Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Diwydiant ar raddfa fechan oedd cyhoeddi cerddoriaeth yng Nghymru ar y dechrau. Roedd yr ymdrechion cynharaf, megis gwerslyfr John Williams (Siôn Singer), ''Cyfaill mewn Llogell'' (1797), a argraffwyd gan John Daniel yng Nghaerfyrddin, yn bodloni ar ysgrifennu nodau â llaw ar erwydd wedi ei phrintio. Y gerddoriaeth gyntaf i’w hargraffu ar dir a daear Cymru oedd casgliad John Ellis o [[anthemau]] ac [[emyn-donau]], ''[[Mawl]] yr Arglwydd'', a argraffwyd gan Ishmael [[Dafydd]] yn Nhrefriw yn 1816, ac fe’i dilynwyd gan ramadegau cerdd a ymddangosodd yn yr 1820au a’r 1830au, megis ''Grisiau Cerdd Arwest'' gan John Ryland Harris (1823) a ''Y Caniedydd Crefyddol'' gan William Owen (1828).
+
Diwydiant ar raddfa fechan oedd cyhoeddi cerddoriaeth yng Nghymru ar y dechrau. Roedd yr ymdrechion cynharaf, megis gwerslyfr John Williams (Siôn Singer), ''Cyfaill mewn Llogell'' (1797), a argraffwyd gan John Daniel yng Nghaerfyrddin, yn bodloni ar ysgrifennu nodau â llaw ar erwydd wedi ei phrintio. Y gerddoriaeth gyntaf i’w hargraffu ar dir a daear Cymru oedd casgliad John Ellis o [[anthemau]] ac [[emyn-donau]], ''Mawl yr Arglwydd'', a argraffwyd gan Ishmael Dafydd yn Nhrefriw yn 1816, ac fe’i dilynwyd gan ramadegau cerdd a ymddangosodd yn yr 1820au a’r 1830au, megis ''Grisiau Cerdd Arwest'' gan John Ryland Harris (1823) a ''Y Caniedydd Crefyddol'' gan William Owen (1828).
  
Erbyn canol y 19g. gwelwyd datblygiad yn y grefft o argraffu cerddoriaeth yng ngwaith argraffwyr megis Griffith Jones, Y Bala, a Robert Jones, Bethesda, a oedd yn defnyddio teip cerddorol i osod darnau cymharol fyr. Cyhoeddwyd [[anthemau]] John Ambrose Lloyd yn y dull hwn. Y cyntaf i fentro cyhoeddi unawdau oedd Isaac Clarke (1824–75), Rhuthun: wedi iddo fynd yn fethdalwr prynwyd ei stoc gan Hughes a’i Fab. Yn yr un cyfnod bu Thomas Gee yn cyhoeddi cerddoriaeth a chylchgrawn, ''Greal y Corau'', a oedd yn cynnwys darnau [[corawl]] i ddiwallu anghenion y mudiad corawl newydd. Y cwmni hwn hefyd fu’n gyfrifol am gyhoeddi’r casgliad anenwadol o emynau a thonau, ''Caniadau y Cyssegr a’r [[Teulu]]'' (1878, gydag argraffiad diwygiedig yn 1889).
+
Erbyn canol y 19g. gwelwyd datblygiad yn y grefft o argraffu cerddoriaeth yng ngwaith argraffwyr megis Griffith Jones, Y Bala, a Robert Jones, Bethesda, a oedd yn defnyddio teip cerddorol i osod darnau cymharol fyr. Cyhoeddwyd [[anthemau]] John Ambrose Lloyd yn y dull hwn. Y cyntaf i fentro cyhoeddi unawdau oedd Isaac Clarke (1824–75), Rhuthun: wedi iddo fynd yn fethdalwr prynwyd ei stoc gan Hughes a’i Fab. Yn yr un cyfnod bu Thomas Gee yn cyhoeddi cerddoriaeth a chylchgrawn, ''Greal y Corau'', a oedd yn cynnwys darnau [[corawl]] i ddiwallu anghenion y mudiad corawl newydd. Y cwmni hwn hefyd fu’n gyfrifol am gyhoeddi’r casgliad anenwadol o emynau a thonau, ''Caniadau y Cyssegr a’r Teulu'' (1878, gydag argraffiad diwygiedig yn 1889).
  
