Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, Rhys (1927-2015)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (→Llyfryddiaeth) |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
*Siân Thomas, ''Rhys Jones a Caryl Parry Jones'' (Llandysul, 2004) | *Siân Thomas, ''Rhys Jones a Caryl Parry Jones'' (Llandysul, 2004) | ||
− | *Dafydd Iwan [nodyn am ''Caneuon Rhys Jones]'' (2016) | + | *Dafydd Iwan [nodyn am ''Caneuon Rhys Jones]'' (2016) ''http://www.sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd2747'' (cyrchwyd 25 Mai 2016) |
− | ''http://www.sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd2747'' (cyrchwyd 25 Mai 2016) | ||
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
[[Categori:Cerddoriaeth]] | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Diwygiad 21:16, 11 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cyfeilydd, arweinydd, cyfansoddwr a ddaeth yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Fe’i ganed yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, ond er fod y pentref ei hun yn gwbl Gymraeg yn y cyfnod hwnnw fe’i haddysgwyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd Saesneg. Gan adnabod ei ddawn gerddorol, talodd ei rieni Elisabeth a Robert John Jones - nyrs a lengthmon cyngor - gyflog chwe mis i gael piano i’r tŷ a gwersi ar gyfer eu mab.
Bu sawl amgylchiad a digwyddiad yn bwysig yn natblygiad cynnar Rhys Jones. Clywai ganu corawl yn feunyddiol a rhoddodd mynach gasgliad o recordiau clasurol iddo ar fenthyg unwaith. Gwrthododd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, gan droi’n athro ysgol ac yntau’n ddim ond pedair ar bymtheg oed. Bu’n bianydd cerddorfa ddawns yn ystod ei Wasanaeth Cenedlaethol gyda’r Fyddin ac yn 1948 cyfarfu â’i wraig, Gwen.
Roedd yn athro cerddoriaeth unigryw, un a gyflwynai ei bwnc mewn dull llawn hiwmor a chan dynnu’n helaeth ar ei gefndir a’i brofiad eang o fiwsig o bob math. Roedd yr un peth yn wir am ei gyfansoddiadau a’i drefniannau ar gyfer côr yr ysgol, y cyfan i gyfeiliant arddull biano ddisglair a ysbrydolwyd gan recordiau y pianydd jazz, Fats Waller (1904-43). Rhoddai gyfle i bob plentyn oedd ag awydd i gyfrannu, fel yn ei drefniant ysbrydoledig o ‘O Mae’n Braf’ i blant a dderbyniai wersi offerynnol yn yr ysgol. Ar arddull big band y seiliodd Rhys Jones y trefniant, gan alw, fel uchafbwynt, ar i res o chwaraewyr recorder sefyll i ddatganu’r thema mewn efelychiad o sacsoffonwyr jazz Glenn Miller.
Fel cyfansoddwr, gadawodd stôr helaeth a phwysig o ganeuon. Mae ei gyfrol yn y gyfres Caneuon Newydd i Ysgolion (Hughes a’i Fab, 1960) yn batrwm o’r hyn y dylai caneuon o’r fath fod, gyda gwreiddioldeb a ffresni yn yr alawon a’r gynghanedd gerddorol. Mae’r darnau i gôr deulais, fel ‘Llan-y-Dŵr’, wedi dod yn glasuron, ac mae un o’i ganeuon enwocaf, ‘O, Gymru’, yn enghraifft arall o’i wreiddioldeb fel cyfansoddwr. Dilynwyd hyn gan Deg o Forwyr a Chaneuon Eraill (Hughes a’i Fab, 1961), ac yn fwy diweddar, Digon i Mi (Gwynn, 2004).
Dangosai caneuon megis ‘Arian, Arian’ allan o’r sioe Ffantasmagoria (1975) ei ddawn wrth ymdrin â ffurf y sioe gerdd, tra bod ‘Cilfan y Coed’ yn amlygu ei ddealltwriaeth o draddodiad a chrefft y gân glasurol Gymreig. Roedd cynulleidfaoedd hefyd yn gwerthfawrogi ei allu i gyfathrebu’n hwyliog – talent a’i gwnaeth yn ddiweddarach yn ddewis delfrydol i gyflwyno rhaglenni radio a theledu fel Segura, Dechrau Canu, Dechrau Canmol a Taro Nodyn. Torri tir newydd wnaeth Canu’n Llon, sef deg a thrigain o raglenni o Neuadd y Penrhyn, Bangor, gyda Meibion Menlli.
Roedd ei egni’n ddihysbydd. Yn ogystal â chyfansoddi, dysgu, arwain a chyflwyno, roedd yn feirniad, cyfeilydd gwadd a dirprwy brifathro mawr ei barch. Ym mhob un o’r swyddogaethau hyn amlygwyd yn ddi-feth ei athrylith fel cyfathrebwr. Bu ef a’i briod, Gwen, yn hyfforddi cannoedd o bobl ifanc, ac yn difyrru’r tyrfaoedd trwy gyfrwng nifer o gorau a phartïon mor amrywiol â Chôr y Glannau a Chantorion Gwalia. Yn ôl Dafydd Iwan, bu cyfraniad Rhys Jones yn un ‘cwbl arbennig’ i gerddoriaeth Cymru: ‘Yr hyn oedd yn gwneud Rhys mor arbennig oedd ei agwedd tuag at gerddoriaeth, nid fel disgyblaeth neu bwnc academaidd, ond fel rhan annatod o hwyl a chreadigrwydd bywyd bob dydd. Bu ei ddylanwad ar gantorion a chyfansoddwyr yn anfesuradwy’ (Iwan 2016).
Yn dilyn ei farwolaeth yn 2015, rhyddhaodd label Sain gasgliad o ganeuon Rhys Jones gan gynnwys ‘Cilfan y Coed’, ‘Dal Ein Tir’ a ‘Y Ddraenen Wen’, gyda chyfraniadau gan gantorion megis Bryn Terfel, Rhys Meirion, Trystan Llŷr Griffiths ac Aled Wyn Davies, ynghyd â threfniant arbennig o’i emyn ‘Caryl’ gan ensemble lleisiol y 4o5s a oedd yn cynnwys ei ferch, y gantores amryddawn a ddysgodd gymaint ganddo, Caryl Parry Jones.
Gareth Glyn a Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- Caneuon Rhys Jones [Artistiaid Amrywiol] (Sain SCD2747, 2016)
Llyfryddiaeth
- Rhys Jones, Gwynne John, Gilmor Griffiths a Leslie Harries, Caneuon Newydd i Ysgolion (Wrecsam, 1960)
- Rhys Jones a Leslie Harries, Deg o Forwyr a Chaneuon Eraill (Wrecsam, 1961)
- ———, Digon i Mi (Penygroes, 2004)
- Siân Thomas, Rhys Jones a Caryl Parry Jones (Llandysul, 2004)
- Dafydd Iwan [nodyn am Caneuon Rhys Jones] (2016) http://www.sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd2747 (cyrchwyd 25 Mai 2016)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.