Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cyflwynydd newyddion"
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
''Saesneg: Newsreader/anchorperson'' | ''Saesneg: Newsreader/anchorperson'' | ||
− | Y sawl sy’n cyflwyno rhaglen [[newyddion]] teledu neu’n darllen y bwletinau [[newyddion]]. Mae’r [[cyflwynydd]] | + | Y sawl sy’n cyflwyno rhaglen [[newyddion]] teledu neu’n darllen y bwletinau [[newyddion]]. Mae’r [[cyflwynydd]] yn cyflwyno’r [[newyddion]] drwy gymorth [[awtociw]] (autocue/teleprompter). |
Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au cynnar a ddyfeisiodd y term ‘''anchor''’ yn ystod Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol (''Republican National Convention'') yn Chicago. Ymdebygodd y darllediad i dîm ras cyfnewid, lle y mae safle’r rhedwr olaf (''anchor'') yn hollbwysig. Enghraifft o ‘angor’ yn Unol Daleithiau America (UDA) oedd y [[newyddiadurwr]] Walter Cronkite a gyflwynodd y newyddion i CBS am flynyddoedd. | Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au cynnar a ddyfeisiodd y term ‘''anchor''’ yn ystod Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol (''Republican National Convention'') yn Chicago. Ymdebygodd y darllediad i dîm ras cyfnewid, lle y mae safle’r rhedwr olaf (''anchor'') yn hollbwysig. Enghraifft o ‘angor’ yn Unol Daleithiau America (UDA) oedd y [[newyddiadurwr]] Walter Cronkite a gyflwynodd y newyddion i CBS am flynyddoedd. |
Diwygiad 13:16, 2 Mai 2019
Saesneg: Newsreader/anchorperson
Y sawl sy’n cyflwyno rhaglen newyddion teledu neu’n darllen y bwletinau newyddion. Mae’r cyflwynydd yn cyflwyno’r newyddion drwy gymorth awtociw (autocue/teleprompter).
Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au cynnar a ddyfeisiodd y term ‘anchor’ yn ystod Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol (Republican National Convention) yn Chicago. Ymdebygodd y darllediad i dîm ras cyfnewid, lle y mae safle’r rhedwr olaf (anchor) yn hollbwysig. Enghraifft o ‘angor’ yn Unol Daleithiau America (UDA) oedd y newyddiadurwr Walter Cronkite a gyflwynodd y newyddion i CBS am flynyddoedd.
Sefydlodd Hewitt baramedrau ar gyfer perfformiad byw er mwyn cadw’r rhaglen newyddion yn y stiwdio i redeg yn esmwyth. Cyflawnwyd hyn trwy fyrfyfyrio, darllen yr awtociw, cyflwyno newyddion yn torri, sgwrsio â gwesteion yn y stiwdio a chydlynu adroddiadau newyddiadurwyr a oedd allan ar leoliad.
Mae cyflwynwyr yn ysgrifennu copi ac yn aml yn mynd allan ar aseiniad i gyflwyno’r rhaglen o’r maes er mwyn gweithredu fel llygad dyst i ddigwyddiadau arbennig.
Mae rhai o’r newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus yn UDA wedi sefydlu eu hunain fel prif gyflwynwyr, gan gynnwys Cronkite, David Brinkley a Peter Jennings, ac mae ‘anchors’ cyfoes UDA yn aml yn bersonoliaethau enwog yn ogystal â chyflwyno’r newyddion.
Nid yw sefydliadau newyddion mewn mannau eraill o’r byd yn defnyddio’r term ‘anchor’, ond mae’r newyddiadurwyr yn cyflwyno’r rhaglen newyddion yn yr un modd. Mae Bethan Rhys Roberts, Huw Edwards a Garry Owen ymhlith nifer o gyflwynwyr rhaglenni newyddion y Deyrnas Unedig sy’n dod o Gymru.
Mae beirniaid yn dadlau bod y cyflwynwyr Americanaidd – yr anchors – yn rhoi gormod o bwyslais ar ymddangosiad newyddion darlledu gan eu troi’n ‘selebs’. Gall hyn yn ei dro danseilio rôl draddodiadol newyddiadurwyr.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.