 
Er mai yn yr 1820au y sylfaenwyd cwmni Hughes a’i Fab yn Wrecsam, yn yr 1860au y daethant i amlygrwydd fel cyhoeddwyr cerddoriaeth, trwy bwrcasu cyhoeddiadau Isaac Clarke a thrwy feddiannu a chyhoeddi ''Y Cerddor Cymreig'' a ''Llyfr Tonau Cynulleidfaol'' [[Ieuan Gwyllt]] (John Roberts; 1822–77). Parhaodd ''Y Cerddor Cymreig'' tan ddiwedd 1873 a bu’r cwmni hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi ''Cerddor y Tonic Sol-ffa'' (1869–74) a ''Y Cerddor Sol-ffa'' (1881–6). Roedd y teitlau hyn yn cynnwys atodiadau cerddorol o ranganau ac [[anthemau]] a werthwyd ar wahân ac a barhaodd yn rhan o gatalog Hughes ymhell wedi tranc y cylchgronau. Yn chwarter olaf y 19g. ac yn hanner cyntaf yr 20g. bu Hughes yn gyfrifol am gyhoeddi nifer fawr o unawdau a darnau corawl gan gyfansoddwyr Cymreig.
 
Er mai yn yr 1820au y sylfaenwyd cwmni Hughes a’i Fab yn Wrecsam, yn yr 1860au y daethant i amlygrwydd fel cyhoeddwyr cerddoriaeth, trwy bwrcasu cyhoeddiadau Isaac Clarke a thrwy feddiannu a chyhoeddi ''Y Cerddor Cymreig'' a ''Llyfr Tonau Cynulleidfaol'' [[Ieuan Gwyllt]] (John Roberts; 1822–77). Parhaodd ''Y Cerddor Cymreig'' tan ddiwedd 1873 a bu’r cwmni hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi ''Cerddor y Tonic Sol-ffa'' (1869–74) a ''Y Cerddor Sol-ffa'' (1881–6). Roedd y teitlau hyn yn cynnwys atodiadau cerddorol o ranganau ac [[anthemau]] a werthwyd ar wahân ac a barhaodd yn rhan o gatalog Hughes ymhell wedi tranc y cylchgronau. Yn chwarter olaf y 19g. ac yn hanner cyntaf yr 20g. bu Hughes yn gyfrifol am gyhoeddi nifer fawr o unawdau a darnau corawl gan gyfansoddwyr Cymreig.
Llinell 17: Llinell 18:
 
Bu [[W. S. Gwynn Williams]] yn olygydd ar staff Hughes a’i Fab am nifer o flynyddoedd ac yn delio â chyhoeddiadau cerddorol yn ogystal â golygu’r cylchgrawn ''Y Cerddor Newydd'' (1922–9). Yna yn 1937, sefydlodd Gwmni Cyhoeddi Gwynn a chyhoeddi cerddoriaeth leisiol ac offerynnol gan gerddorion Cymreig, yn ogystal â chasgliadau a threfniannau o [[alawon gwerin]] Cymreig. Cyhoeddodd hefyd lawer o ddarnau lleisiol Ewropeaidd a chomisiynu geiriau Cymraeg newydd iddynt. Wedi marw Gwynn Williams yn 1978 symudodd  y  cwmni dan berchenogaeth newydd i Ben-y-groes, Arfon, a pharhau i gyhoeddi gweithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes megis [[Dilys Elwyn-Edwards]], [[Gareth Glyn]] a [[Pwyll ap Siôn]].
 
Bu [[W. S. Gwynn Williams]] yn olygydd ar staff Hughes a’i Fab am nifer o flynyddoedd ac yn delio â chyhoeddiadau cerddorol yn ogystal â golygu’r cylchgrawn ''Y Cerddor Newydd'' (1922–9). Yna yn 1937, sefydlodd Gwmni Cyhoeddi Gwynn a chyhoeddi cerddoriaeth leisiol ac offerynnol gan gerddorion Cymreig, yn ogystal â chasgliadau a threfniannau o [[alawon gwerin]] Cymreig. Cyhoeddodd hefyd lawer o ddarnau lleisiol Ewropeaidd a chomisiynu geiriau Cymraeg newydd iddynt. Wedi marw Gwynn Williams yn 1978 symudodd  y  cwmni dan berchenogaeth newydd i Ben-y-groes, Arfon, a pharhau i gyhoeddi gweithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes megis [[Dilys Elwyn-Edwards]], [[Gareth Glyn]] a [[Pwyll ap Siôn]].
  
