Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Afonladrad"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''River capture'') Mae afonladrad yn digwydd wrth i ran o un system draenio gael ei gipio neu ladrata gan system draenio arall yn ystod esblygi...') |
(Dim gwahaniaeth)
|
Diwygiad 12:15, 6 Medi 2013
(Saesneg: River capture)
Mae afonladrad yn digwydd wrth i ran o un system draenio gael ei gipio neu ladrata gan system draenio arall yn ystod esblygiad patrwm draenio. Fel arfer, mae hyn yn digwydd pan fo un system yn medru erydu tua phen y dyffryn ynghynt na’r system arall am nifer o resymau, gan gynnwys pellter i’r môr neu’r waelodfa, dinoethi creigiau hawdd eu herydu, neu gynnydd mewn arllwysiad o ganlyniad i newid hinsawdd.
Mae hyn yn arwain at fyrhau’r system a ladratwyd, at greu dyffrynnoedd sych lle arferai’r afon lifo, cnicynnau ym mhroffil yr afon, ac at roi egni ychwanegol i’r afon sy’n lladrata (adnewyddiad). Mae’r afon sydd yn cael ei lladrata felly yn afon afrwydd (misfit river) oherwydd ei bod yn rhy fach i’w dyffryn.
Gellir gweld nifer o enghreifftiau o afonladrad yng Nghymru. Mae Howe a Thomas (1963) yn adnabod pedwar cnicyn yn Nyffryn Llugwy o ganlyniad i afonladrad gan Afon Conwy a oedd yn erydu ar hyd ffawt rhwng creigiau Ordofigaidd a Silwraidd, ac mae Higgs (1997) yn adnabod rhai ar afon Lledr ac afon Machno, eto o ganlyniad i afonladrad gan afon Conwy. Gwelwyd enghreifftiau eraill ar afon Twymyn a’i llednentydd ger Dylife ym Mhowys, yn ogystal ag afonydd mewn amgylchedd carstig fel afon Hepste a Mellte (a ladratwyd gan Afon Nedd oddi wrth Afon Taf). Yn fwyaf nodedig efallai, lladratwyd rhagnentydd Afon Teifi gan y proto-Ystwyth yn gyntaf, wrth iddi erydu am yn ôl o gyfeiriad Bae Ceredigion tuag at yr Elenydd , ac yna gan Afon Rheidol. Ceir tystiolaeth o’r afonladrata yma ym Mhont-rhyd-y-groes ar Afon Ystwyth, ar Afon Rheidol ym Mhontarfynach ac yn y dyffryn sych sydd rhwng dalgylchoedd Ystwyth a Theifi.
Mae rhai enghreifftiau ar raddfeydd ehangach yn rhyngwladol wedi bod yn arwyddocaol iawn o ran esblygiad rhwydweithiau draenio afonydd mawrion y byd. Lladratwyd llednant fwyaf ddwyreiniol Afon Indus gan Afon Ganga gan drosglwyddo arllwysiad o ardal fawr o fynyddoedd yr Himalaya o Bakistan i India. Mae gwybodaeth am drefn afonladrad yn bwysig wrth ddod o hyd i ddyddodion afonol sydd yn cynnwys mwynau gwerthfawr. Weithiau, bydd dyddodion yn cynnwys mwynau yn cael eu canfod mewn ardaloedd nad ydynt bellach yn gysylltiedig â’r system sydd yn draenio ffynhonnell y mwynau.
Gregory, K.J. (2000) Capture, Yn Thomas, D.G. a Goudie, A. (Gol) The Dictionary of Physical Geography, Blackwell, Rhydychen, t. 70.