Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rea, John Meirion (g.1964)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
Llinell 5: | Llinell 6: | ||
Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Llanhari. Dechreuodd chwarae’r piano pan oedd yn wyth oed a’r corn Ffrengig pan oedd yn un ar ddeg. Bu’r profiad o chwarae’r corn mewn [[cerddorfeydd]] sirol yn ystod ei arddegau yn fodd iddo ymgyfarwyddo â sain y gerddorfa. Yn 16 oed dechreuodd ddysgu’r gitâr. | Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Llanhari. Dechreuodd chwarae’r piano pan oedd yn wyth oed a’r corn Ffrengig pan oedd yn un ar ddeg. Bu’r profiad o chwarae’r corn mewn [[cerddorfeydd]] sirol yn ystod ei arddegau yn fodd iddo ymgyfarwyddo â sain y gerddorfa. Yn 16 oed dechreuodd ddysgu’r gitâr. | ||
− | Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol | + | Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r cyfansoddwyr [[Alun Hoddinott]] a [[Richard Elfyn Jones]]. Yno fe’i cyflwynwyd i gerddoriaeth ''avant-garde'' yr 20g. ynghyd â cherddoriaeth fwy diweddar, megis minimaliaeth. Cafodd diddordeb Hoddinott mewn lliwiau cerddorol gryn argraff arno; yn ddiweddarach cofiai iddo ‘sefyll yn ôl ychydig a gwrando ar y lliwiau cerddorol’ (Llwyd 2015). Aeth Rea ymlaen yn 1987 i astudio cwrs meistr yng Nghaerdydd gyda Hoddinott. Disgrifiodd ei gyfnod yno fel un pan fu iddo ddarganfod palet o ''‘sorbet'' cerddorol’ wrth ymwneud â dau fyd y [[clasurol]] a’r [[poblogaidd]]. |
Ar ôl graddio symudodd i Lundain gan gydweithio | Ar ôl graddio symudodd i Lundain gan gydweithio |
Diwygiad 14:17, 6 Ebrill 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cyfansoddwr, perfformiwr a threfnydd y mae ei waith wedi llwyddo i bontio rhwng cerddoriaeth ffilm a theledu, dawns, theatr a cherddoriaeth boblogaidd. Fe’i ganed yn Llantrisant, er bod ei rieni’n dod o ardal Blaenau Ffestiniog.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Llanhari. Dechreuodd chwarae’r piano pan oedd yn wyth oed a’r corn Ffrengig pan oedd yn un ar ddeg. Bu’r profiad o chwarae’r corn mewn cerddorfeydd sirol yn ystod ei arddegau yn fodd iddo ymgyfarwyddo â sain y gerddorfa. Yn 16 oed dechreuodd ddysgu’r gitâr.
Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r cyfansoddwyr Alun Hoddinott a Richard Elfyn Jones. Yno fe’i cyflwynwyd i gerddoriaeth avant-garde yr 20g. ynghyd â cherddoriaeth fwy diweddar, megis minimaliaeth. Cafodd diddordeb Hoddinott mewn lliwiau cerddorol gryn argraff arno; yn ddiweddarach cofiai iddo ‘sefyll yn ôl ychydig a gwrando ar y lliwiau cerddorol’ (Llwyd 2015). Aeth Rea ymlaen yn 1987 i astudio cwrs meistr yng Nghaerdydd gyda Hoddinott. Disgrifiodd ei gyfnod yno fel un pan fu iddo ddarganfod palet o ‘sorbet cerddorol’ wrth ymwneud â dau fyd y clasurol a’r poblogaidd.
Ar ôl graddio symudodd i Lundain gan gydweithio â’i gyfaill, y cerddor Alan Reekie, mewn stiwdio yn ardal Brixton. Gwelodd gyfle i arbrofi gyda phosibiliadau technegau stiwdio trwy gyfansoddi a pherfformio ar yr allweddellau a’r gitâr. Derbyniodd waith fel arweinydd a threfnydd llinynnau ac offerynnau pres ar gyfer Anxious Records, sef cwmni Dave Stewart, cerddor, cynhyrchydd ac aelod o’r grŵp pop llwyddiannus Eurythmics. Roedd y gwaith o drefnu ar gyfer grwpiau pop ac ensemblau amrywiol (megis y London Chamber Orchestra a’r band pres Kick Horns) yn cyd-fynd gyda’i gomisiwn cyntaf i gyfansoddi, a hynny ar gyfer y gyfres ddrama gomedi Gymraeg Slac yn Dynn (S4C, 1988).
