J. Kitchener Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
categorïau; ad-drefnwyd y llyfryddiaethau'n gronolegol
nodyn am y drwydded CC
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
__NOAUTOLINKS__
Ganed '''James Davies''' ar 16 Mehefin 1902 ac fe’i magwyd yn Llwynpiod. Mynychodd ysgol yr eglwys yn Nhregaron hyd nes y bu ei fam farw ac yntau ond yn saith oed. Wedi hynny, fe’i anfonwyd i Banbury a dychwelodd, yn ôl y sôn, yn uniaith Saesneg. Fe'i magwyd wedyn gan ei fodryb, ac aeth i ysgol sir Tregaron, lle cafodd yr enw Kitchener ei roi iddo. Daeth yr enw am fod ei dad, â’i fwstas, yn debyg i’r Maeslywydd Prydeinig.
Ganed '''James Davies''' ar 16 Mehefin 1902 ac fe’i magwyd yn Llwynpiod. Mynychodd ysgol yr eglwys yn Nhregaron hyd nes y bu ei fam farw ac yntau ond yn saith oed. Wedi hynny, fe’i anfonwyd i Banbury a dychwelodd, yn ôl y sôn, yn uniaith Saesneg. Fe’i magwyd wedyn gan ei fodryb, ac aeth i ysgol sir Tregaron, lle cafodd yr enw Kitchener ei roi iddo. Daeth yr enw am fod ei dad, â’i fwstas, yn debyg i’r Maeslywydd Prydeinig.


Astudiodd Cymraeg a Lladin ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1922 hyd 1925, lle daeth yn gyfaill i David J. Jones (Gwenallt). Ar ôl derbyn ei dystysgrif Athro yn 1926, symudodd i Gwm Rhondda, i weithio mewn ysgolion. Bu fyw yn Nhonypandy am gyfnod yn ystod ei ieuenctid. Fe’i cofir fel un o arweinyddion Plaid Cymru yn y Rhondda ac fe weithiodd yn ddiarbed dros fywyd ac achosion Cymraeg y Cwm, yn enwedig dros sefydlu ysgol Gymraeg yno. Roedd yn enwog am ei bryddest, ''Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu'', a'i ddrama enwocaf oedd y gwaith dadleuol, ''Cwm Glo''. Ataliwyd y wobr am y ddrama hon gan yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1934 ond erbyn heddiw, fe’i hystyrir yn gampwaith.
Astudiodd Cymraeg a Lladin ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1922 hyd 1925, lle daeth yn gyfaill i David J. Jones (Gwenallt). Ar ôl derbyn ei dystysgrif Athro yn 1926, symudodd i Gwm Rhondda, i weithio mewn ysgolion. Bu fyw yn Nhonypandy am gyfnod yn ystod ei ieuenctid. Fe’i cofir fel un o arweinyddion Plaid Cymru yn y Rhondda ac fe weithiodd yn ddiarbed dros fywyd ac achosion Cymraeg y Cwm, yn enwedig dros sefydlu ysgol Gymraeg yno. Roedd yn enwog am ei bryddest, ''Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu'', a’i ddrama enwocaf oedd y gwaith dadleuol, ''Cwm Glo''. Ataliwyd y wobr am y ddrama hon gan yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1934 ond erbyn heddiw, fe’i hystyrir yn gampwaith.


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
Llinell 40: Llinell 40:
* [http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-KIT-1902.html Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol]
* [http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-DAVI-KIT-1902.html Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol]


{{CC BY-SA}}
{{DEFAULTSORT:Davies, J. Kitchener}}
{{DEFAULTSORT:Davies, J. Kitchener}}
[[Categori:Theatr Cymru Gynnar]]
[[Categori:Theatr Cymru Gynnar]]
[[Categori:Dramodwyr]]
[[Categori:Dramodwyr]]

Fersiwn ddiweddaraf yn ôl 09:07, 14 Awst 2014

__NOAUTOLINKS__ Ganed James Davies ar 16 Mehefin 1902 ac fe’i magwyd yn Llwynpiod. Mynychodd ysgol yr eglwys yn Nhregaron hyd nes y bu ei fam farw ac yntau ond yn saith oed. Wedi hynny, fe’i anfonwyd i Banbury a dychwelodd, yn ôl y sôn, yn uniaith Saesneg. Fe’i magwyd wedyn gan ei fodryb, ac aeth i ysgol sir Tregaron, lle cafodd yr enw Kitchener ei roi iddo. Daeth yr enw am fod ei dad, â’i fwstas, yn debyg i’r Maeslywydd Prydeinig.

