Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Thomas, Mansel (1909-86)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Un o’r unigolion dylanwadol yn yr adfywiad cerddorol a gafwyd yng Nghymru ar ddechrau’r 20g. oedd Mansel Treharne Thomas. Cyfrannodd i faes cyfansoddi, trefnu cerddoriaeth, [[arwain]], darlledu, noddi, gweinyddu a beirniadu ar adeg allweddol yn hanes y traddodiad, ac o ganlyniad fe’i hystyriwyd yn un o arweinwyr cerddorol yr oes a sylfaenydd y grefft broffesiynol yng Nghymru.
+
Un o’r unigolion dylanwadol yn yr adfywiad cerddorol a gafwyd yng Nghymru ar ddechrau’r 20g. oedd Mansel Treharne Thomas. Cyfrannodd i faes cyfansoddi, trefnu cerddoriaeth, [[Arweinydd, Arweinyddion | arwain]], darlledu, noddi, gweinyddu a beirniadu ar adeg allweddol yn hanes y traddodiad, ac o ganlyniad fe’i hystyriwyd yn un o arweinwyr cerddorol yr oes a sylfaenydd y grefft broffesiynol yng Nghymru.
  
Fe’i ganed ym Mhont-y-gwaith, ger Tylorstown yn y Rhondda Fach. Wedi cyfnod yn astudio gyda Benjamin Dale yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle enillodd gryn barch a chydnabyddiaeth fel cyfansoddwr ifanc addawol, sicrhaodd radd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Durham (1930). Llunio unawdau lleisiol oedd ei ddiddordeb pennaf a’r cyfrwng mwyaf deniadol iddo, a threuliodd oes gyfan yn mireinio’i grefft (e.e. ''Y Bardd, Caneuon Grace a Siân, Four Prayers from the Gaelic)'' - y mae’r 150 a mwy o ganeuon a luniwyd ganddo yn arwydd o’i ymroddiad diflino i’r cyfrwng hwnnw. Fel cerddor llawrydd yn Llundain (1930-35) amlygodd ei fedr fel cyfansoddwr a allai drin cerddorfa a cherddorfaethu’n briodol ar ei chyfer (e.e. ''Six Welsh Dances, Breton Suite)''. Ymunodd â staff y BBC yng Nghymru yn 1936 fel dirprwy [[arweinydd]] y BBC Welsh Orchestra a chynorthwyydd cerdd i bennaeth yr adran, [[Idris Lewis]].
+
Fe’i ganed ym Mhont-y-gwaith, ger Tylorstown yn y Rhondda Fach. Wedi cyfnod yn astudio gyda Benjamin Dale yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle enillodd gryn barch a chydnabyddiaeth fel cyfansoddwr ifanc addawol, sicrhaodd radd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Durham (1930). Llunio unawdau lleisiol oedd ei ddiddordeb pennaf a’r cyfrwng mwyaf deniadol iddo, a threuliodd oes gyfan yn mireinio’i grefft (e.e. ''Y Bardd, Caneuon Grace a Siân, Four Prayers from the Gaelic)'' - y mae’r 150 a mwy o ganeuon a luniwyd ganddo yn arwydd o’i ymroddiad diflino i’r cyfrwng hwnnw. Fel cerddor llawrydd yn Llundain (1930-35) amlygodd ei fedr fel cyfansoddwr a allai drin cerddorfa a cherddorfaethu’n briodol ar ei chyfer (e.e. ''Six Welsh Dances, Breton Suite)''. Ymunodd â staff y BBC yng Nghymru yn 1936 fel dirprwy [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] y BBC Welsh Orchestra a chynorthwyydd cerdd i bennaeth yr adran, [[Lewis, Idris (1889-1952) | Idris Lewis]].
  
Wedi diwedd yr ail Ryfel Byd dychwelodd i’w waith gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu yng Nghaerdydd ond fe’i dyrchafwyd yn brif arweinydd y gerddorfa ac yn bennaeth cerddoriaeth  ar adeg hynod gyffrous yn hanes y traddodiad. Sefydlodd gyfresi o raglenni radio ''(In Manuscript a Students’ Music Hour)'' a fu’n anogaeth arbennig i gyfansoddwyr ifanc o Gymru ac a fu’n llwyfan cenedlaethol i rai fel [[Alun Hoddinott]], [[William Mathias]], [[Dilys Elwyn-Edwards]] a’u tebyg. Drwy gyfrwng darllediadau fel ''They found the songs'' ac ''Our Music'' rhoddodd sylw i dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru, ond coron ar ei lwyddiant oedd y gyfres deledu o ganu [[emynau]], ''Dechrau Canu, Dechrau Canmol'', a fu mor boblogaidd nes i’r syniad gael ei fabwysiadu gan y BBC yn Lloegr a’i gyflwyno fel ''Songs of Praise.''
+
Wedi diwedd yr ail Ryfel Byd dychwelodd i’w waith gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu yng Nghaerdydd ond fe’i dyrchafwyd yn brif arweinydd y gerddorfa ac yn bennaeth cerddoriaeth  ar adeg hynod gyffrous yn hanes y traddodiad. Sefydlodd gyfresi o raglenni radio ''(In Manuscript a Students’ Music Hour)'' a fu’n anogaeth arbennig i gyfansoddwyr ifanc o Gymru ac a fu’n llwyfan cenedlaethol i rai fel [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]], [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]], [[Elwyn-Edwards, Dilys (1918-2012) | Dilys Elwyn-Edwards]] a’u tebyg. Drwy gyfrwng darllediadau fel ''They found the songs'' ac ''Our Music'' rhoddodd sylw i dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru, ond coron ar ei lwyddiant oedd y gyfres deledu o ganu [[Emyn-donau | emynau]], ''Dechrau Canu, Dechrau Canmol'', a fu mor boblogaidd nes i’r syniad gael ei fabwysiadu gan y BBC yn Lloegr a’i gyflwyno fel ''Songs of Praise.''
  
