Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fanon, Frantz"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''1. Bywgraffiad''' Seiciatrydd o Ynys Martinique oedd Frantz Omar Fanon (1925–61). Mae ei waith athronyddol yn ymwneud â hiliaeth, trefedigaet...') |
|||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Cafodd ei brofiadau yn Martinique, oedd yn drefedigaeth Ffrengig, ac yna yn Ffrainc ddylanwad mawr ar ei waith. Yn Martinique mynychodd y Lycée Schoelcher, lle daeth dan ddylanwad un o athrawon yr ysgol, sef Aimé Césaire (1913–2008). Roedd Césaire yn rhan o’r mudiad Négritude oedd ar ei anterth yn y 1930au o fewn y gymuned ryngwladol o ddeallusion diaspora Affricanaidd, Ffrangeg eu hiaith. Theori lenyddol a beirniadol oedd yn gwrthwynebu [[trefedigaethedd]] ac yn dathlu Duder (''Blackness'') oedd Négritude. Bu syniadau’r mudiad yn ddylanwad ar waith Fanon trwy gydol ei yrfa. | Cafodd ei brofiadau yn Martinique, oedd yn drefedigaeth Ffrengig, ac yna yn Ffrainc ddylanwad mawr ar ei waith. Yn Martinique mynychodd y Lycée Schoelcher, lle daeth dan ddylanwad un o athrawon yr ysgol, sef Aimé Césaire (1913–2008). Roedd Césaire yn rhan o’r mudiad Négritude oedd ar ei anterth yn y 1930au o fewn y gymuned ryngwladol o ddeallusion diaspora Affricanaidd, Ffrangeg eu hiaith. Theori lenyddol a beirniadol oedd yn gwrthwynebu [[trefedigaethedd]] ac yn dathlu Duder (''Blackness'') oedd Négritude. Bu syniadau’r mudiad yn ddylanwad ar waith Fanon trwy gydol ei yrfa. | ||
− | Gadawodd Martinique yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan gafodd yr ynys ei meddiannu gan luoedd pleidiol i Vichy. Ymunodd Fanon â Lluoedd Ffrainc Rydd a theithio i Algeria a Ffrainc, lle profodd hiliaeth Ewropeaidd, profiad y mae’n cyfeirio ato yn aml yn ei waith ar hiliaeth. Wedi’r rhyfel, yn 1945, dychwelodd i Martinique, ond yn fuan wedyn aeth i Ffrainc i astudio meddygaeth a seiciatreg. Yn y cyfnod hwn cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, ''Peau noire, masques blancs'' (''Black Skin, White Masks'', 1952), oedd yn ymdrin â phrofiadau pobl Ddu o fewn cymdeithas lle roedd pobl wyn yn rheoli. | + | Gadawodd Martinique yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan gafodd yr ynys ei meddiannu gan luoedd pleidiol i Vichy. Ymunodd Fanon â Lluoedd Ffrainc Rydd a theithio i Algeria a Ffrainc, lle profodd [[hiliaeth]] Ewropeaidd, profiad y mae’n cyfeirio ato yn aml yn ei waith ar hiliaeth. Wedi’r rhyfel, yn 1945, dychwelodd i Martinique, ond yn fuan wedyn aeth i Ffrainc i astudio meddygaeth a seiciatreg. Yn y cyfnod hwn cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, ''Peau noire, masques blancs'' (''Black Skin, White Masks'', 1952), oedd yn ymdrin â phrofiadau pobl Ddu o fewn cymdeithas lle roedd pobl wyn yn rheoli. |
