Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cytseinedd"
Oddi ar WICI
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Llŷr Gwyn Lewis''' | '''Llŷr Gwyn Lewis''' | ||
− | |||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | ||
+ | [[pencerdd]]| |
Y diwygiad cyfredol, am 13:51, 13 Medi 2018
Cyfatebiaeth rhwng cytseiniaid mewn dau neu fwy o eiriau yw cytseinedd. Yn wahanol i gyflythreniad, gall y gyfatebiaeth hon fod mewn unrhyw safle yn y geiriau dan sylw; nid oes rhaid i’r geiriau cyfatebol fod ar ddechrau’r geiriau. Nid oes angen chwaith i’r seiniau ddilyn patrwm pendant fel yn achos y gynghanedd. Ni ddylid cymysgu rhwng cytseinedd a chyseinedd, sef cyfatebiaeth rhwng llafariaid. Mae’r llinell ‘Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt’ o ‘Cofio’ gan Waldo Williams yn cynnwys cytseinedd (‘Un funud fwyn’) a chyseinedd (‘Un funud’, ‘fwyn’ a ‘hwyr’). Gelwir y cynganeddion croes a thraws yn gynganeddion cytsain am fod cytseinedd yn elfen hanfodol ynddynt.
Llŷr Gwyn Lewis
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.pencerdd|