Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cyfweliad"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
''Saesneg: Interview''
 
''Saesneg: Interview''
  
Sgwrs rhwng newyddiadurwr a ffynhonnell, lle mae’r newyddiadurwr yn cael gwybodaeth o’r ffynhonnell, fel arfer ar ffurf Cwestiwn ac Ateb (C ac A). Yn ffordd o gasglu gwybodaeth ac yn fath arbennig o gyflwyno’r [[newyddion]], mae cyfweliadau yn un o brif gonglfeini adrodd y newyddion dros y ganrif ddiwethaf ond cafodd amlygrwydd cyhoeddus yn bennaf gyda dyfodiad rhaglenni newyddion a [[materion cyfoes]] a oedd yn seiliedig ar gyfweliadau byw neu wedi eu recordio.  
+
Sgwrs rhwng newyddiadurwr a ffynhonnell, lle mae’r newyddiadurwr yn cael gwybodaeth o’r ffynhonnell, fel arfer ar ffurf Holi ac Ateb. Yn ffordd o gasglu gwybodaeth ac yn fath arbennig o gyflwyno’r [[newyddion]], mae cyfweliadau yn un o brif gonglfeini adrodd y [[newyddion]] dros y ganrif ddiwethaf ond cafodd amlygrwydd cyhoeddus yn bennaf gyda dyfodiad rhaglenni newyddion a [[materion cyfoes]] a oedd yn seiliedig ar gyfweliadau byw neu wedi eu recordio.  
  
Mae newyddiadurwyr yn casglu llu o wybodaeth o gyfweliadau, gan gynnwys gwirio ffeithiau a manylion cymhleth, a sicrhau dyfyniadau.
 
Mae newyddiadurwyr yn casglu llu o wybodaeth o gyfweliadau, gan gynnwys gwirio ffeithiau a manylion cymhleth, a sicrhau dyfyniadau.
  
Yn Unol Daleithiau’r America, gwnaethpwyd cyfweliadau ‘ar gofnod’ (''on the record'') gyntaf yn y 1830au ar gyfer Gwasg y Tlodion (''Penny Press''), ond nid oedden nhw’n cael eu cyhoeddi na’u dyfynnu air am air tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  
+
Yn Unol Daleithiau America, gwnaethpwyd cyfweliadau ‘ar gofnod’ (''on the record'') gyntaf yn y 1830au ar gyfer gwasg dosbarth gweithiol Saesneg (''Penny Press''), ond nid oedden nhw’n cael eu cyhoeddi na’u dyfynnu air am air tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  
  
Cafodd cyfweliadau eu golygu ar y radio yn y 1920au, ac erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif gwelwyd cynnydd yn eu defnydd ar draws Ewrop wrth i gyrff cysylltiadau cyhoeddus ddechrau ac wrth i newyddiadura dyfu’n fwy proffesiynol. Felly, gwelwyd gwerth mewn gwneud cyfweliadau.   
 
Erbyn y 1970au cynnar, roedd cyfweliadau’n ymddangos ar y teledu, a thros amser maent wedi datblygu’n rhaglenni cyfweliad hanner awr neu awr o hyd, gyda ffigurau cyhoeddus yn cael eu holi drwy fformat C ac A, yn ogystal â’u pecynnu mewn rhaglenni cylchgrawn newyddion teledu.  
+
Erbyn y 1970au cynnar, roedd cyfweliadau’n ymddangos ar y teledu, a thros amser maent wedi datblygu’n rhaglenni cyfweliad hanner awr neu awr o hyd, gyda ffigurau cyhoeddus yn cael eu holi drwy fformat Holi ac Ateb, yn ogystal â’u pecynnu mewn rhaglenni cylchgrawn newyddion teledu.  
  
Gall cyfweliadau heddiw ddigwydd wyneb yn wyneb, ar y ffôn neu ar y rhyngrwyd, gan gynnwys sgyrsiau digymell mewn cyfweliad gwbl anffurfiol neu gyfweliadau lle y mae rhestr o gwestiynau wedi eu paratoi rhag blaen a’u danfon at y cyfwelai i’w hateb yn ffurfiol.
 