− | Rhwng 1953 ac 1957 bu’n gweithio fel seiciatrydd yn Algeria, oedd yn drefedigaeth Ffrengig ar y pryd, a phan ddechreuodd y gwrthryfel Algeraidd yn 1954 ymunodd Fanon â’r ''Front de Liberation Nationale'' (FLN). Trwy ei ymwneud â’r gwrthryfel yn Algeria, trodd ei sylw oddi wrth ganolbwyntio ar [[hil]] yn benodol i ystyried trefedigaethedd, a gwrth-drefedigaethedd yn fwy eang. | + | Rhwng 1953 ac 1957 bu’n gweithio fel seiciatrydd yn Algeria, oedd yn drefedigaeth Ffrengig ar y pryd, a phan ddechreuodd y gwrthryfel Algeraidd yn 1954 ymunodd Fanon â’r ''Front de Liberation Nationale'' (FLN). Trwy ei ymwneud â’r gwrthryfel yn Algeria, trodd ei sylw oddi wrth ganolbwyntio ar [[hil]] yn benodol i ystyried [[trefedigaethedd]], a gwrth-drefedigaethedd yn fwy eang. |
Yn 1957, cafodd ei estraddodi o Algeria, ac ymunodd yn fwy agored yng ngweithgareddau’r FLN yn Tunis. Pan oedd yn gweithio gyda’r FLN, cafodd Fanon ddiagnosis o lewcemia, ac ar ôl cael triniaeth yn yr Undeb Sofietaidd a’r Unol Daleithiau, bu farw yn 1961, yn fuan wedi iddo orffen ei lyfr olaf, ''Les damnés de la terre'' (''The Wretched of the Earth'', 1961). | Yn 1957, cafodd ei estraddodi o Algeria, ac ymunodd yn fwy agored yng ngweithgareddau’r FLN yn Tunis. Pan oedd yn gweithio gyda’r FLN, cafodd Fanon ddiagnosis o lewcemia, ac ar ôl cael triniaeth yn yr Undeb Sofietaidd a’r Unol Daleithiau, bu farw yn 1961, yn fuan wedi iddo orffen ei lyfr olaf, ''Les damnés de la terre'' (''The Wretched of the Earth'', 1961). | ||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
Yn ôl Fanon, mae’r broses drefedigaethol yn dinistrio sail hunaniaeth Ddu, ac felly gorfodir y person Du o fewn cyfundrefn drefedigaethol i ganfod ei hunaniaeth drwy ddiwylliant gwyn, y diwylliant dominyddol. Mae’r person Du yn ysu am gael ei adnabod fel rhywun gwyn, a’r un a all roi’r hunaniaeth honno iddo yw’r person gwyn. Daw’r person Du felly i fabwysiadu sawl ‘mwgwd’ gwyn, gan berfformio elfennau o ddiwylliant y person gwyn o fewn cyd-destun lle na fydd y perfformiad byth yn llwyddiannus. O ganlyniad, gadewir yr unigolyn yn y bwlch rhwng y ddwy hunaniaeth, ddim yn Ddu nac yn wyn, mewn cyflwr o ‘ddi-fod’ (''non-being''). | Yn ôl Fanon, mae’r broses drefedigaethol yn dinistrio sail hunaniaeth Ddu, ac felly gorfodir y person Du o fewn cyfundrefn drefedigaethol i ganfod ei hunaniaeth drwy ddiwylliant gwyn, y diwylliant dominyddol. Mae’r person Du yn ysu am gael ei adnabod fel rhywun gwyn, a’r un a all roi’r hunaniaeth honno iddo yw’r person gwyn. Daw’r person Du felly i fabwysiadu sawl ‘mwgwd’ gwyn, gan berfformio elfennau o ddiwylliant y person gwyn o fewn cyd-destun lle na fydd y perfformiad byth yn llwyddiannus. O ganlyniad, gadewir yr unigolyn yn y bwlch rhwng y ddwy hunaniaeth, ddim yn Ddu nac yn wyn, mewn cyflwr o ‘ddi-fod’ (''non-being''). | ||
