Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ieithyddiaeth"
(Esboniad o ieithyddiaeth fel astudiaeth neu faes academaidd) |
(newid y ddolen i semanteg, ychwanegu'r llyfryddiaeth, dolenni hawlfraint a chategori.) |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
== Strwythur iaith == | == Strwythur iaith == | ||
− | Mae ieithyddion yn astudio strwythur iaith ac ieithoedd, ac mae ieithyddiaeth yn cynnwys nifer o bynciau neu is-feysydd. Gellir disgrifio is-feysydd ieithyddiaeth fel ‘blociau adeiladu’ iaith. Astudiaeth o ddulliau cynhyrchu, trawsyrru a chanfod seiniau yw [[seineg]] (neu ffoneteg, ''phonetics''), ond [[ffonoleg]] yw’r enw ar astudiaeth o’r ffordd y mae seiniau’n cael eu dosbarthu mewn iaith. Astudiaeth o’r ffordd y mae iaith yn ffurfio geiriau yw [[morffoleg]]. Astudiaeth o’r ffordd y mae adeiladu brawddegau o eiriau yw [[cystrawen]] (''syntax''). Astudiaeth o ystyr geiriau a brawddegau yw [[ | + | Mae ieithyddion yn astudio strwythur iaith ac ieithoedd, ac mae ieithyddiaeth yn cynnwys nifer o bynciau neu is-feysydd. Gellir disgrifio is-feysydd ieithyddiaeth fel ‘blociau adeiladu’ iaith. Astudiaeth o ddulliau cynhyrchu, trawsyrru a chanfod seiniau yw [[seineg]] (neu ffoneteg, ''phonetics''), ond [[ffonoleg]] yw’r enw ar astudiaeth o’r ffordd y mae seiniau’n cael eu dosbarthu mewn iaith. Astudiaeth o’r ffordd y mae iaith yn ffurfio geiriau yw [[morffoleg]]. Astudiaeth o’r ffordd y mae adeiladu brawddegau o eiriau yw [[cystrawen]] (''syntax''). Astudiaeth o ystyr geiriau a brawddegau yw [[semanteg]], ond mae pragmateg hefyd yn astudiaeth o [[ystyr]]. Astudiaeth o ystyr mewn cyd-destun yw [[ystyr|pragmateg]]. |
+ | |||
+ | == Llyfryddiaeth == | ||
+ | |||
+ | Cooper, S. & L. Arman (2019) Cyflwyniad. Yn S. Cooper & L. Arman (goln.) ''Cyflwyniad i ieithyddiaeth.'' Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. | ||
+ | |||
+ | {{CC BY-SA}} | ||
+ | [[Categori:Ieithyddiaeth]] |
Diwygiad 21:48, 27 Chwefror 2019
Ieithyddiaeth yw astudiaeth o iaith, ei defnydd a’i strwythur. Nid yw’r syniad o ‘iaith’ yn golygu iaith benodol (fel Cymraeg, Gwyddeleg, neu Ffrangeg), ond iaith yn gyffredinol.
Mae iaith yn galluogi unigolion i gyfleu gwybodaeth gymhleth i bobl eraill drwy siarad neu drwy ddefnyddio arwyddion o ryw fath. Yn syml, mae pobl yn defnyddio iaith i gyflawni pwrpas penodol; mae iaith yn rhoi’r gallu i bobl i ofyn cwestiynau am y byd o’u cwmpas neu i gyfarwyddo rhywbeth. Ond mae ystyr cymdeithasol i iaith hefyd. Mae’n gallu datgelu rhywbeth am hunaniaeth y siaradwr (o ble mae’n dod, ei oedran, ei ryw neu ei rywedd, ei ddosbarth cymdeithasol a.y.b.).
Beth mae ieithyddion yn ei wneud?
Yr argraff gyffredinol a geir yn aml wrth glywed y term ‘ieithydd’ yw fod yr unigolyn yn siarad nifer o ieithoedd, neu’n rhywun sy’n hoff o ddysgu ieithoedd. Mae’n wir fod rhai ieithyddion yn gallu siarad nifer o ieithoedd, ond ffocws ieithydd yn yr ystyr academaidd yw astudio strwythur a defnydd iaith yn gyffredinol gan ddefnyddio’r dull disgrifiadol.
Mae ieithyddion yn astudio sut i gynrychioli strwythur y gwahanol agweddau ar iaith (sain, ystyr, ffurf geiriau, a.y.b.), sut i ddatblygu theori i esbonio gwahanol batrymau ieithyddol, a sut mae gwahanol agweddau ar iaith yn rhyngweithio â’i gilydd.
Yn ogystal, mae ieithyddion yn ymchwilio i’r modd y mae plant ac oedolion yn dysgu iaith ac ail iaith (caffael iaith, language acquisition), sut mae’r wybodaeth hon yn cael ei storio yn y meddwl, a sut mae iaith yn amrywio (rhwng siaradwyr a rhwng lleoliadau).
Y dull disgrifiadol
Y ddwy brif ffordd o asesu iaith yw’r dull rhagnodol (prescriptivism) a’r dull disgrifiadol (descriptivism). Amcan y dull disgrifiadol yw disgrifio’n fanwl gywir, yn systematig, ac yn wrthrychol (objectively) sut mae iaith yn cael ei defnyddio. Nid yw’r dull yn labelu defnydd penodol o iaith yn ‘gywir’ neu’n ‘anghywir’. Dyma un o egwyddorion sylfaenol astudiaethau ieithyddol.
Ar y llaw arall, mae’r dull rhagnodol yn cynnig ffurfiau safonol i’w defnyddio. Mae’r dull yn gosod rheolau ar gyfer iaith sy’n ‘gywir’, ac nid yw iaith sy’n torri’r rheolau yn dderbyniol, yn ôl y cyfrwng.
Strwythur iaith
Mae ieithyddion yn astudio strwythur iaith ac ieithoedd, ac mae ieithyddiaeth yn cynnwys nifer o bynciau neu is-feysydd. Gellir disgrifio is-feysydd ieithyddiaeth fel ‘blociau adeiladu’ iaith. Astudiaeth o ddulliau cynhyrchu, trawsyrru a chanfod seiniau yw seineg (neu ffoneteg, phonetics), ond ffonoleg yw’r enw ar astudiaeth o’r ffordd y mae seiniau’n cael eu dosbarthu mewn iaith. Astudiaeth o’r ffordd y mae iaith yn ffurfio geiriau yw morffoleg. Astudiaeth o’r ffordd y mae adeiladu brawddegau o eiriau yw cystrawen (syntax). Astudiaeth o ystyr geiriau a brawddegau yw semanteg, ond mae pragmateg hefyd yn astudiaeth o ystyr. Astudiaeth o ystyr mewn cyd-destun yw pragmateg.
Llyfryddiaeth
Cooper, S. & L. Arman (2019) Cyflwyniad. Yn S. Cooper & L. Arman (goln.) Cyflwyniad i ieithyddiaeth. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.