Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tich Gwilym: Cyfweliadau"
Oddi ar WICI
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ceir yma wybodaeth am yr unigolion a gyfwelwyd fel rhan o'r gwaith ymchwil ar gyfer y dudalen ar Tich Gwilym. {| class="wikitable" |- ! Enw ! Gwyboda...') |
|||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
| | | | ||
|- | |- | ||
− | | '''[[Dafydd]] Pierce''' | + | | '''[[:Dafydd]] Pierce''' |
− | | Peiriannwr sain a gitarydd. Bu’n gyfrifol am stiwdio a label 123 a bu’n chwarae mewn bandiau yn cynnwys Mochyn ‘apus a [[Dafydd]] Pierce a’r Amigos. | + | | Peiriannwr sain a gitarydd. Bu’n gyfrifol am stiwdio a label 123 a bu’n chwarae mewn bandiau yn cynnwys Mochyn ‘apus a [[:Dafydd]] Pierce a’r Amigos. |
| | | | ||
|- | |- |
Diwygiad 09:06, 3 Mai 2016
Ceir yma wybodaeth am yr unigolion a gyfwelwyd fel rhan o'r gwaith ymchwil ar gyfer y dudalen ar Tich Gwilym.
Enw | Gwybodaeth | Llun |
---|---|---|
Siôn Jones | Bu’n chwarae gyda’i frawd ym Maffia Mr Huws a’r Anrhefn. Dyma lun ohono gyda hen gitâr Tich a roddwyd iddo gan ei frawd fel tâl am ddyled. ‘It plays like a dog’ meddai Tich wrtho, ond mae’n werth pob dim i Siôn. | |
Gwyn Jones | Bu Gwyn yn chwarae drymiau i Maffia Mr Huws, Y Cynganeddwyr a Superclarks. Mae’n parhau i chwarae’n gyson gyda gwahanol fandiau yng Nghymru. | |
Siân James | Mae Siân yn artist gwerin adnabyddus sydd wedi rhyddhau sawl albwm. Mae’n canu ac yn chwarae’r delyn. | |
Mike Monk | Bu’n byw yn Llundain yn ennill bywoliaeth yn canu ac fe’i hyfforddwyd i fod yn beiriannwr sain gan ITV yn Teddington. Roedd yn byw drws nesa’ i Mark Bolan yn Llundain a daeth i adnabod llawer o gerddorion byd enwog. Ar ôl i’w yrfa fel canwr ddod i ben, bu’n brysur fel asiant a rheolwr nifer o fandiau mawr o Gymru. | |
Geraint Jarman | Bardd, cerddor a chynhyrchydd teledu. Bu Geraint yn llwyddiannus iawn gyda’r Cynganeddwyr ond hefyd fel cynhyrchydd teledu yn creu rhaglenni arloesol fel Fideo 9. | |
Peredur ap Gwynedd | Gitarydd proffesiynol o ardal Crymych a deithiodd y byd yn chwarae i Natalie Imbruglia, Pendulum a Faithless. | |
Dafydd Pierce | Peiriannwr sain a gitarydd. Bu’n gyfrifol am stiwdio a label 123 a bu’n chwarae mewn bandiau yn cynnwys Mochyn ‘apus a Dafydd Pierce a’r Amigos. | |
Dewi 'Pws' Morris | Actor, cerddor a diddanwr. Mae Dewi wedi chwarae gyda’r Tebot Piws, Edward H. Dafis ac wedi cyd-weithio gyda nifer o artistiaid yng Nghymru. Mae’n enwog am y gyfres ddigrif Torri Gwynt ac am ganeuon fel Lleucu Llwyd. | |
Pete Hurley | Gwas priodas Tich. Bu’n chwarae yn Kimla Taz ac mae’n parhau i chwarae gyda Geraint Jarman. Chwaraeodd y bas i nifer o fandiau gan gynnwys Van Morrison. |