− | Mae Fanon yn codi cwestiynau pwysig yma am rôl iaith. Gan gymryd bod siarad iaith yn golygu bod yn rhan o fydysawd diwylliannol yr iaith honno a bod iaith yn creu realiti, yna beth yw goblygiadau hyn i bobl a drefedigaethwyd, ond sy’n siarad iaith y trefedigaethwyr? Trigolion tiriogaethau trefedigaethol Ffrainc, Ffrangeg eu hiaith, sy’n cael eu hystyried gan Fanon. Yn y gyfrol ''Y Gymry ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’ ''(2018), mae Lisa Sheppard yn trafod syniadau Fanon am iaith yng nghyd-destun amlddiwylliannaeth (''multiculturalism'') yng Nghymru. Mae Fanon yn pwysleisio fod iaith yn rhan hanfodol o ddiwylliant, ac yn achos pobl Ddu yn nhiriogaethau Ffrainc, mae ‘arddel diwylliant ac iaith swyddogol Ffrainc yn peri i’r iaith honno a’r diwylliant hwnnw, sy’n gysylltiedig yn ei hanfod â phobl wyn, ymddangos fel y ffon fesur y caiff ieithoedd a diwylliannau y rhai a drefedigaethwyd eu cymharu â hi’ (t.19). Mae Sheppard yn cymharu hyn â safbwynt rhai yng Nghymru, fel Charlotte Williams (2005), sy’n dadlau fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar y Gymraeg fel ffordd o ddiffinio Cymreictod gan mai lleiafrif o boblogaeth Cymru sy’n ei siarad, ac felly fod hyn yn | + | Mae Fanon yn codi cwestiynau pwysig yma am rôl iaith. Gan gymryd bod siarad iaith yn golygu bod yn rhan o fydysawd diwylliannol yr iaith honno a bod iaith yn creu realiti, yna beth yw goblygiadau hyn i bobl a drefedigaethwyd, ond sy’n siarad iaith y trefedigaethwyr? Trigolion tiriogaethau trefedigaethol Ffrainc, Ffrangeg eu hiaith, sy’n cael eu hystyried gan Fanon. Yn y gyfrol ''Y Gymry ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’ ''(2018), mae Lisa Sheppard yn trafod syniadau Fanon am iaith yng nghyd-destun amlddiwylliannaeth (''multiculturalism'') yng Nghymru. Mae Fanon yn pwysleisio fod iaith yn rhan hanfodol o ddiwylliant, ac yn achos pobl Ddu yn nhiriogaethau Ffrainc, mae ‘arddel diwylliant ac iaith swyddogol Ffrainc yn peri i’r iaith honno a’r diwylliant hwnnw, sy’n gysylltiedig yn ei hanfod â phobl wyn, ymddangos fel y ffon fesur y caiff ieithoedd a diwylliannau y rhai a drefedigaethwyd eu cymharu â hi’ (t.19). Mae Sheppard yn cymharu hyn â safbwynt rhai yng Nghymru, fel Charlotte Williams (2005), sy’n dadlau fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar y Gymraeg fel ffordd o ddiffinio Cymreictod gan mai lleiafrif o boblogaeth Cymru sy’n ei siarad, ac felly fod hyn yn <nowiki>dieithrio</nowiki> llawer o bobl o’u hunaniaeth Gymreig, yn enwedig Cymry o liw. |
Gan droi yn ôl at Fanon a’r cysyniad o fabwysiadu ‘mwgwd’ gwyn, un mwgwd posibl yw meistrolaeth o’r iaith Ffrangeg, yr iaith ‘wen’. Trwy geisio meistroli’r iaith, gall y person Du ddod yn agos at fod yn ‘wyn’, ond bydd realiti ‘epidermaidd’ lliw ei groen yn ei atal rhag pontio bwlch ei Aralledd, a chael ei adnabod fel person ‘gwyn’. Yn eilbeth, drwy’r broses o geisio dod yn wyn drwy feistroli’r iaith, mae’r unigolyn yn y pen draw yn cael ei ynysu oddi wrth ei gymuned, ac oddi wrth