Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mydr"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Symudiad neu guriad rheolaidd mewn barddoniaeth yw mydr, ac mewn canu rhydd – sonedau, telynegion, emynau, hen benillion – y ceir myd...') |
|||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
:''Mae'' hir''aeth'' yn ''y'' môr ''a’r'' myn''ydd'' maith | :''Mae'' hir''aeth'' yn ''y'' môr ''a’r'' myn''ydd'' maith | ||
− | :::– ´ – ´– ´– ´– ´ | + | ::::– ´ – ´– ´– ´– ´ |
Ceir amryw byd o batrymau mydryddol gwahanol yn y canu rhydd, er enghraifft: | Ceir amryw byd o batrymau mydryddol gwahanol yn y canu rhydd, er enghraifft: |
Diwygiad 19:11, 27 Hydref 2016
Symudiad neu guriad rheolaidd mewn barddoniaeth yw mydr, ac mewn canu rhydd – sonedau, telynegion, emynau, hen benillion – y ceir mydr. Pwyslais rheolaidd a chyson ar sillafau sy’n creu mydr. Tra bo’r brif acen a’r is-acen yn digwydd mewn dau le yn unig mewn llinell o gynghanedd, sef yr orffwysfa a’r brifodl, fe geir acen ar bob sillaf yn y canu rhydd. Un o’r mydrau mwyaf poblogaidd mewn canu rhydd yw’r mydr iambig, lle rhoir pwyslais ysgafn (–) ar sillafau 1, 3, 5, 7, 9, a phwyslais trwm (´) ar sillafau 2, 4, 6, 8 a 10, er enghraifft:
- Mae hiraeth yn y môr a’r mynydd maith
- – ´ – ´– ´– ´– ´
Ceir amryw byd o batrymau mydryddol gwahanol yn y canu rhydd, er enghraifft:
Ar ôl y tywydd garw, Yr eira llaith a’r lluwch, ’Rôl cyffro rhaffu’r tarw A throi rhyferthwy’r fuwch ...
– ´ – ´– ´– – ´ – ´– ´ – ´ – ´– ´– – ´ – ´– ´ Alan Llwyd