Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mydr"
Oddi ar WICI
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
:''A'' throi ''rhyf''erth''wy’r'' fuwch ... | :''A'' throi ''rhyf''erth''wy’r'' fuwch ... | ||
− | + | :::– ´ – ´– ´– | |
− | + | :::– ´ – ´– ´ | |
− | + | :::– ´ – ´– ´– | |
− | + | :::– ´ – ´– ´ | |
'''Alan Llwyd''' | '''Alan Llwyd''' | ||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 19:14, 27 Hydref 2016
Symudiad neu guriad rheolaidd mewn barddoniaeth yw mydr, ac mewn canu rhydd – sonedau, telynegion, emynau, hen benillion – y ceir mydr. Pwyslais rheolaidd a chyson ar sillafau sy’n creu mydr. Tra bo’r brif acen a’r is-acen yn digwydd mewn dau le yn unig mewn llinell o gynghanedd, sef yr orffwysfa a’r brifodl, fe geir acen ar bob sillaf yn y canu rhydd. Un o’r mydrau mwyaf poblogaidd mewn canu rhydd yw’r mydr iambig, lle rhoir pwyslais ysgafn (–) ar sillafau 1, 3, 5, 7, 9, a phwyslais trwm (´) ar sillafau 2, 4, 6, 8 a 10, er enghraifft:
- Mae hiraeth yn y môr a’r mynydd maith
- – ´ – ´– ´– ´– ´
Ceir amryw byd o batrymau mydryddol gwahanol yn y canu rhydd, er enghraifft:
- Ar ôl y tywydd garw,
- Yr eira llaith a’r lluwch,
- ’Rôl cyffro rhaffu’r tarw
- A throi rhyferthwy’r fuwch ...
- – ´ – ´– ´–
- – ´ – ´– ´
- – ´ – ´– ´–
- – ´ – ´– ´
Alan Llwyd
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.