Dduder i gyflwr o ddi-fod. | Gan droi yn ôl at Fanon a’r cysyniad o fabwysiadu ‘mwgwd’ gwyn, un mwgwd posibl yw meistrolaeth o’r iaith Ffrangeg, yr iaith ‘wen’. Trwy geisio meistroli’r iaith, gall y person Du ddod yn agos at fod yn ‘wyn’, ond bydd realiti ‘epidermaidd’ lliw ei groen yn ei atal rhag pontio bwlch ei Aralledd, a chael ei adnabod fel person ‘gwyn’. Yn eilbeth, drwy’r broses o geisio dod yn wyn drwy feistroli’r iaith, mae’r unigolyn yn y pen draw yn cael ei ynysu oddi wrth ei gymuned, ac oddi wrth Dduder i gyflwr o ddi-fod. | ||
Llinell 42: | Llinell 42: | ||
Bhabha, H. K. (gol.) (1990), ''Nation and Narratio''n (London: Routledge). | Bhabha, H. K. (gol.) (1990), ''Nation and Narratio''n (London: Routledge). | ||
+ | |||
Bhabha, H. K. (1994), ''The Location of Culture'' (London: Routledge). | Bhabha, H. K. (1994), ''The Location of Culture'' (London: Routledge). | ||
Diwygiad 08:41, 8 Medi 2024
1. Bywgraffiad
Seiciatrydd o Ynys Martinique oedd Frantz Omar Fanon (1925–61). Mae ei waith athronyddol yn ymwneud â hiliaeth, trefedigaethedd, gwrth-drefedigaethedd a dad-drefedigaethu. Yn ogystal â dadansoddi amodau seicolegol a diwylliannol gorthrwm trefedigaethol, ysgrifennodd yn helaeth am y broses o ddad-drefedigaethu ac am y posibiliadau o ddyfodol ôl-drefedigaethol dyneiddiol.
Cafodd ei brofiadau yn Martinique, oedd yn drefedigaeth Ffrengig, ac yna yn Ffrainc ddylanwad mawr ar ei waith. Yn Martinique mynychodd y Lycée Schoelcher, lle daeth dan ddylanwad un o athrawon yr ysgol, sef Aimé Césaire (1913–2008). Roedd Césaire yn rhan o’r mudiad Négritude oedd ar ei anterth yn y 1930au o fewn y gymuned ryngwladol o ddeallusion diaspora Affricanaidd, Ffrangeg eu hiaith. Theori lenyddol a beirniadol oedd yn gwrthwynebu trefedigaethedd ac yn dathlu Duder (Blackness) oedd Négritude. Bu syniadau’r mudiad yn ddylanwad ar waith Fanon trwy gydol ei yrfa.
Gadawodd Martinique yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan gafodd yr ynys ei meddiannu gan luoedd pleidiol i Vichy. Ymunodd Fanon â Lluoedd Ffrainc Rydd a theithio i Algeria a Ffrainc, lle profodd hiliaeth Ewropeaidd, profiad y mae’n cyfeirio ato yn aml yn ei waith ar hiliaeth. Wedi’r rhyfel, yn 1945, dychwelodd i Martinique, ond yn fuan wedyn aeth i Ffrainc i astudio meddygaeth a seiciatreg. Yn y cyfnod hwn cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Peau noire, masques blancs (Black Skin, White Masks, 1952), oedd yn ymdrin â phrofiadau pobl Ddu o fewn cymdeithas lle roedd pobl wyn yn rheoli.
Rhwng 1953 ac 1957 bu’n gweithio fel seiciatrydd yn Algeria, oedd yn drefedigaeth Ffrengig ar y pryd, a phan ddechreuodd y gwrthryfel Algeraidd yn 1954 ymunodd Fanon â’r Front de Liberation Nationale (FLN). Trwy ei ymwneud â’r gwrthryfel yn Algeria, trodd ei sylw oddi wrth ganolbwyntio ar hil yn benodol i ystyried trefedigaethedd, a gwrth-drefedigaethedd yn fwy eang.
