Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "'Dafydd y Garreg Wen'"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ar un adeg bu dadlau ynglŷn â dilysrwydd Cymreig y gân bruddglwyfus hon, pa un ai yn yr Alban neu hyd yn oed yn Rwsia yr oedd ei gwreiddiau. Ond yng nghasgliad [[Edward Jones]], ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1784), yr ymddangosodd am y tro cyntaf, a dywedir yno mai telynor o’r enw Dafydd sy’n ei chanu ar ei wely angau. Mae’n debyg mai person go iawn, Dafydd Owen (''c''.1711–41), a adwaenid wrth enw ei gartref, Y Garreg Wen, Ynyscynhaearn, ger Porthmadog, oedd y telynor hwnnw. Lluniodd y bardd Ceiriog (John Ceiriog Hughes) eiriau i’r alaw pan gyhoeddwyd hi gan [[Brinley Richards]] yn ei ''Songs of Wales'' (1873): ‘Cariwch medd Dafydd fy nhelyn i mi, / Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi; / Codwch fy nwylo i gyrraedd y tant, / Duw a’ch bendithio, fy ngweddw a’m plant.’ Ond hyd y gwyddom, gŵr dibriod oedd Dafydd Owen.
+
Ar un adeg bu dadlau ynglŷn â dilysrwydd Cymreig y gân bruddglwyfus hon, pa un ai yn yr Alban neu hyd yn oed yn Rwsia yr oedd ei gwreiddiau. Ond yng nghasgliad [[Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824) | Edward Jones]], ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1784), yr ymddangosodd am y tro cyntaf, a dywedir yno mai telynor o’r enw Dafydd sy’n ei chanu ar ei wely angau. Mae’n debyg mai person go iawn, Dafydd Owen (''c''.1711–41), a adwaenid wrth enw ei gartref, Y Garreg Wen, Ynyscynhaearn, ger Porthmadog, oedd y telynor hwnnw. Lluniodd y bardd Ceiriog (John Ceiriog Hughes) eiriau i’r alaw pan gyhoeddwyd hi gan [[Richards, Brinley (1817-85) | Brinley Richards]] yn ei ''Songs of Wales'' (1873): ‘Cariwch medd Dafydd fy nhelyn i mi, / Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi; / Codwch fy nwylo i gyrraedd y tant, / Duw a’ch bendithio, fy ngweddw a’m plant.’ Ond hyd y gwyddom, gŵr dibriod oedd Dafydd Owen.
  
 
'''Gareth Williams'''
 
'''Gareth Williams'''

Diwygiad 21:17, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ar un adeg bu dadlau ynglŷn â dilysrwydd Cymreig y gân bruddglwyfus hon, pa un ai yn yr Alban neu hyd yn oed yn Rwsia yr oedd ei gwreiddiau. Ond yng nghasgliad Edward Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784), yr ymddangosodd am y tro cyntaf, a dywedir yno mai telynor o’r enw Dafydd sy’n ei chanu ar ei wely angau. Mae’n debyg mai person go iawn, Dafydd Owen (c.1711–41), a adwaenid wrth enw ei gartref, Y Garreg Wen, Ynyscynhaearn, ger Porthmadog, oedd y telynor hwnnw. Lluniodd y bardd Ceiriog (John Ceiriog Hughes) eiriau i’r alaw pan gyhoeddwyd hi gan Brinley Richards yn ei Songs of Wales (1873): ‘Cariwch medd Dafydd fy nhelyn i mi, / Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi; / Codwch fy nwylo i gyrraedd y tant, / Duw a’ch bendithio, fy ngweddw a’m plant.’ Ond hyd y gwyddom, gŵr dibriod oedd Dafydd Owen.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.