Astudiodd Cymraeg a Lladin ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1922 hyd 1925, lle daeth yn gyfaill i David J. Jones (Gwenallt). Ar ôl derbyn ei dystysgrif Athro yn 1926, symudodd i Gwm Rhondda, i weithio mewn ysgolion. Bu fyw yn Nhonypandy am gyfnod yn ystod ei ieuenctid. Fe’i cofir fel un o arweinyddion Plaid Cymru yn y Rhondda ac fe weithiodd yn ddiarbed dros fywyd ac achosion Cymraeg y Cwm, yn enwedig dros sefydlu ysgol Gymraeg yno. Roedd yn enwog am ei bryddest, Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu, a’i ddrama enwocaf oedd y gwaith dadleuol, Cwm Glo. Ataliwyd y wobr am y ddrama hon gan yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1934 ond erbyn heddiw, fe’i hystyrir yn gampwaith.

Llyfryddiaeth

  • J. Kitchener Davies, ‘Drama Fawr Gymraeg’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 8 (Mehefin 1934), tt. 176 a 192.
  • J. Kitchener Davies, Cwm Glo (Lerpwl, 1935).
  • J. Kitchener Davies, ‘Lle Cymru yng Nghynllwynion Lloegr’, Heddiw, cyfrol 1, rhif 3 (Hydref 1936), tt. 90–92.
  • J. Kitchener Davies, ‘Cenedlaetholdeb Cymru a Chomiwnyddiaeth’, Heddiw, cyfrol 2, rhif 3 (Ebrill 1937), tt. 84–90.
  • J. Kitchener Davies, Susanna (Dinbych, 1938).
  • J. Kitchener Davies, ‘Yr Eisteddfod a’r Ddrama’, Heddiw, cyfrol 5, rhif 4 (Awst 1939), tt. 170–179.
  • J. Kitchener Davies, Meini Gwagedd (Caerdydd, 1944).
  • J. Kitchener Davies, Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu (Dinbych, 1953).
  • J. Kitchener Davies, ‘Adfyw’, Y Cardi, rhif 3 (Awst 1968), tt. 14–18.
  • J. Kitchener Davies (gol.), Mair I. Davies, Gwaith Kitchener Davies (Llandysul, 1980).
  • Jack Jones (trosiad i’r Gymraeg), J. Kitchener Davies, Hen Wlad Fy Nhadau (Caerdydd, 2002).

Amdano

  • Saunders Lewis, ‘Pryddest Kitchener Davies’, Baner ac Amerau Cymru (21 Hydref, 1953), t. 7.
  • Gwenallt, ‘Cwm Rhondda’, yn Y Coed (Landysul, 1969), t. 24.
  • Wynne Samuel, ‘Kitchener Davies ar y bocs sebon’, Y Ddraig Goch (Hydref/Tachwedd 1980), t. 7.
  • Ioan Williams, Kitchener Davies (Caernarfon, 1984).
  • A. O. Chater, ‘Perthi’r Llain’, Naturiaethwr, 14 (Gorffennaf 1985), tt. 2–15.
  • Rhydwen Williams, ‘Y Ffynhonnau’, yn Rhondda Poems (Llanydybïe, 1987), tt. 34–45.
  • Kathryn Jenkins, ‘“O Lwynypïod i Lwynypia”: hunangofiant James Kitchener Davies’, yn (gol.) J. E. Caerwyn Williams, Ysgrifau Beirniadol, XIX (Dinbych, 1993), tt. 310–22.
  • Manon Rhys, ‘Atgyfodi Cwm Glo, Kitchener Davies’, Cwm Rhondda (Cyfres y Cymoedd), (Llandysul, 1995), tt. 276–300.
  • M. Wynn Thomas, ‘Keeping Rhondda for Wales: the case of J. Kitchener Davies’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion/Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1999), Cyfrol 6 (Llundain, 1999), tt. 119–134.* Rhian Reynolds, ‘Poetry for the Air’, Welsh Writing in English, 7 (2001–2002), tt. 78–105.
  • Manon Rhys, ‘Coffáu Kitch’, Taliesin, cyfrol 116 (Eisteddfod 2002), tt. 38–47.
  • M. Wynn Thomas, James Kitchener Davies (Caerdydd, 2002).
  • Gwen Angharad Jones, ‘Rhydypandy a Thonypandy’, Barn, rhif 477, (Hydref 2002), tt. 39–41.
  • Alan Llwyd, ‘Cofio “Cwm Glo”, Cofio Kitch’, Barddas, rhif 270 (Rhagfyr/Ionawr, 2002/2003), tt. 6–11.
  • M. Wynn Thomas, ‘Yr Awdur yn Destun’, Traethodydd, cyfrol 160 (2005), tt. 77–94.
  • Siôn Aled, ‘James Kitchener Davies’, yn (gol.) Robert Rhys, Y Patrwm Amryliw (Cyfrol 1), tt. 165–172.

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.