Y diwygiad cyfredol, am 13:11, 5 Ebrill 2019

Saesneg: Interview

Sgwrs rhwng newyddiadurwr a ffynhonnell, lle mae’r newyddiadurwr yn cael gwybodaeth o’r ffynhonnell, fel arfer ar ffurf Holi ac Ateb. Yn ffordd o gasglu gwybodaeth ac yn fath arbennig o gyflwyno’r newyddion, mae cyfweliadau yn un o brif gonglfeini adrodd y newyddion dros y ganrif ddiwethaf ond cafodd amlygrwydd cyhoeddus yn bennaf gyda dyfodiad rhaglenni newyddion a materion cyfoes a oedd yn seiliedig ar gyfweliadau byw neu wedi eu recordio.

Mae newyddiadurwyr yn casglu llu o wybodaeth o gyfweliadau, gan gynnwys gwirio ffeithiau a manylion cymhleth, a sicrhau dyfyniadau.

Yn Unol Daleithiau America, gwnaethpwyd cyfweliadau ‘ar gofnod’ (on the record) gyntaf yn y 1830au ar gyfer gwasg dosbarth gweithiol Saesneg (Penny Press), ond nid oedden nhw’n cael eu cyhoeddi na’u dyfynnu air am air tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cafodd cyfweliadau eu golygu ar y radio yn y 1920au, ac erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif gwelwyd cynnydd yn eu defnydd ar draws Ewrop wrth i gyrff cysylltiadau cyhoeddus ddechrau ac wrth i newyddiadura dyfu’n fwy proffesiynol. Felly, gwelwyd gwerth mewn gwneud cyfweliadau.

Erbyn y 1970au cynnar, roedd cyfweliadau’n ymddangos ar y teledu, a thros amser maent wedi datblygu’n rhaglenni cyfweliad hanner awr neu awr o hyd, gyda ffigurau cyhoeddus yn cael eu holi drwy fformat Holi ac Ateb, yn ogystal â’u pecynnu mewn rhaglenni cylchgrawn newyddion teledu.

Gall cyfweliadau heddiw ddigwydd wyneb yn wyneb, ar y ffôn neu ar y rhyngrwyd, gan gynnwys sgyrsiau digymell mewn cyfweliad gwbl anffurfiol neu gyfweliadau lle y mae rhestr o gwestiynau wedi eu paratoi rhag blaen a’u danfon at y cyfwelai i’w hateb yn ffurfiol.

Mae cyfweliadau’n amrywio o sgyrsiau hir a drefnir ymlaen llaw, i holi heb rybydd (doorstepping), lle y mae’r gohebydd yn aros am y ffynhonnell wrth fynedfa adeilad, er enghraifft.

Rhoddodd Clayman a Heritage (2002) sylw i gyfres o reolau wrth i gyfweliadau teledu ddatblygu: mae angen i’r rhai sy’n cael eu cyfweld fod yn barod i ymateb yn syml wrth rannu’r wybodaeth y maen nhw am rannu; rhaid iddynt beidio ag osgoi’r cwestiwn neu beidio â rhoi ateb a rhaid iddyn nhw droedio’n ofalus rhwng bod yn ddiffuant a hunanhyrwyddo. Mae’r rhai sy’n holi ar y llaw arall, yn dangos niwtraliaeth ynghyd â newyddiaduraeth wrthwynebol (adversarial journalism). Hynny yw, fel arfer maen nhw’n cynnal safbwynt niwtral tuag at y sawl y maen nhw’n cyfweld â hwy trwy gyfyngu eu hunain i ofyn cwestiynau yn unig, gan osgoi rhoi’r argraff eu bod yn cytuno neu’n anghytuno, ac i osgoi datgan honiadau pendant. Mae mynd ar drywydd newyddiaduraeth wrthwynebol yn fodd o ofyn mathau arbennig o gwestiynau, gan godi safbwyntiau amgen ac ymatebion heriol.

Mae twf yn y nifer o gyfweliadau teledu wedi arwain at newyddiadurwyr yn gofyn cwestiynau mwy ymosodol, lle maen nhw’n talu llai o wrogaeth i’r rhai sy’n cael eu cyfweld. Maen nhw hefyd yn arfer arddull holi mwy swta ac uniongyrchol. Mae’r ffactorau hyn a’r ffactorau cysylltiedig wedi gwneud y cyfweliad yn offeryn grymus er mwyn sicrhau atebolrwydd cyhoeddus.

Llyfryddiaeth

Clayman, S. a Heritage, J. 2002. The News Interview. Cambridge: Cambridge University Press.

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.