Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tair Chwaer"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' right ==Crynodeb== Cyfres ddrama chwe phennod am dair chwaer o dde Cymru sy'n chwarae mewn band canu gwlad ac sy'n ceisio ym...') |
B |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | [[Delwedd: | + | [[Delwedd:Tair Chwaer.jpg|right]] |
==Crynodeb== | ==Crynodeb== | ||
Cyfres ddrama chwe phennod am dair chwaer o dde Cymru sy'n chwarae mewn band canu gwlad ac sy'n ceisio ymdopi â threialon bywyd. Darganfydda Sharon bod Alan, ei gwr, yn cael perthynas odinebus ag Yvonne Post, caiff Lyn ei haflonyddu gan Eifion - mab y bós - sydd mewn cariad â hi, ac mae Janet mewn perthynas â Ben er ei bod yn profi teimladau cryf tuag at Danny, ei chydweithiwr. Mae Mary, eu Mam, yn ddibynnol ar alcohol i ymdopi â'i Mam hithau, Annie May, sy'n dioddef o Alzheimers. Mae partner Mary, Martin, yn fyr ei amynedd â hi ac yn cuddio cyfrinach enfawr am ei dueddiadau rhywiol. Drwy gydol y gyfres ceir golygfeydd o'r dair chwaer yn perfformio mewn clybiau nos a thafarndai fel rhan o'u band canu gwlad. | Cyfres ddrama chwe phennod am dair chwaer o dde Cymru sy'n chwarae mewn band canu gwlad ac sy'n ceisio ymdopi â threialon bywyd. Darganfydda Sharon bod Alan, ei gwr, yn cael perthynas odinebus ag Yvonne Post, caiff Lyn ei haflonyddu gan Eifion - mab y bós - sydd mewn cariad â hi, ac mae Janet mewn perthynas â Ben er ei bod yn profi teimladau cryf tuag at Danny, ei chydweithiwr. Mae Mary, eu Mam, yn ddibynnol ar alcohol i ymdopi â'i Mam hithau, Annie May, sy'n dioddef o Alzheimers. Mae partner Mary, Martin, yn fyr ei amynedd â hi ac yn cuddio cyfrinach enfawr am ei dueddiadau rhywiol. Drwy gydol y gyfres ceir golygfeydd o'r dair chwaer yn perfformio mewn clybiau nos a thafarndai fel rhan o'u band canu gwlad. | ||
Llinell 115: | Llinell 115: | ||
− | [[ | + | [[Categori:Yn y Ffrâm]] |
− | [[ | + | [[Categori:Cyfresi Drama]] |
− | [[Categori: Cynyrchiadau]] | + | [[Categori:Cynyrchiadau]] |
+ | |||
+ | __NOAUTOLINKS__ |
Diwygiad 15:17, 18 Mehefin 2014
Cynnwys
Crynodeb
Cyfres ddrama chwe phennod am dair chwaer o dde Cymru sy'n chwarae mewn band canu gwlad ac sy'n ceisio ymdopi â threialon bywyd. Darganfydda Sharon bod Alan, ei gwr, yn cael perthynas odinebus ag Yvonne Post, caiff Lyn ei haflonyddu gan Eifion - mab y bós - sydd mewn cariad â hi, ac mae Janet mewn perthynas â Ben er ei bod yn profi teimladau cryf tuag at Danny, ei chydweithiwr. Mae Mary, eu Mam, yn ddibynnol ar alcohol i ymdopi â'i Mam hithau, Annie May, sy'n dioddef o Alzheimers. Mae partner Mary, Martin, yn fyr ei amynedd â hi ac yn cuddio cyfrinach enfawr am ei dueddiadau rhywiol. Drwy gydol y gyfres ceir golygfeydd o'r dair chwaer yn perfformio mewn clybiau nos a thafarndai fel rhan o'u band canu gwlad.
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol: Tair Chwaer
Blwyddyn: 1997 (Cyfres 1)
Hyd y Ffilm: 6 pennod
Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 19 Ion 1997
Cyfarwyddwr: Endaf Emlyn
Sgript gan: Siwan Jones
Stori gan: Siwan Jones
Cynhyrchydd: Pauline Williams
Cwmnïau Cynhyrchu: Ffilmiau Gaucho Cyf.
Genre: Drama, Teulu
Cast a Chriw
Prif Gast
- Donna Edwards (Sharon)
- Ruth Lloyd (Lyn)
- Llio Millward (Janet)
- Dewi Rhys Williams (Alan)
- Sharon Morgan (Mary)
- Ray Gravell (Martin)
- (Annie May)
- Jâms Thomas (Eifion)
- Emyr Wyn (Byron)
- Toni Caroll (Yvonne)
- Dafydd Hywel (Dai)
- Iwan John (Danny)
- Rhys Jones (Ben)
- Geraint Evans (Gareth (mab Sharon & Alan))
- Darren Williams (Huw (mab Sharon & Alan))
- Liann Wood (Angharad (merch Sharon & Alan))
- Natasha Nicholas (Sera (merch Lyn))
Cast Cefnogol
- Nicola Hemsley - Cerys
- Ioan Hefin - Gethin
- Dennis Birch - Heddwyn
- Richard Elfyn - Phil
- Bethan Jones - Julie
- Natasha Milton - Melissa
- Geraint Griffiths - Ronnie
- Eirlys Britton - Meirwen
- Morgan Hopkins - Geraint
- Huw Emlyn - Gyppo
Ffotograffiaeth
- Ray Orton
Dylunio
- Hayden Pearce
Cerddoriaeth
- Myfyr Isaac (Cyfarwyddwr Cerdd)
Sain
- Nigel Tidball
Golygu
- William Oswald
Cydnabyddiaethau Eraill
- Crewyd y gyfres gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd, Cynllun 16:9.
- Adnoddau - Arion, Rank, Splash!, Taran
- Cynhyrchydd cynorthwyol - Maurice Hunter
- Cyfarwyddwyr cynorthwyol - Rhian Williams, Rhian Wyn Jones, Nerys Phillips
- Cydlynydd y Cynhyrchiad - Menna Jones
- Gwisgoedd - Maxine Brown, Angel Jones (cynorthwydd)
- Colur - Paula Price, Catrin Richards (cynorthwydd)
- Caneuon Gwreiddiol - Caryl Parry Jones, Tudur Dylan Jones
- Cerddorion - Myfyr Isaac, Non Parry
- Yn 1997 rhyddhawyd crynoddisg o ganeuon cyfresi Tair Chwaer, yn cynnwys 11 cân. (Label Sain. ©S4C)
Manylion Technegol
Lliw: Lliw
Gwlad: Cymru
Iaith Wreiddiol: Cymraeg
Gwobrau: Siwan Jones - BAFTA Cymru (1997) - "Yr Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin".
Donna Edwards - BAFTA Cymru (1997) - "Yr Actores Orau".
Ray Orton - BAFTA Cymru (1997) - "Y Sinemategraffeg Gorau - Drama".
Manylion Atodol
Adolygiadau
Iwan Llwyd, 'Rifiwio', Taliesin, 97 (Gwanwyn 1997), 136-139.
Mari Jones-Williams, 'Jiw-jiw-jiwsi!', Golwg, 9/23 (20 Chwefror 1997), 25.
Erthyglau
'Magu plentyn a bod yn chwaer', Y Cymro (29 Ionawr 1997), 14.
'Chwaer sy'n chwilio am danc i ymlacio ynddo!', Y Cymro (19 Chwefror 1997), 14.
Kate Crockett, 'Teledu trwy'r Oesoedd', Barn, 443/444 (Ionawr 2000), 69-71.