Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Caerdydd"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' right ==Crynodeb== Cyfres saith bennod am griw o ffrindiau yn eu hugeiniau sy'n byw mewn fflatiau crand ym Mae Caerdydd. Dilynn...') |
|||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
'''Genre:''' Addasiad, Drama | '''Genre:''' Addasiad, Drama | ||
+ | |||
+ | [[Category: Yn y Ffrâm]] | ||
+ | [[Category: Cyfresi Drama]] | ||
+ | [[Categori: Cynyrchiadau]] |
Diwygiad 10:39, 5 Rhagfyr 2013
Crynodeb
Cyfres saith bennod am griw o ffrindiau yn eu hugeiniau sy'n byw mewn fflatiau crand ym Mae Caerdydd. Dilynna'r gyfres y criw - Peter, Emyr, Osian, Ceri, Lea & Elen - wrth eu gwaith (amrywiol) bob dydd a'u bywydau personol, cyffrous, gyda'r nos.
Cawn weld ochr broffesiynol ac uchelgeisiol y prif gymeriadau: Peter â'i fusnes adeiladu/contractio; Emyr â'i siop recordiau; Osian sy'n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol; Ceri sy'n rhedeg ei bwyty nwdls yn y Bae; mae Lea yn cychwyn ei swydd newydd yn y Cynulliad; ac Elen yw'r fyfyrwraig newyddiaduraeth ddisglair.
Ond gyda'r nos daw eu cymeriadau eang i'r golwg: Peter a'i garwriaethau diri, sy'n troi'n chwerw pan yw'n ymhél â Sian sy'n hyderus, cynllwyngar a phenderfynol; Emyr sy'n hoyw ac yn byw yn ôl ei 'life rules' ond sy'n disgyn mewn cariad â Gareth yr heddwas; Osian yw'r dyn ifanc, gwylaidd, sy'n rhannu fflat gyda'i dad (anllad) ac sydd mewn cariad â Lea; Ceri yw'r fenyw hyderus, ffasiynol sy'n arbrofi gyda chyffuriau ond yn darganfod ei bod yr un mor fregus â phawb arall er gwaetha'i chymeriad cryf; Lea sy'n symud o Lundain ac sy'n cuddio cyfrinach fawr, cyfrinach y mae Rob y cyfreithiwr yn dyheu am gael clywed a'i chysuro; ac Elen sy'n gorfod gweithio am ddim i Ceri yn y bwyty er mwyn gwneud iawn am beidio â thalu rhent llawn iddi yn y fflat moethus, ond sy'n llwyddo i gael perthynas gudd gyda'i darlithydd - Yr Athro Mike Powell.
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol: Caerdydd
Blwyddyn: 2006 (Cyfres 1)
Hyd y Ffilm: 7 pennod
Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 11 Ion 2006
Cyfarwyddwr: Ed Thomas, Ed Talfan (pennodau 5-7)
Sgript gan: Ian Staples
Addasiad o: Big Bow Wow gan Trevor Colgan, Gerry Gregg, Eoghan Harris, Tim Palmer a Daivd Blake-Knox
Cynhyrchydd: Fizzy Oppé & Ed Thomas
Cwmnïau Cynhyrchu: Fiction Factory
Genre: Addasiad, Drama