Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anweledig"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *''Sombreros yn y Glaw'' (Crai CD060, 1998) | |
− | + | *''Cae yn Nefyn'' [EP] (Crai CD067, 1999) | |
− | + | *''Scratchy'' (ar y cyd gyda Zion Train) [EP] (Crai CD070, 2000) | |
− | + | *''Gweld y Llun'' (Crai CD074, 2001) | |
− | + | *''Low Alpine'' [EP] (Crai CD081, 2001) | |
− | + | *''Byw'' [EP] (Rasal CD002, 2004) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Diwygiad 09:26, 26 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Band o Flaenau Ffestiniog oedd Anweledig a fu’n un o brif grwpiau Cymru yn ystod yr 1990au ac ym mlynyddoedd cynnar y mileniwm. Ffurfiodd y band yn 1991 a’r aelodau oedd Ceri Cunnington (prif lais), Gai Toms (gitâr a llais), Iwan Jones (gitâr flaen), Rhys Roberts (gitâr fas), Alwyn Evans (drymiau) a Joe Buckley (allweddellau), ynghyd ag adran chwyth a berfformiai’n fyw o dan yr enw ‘Y Tri Tôn’, yn cynnwys Edwin Humphries (sacsoffon), Barri Gwilliam (trwmped) ac Arwel Davies (trombon).
Gan ddod i sylw yn bennaf ar sail eu perfformiadau cynhyrfus ac egnïol, datblygodd y band ddilyniant sylweddol erbyn cyhoeddi eu record gyntaf Sombreros yn y Glaw ar label Crai yn 1998. Gyda chaneuon hwyliog fel ‘Dawns y Glaw’ a ‘Merch Coffi’ yn arddangos dylanwadau ska a ffync, dilynwyd yr albwm flwyddyn yn ddiweddarach gyda’r EP Cae yn Nefyn. Adlewyrchwyd poblogrwydd Anweledig pan ddewiswyd y band i orffen cyngherddau Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 1999. Fe ddaeth y gân ‘Eisteddfod’ o Sombreros yn y Glaw yn anthem answyddogol yr ŵyl. Yn ystod y cyfnod yma buont yn rhannu llwyfannau gyda bandiau megis Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci, Stereophonics, Catatonia, a Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr.
Yn y blynyddoedd ers hynny, rhyddhaodd y band nifer o recordiau, gan gynnwys ail albwm o’r enw Gweld y Llun yn 2001. Wedi taith i Lydaw yn 2002, bu cyfnod tawelach er mwyn i rai o aelodau’r band ddilyn prosiectau eraill, megis Gai Toms o dan yr enw Mim Twm Llai. Ailffurfiodd y band yn 2004, gan chwarae yng Ngŵyl Tân y Ddraig yn ystâd y Faenol ger Bangor yn Awst 2006, ac maent wedi parhau i berfformio’n achlysurol ers hynny.
Un o nodweddion Anweledig yw’r ystod eang o arddulliau sy’n perthyn i’w caneuon, yn amrywio o ffync (‘Gweld y Llun’, ‘Wga Bwga’), reggae (‘Eisteddfod’) a ska (‘Cae yn Nefyn’), i faledi roc megis ‘Chwarae dy Gêm’. Diau fod hyn – ynghyd â dawn Gai Toms fel cyfansoddwr – wedi cyfrannu at boblogrwydd Anweledig, ynghyd â phresenoldeb llwyfan trawiadol eu prif leisydd Ceri Cunnington.
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- Sombreros yn y Glaw (Crai CD060, 1998)
- Cae yn Nefyn [EP] (Crai CD067, 1999)
- Scratchy (ar y cyd gyda Zion Train) [EP] (Crai CD070, 2000)
- Gweld y Llun (Crai CD074, 2001)
- Low Alpine [EP] (Crai CD081, 2001)
- Byw [EP] (Rasal CD002, 2004)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.