Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dyddiadur"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
Llinell 30: Llinell 30:
 
   
 
   
 
Roberts, K. (1949), ''Stryd y Glep'' (Dinbych: Gwasg Gee).
 
Roberts, K. (1949), ''Stryd y Glep'' (Dinbych: Gwasg Gee).
 +
{{CC BY-SA}}
 +
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]

Diwygiad 21:30, 13 Gorffennaf 2016

Cyfeirir hefyd at y ffurf fel ‘dyddlyfr’. Cyfrwng rhyddiaith preifat ydyw, fel arfer, lle gall unigolyn gofnodi manylion a berthyn i ddiwrnod penodol mewn amser. Mae cofio yn elfen greiddiol o swyddogaeth dyddiadur, boed fel ffordd o edrych yn ôl ar gyfnod penodol mewn amser neu’n fodd o atgoffa unigolyn o ddigwyddiadau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Gall y cofnod fod yn un a rydd bwyslais ar ddigwyddiadau, profiadau neu emosiynau unigolyn ar y diwrnod penodol hwnnw, ac o’r herwydd gellir ystyried dyddiadur yn ffurf hunangofiannol.

Er nad oes i’r dyddiadur personol gynulleidfa fel y cyfryw, mae’r ‘dyddiadur taith’ yn ffurf gyhoeddedig boblogaidd. Dyddiadur sy’n olrhain profiadau awdur ar daith yw hwn fel arfer, a gall gynnwys hanesion teithio tramor sy’n cofnodi ymateb i ddiwylliant y wlad y mae’r awdur yn teithio iddi neu ynddi.

Defnyddiwyd ffurf y dyddiadur droeon mewn gweithiau ffuglennol realaidd eu naws er mwyn cyfleu profiad cymeriad unigol dros gyfnod o amser a pheri i’r darllenydd gael cip ar feddyliau ‘cudd’ y cymeriad hwnnw in medias res. Enghraifft amlwg yw Stryd y Glep (1949) Kate Roberts – y gyfrol a alwyd ganddi yn ‘stori hir fer ar ffurf dyddiadur’. Cedwir y dyddiadur gan y cymeriad Ffebi sy’n byw bywyd gorweiddiog mewn tŷ ar Stryd y Glep ac eto gŵyr bopeth am ddigwyddiadau ym mywydau trigolion y stryd. Troir y stori hon ar ei phen gan Mihangel Morgan yn ei ‘stori fer fer hir ar ffurf dyddiadur’ sef ‘Stryd Amos’ yn Te Gyda’r Frenhines (1994). Ynddi mae’n dychanu’r cyfrwng ac yn cynnig diweddglo amgen i Ffebi, prif gymeriad Kate Roberts yn Stryd y Glep.

Awgryma Phillippe Lejeune ei bod yn anodd cynnig diffiniad sefydlog o’r hyn yw ‘dyddiadur’ ond cynigia’r sylw hwn: ‘it sculpts life as it happens and takes up the challenge of time’. Pwyleisia Lejeune fod y dyddiadur yn ffurf bwysig i’w dadansoddi er mwyn archwilio datblygiad yr ‘hunan’ yn y Gorllewin, am ei bod yn cynnig cip i’r darllenydd ar y modd y creïr naratif bersonol. Dadleua yn ei hysgrif ‘Rereading Your Diary’ fod dyddiadur yn ddogfen sy’n cofnodi hunanymchwil a bod y cofnodion unigol yn gyffes sy’n cyfathrebu â ‘hunan’ y dyfodol: ‘The diary is a wager on the future.’ Ac meddai ymhellach, ‘It bases the individual [...] on ipseity, a sort of abstract commitment to remain faithful to oneself.’

Er y gellir dadansoddi dyddiadur er mwyn olrhain manylion bywgraffyddol unigolyn, neu ei ddefnyddio i daflu goleuni ar gyfnod mewn hanes, dylid cofio mai creadigaeth ydyw ac na ellir derbyn pob manylyn yn ddigwestiwn. Mae nifer wedi tynnu sylw at gyfyngiadau’r ffurf gan gwestiynu’r berthynas honedig rhwng dyddiadur a ‘gwirionedd’. Ceir y rhybudd hwn gan R. Williams Parry yn ei gerdd enwog am ddyddiadur Hywel Harris, ‘Gwae Awdur Dyddiaduron’ yn Cerddi’r Gaeaf (1952):

Ba fendigedig ddogfen! Bydd dy natur Yn llyfr agored, Hywel, i’r holl fyd. Beth waeth gan Hanes am na sant na satyr? Hi draetha’r gwir, a’r gwir i gyd. I gyd? Nes na’r hanesydd at y gwir di-goll Ydyw’r dramodydd, sydd yn gelwydd oll.

Yn Tair Ochr y Geiniog (1996) Mihangel Morgan mae ‘Claddu Wncwl Jimi’ wedi ei ysgrifennu ar ffurf y dyddiadur ond mae’n codi cwestiynau dwys ynghylch cyfrwng y dyddiadur a’r modd y taflunnir delwedd o’r ‘hunan’, ynghyd â’r hyn sy’n ‘wir’ a’r hyn sy’n ‘ffuglen’ mewn dogfennau o’r math hwn.

Rhiannon Marks

Llyfryddiaeth

Morgan, M. (1994), Te gyda’r Frenhines (Llandysul: Gwasg Gomer).

Morgan, M. (1996), Tair Ochr y Geiniog (Llandysul: Gwasg Gomer).

Lejeune, P. (2009), On Diary (Honolulu: University of Hawai’i Press).

Roberts, K. (1949), Stryd y Glep (Dinbych: Gwasg Gee).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.