Mae Cwmni Sain, a sefydlwyd yn 1969 i gynhyrchu recordiau, hefyd yn argraffu cerddoriaeth brintiedig, gan gynnwys trefniannau corawl a llyfrau o ganeuon. Yn 1992 ffurfiwyd Cwmni [[Curiad]] i hybu cyfansoddiadau newydd gan gyfansoddwyr o Gymru yn bennaf, ac mae’r cwmni wedi cyhoeddi amrywiaeth o waith cyfoes gan [[Robat Arwyn]], [[Mervyn Burtch]], [[Gareth Glyn]], Brian Hughes, [[John Metcalf]] a chyfansoddwyr eraill, yn ogystal â threfniannau o weithiau Ewropeaidd, caneuon i blant a deunyddiau [[addysgol]].
+
Mae Cwmni Sain, a sefydlwyd yn 1969 i gynhyrchu recordiau, hefyd yn argraffu cerddoriaeth brintiedig, gan gynnwys trefniannau corawl a llyfrau o ganeuon. Yn 1992 ffurfiwyd Cwmni Curiad i hybu cyfansoddiadau newydd gan gyfansoddwyr o Gymru yn bennaf, ac mae’r cwmni wedi cyhoeddi amrywiaeth o waith cyfoes gan [[Robat Arwyn]], [[Mervyn Burtch]], [[Gareth Glyn]], Brian Hughes, [[John Metcalf]] a chyfansoddwyr eraill, yn ogystal â threfniannau o weithiau Ewropeaidd, caneuon i blant a deunyddiau [[addysgol]].
'''
+
 
Rhidian Griffiths'''
+
'''Rhidian Griffiths'''
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}

Diwygiad 18:56, 28 Chwefror 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Diwydiant ar raddfa fechan oedd cyhoeddi cerddoriaeth yng Nghymru ar y dechrau. Roedd yr ymdrechion cynharaf, megis gwerslyfr John Williams (Siôn Singer), Cyfaill mewn Llogell (1797), a argraffwyd gan John Daniel yng Nghaerfyrddin, yn bodloni ar ysgrifennu nodau â llaw ar erwydd wedi ei phrintio. Y gerddoriaeth gyntaf i’w hargraffu ar dir a daear Cymru oedd casgliad John Ellis o anthemau ac emyn-donau, Mawl yr Arglwydd, a argraffwyd gan Ishmael Dafydd yn Nhrefriw yn 1816, ac fe’i dilynwyd gan ramadegau cerdd a ymddangosodd yn yr 1820au a’r 1830au, megis Grisiau Cerdd Arwest gan John Ryland Harris (1823) a Y Caniedydd Crefyddol gan William Owen (1828).

Erbyn canol y 19g. gwelwyd datblygiad yn y grefft o argraffu cerddoriaeth yng ngwaith argraffwyr megis Griffith Jones, Y Bala, a Robert Jones, Bethesda, a oedd yn defnyddio teip cerddorol i osod darnau cymharol fyr. Cyhoeddwyd anthemau John Ambrose Lloyd yn y dull hwn. Y cyntaf i fentro cyhoeddi unawdau oedd Isaac Clarke (1824–75), Rhuthun: wedi iddo fynd yn fethdalwr prynwyd ei stoc gan Hughes a’i Fab. Yn yr un cyfnod bu Thomas Gee yn cyhoeddi cerddoriaeth a chylchgrawn, Greal y Corau, a oedd yn cynnwys darnau corawl i ddiwallu anghenion y mudiad corawl newydd. Y cwmni hwn hefyd fu’n gyfrifol am gyhoeddi’r casgliad anenwadol o emynau a thonau, Caniadau y Cyssegr a’r Teulu (1878, gydag argraffiad diwygiedig yn 1889).

Er mai yn yr 1820au y sylfaenwyd cwmni Hughes a’i Fab yn Wrecsam, yn yr 1860au y daethant i amlygrwydd fel cyhoeddwyr cerddoriaeth, trwy bwrcasu cyhoeddiadau Isaac Clarke a thrwy feddiannu a chyhoeddi Y Cerddor Cymreig a Llyfr Tonau Cynulleidfaol Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822–77). Parhaodd Y Cerddor Cymreig tan ddiwedd 1873 a bu’r cwmni hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi Cerddor y Tonic Sol-ffa (1869–74) a Y Cerddor Sol-ffa (1881–6). Roedd y teitlau hyn yn cynnwys atodiadau cerddorol o ranganau ac anthemau a werthwyd ar wahân ac a barhaodd yn rhan o gatalog Hughes ymhell wedi tranc y cylchgronau. Yn chwarter olaf y 19g. ac yn hanner cyntaf yr 20g. bu Hughes yn gyfrifol am gyhoeddi nifer fawr o unawdau a darnau corawl gan gyfansoddwyr Cymreig.

Gelwid Hughes a’i Fab yn ‘Novello Cymru’, ond roedd cwmni Novello yn Llundain yn gyfrifol am gyhoeddi’r argraffiadau rhad o oratorios a gweithiau corawl eraill. Roeddynt hefyd yn cyhoeddi rhai gweithiau corawl gyda geiriau Cymraeg, er enghraifft rhai o gantatas J. S. Bach, ac yn cyhoeddi argraffiadau sol-ffa o weithiau corawl. Cyhoeddwyd llu o argraffiadau sol-ffa (gan gynnwys rhai gyda geiriau Cymraeg) gan Wasg Curwen yn Plaistow, Essex.

