond erbyn y 1830au cyflogwyd gohebwyr i wneud y gwaith hwn.
  
Yn eu mysg, ceid T. Gwynn Jones, E. Lewis William Lewis (Llew Llwyfo), Morgan Humphreys, Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Beriah Gwynfe Evans, Thomas Jones (Tudno), Richard Hughes Williams (Dic Tryfan), Robert John Rowlands (Meuryn), Harri Gwynn, Daniel Rees, a Kate Roberts, a gyfrannodd erthyglau’n gyson i'r ''Faner'' pan oedd yn berchen ar Wasg Gee.
+
Roedd y gohebwyr (''correspondents'') cynnar yn ysgrifennu darnau hir a manwl (a oedd weithiau’n hunandybus) am fasnach, busnes a gwleidyddiaeth. Gwaith y ''riportars'' oedd gweithredu fel stenograffyddion yn casglu storïau o ddiddordeb oddi wrth y sefydliadau lleol, megis y llysoedd a’r heddlu.
  
Efallai mai gohebydd llenyddol enwocaf yr 20g. oedd Caradog Prichard, awdur ''Un Nos Ola Leuad'' a bardd coronog yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1927, 1928 ac 1929. Bu’n ohebydd i’r ''Herald Cymraeg'' a’r ''Faner'', cyn ymuno â’r ''Western Mail'' yng Nghaerdydd. Yna symudodd i’r ''News Chronicle'' yn Fleet Street, cyn gweithio i’r ''Daily Telegraph'' yn is-olygydd seneddol. Cytuna Mihangel Morgan a Menna Baines fod ei waith fel gohebydd wedi dylanwadu ar ei lenyddiaeth. Awgryma Morgan bod y ‘berthynas lithrig rhwng faith a ffuglen’ yn ei waith yn nodweddiadol o ‘newyddiadurwr yn chwilio am sgŵp’. Dywed Baines bod ei agweddau yn nodweddiadol o’r papurau y bu’n gweithio iddynt – roedd yn Dori, yn frenhinwr ac yn eglwyswr rhonc. Er hynny, parai'r ffaith i’w waith ei Seisnigo i’r fath raddau bryder iddo, a dyheai ar adegau am ddychwelyd i Gymru.
+
Ym marn Barnhurst a Nerone (2001), wrth i’r amser fynd yn ei flaen, enillodd gohebwyr (''reporters'') fwy o fri, braint a llais awdurdodol, ac aeth y gwahaniaeth rhwng y ddau yn llai. Serch hynny, mae gohebydd (''reporter'') yn parhau i gael ei adnabod fel y sawl sydd â’r gallu i adrodd y ffeithiau yn gywir heb eu dehongli neu fynegi barn amdanynt.
  
Efallai mai eironi ''Y Gohebydd'', John Griffith, Caradog Prichard a gohebwyr enwocaf eraill y ddau gan mlynedd diwethaf oedd mai nhw a feddai ar y ddawn eiriol i fynegi orau’r hyn a olygai Cymreictod oddi ar ddechrau oes cenedlaetholdeb yn yr 19g., ond, o ganlyniad i wendid masnachol y wasg yng Nghymru, caent eu denu at weithgarwch a’u gwnaeth yn gyfrwng i hyrwyddo hunaniaeth arall.
+
Erbyn heddiw, mae’r term ‘''correspondent''’ yn cael ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng newyddiadurwr arbenigol sy’n gyfrifol am ysgrifennu neu adrodd ar bwnc penodol (e.e. iechyd neu ardal ddaearyddol fel De Affrica), a gohebydd neu newyddiadurwr cyffredinol.
 +
Gall gohebwyr hefyd weithredu’n nes at adref, fel gohebwyr lleol, neu ar ''patch'' lle maen nhw’n cynhyrchu adroddiadau ar newyddion lleol yr ardal benodol honno’n rheolaidd.
  
'''Ifan Morgan Jones'''
+
Mae rhai newyddiadurwyr yn gweithio fel gohebwyr rhan amser, neu fel ‘''stringer'', nad ydynt yn aelodau o staff y sefydliad newyddion. Cânt eu talu yn ôl hyd y darn ysgrifenedig neu ddarllediad.  
== Llyfryddiaeth ==
 
Baines, M. (2005), ''Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard'' (Llandysul: Gwasg Gomer).
 
