Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Super Furry Animals"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
[[Grŵp pop]] arbrofol a ffurfiwyd yng Nghaerdydd gan Gruff Rhys (llais, gitâr), Huw Bunford (gitâr, llais), Guto Pryce (gitâr fas), Cian Ciaran (allweddellau, llais) a Dafydd Ieuan (drymiau, llais).
+
[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp pop]] arbrofol a ffurfiwyd yng Nghaerdydd gan Gruff Rhys (llais, gitâr), Huw Bunford (gitâr, llais), Guto Pryce (gitâr fas), Cian Ciaran (allweddellau, llais) a Dafydd Ieuan (drymiau, llais).
  
Pan chwalodd y band [[Ffa Coffi Pawb]] yn 1993, ffurfiodd Dafydd Ieuan a Gruff Rhys fand newydd gydag aelodau o fandiau Cymraeg eraill, sef Huw Bunford a Guto Pryce o U Thant a Cian Ciaran o Wwzz. Bu’r grŵp yn recordio gyntaf gydag Ankst, ond o fewn blwyddyn roeddynt wedi llofnodi cytundeb gyda label Creation Records.
 
Llinell 12: Llinell 12:
 
Gyda’u halbwm nesaf, ''Phantom Power'' (2004), trodd Super Furry Animals at arddull gerddorol fwy syml cyn symud ymlaen at wahanol brosiectau, megis albwm unigol Gruff Rhys, ''Yr Atal Genhedlaeth'' (2005). ''Love Kraft'' (2005) oedd yr albwm olaf iddynt ei ryddhau gydag Epic a rhyddhawyd dau albwm arall ar ôl hynny ar label Rough Trade. Yn 2015 ailffurfiodd y band ar gyfer cyfres o berfformiadau i ddathlu pymtheng mlynedd ers rhyddhau ''Mwng'' a daeth eu sengl ‘Bing Bong’ (a’r fideo) yn hynod boblogaidd yn ystod ymgyrch lwyddiannus tîm peldroed Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan Ewrop, 2016. Cyflawnodd pob aelod o Super Furry Animals hefyd brosiectau cerddorol y tu allan i’r grŵp.
 
Yn gerddorol mae’n anodd iawn diffinio Super
+
Yn gerddorol mae’n anodd iawn diffinio Super Furry Animals a gosod labeli taclus arnynt. Er bod yn eu gwaith, o ran strwythur caneuon ac alawon lleisiol, elfennau sy’n gynefin a chyfarwydd, yn eu sŵn – ac o gân i gân – ymglywir â dylanwadau eithriadol o eclectig. Yn eu perthynas â’r byd pop Cymraeg a’r diwydiant pop Eingl-Americanaidd bu Super Furry Animals hefyd yn eithriadol o anghydffurfiol ac annibynnol eu hysbryd. Er mwyn osgoi rheolaeth Lundeinig cadwasant eu hunaniaeth Gymraeg. Ond wrth gofleidio cerddoriaeth bop fyd-eang dangosodd Super Furry Animals hefyd nad band pop Cymraeg yn unig oeddynt, ond band pop y byd.
Furry Animals a gosod labeli taclus arnynt. Er bod yn eu gwaith, o ran strwythur caneuon ac alawon lleisiol, elfennau sy’n gynefin a chyfarwydd, yn eu sŵn – ac o gân i gân – ymglywir â dylanwadau eithriadol o eclectig. Yn eu perthynas â’r byd pop Cymraeg a’r diwydiant pop Eingl-Americanaidd bu Super Furry Animals hefyd yn eithriadol o anghydffurfiol ac annibynnol eu hysbryd. Er mwyn osgoi rheolaeth Lundeinig cadwasant eu hunaniaeth Gymraeg. Ond wrth gofleidio cerddoriaeth bop fyd-eang dangosodd Super Furry Animals hefyd nad band pop Cymraeg yn unig oeddynt, ond band pop y byd.
 
'''Sarah Hill'''
 
'''Sarah Hill'''

Diwygiad 20:41, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp pop arbrofol a ffurfiwyd yng Nghaerdydd gan Gruff Rhys (llais, gitâr), Huw Bunford (gitâr, llais), Guto Pryce (gitâr fas), Cian Ciaran (allweddellau, llais) a Dafydd Ieuan (drymiau, llais).

Pan chwalodd y band Ffa Coffi Pawb yn 1993, ffurfiodd Dafydd Ieuan a Gruff Rhys fand newydd gydag aelodau o fandiau Cymraeg eraill, sef Huw Bunford a Guto Pryce o U Thant a Cian Ciaran o Wwzz. Bu’r grŵp yn recordio gyntaf gydag Ankst, ond o fewn blwyddyn roeddynt wedi llofnodi cytundeb gyda label Creation Records.

