|
|
Llinell 1: |
Llinell 1: |
− | | + | #ail-cyfeirio [[Cyflwynydd]] |
− | ''Saesneg: Newsreader/anchorperson''
| |
− | | |
− | Y sawl sy’n cyflwyno rhaglen [[newyddion]] teledu neu’n darllen y bwletinau [[newyddion]]. Mae’r [[cyflwynydd]] yn cyflwyno’r [[newyddion]] drwy gymorth [[awtociw]] (autocue/teleprompter).
| |
− | | |
− | Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au cynnar a ddyfeisiodd y term ‘''anchor''’ yn ystod Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol (''Republican National Convention'') yn Chicago. Ymdebygodd y darllediad i dîm ras cyfnewid, lle y mae safle’r rhedwr olaf (''anchor'') yn hollbwysig. Enghraifft o ‘angor’ yn Unol Daleithiau America (UDA) oedd y [[newyddiadurwr]] Walter Cronkite a gyflwynodd y newyddion i CBS am flynyddoedd.
| |
− | | |
− | Sefydlodd Hewitt baramedrau ar gyfer perfformiad byw er mwyn cadw’r rhaglen newyddion yn y stiwdio i redeg yn esmwyth. Cyflawnwyd hyn trwy fyrfyfyrio, darllen yr [[awtociw]], cyflwyno newyddion yn torri, sgwrsio â gwesteion yn y stiwdio a chydlynu adroddiadau newyddiadurwyr a oedd allan ar leoliad.
| |
− | | |
− | Mae cyflwynwyr yn ysgrifennu [[copi]] ac yn aml yn mynd allan ar [[aseiniad]] i gyflwyno’r rhaglen o’r maes er mwyn gweithredu fel llygad dyst i ddigwyddiadau arbennig.
| |
− | | |
− | Mae rhai o’r newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus yn UDA wedi sefydlu eu hunain fel prif gyflwynwyr, gan gynnwys Cronkite, David Brinkley a Peter Jennings, ac mae ‘''anchors''’ cyfoes UDA yn aml yn bersonoliaethau enwog yn ogystal â chyflwyno’r newyddion.
| |
− | | |
− | Nid yw sefydliadau newyddion mewn mannau eraill o’r byd yn defnyddio’r term ‘''anchor''’, ond mae’r newyddiadurwyr yn cyflwyno’r rhaglen newyddion yn yr un modd. Mae Bethan Rhys Roberts, Huw Edwards a Garry Owen ymhlith nifer o gyflwynwyr rhaglenni newyddion y Deyrnas Unedig sy’n dod o Gymru.
| |
− | | |
− | Mae beirniaid yn dadlau bod y cyflwynwyr Americanaidd – yr ''anchors'' – yn rhoi gormod o bwyslais ar ymddangosiad newyddion darlledu gan eu troi’n ‘selebs’. Gall hyn yn ei dro danseilio rôl draddodiadol newyddiadurwyr.
| |
− | | |
− | | |
− | {{CC BY-SA}}
| |
− | [[Categori:Newyddiaduraeth]] | |