Ymddiddorai’n fawr mewn barddoniaeth Gymraeg ac Eingl-Gymreig a lluniodd nifer o’i gyfansoddiadau i’w perfformio gan amaturiaid gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Cymru. Drwy sefydlu [[Gŵyl]] Gerdd Llandeilo Gresynni, llwyddodd i ddwyn cerddoriaeth broffesiynol gyfoes i sylw trigolion cefn gwlad Sir Fynwy a fu’n flaenoriaeth iddo yn ei yrfa ddarlledu. Yn dilyn ei ymddeoliad cynnar yn 1965, treuliodd ei flynyddoedd olaf yn cyfansoddi a nodweddir y cyfnod hwn gan rai o’i weithiau mwyaf arloesol a herfeiddiol. Wedi arddull ramantaidd a cheidwadol ei gyfnod cynnar (e.e. ''Cennin Aur'' i gôr meibion TTBB, ''Three Songs of Enchantment'' i gôr merched SSA), chwyldrowyd ei gyfansoddiadau aeddfed gan nodweddion cromatig, ansicrwydd cyweiriol, rhythmau arbrofol ac absenoldeb gwrthbwynt. Yn yr un modd, canolbwyntiodd ar lunio gweithiau cysegredig a oedd yn fwy perthnasol i draddodiad yr eglwys Anglicanaidd nag i’r gerddoriaeth Ymneilltuol y daethai’n gyfarwydd â hi ym more oes.
+
Ymddiddorai’n fawr mewn barddoniaeth Gymraeg ac Eingl-Gymreig a lluniodd nifer o’i gyfansoddiadau i’w perfformio gan amaturiaid gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Cymru. Drwy sefydlu [[Gwyliau Cerddoriaeth | Gŵyl]] Gerdd Llandeilo Gresynni, llwyddodd i ddwyn cerddoriaeth broffesiynol gyfoes i sylw trigolion cefn gwlad Sir Fynwy a fu’n flaenoriaeth iddo yn ei yrfa ddarlledu. Yn dilyn ei ymddeoliad cynnar yn 1965, treuliodd ei flynyddoedd olaf yn cyfansoddi a nodweddir y cyfnod hwn gan rai o’i weithiau mwyaf arloesol a herfeiddiol. Wedi arddull ramantaidd a cheidwadol ei gyfnod cynnar (e.e. ''Cennin Aur'' i gôr meibion TTBB, ''Three Songs of Enchantment'' i gôr merched SSA), chwyldrowyd ei gyfansoddiadau aeddfed gan nodweddion cromatig, ansicrwydd cyweiriol, rhythmau arbrofol ac absenoldeb gwrthbwynt. Yn yr un modd, canolbwyntiodd ar lunio gweithiau cysegredig a oedd yn fwy perthnasol i draddodiad yr eglwys Anglicanaidd nag i’r gerddoriaeth Ymneilltuol y daethai’n gyfarwydd â hi ym more oes.
  
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth yr Academi Gerdd Frenhinol (FRAM) iddo yn 1951, fe’i hanrhydeddwyd gan y Frenhines yn 1970 (OBE) a chyflwynwyd Gwobr Goffa John Edwards (Yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru) iddo yn 1983 am ei gyfraniad neilltuol i faes cerddoriaeth Gymreig. Cyfeiriwyd ato gan ei gyd-gerddor [[Arwel Hughes]] fel ‘Pensaer polisi cerddorol i Gymru’.
+
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth yr Academi Gerdd Frenhinol (FRAM) iddo yn 1951, fe’i hanrhydeddwyd gan y Frenhines yn 1970 (OBE) a chyflwynwyd Gwobr Goffa John Edwards (Yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru) iddo yn 1983 am ei gyfraniad neilltuol i faes cerddoriaeth Gymreig. Cyfeiriwyd ato gan ei gyd-gerddor [[Hughes, Arwel (1909-1988) | Arwel Hughes]] fel ‘Pensaer polisi cerddorol i Gymru’.
  
