Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymorth:Cymorth"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''<big>Cymorth i gyfranogwyr</big>''' Mae’r Esboniadur yn wefan ar ffurf wici sy’n caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig ei olygu. Rhaid cael cymerad...') |
(Dim gwahaniaeth)
|
Y diwygiad cyfredol, am 14:15, 9 Medi 2014
Cymorth i gyfranogwyr
Mae’r Esboniadur yn wefan ar ffurf wici sy’n caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig ei olygu. Rhaid cael cymeradwyaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cyn fedrwch olygu'r Esboniadur. Er mwyn fformatio eich testun rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cystrawen wici, yn dilyn y canllawiau ar y dudalen hon.
Cynnwys
Creu cofnod
Gellid creu cofnod o’r newydd naill ai trwy deipio enw’r erthygl hoffech ei greu yn y blwch chwilio, er enghraifft ‘Teitl enghreifftiol’. Ar y dudalen wag sy’n llwytho o ganlyniad fe welwch y neges ‘Creu’r dudalen “Teitl enghreifftiol” ar y wici hwn!’ Cliciwch ar y ddolen goch lle mae enw'r cofnod er mwyn ei greu.
Gellid hefyd creu cofnod newydd drwy glicio ar ddolennu coch mewn cofnod.
Golygu cofnod
- Cliciwch ar y tab ‘Golygu’ ar ben y dudalen.
- Newidiwch y testun yn y blwch golygu.
- Cliciwch y botwm 'Dangos rhagolwg' i weld rhagolwg o'ch newidiadau.
- Cliciwch y botwm 'Cadw'r dudalen' pan rydych yn barod i gadw'r gwaith.
I olygu pennawd unigol, cliciwch ar y ddolen ‘golygu’ i’r dde o’r pennawd priodol a dilynwch gamau 2 i 4.
Fformatio testun
Disgrifiad | Teipiwch hyn | ...a dyma sydd i'w weld |
---|---|---|
Testun italig | ''italig'' | italig |
Testun bras | '''bras''' | bras |
Testun bras ac italig | '''''bras ac italig''''' | bras ac italig |
Dolen mewnol | [[afon syth]] | afon syth |
y [[cerlan|gerlan]] | y gerlan | |
[[llen iâ|llenni iâ]] | llenni iâ | |
Dolen allanol | [http://www.google.com Google] | |
Pennawd | ==Pennawd== | Pennawd |
Is-bennawd | ===Is-bennawd=== | Is-bennawd |
Rhestr â phwyntiau bwled | * Eitem 1 * Eitem 2 |
|
Llun | [[Delwedd:Sianeleiddio Afon Alun.JPG|bawd|Testun enghreifftiol]] |
Ychwanegu categori
Er mwyn cynnwys eich cofnod mewn casgliad rhaid ychwanegu’r casgliad ato ar ffurf categori. Er enghraifft, os yw’r cofnod yn rhan o’r casgliad Ffilm a Theledu Cymru ychwanegwch [[Categori:Ffilm a Theledu Cymru]] at waelod y cofnod.
Caiff cofnodion eu trefnu mewn categorïau yn ôl trefn llythyren gyntaf eu teitl yn yr Wyddor. Os ydych am i gofnod gael ei gategoreiddio yn ôl llythyren arall, er enghraifft enw cyntaf cyfenw person, ychwanegwch {{DEFAULTSORT:Lewis, Saunders}} (er enghraifft) uwchben y categori.
Ychwanegu nodyn hawlfraint
Er mwyn dynodi trwydded hawlfraint eich cynnwys, ychwanegwch y nodyn {{CC BY-SA}}, ar gyfer (Creative Commons Attribution ShareAlike 4.0) neu {{CC BY}} (ar gyfer Creative Commons Attribution 4.0) fel bo'n briodol, at waelod y cofnod.
Uwchlwytho llun
Cliciwch y ddolen ‘Uwchlwytho ffeil’ sydd yn y Blwch offer i’r chwith ar bob tudalen. Gallwch wedyn uwchlwytho ffeil o’ch cyfrifiadur.