Yn 1957, cafodd ei estraddodi o Algeria, ac ymunodd yn fwy agored yng ngweithgareddau’r FLN yn Tunis. Pan oedd yn gweithio gyda’r FLN, cafodd Fanon ddiagnosis o lewcemia, ac ar ôl cael triniaeth yn yr Undeb Sofietaidd a’r Unol Daleithiau, bu farw yn 1961, yn fuan wedi iddo orffen ei lyfr olaf, Les damnés de la terre (The Wretched of the Earth, 1961).
2. Peau noire, masques blancs a Les damnés de la terre
Cyhoeddwyd un o weithiau pwysicaf Fanon yn 1952, pan oedd yn 27 oed ac yn byw yn Ffrainc. Yn Peau noire, masques blancs (Black Skin, White Masks) mae Fanon yn ystyried hiliaeth yn erbyn pobl Ddu, ei gwreiddiau, a’i heffaith seicolegol. Mae’n dangos y rôl y mae deuoliaethau hiliol yn eu chwarae mewn prosesau trefedigaethol. Trwy dynnu ar ei brofiad ym myd seicoleg, mae Fanon yn dangos sut mae’r syniadau hyn yn dylanwadu ar y trefedigaethwr a’r rhai sy’n cael eu trefedigaethu fel ei gilydd – hynny ydi, y person gwyn a’r person Du. Mae’n tynnu sylw at y modd y gall trefedigaethu effeithio ar seicoleg y rhai sy’n cael eu trefedigaethu, drwy ymyrryd yn eu hiaith, eu diwylliant, eu crefydd, a’u haddysg.
Yn ôl Fanon, mae’r broses drefedigaethol yn dinistrio sail hunaniaeth Ddu, ac felly gorfodir y person Du o fewn cyfundrefn drefedigaethol i ganfod ei hunaniaeth drwy ddiwylliant gwyn, y diwylliant dominyddol. Mae’r person Du yn ysu am gael ei adnabod fel rhywun gwyn, a’r un a all roi’r hunaniaeth honno iddo yw’r person gwyn. Daw’r person Du felly i fabwysiadu sawl ‘mwgwd’ gwyn, gan berfformio elfennau o ddiwylliant y person gwyn o fewn cyd-destun lle na fydd y perfformiad byth yn llwyddiannus. O ganlyniad, gadewir yr unigolyn yn y bwlch rhwng y ddwy hunaniaeth, ddim yn Ddu nac yn wyn, mewn cyflwr o ‘ddi-fod’ (non-being).
Mae Fanon yn codi cwestiynau pwysig yma am rôl iaith. Gan gymryd bod siarad iaith yn golygu bod yn rhan o fydysawd diwylliannol yr iaith honno a bod iaith yn creu realiti, yna beth yw goblygiadau hyn i bobl a drefedigaethwyd, ond sy’n siarad iaith y trefedigaethwyr? Trigolion tiriogaethau trefedigaethol Ffrainc, Ffrangeg eu hiaith, sy’n cael eu hystyried gan Fanon. Yn y gyfrol Y Gymry ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’ (2018), mae Lisa Sheppard yn trafod syniadau Fanon am iaith yng nghyd-destun amlddiwylliannaeth (multiculturalism) yng Nghymru. Mae Fanon yn pwysleisio fod iaith yn rhan hanfodol o ddiwylliant, ac yn achos pobl Ddu yn nhiriogaethau Ffrainc, mae ‘arddel diwylliant ac iaith swyddogol Ffrainc yn peri i’r iaith honno a’r diwylliant hwnnw, sy’n gysylltiedig yn ei hanfod â phobl wyn, ymddangos fel y ffon fesur y caiff ieithoedd a diwylliannau y rhai a drefedigaethwyd eu cymharu â hi’ (t.19). Mae Sheppard yn cymharu hyn â safbwynt rhai yng Nghymru, fel Charlotte Williams (2005), sy’n dadlau fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar y Gymraeg fel ffordd o ddiffinio Cymreictod gan mai lleiafrif o boblogaeth Cymru sy’n ei siarad, ac felly fod hyn yn dieithrio llawer o bobl o’u hunaniaeth Gymreig, yn enwedig Cymry o liw.