Yn chwarter olaf y 19g. roedd llawer o argraffwyr Cymreig yn cyhoeddi cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru i ddiwallu anghenion eisteddfod a chyngerdd. Meddai rhai ar y gallu i gysodi’r hen nodiant, a bu’r cysodwr profiadol Benjamin Morris Williams (1832–1903) yn gweithio i gwmnïau Gee, Hughes a’i Fab ac Isaac Jones, Treherbert. Roedd Richard Mills (1840–1903) hefyd yn gysodwr gyda Hughes a’i Fab. Ond ar gyfer gweithiau mwy cymhleth, byddai cyhoeddwyr Cymru yn defnyddio gwasanaeth engrafio cwmnïau arbenigol y tu allan i Gymru, megis Bayley and Ferguson, Lowe and Brydone, C. G. Röder ac eraill.

Ymhlith yr argraffwyr a ddatblygodd yn gyhoeddwyr cerddoriaeth yr oedd cwmni Lewis Jones (Jane ac Elisabeth Jones wedyn), Llannerch-y-medd; Benjamin Parry, Abertawe; D. L. Jones (Cynalaw), Llansawel ac Aberteifi; a J. R. Lewis, Caerfyrddin. Roedd eraill, megis E. D. Williams (y North Wales Music Co., Bangor) a D. Trehearn, Y Rhyl, yn cyplysu cyhoeddi gyda chadw siop. Byddai llawer o gyfansoddwyr, gan gynnwys Joseph Parry, hefyd yn cyhoeddi eu gwaith eu hunain yn y cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr elw o’r gwerthiant. Aeth nifer o’r cwmnïau bach hyn yn eiddo i Hughes a’i Fab ac i Snell wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Sefydlodd David John Snell (1880–1957) fusnes gwerthu cerddoriaeth yn Abertawe yn 1900 ond yn 1910 y dechreuodd fel cyhoeddwr pan brynodd stoc a hawlfreintiau Benjamin Parry, a fuasai’n cyhoeddi cerddoriaeth yn Abertawe er 1878. O gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf ymlaen ychwanegodd at ei gatalog trwy bwrcasu stoc a hawlfreintiau nifer o gwmnïau cyhoeddi bychan a chyfansoddwyr a fuasai’n cyhoeddi eu gwaith eu hunain. Ond er bod cyfran uchel o’i gynnyrch yn ‘ail-law’, bu hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o weithiau newydd (lleisiol yn bennaf) gan gyfansoddwyr megis W. Bradwen Jones, Idris Lewis, Meirion Williams a David Wynne. Daeth gwaith cyhoeddi’r cwmni i ben yn gynnar yn yr 1960au, ond cadwyd siop yn Abertawe tan 1971. Yn 1982, ailffurfiwyd y cwmni i werthu eitemau o’r stoc ac i adargraffu’r darnau mwyaf poblogaidd.

Bu W. S. Gwynn Williams yn olygydd ar staff Hughes a’i Fab am nifer o flynyddoedd ac yn delio â chyhoeddiadau cerddorol yn ogystal â golygu’r cylchgrawn Y Cerddor Newydd (1922–9). Yna yn 1937, sefydlodd Gwmni Cyhoeddi Gwynn a chyhoeddi cerddoriaeth leisiol ac offerynnol gan gerddorion Cymreig, yn ogystal â chasgliadau a threfniannau o alawon gwerin Cymreig. Cyhoeddodd hefyd lawer o ddarnau lleisiol Ewropeaidd a chomisiynu geiriau Cymraeg newydd iddynt. Wedi marw Gwynn Williams yn 1978 symudodd y cwmni dan berchenogaeth newydd i Ben-y-groes, Arfon, a pharhau i gyhoeddi gweithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes megis Dilys Elwyn-Edwards, Gareth Glyn a Pwyll ap Siôn.

Mae Cwmni Sain, a sefydlwyd yn 1969 i gynhyrchu recordiau, hefyd yn argraffu cerddoriaeth brintiedig, gan gynnwys trefniannau corawl a llyfrau o ganeuon. Yn 1992 ffurfiwyd Cwmni Curiad i hybu cyfansoddiadau newydd gan gyfansoddwyr o Gymru yn bennaf, ac mae’r cwmni wedi cyhoeddi amrywiaeth o waith cyfoes gan Robat Arwyn, Mervyn Burtch, Gareth Glyn, Brian Hughes, John Metcalf a chyfansoddwyr eraill, yn ogystal â threfniannau o weithiau Ewropeaidd, caneuon i blant a deunyddiau addysgol.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.