  
Davies, D. (1897), ‘The Journalism of Wales During the Victorian Era’, ''Young Wales'' (Caernarfon: Welsh National Press Company), tt. 184-6.
+
Fel arfer, gohebwyr lleol ydyn nhw sydd yn cynyddu eu hincwm trwy werthu storïau i sefydliadau newyddion eraill. Cyflogir y rhain yn aml er mwyn adrodd ar ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â lleoliad daearyddol penodol. Mae eu gwerth i’r cyflogwyr yn deillio o’r ffaith eu bod wedi’u trwytho yn iaith, diwylliant a daearyddiaeth yr ardal. Yn ogystal, mewn oes o gyni pan fo hi’n anodd cyfiawnhau cyflogi [[gohebydd tramor]] parhaol, mae’r newyddiadurwr llawrydd yn ddefnyddiol iawn i sefydliadau newyddion pan fo’n rhaid ymateb ar frys i ddigwyddiadau o argyfwng, megis rhyfeloedd, terfysgaeth neu drychinebau naturiol.  
  
Humphreys, E. M. (1945) ''Y Wasg Gymraeg'' (Lerpwl: Hugh Evans a'i Feibion, Cyf.).
+
==Llyfryddiaeth==
  
Iorwerth, D. (2007), ''Gohebydd yng Ngheredigion yn Ystod y Flwyddyn Fawr'' (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion).
+
Barnhurst, K. G. a Nerone, J. 2001. ''The Form of News: A History''. New York: Guilford
  
Morgan, M. (2000), ''Caradog Prichard'' (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn).
 
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
+
 
 +
[[Categori:Newyddiaduraeth]]

Diwygiad 13:54, 20 Mehefin 2018

Saesneg: Correspondent, ynghyd â reporter, stringer, foreign correspondent

Mae gohebydd neu ‘riportar’ yn casglu gwybodaeth er mwyn ei adrodd fel newyddion.

Yn nyddiau’r papurau newydd cynnar, yr argraffydd ei hun oedd yn casglu pytiau a gohebiaeth, ond erbyn y 1830au cyflogwyd gohebwyr i wneud y gwaith hwn.

Roedd y gohebwyr (correspondents) cynnar yn ysgrifennu darnau hir a manwl (a oedd weithiau’n hunandybus) am fasnach, busnes a gwleidyddiaeth. Gwaith y riportars oedd gweithredu fel stenograffyddion yn casglu storïau o ddiddordeb oddi wrth y sefydliadau lleol, megis y llysoedd a’r heddlu.

Ym marn Barnhurst a Nerone (2001), wrth i’r amser fynd yn ei flaen, enillodd gohebwyr (reporters) fwy o fri, braint a llais awdurdodol, ac aeth y gwahaniaeth rhwng y ddau yn llai. Serch hynny, mae gohebydd (reporter) yn parhau i gael ei adnabod fel y sawl sydd â’r gallu i adrodd y ffeithiau yn gywir heb eu dehongli neu fynegi barn amdanynt.

Erbyn heddiw, mae’r term ‘correspondent’ yn cael ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng newyddiadurwr arbenigol sy’n gyfrifol am ysgrifennu neu adrodd ar bwnc penodol (e.e. iechyd neu ardal ddaearyddol fel De Affrica), a gohebydd neu newyddiadurwr cyffredinol. Gall gohebwyr hefyd weithredu’n nes at adref, fel gohebwyr lleol, neu ar patch lle maen nhw’n cynhyrchu adroddiadau ar newyddion lleol yr ardal benodol honno’n rheolaidd.

Mae rhai newyddiadurwyr yn gweithio fel gohebwyr rhan amser, neu fel ‘stringer’, nad ydynt yn aelodau o staff y sefydliad newyddion. Cânt eu talu yn ôl hyd y darn ysgrifenedig neu ddarllediad.

Fel arfer, gohebwyr lleol ydyn nhw sydd yn cynyddu eu hincwm trwy werthu storïau i sefydliadau newyddion eraill. Cyflogir y rhain yn aml er mwyn adrodd ar ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â lleoliad daearyddol penodol. Mae eu gwerth i’r cyflogwyr yn deillio o’r ffaith eu bod wedi’u trwytho yn iaith, diwylliant a daearyddiaeth yr ardal. Yn ogystal, mewn oes o gyni pan fo hi’n anodd cyfiawnhau cyflogi gohebydd tramor parhaol, mae’r newyddiadurwr llawrydd yn ddefnyddiol iawn i sefydliadau newyddion pan fo’n rhaid ymateb ar frys i ddigwyddiadau o argyfwng, megis rhyfeloedd, terfysgaeth neu drychinebau naturiol.

Llyfryddiaeth

Barnhurst, K. G. a Nerone, J. 2001. The Form of News: A History. New York: Guilford


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.