Gan droi yn ôl at Fanon a’r cysyniad o fabwysiadu ‘mwgwd’ gwyn, un mwgwd posibl yw meistrolaeth o’r iaith Ffrangeg, yr iaith ‘wen’. Trwy geisio meistroli’r iaith, gall y person Du ddod yn agos at fod yn ‘wyn’, ond bydd realiti ‘epidermaidd’ lliw ei groen yn ei atal rhag pontio bwlch ei Aralledd, a chael ei adnabod fel person ‘gwyn’. Yn eilbeth, drwy’r broses o geisio dod yn wyn drwy feistroli’r iaith, mae’r unigolyn yn y pen draw yn cael ei ynysu oddi wrth ei gymuned, ac oddi wrth Dduder i gyflwr o ddi-fod.
Yn yr ysgrif ‘Immigrants and Minorities in Wales’ mae Glenn Jordan (2005) yn rhoi enghreifftiau o batrymau tebyg o ‘fygydau’ gwyn mewn cyd-destun Cymreig, gan dynnu sylw at ddisgrifiadau yn y wasg o fewnfudwyr trefedigaethol i Gaerdydd, gan gynnwys Mahmood Mattan. Dienyddiwyd Mattan ar ôl cael ei ganfod yn euog ar gam o lofruddio Lily Volpert yn 1952. Mae lluniau o’r cyfnod yn ei ddangos wedi’i wisgo’n smart, ond mae’r wasg yn ei ddisgrifio fel ‘semi-civilized’. Er iddo fabwysiadu gwisg ac arferion y trefedigaethwyr, nid yw’n ddigon i godi’r unigolyn Du, sydd wedi ei arallu, i gyflwr ‘diwylliedig’: “When one is pre-defined as Other, strategies for achieving respectability and acceptance may be doomed to failure. The struggle for recognition may not lead to mutual transformation of Colonizer and Colonized [...] but to the ‘Thought-He-Was-Civilized’ Savage’s death” (Jordan: 2005: t.63).
Daw Les damnés de la terre (The Wretched of the Earth, 1961) o gyfnod mwy diweddar ym mywyd Fanon, pan oedd yn ymwneud â’r gwrthryfel gwrthdrefedigaethol yn Algeria. Mae’r gyfrol wleidyddol hon yn ymdrin â’r frwydr yn erbyn trefedigaethedd mewn modd ymarferol ond hefyd drwy drafod effaith trefedigaeth ar gyflwr meddyliol. Mae Fanon yn dadlau yma fod trais yn rhan annatod o’r ymdrech wrthdrefedigaethol, gan fod trais yn rhoi’r sioc angenrheidiol sy’n ansefydlogi’r system drefedigaethol. Mae trais yn gwneud hynny ar ddwy lefel, gan ansefydlogi trefedigaeth y dychymyg, sef sut y rhesymolir perthnasau hierarchaidd o fewn y system drefedigaethol, yn ogystal â dad-sefydlogi’r realiti materol sy’n cynnal y system.
Mae trais hefyd yn gyfrwng i greu’r dyfodol ôl-drefedigaethol, hynny yw, y dyfodol ôl-annibyniaeth. Nid yw Fanon o blaid edrych i’r gorffennol cyn-drefedigaethol am atebion ar gyfer y dyfodol ôl-drefedigaethol, na dibynnu ar syniadau hanesyddol am ddiwylliant cenedlaethol. Rhaid i’r rhain gael eu creu o’r newydd, ac fe sicrheir y toriad hwn â’r gorffennol drwy drais chwyldroadol.
