Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Harries, David (1933-2003)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *Pumawd Piano Op. 20 (1964) yn ''Ian Parrott, David Harries, David Wynne'' (Lyrita SRCD284, 2008 [1971]) | |
==Llyfryddiaeth ddethol== | ==Llyfryddiaeth ddethol== | ||
− | + | *Archif Tŷ Cerdd | |
− | + | *Nodiadau Paul Conway ar gyfer recordiad ''Ian Parrott, David Harries, David Wynne'' (Lyrita SRCD284, 2008 [1971]) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Diwygiad 15:06, 4 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Fel cyfansoddwr a phianydd roedd David Harries yn un o gerddorion amlycaf a phwysicaf Cymru yn y cyfnod wedi 1945. Bu’n ddarlithydd ac yn addysgwr ond fel cyfansoddwr y cofir amdano bellach. Er nad oedd mor rhyngwladol amlwg â’i gyfoeswyr (a’i gyfeillion) William Mathias (1934–92) ac Alun Hoddinott (1929–2008), mae ei waith gorau o safon uchel iawn. Fe’i gwelwyd yn pwysleisio elfennau cyweiraidd yn ei weithiau cynnar, yn arbrofi’n eclectig â chyfresiaeth yn ystod yr 1960au cyn troi’n ôl at donyddiaeth yn ei gyfnod creadigol olaf.
Ganed David Harries yn Portsmouth ond Cymry oedd ei rieni ac yn fuan symudodd y teulu yn ôl i dref Penfro. O’r ysgol leol yno aeth yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu’n astudio gydag Ian Parrott (1916–2012) ac ymhlith ei gyd-fyfyrwyr yr oedd William Mathias a’r tenor Kenneth Bowen. Yn dilyn cyfnod o wasanaeth milwrol gorfodol bu’n dysgu yn Swydd Stafford a Sir Benfro cyn dychwelyd i’w hen adran fel darlithydd. Dyfarnwyd gradd DMus Prifysgol Cymru iddo yn 1964. Yn 1975 symudodd i Goleg Cerdd a Drama Cymru fel pennaeth perfformio a’i ddyrchafu’n gyfansoddwr preswyl yno cyn ymddeol yn 1990.
Fe’i comisiynwyd gan nifer o’r prif wyliau cerdd yng Nghymru. Darlledwyd ei weithiau’n gyson, ysgrifennodd ar gyfer nifer o berfformwyr blaenllaw ei gyfnod, ymddangosodd fel pianydd mewn perfformiadau cyntaf o’i weithiau ef ei hun yn ogystal â gweithiau cyfansoddwyr eraill a bu hefyd yn amlwg fel beirniad (roedd ganddo gysylltiad agos am flynyddoedd â chystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru).
Hybwyd ei ymdrechion cynnar fel cyfansoddwr tra roedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth lle gwelwyd cryn fywiogrwydd cerddorol. Ysgogiad pellach oedd ennill gwobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn 1952 (yr Allegro Scherzoso i linynnau). Cydnabuwyd ei ddawn fel cyfansoddwr yn gynnar gan y BBC yng Nghymru a darlledwyd amryw o’i weithiau tra’r oedd yn fyfyriwr, er enghraifft y Missa Brevis (1954), gwaith cynnil a chymwys iawn ar gyfer lleisiau corawl gyda chyfeiliant cerddorfaol. Yn y gwaith hwn, gwelir bod y cyfan yn seiliedig ar ganolbwyntiau cyweiraidd ond eto’n ymwthio’n rhythmig yn yr adrannau cyflym lle clywir cordiau cymhleth trawiadol. Mae’r un addewid yn perthyn i’w Bedwarawd Llinynnol Rhif 1 a gyfansoddodd yr un flwyddyn.
Wrth edrych ar ei waith yn ei grynswth, gwelir bod ganddo chwaeth aruchel wrth ddewis barddoniaeth i’w gosod – o Gerard Manley Hopkins mewn gosodiadau sensitif yn Noctuary Rhif 1 (1961) i feirdd megis Tagore (Three Songs from Tagore (1972), ar gyfer llais Kenneth Bowen a Cherddorfa BBC Cymru) a David Jones (The Sleeping Lord – eto ar gyfer llais Bowen a phumawd llinynnol (1983)). Wedi’r cyfan, roedd dylanwad Benjamin Britten (1913–76) a Michael Tippett (1905–98) ymhlith eraill yn amlwg arno yn hyn o beth. Yn ei Sinfonia da Camera (1959) ceir arbrofi amlwg eclectig gyda chyfresiaeth, elfen sydd hefyd yn brigo i’r wyneb yn y Concerto i’r Ffidil (1964), un o’i weithiau gorau, lle mae’n cywasgu emosiwn mewn modd tebyg i ddarnau cyfresol mynegiannol Alban Berg (1885–1935) a lle ceir ysgrifennu cwbl idiomatig ar gyfer yr unawdydd. Un o’i weithiau mwyaf eclectig yw’r Pumawd Piano (1964), gwaith telynegol sy’n rhannu’r defnydd thematig yn deg rhwng pob offeryn, ac er na cheir canolbwynt cyweiraidd amlwg iddo y mae’r gwaith yn gorffen yn hyderus ar C.
Cyfansoddodd nifer o weithiau ar raddfa eang megis y Symffoni (1975) a’r Concerto i’r Piano (1977), ac yn ei gynnyrch gorau ceir idiom fodern sy’n cyfathrebu’n syth, syniadau sy’n afaelgar, trawsacennu, patrymau cyfresiaeth, cordiau clwstwr ac elfennau jazz, y cwbl yn dod ynghyd mewn modd ystyrlon a deniadol.
Lyn Davies
Disgyddiaeth
- Pumawd Piano Op. 20 (1964) yn Ian Parrott, David Harries, David Wynne (Lyrita SRCD284, 2008 [1971])
Llyfryddiaeth ddethol
- Archif Tŷ Cerdd
- Nodiadau Paul Conway ar gyfer recordiad Ian Parrott, David Harries, David Wynne (Lyrita SRCD284, 2008 [1971])
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.