Ers hynny enillodd sawl gwobr ryngwladol am ei gerddoriaeth, gan gynnwys gwobr Buma/Stemra yn yr Iseldiroedd am y cynhyrchiad gorau ar gyfer albwm o gerddoriaeth lyfrgell o’r enw Art Music and the Minimal (KPM, 1993) a dwy wobr BAFTA Cymru, yn 1994 ac 1999. Tua’r un cyfnod defnyddiodd dechnegau minimalaidd yn ei agorawd gerddorfaol Illuminare (1994), sef comisiwn Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi.
Bu’n ddiwyd hefyd ym maes cerddoriaeth ffilm. Dengys ei gerddoriaeth ar gyfer y ffilm One of the Hollywood Ten (Karl Francis, 2000) ei allu i arbrofi gan ddefnyddio sain gerddorfaol, sacsoffon soprano, sampl o biano wedi ei baratoi (dyfais y cyfansoddwr arbrofol o Unol Daleithiau America, John Cage, a fu’n ddylanwad mawr ar Rea) ynghyd â cherddorfa sesiwn o Budapest. Darn sy’n crisialu ei allu i gyfosod elfennau pop cyfoes megis hip-hop a dub gyda thechnegau modern clasurol yw Breakbeat (1995) ar gyfer cerddorfa linynnol a throellfyrddau.
Derbyniodd Rea wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2011–12 er mwyn cyfuno deunydd archif sain a delweddau oedd wedi eu lleoli yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Roedd yn gyfle iddo blethu gwaith theatr, cerdd a sain gan ddefnyddio ensemble llinynnol, offerynnau Cymreig traddodiadol, perfformwyr a recordiadau o’r archif, a’r canlyniad oedd y gwaith amlgyfrwng Atgyfodi (2015). Yn 2015 comisiynwyd Rea i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer dathlu Dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru mewn sioe awyr-agored o’r enw Ar Waith Ar Daith.
Mae John Rea yn un o gyfansoddwr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, a’i gyfansoddiadau hynod ddyfeisgar yn aml yn gwthio ffiniau cerddorol gan gadw’n driw ar yr un pryd i bwrpas, amcan a chyd- destun y gwaith. Mae’n parhau i weithio o’i stiwdio yng Nghaerdydd.
Owain Llwyd
Cyfansoddiadau (detholiad)
Cerddoriaeth Ffilm:
- One of the Hollywood Ten (Karl Francis, 2000)
- The Last Musketeer (Bill Britten, 2000)
- Crosscurrent (Byw yn dy Groen) (Pip Broughton, 2001)
- Five Fingers (Laurence Malkin, 2006)
Cerddoriaeth Deledu:
- Slac yn Dynn (Gareth Potter, 1988)
- Sunny Spells – A Game for Optimists (Ceri Sherlock, 1999)
- The Choosen (Philip John a Conor Morrissey, 2004)
- Young Dracula (Josephine Ward, 2006–7)
Cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni dogfen ac adloniant:
- In Extreme Danger (Mike Kleinstube, 1999)
- The Big Picture (Ceri Sherlock, 1999)
- The Real Macaw (Mark Flowers, 2000)
- Sensitive Sharks (Mark Brownlow, 2001)
- The Living Year (Ingrid Kvale, 2003)
- Coal House & Coal House At War (Paul Islwyn-Thomas, 2007/8)
Hybysebion Teledu a Cherddoriaeth Llyfrgell (detholiad):
- Alton Towers – Ugland (J. Walter Thompson, 1999)
- Welsh Water (JPH, 2000)
- Dairy Lea – Maneuvers (J. Walter Thompson, 2003)
- Cardifferent (Cardinal Film & TV, 2005)
- WAG (Moonoo Animation, 2009)
Disgyddiaeth
- Art Music and the Minimal (KPM 232, 1993)
Llyfryddiaeth
- Owain Llwyd, ‘Cyfweliad gyda John Rea’ (26–28 Mehefin 2015)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.