 
'''Wyn Thomas'''
 
'''Wyn Thomas'''

Y diwygiad cyfredol, am 14:39, 8 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o’r unigolion dylanwadol yn yr adfywiad cerddorol a gafwyd yng Nghymru ar ddechrau’r 20g. oedd Mansel Treharne Thomas. Cyfrannodd i faes cyfansoddi, trefnu cerddoriaeth, arwain, darlledu, noddi, gweinyddu a beirniadu ar adeg allweddol yn hanes y traddodiad, ac o ganlyniad fe’i hystyriwyd yn un o arweinwyr cerddorol yr oes a sylfaenydd y grefft broffesiynol yng Nghymru.

Fe’i ganed ym Mhont-y-gwaith, ger Tylorstown yn y Rhondda Fach. Wedi cyfnod yn astudio gyda Benjamin Dale yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle enillodd gryn barch a chydnabyddiaeth fel cyfansoddwr ifanc addawol, sicrhaodd radd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Durham (1930). Llunio unawdau lleisiol oedd ei ddiddordeb pennaf a’r cyfrwng mwyaf deniadol iddo, a threuliodd oes gyfan yn mireinio’i grefft (e.e. Y Bardd, Caneuon Grace a Siân, Four Prayers from the Gaelic) - y mae’r 150 a mwy o ganeuon a luniwyd ganddo yn arwydd o’i ymroddiad diflino i’r cyfrwng hwnnw. Fel cerddor llawrydd yn Llundain (1930-35) amlygodd ei fedr fel cyfansoddwr a allai drin cerddorfa a cherddorfaethu’n briodol ar ei chyfer (e.e. Six Welsh Dances, Breton Suite). Ymunodd â staff y BBC yng Nghymru yn 1936 fel dirprwy arweinydd y BBC Welsh Orchestra a chynorthwyydd cerdd i bennaeth yr adran, Idris Lewis.

Wedi diwedd yr ail Ryfel Byd dychwelodd i’w waith gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu yng Nghaerdydd ond fe’i dyrchafwyd yn brif arweinydd y gerddorfa ac yn bennaeth cerddoriaeth ar adeg hynod gyffrous yn hanes y traddodiad. Sefydlodd gyfresi o raglenni radio (In Manuscript a Students’ Music Hour) a fu’n anogaeth arbennig i gyfansoddwyr ifanc o Gymru ac a fu’n llwyfan cenedlaethol i rai fel Alun Hoddinott, William Mathias, Dilys Elwyn-Edwards a’u tebyg. Drwy gyfrwng darllediadau fel They found the songs ac Our Music rhoddodd sylw i dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru, ond coron ar ei lwyddiant oedd y gyfres deledu o ganu emynau, Dechrau Canu, Dechrau Canmol, a fu mor boblogaidd nes i’r syniad gael ei fabwysiadu gan y BBC yn Lloegr a’i gyflwyno fel Songs of Praise.

Ymddiddorai’n fawr mewn barddoniaeth Gymraeg ac Eingl-Gymreig a lluniodd nifer o’i gyfansoddiadau i’w perfformio gan amaturiaid gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Cymru. Drwy sefydlu Gŵyl Gerdd Llandeilo Gresynni, llwyddodd i ddwyn cerddoriaeth broffesiynol gyfoes i sylw trigolion cefn gwlad Sir Fynwy a fu’n flaenoriaeth iddo yn ei yrfa ddarlledu. Yn dilyn ei ymddeoliad cynnar yn 1965, treuliodd ei flynyddoedd olaf yn cyfansoddi a nodweddir y cyfnod hwn gan rai o’i weithiau mwyaf arloesol a herfeiddiol. Wedi arddull ramantaidd a cheidwadol ei gyfnod cynnar (e.e. Cennin Aur i gôr meibion TTBB, Three Songs of Enchantment i gôr merched SSA), chwyldrowyd ei gyfansoddiadau aeddfed gan nodweddion cromatig, ansicrwydd cyweiriol, rhythmau arbrofol ac absenoldeb gwrthbwynt. Yn yr un modd, canolbwyntiodd ar lunio gweithiau cysegredig a oedd yn fwy perthnasol i draddodiad yr eglwys Anglicanaidd nag i’r gerddoriaeth Ymneilltuol y daethai’n gyfarwydd â hi ym more oes.

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth yr Academi Gerdd Frenhinol (FRAM) iddo yn 1951, fe’i hanrhydeddwyd gan y Frenhines yn 1970 (OBE) a chyflwynwyd Gwobr Goffa John Edwards (Yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru) iddo yn 1983 am ei gyfraniad neilltuol i faes cerddoriaeth Gymreig. Cyfeiriwyd ato gan ei gyd-gerddor Arwel Hughes fel ‘Pensaer polisi cerddorol i Gymru’.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • John Hywel, ‘Mansel Thomas, A Profile’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 5/1 (1975–6), 43–53
  • ‘Teyrngedau i Mansel Thomas’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 8/2 (1986), 6–24
  • Terence Gilmore-James, ‘Mansel Thomas Profile and Worklist’, The New Grove Dictionary of Music and Musicians gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.