Yn y cyfnod hwn roedd pryder cyffredinol ynghylch y nifer o fandiau a oedd yn troi cefn ar lwyddiant sicr yn y byd Cymraeg er mwyn mentro yn y byd pop Eingl-Americanaidd. Llwyddodd Super Furry Animals i ddiogelu’r iaith yn eu cytundeb recordio gyda Creation a chadw’r hawl i ryddhau dwy sengl neu EP y flwyddyn yn y Gymraeg ar label Ankst. Ar hyd y blynyddoedd, felly, parhaodd y grŵp i gyfansoddi caneuon Cymraeg.

Ar ôl iddynt ryddhau eu pedwerydd albwm gyda Creation daeth y label i ben. Yn 2000 trodd Super Furry Animals at eu casgliad o ganeuon Cymraeg gan ryddhau’r albwm uniaith Gymraeg Mwng ar eu label eu hunain. Cafodd yr albwm dderbyniad brwd ym Mhrydain a thu hwnt, nid fel record Gymraeg ei hiaith ond fel record bop fyd-eang. Symudodd Super Furry Animals at label Epic ar gyfer Rings Around the World (2001). Hwn oedd yr albwm cyntaf erioed gan unrhyw grŵp i gael ei ryddhau ar yr un pryd ar CD yn ogystal â DVD, a chafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddorol Mercury.

Gyda’u halbwm nesaf, Phantom Power (2004), trodd Super Furry Animals at arddull gerddorol fwy syml cyn symud ymlaen at wahanol brosiectau, megis albwm unigol Gruff Rhys, Yr Atal Genhedlaeth (2005). Love Kraft (2005) oedd yr albwm olaf iddynt ei ryddhau gydag Epic a rhyddhawyd dau albwm arall ar ôl hynny ar label Rough Trade. Yn 2015 ailffurfiodd y band ar gyfer cyfres o berfformiadau i ddathlu pymtheng mlynedd ers rhyddhau Mwng a daeth eu sengl ‘Bing Bong’ (a’r fideo) yn hynod boblogaidd yn ystod ymgyrch lwyddiannus tîm peldroed Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan Ewrop, 2016. Cyflawnodd pob aelod o Super Furry Animals hefyd brosiectau cerddorol y tu allan i’r grŵp.

Yn gerddorol mae’n anodd iawn diffinio Super Furry Animals a gosod labeli taclus arnynt. Er bod yn eu gwaith, o ran strwythur caneuon ac alawon lleisiol, elfennau sy’n gynefin a chyfarwydd, yn eu sŵn – ac o gân i gân – ymglywir â dylanwadau eithriadol o eclectig. Yn eu perthynas â’r byd pop Cymraeg a’r diwydiant pop Eingl-Americanaidd bu Super Furry Animals hefyd yn eithriadol o anghydffurfiol ac annibynnol eu hysbryd. Er mwyn osgoi rheolaeth Lundeinig cadwasant eu hunaniaeth Gymraeg. Ond wrth gofleidio cerddoriaeth bop fyd-eang dangosodd Super Furry Animals hefyd nad band pop Cymraeg yn unig oeddynt, ond band pop y byd.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • Moog Droog [EP] (Ankst 062, 1995)
  • Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyndrobwllantysiliogogogochynygofod (In Space) [EP] (Ankst 057, 1995)
  • God! Show Me Magic [EP] (Creation CRESCD231, 1996)
  • Fuzzy Logic (Creation CRECD190, 1996)
  • ‘The Man Don’t Give a Fuck’ [sengl] (Creation CRESCD247, 1996)
  • Radiator (Creation CRECD214, 1997)
  • ‘The International Language of Screaming’ [sengl] (Creation CRESCD269, 1997)
  • ‘Ice Hockey Hair’ [EP] (Creation CRESCD288, 1998)
  • Guerrilla (Creation CRECD242, 1999)
  • Mwng (Placid Casual PLC03CD, 2000)
  • Rings Around the World (Epic 502413 2, 2001)
  • ‘Juxtapozed With U’ [EP] (Epic 671224 2, 2001)
  • Phantom Power (Epic 512375 2, 2004)
  • Phantom Phorce (Placid Casual PLC07CD, 2004)
  • Love Kraft (Epic 520501 1, 2005)
  • Hey Venus! (Rough Trade RTRADLP346, 2007)
  • Dark Days/Light Years (Rough Trade RTRADCD546, 2009)
  • ‘Bing Bong’ [sengl] (Strangetown Records STR030, 2016)

Casgliadau:

  • Out Spaced (Creation CRECD229, 1998)
  • Songbook (The Singles, Vol. 1) (Epic XPCD2957, 2004)
  • Under the Influence (DMC UTICD006, 2005)

Llyfryddiaeth

  • Ric Rawlins, Rise of the Super Furry Animals (Llundain, 2015)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.