Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Paparazzi"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saesneg: ''Paparazzi'' Term a ddefnyddir i ddynodi ffotograffwyr sy’n tynnu lluniau neu fideo heb yn wybod i’r person. Maent yn defnyddio tactegau an...')
 
Llinell 4: Llinell 4:
  
Mae’r gair ''paparazzi'' yn dod o’r Eidaleg. Mae’r term yn tarddu o’r [[ffilm]] ''‘La dolce vita’'' a gyfarwyddwyd gan Frederico Fellini yn 1960. Ynddo ceir hanes [[newyddiadurwr]] sy’n gweithio i gylchgrawn clecs (''gossip magazine'').  Erbyn hyn mae ''paparazzi'' yn dynodi pob math o ffotograffiaeth diegwyddor ac anfoesegol ledled y byd. Mae’r ras i dynnu delweddau anhygoel o enwogion wedi arwain at densiynau trafferthus rhyngddynt a’r ffotograffwyr hyn. Er enghraifft, tybir bod y Dywysoges Diana wedi cael ei herlid gan ''baparazzi'' cyn ei marwolaeth ym Mharis yn 1997.
 
 +
 +
 +
{{CC BY-SA}}
 +
 +
[[Categori:Newyddiaduraeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 14:04, 31 Gorffennaf 2019

Saesneg: Paparazzi

Term a ddefnyddir i ddynodi ffotograffwyr sy’n tynnu lluniau neu fideo heb yn wybod i’r person. Maent yn defnyddio tactegau anarferol neu ymwthiol fel arfer. Yn wahanol i ffotonewyddiadurwyr sy’n tynnu lluniau unigolion yn agored, mewn mannau cyhoeddus neu mewn lleoliadau preifat a drefnwyd ymlaen llaw, mae paparazzi yn defnyddio tactegau amheus a llechwraidd er mwyn portreadu pobl, gan amlaf enwogion, sydd wrthi’n gwneud pethau cyffredin fel siopa a bwyta, neu’n gwneud pethau a all beri embaras, fel cweryla’n gyhoeddus.

Mae’r gair paparazzi yn dod o’r Eidaleg. Mae’r term yn tarddu o’r ffilm ‘La dolce vita’ a gyfarwyddwyd gan Frederico Fellini yn 1960. Ynddo ceir hanes newyddiadurwr sy’n gweithio i gylchgrawn clecs (gossip magazine). Erbyn hyn mae paparazzi yn dynodi pob math o ffotograffiaeth diegwyddor ac anfoesegol ledled y byd. Mae’r ras i dynnu delweddau anhygoel o enwogion wedi arwain at densiynau trafferthus rhyngddynt a’r ffotograffwyr hyn. Er enghraifft, tybir bod y Dywysoges Diana wedi cael ei herlid gan baparazzi cyn ei marwolaeth ym Mharis yn 1997.

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.