Gan edrych at y dyfodol hwn, mae Fanon yn dychmygu math newydd o ddyneiddiaeth sy’n cael gwared o’r hiliaeth a’r gorthrwm sy’n cynnal dyneiddiaeth Ewropeaidd. Rhaid i’r wladwriaeth neu’r genedl ôl-drefedigaethol ganfod ffurfiau newydd o’i chynnal ei hun, yn hytrach nag ail-greu’r ffurfiau Ewropeaidd gormesol hynny a esgorodd ar drefedigaethedd.
Ar sail hyn, mae Pramod K. Nayar (2013) yn dadlau dros ystyried Fanon fel dyneiddiwr ôl-drefedigaethol. Er bod Fanon yn gwneud defnydd o’r ddeuoliaeth rhwng y Du a’r gwyn (yn ei ddadansoddiad o hiliaeth yn Peau noire, masques blancs) ac yn pwysleisio pwysigrwydd diwylliannau cenedlaethol a thrais yn y frwydr dros annibyniaeth (yn Les damnés de la terre), mae’n ymwybodol o gyfyngiadau’r strwythurau hyn hefyd, a bod angen eu disodli yn y dyfodol ôl-drefedigaethol. Rhaid eu hadnabod er mwyn eu disodli, ac yn ei waith mae Fanon yn datblygu gwybodaeth drwyadl ohonynt.
3. Clo
Mae dylanwad syniadau Fanon yn bellgyrhaeddol, ac wedi dylanwadu ar astudiaethau ôl-drefedigaethedd ar hil, cenedlaetholdeb a hunaniaeth ddiwylliannol, a meysydd mor eang ag anthropoleg, astudiaethau diwylliannol, astudiaethau ffilm, a meddygaeth. Dylanwadodd ar theori ôl-drefedigaethol, yn enwedig ar waith pobl fel Edward Said (1935–2003) a Homi K. Bhabha (1949– ). Dylanwadodd ei syniadau ynghylch gwrth-drefedigaethedd ar fudiadau rhyddhad fel y Black Power Movement yn America, ac ar chwyldroadwyr fel Malcolm X a Che Guevara.
Mae deunyddiau dysgu digidol ar Frantz Fanon wedi’u creu gan Emily Pemberton a Huw Williams (2022) ar wefan Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Grug Muse
Llyfryddiaeth
Bhabha, H. K. (gol.) (1990), Nation and Narration (London: Routledge).
Bhabha, H. K. (1994), The Location of Culture (London: Routledge).
Fanon, F. (1952), Peau noire, masques blancs (Paris: Les Éditions du Seuil); cyfieithwyd fel Black Faces, White Masks, Charles Lam Markmann (New York: Grove Press, 1967).
Fanon, F. (1961), Les damnés de la terre (Paris: Maspéro); cyfieithwyd fel The Wretched of the Earth, Constance Farrington (New York: Grove Weidenfeld, 1963).
Jordan, G. (2005), ‘Immigrants and Minorities in Wales’ yn: Aaron, J. a Williams, C. (goln), Postcolonial Wales (Cardiff: University of Wales Press).
Nayar, P. K. (2013), Frantz Fanon (London: Routledge).
Pemberton, E. a Williams, H. (2022), Frantz Fanon https://www.porth.ac.uk/cy/collection/gwyddorau-cymdeithas-theori-gymdeithasegol [Cyrchwyd: 23 Mai 2022].
Said, E. (1978), Orientalism (New York: Pantheon Books).
Sheppard, L. (2018), Y Gymry ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’(Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Williams, C. (2005), ‘Can we live together? Wales and the multicultural question’, Transactions of the Honorouble Society of Cymmrodorion 2004, 11, 216–30.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.