Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwilym, Tich"
(→Dyddiau cynnar (1950-60au)) |
(→Dyddiau cynnar (1950-60au)) |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
<html> | <html> | ||
− | <iframe height=" | + | <iframe height="180" width="500" src="https://llyfrgell.porth.ac.uk/embed.aspx?id=1073&code=9s~LeTnJKvEIoCREVN3GMfG" frameborder="0" allowfullscreen></iframe> |
− | |||
− | |||
+ | <br> | ||
Hyd y gwyddys, dyma’r recordiad cynharaf o Tich ac yr oedd yn arddangos amseru a thonyddiaeth berffaith hyd yn oed yr oed hwnnw. Roedd yn amlwg wedi creu digon o argraff i rywun drefnu iddo recordio mewn stiwdio tua 1964/5, ac nid ar chwarae bach y byddai hynny’n digwydd. | Hyd y gwyddys, dyma’r recordiad cynharaf o Tich ac yr oedd yn arddangos amseru a thonyddiaeth berffaith hyd yn oed yr oed hwnnw. Roedd yn amlwg wedi creu digon o argraff i rywun drefnu iddo recordio mewn stiwdio tua 1964/5, ac nid ar chwarae bach y byddai hynny’n digwydd. | ||
Diwygiad 15:27, 21 Gorffennaf 2016
Y gitarydd Tich Gwilym a'i ddylanwad ar gerddoriaeth Cymru yw testun y dudalen hon. Ysgogiad ysgrifennu’r ddogfen oedd rhoi braslun o fywyd un o gitaryddion mwyaf eiconig o Gymru i’r genhedlaeth nesaf. Pan holwyd dosbarth o fyfyrwyr cerdd o Gymru’n ddiweddar a oeddynt wedi clywed am Tich Gwilym, nid oedd neb wedi clywed amdano, ac felly’r gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn rhoi rhagarweiniad i’w fywyd cerddorol gan anelu at ysbrydoli myfyrwyr y genhedlaeth nesaf i ymddiddori yn ei gerddoriaeth ac i ddysgu o’i berfformiadau.
Rhys James
Cynnwys
Rhagarweiniad
Ganwyd Robert John Gwilliam ym mhentref Penygraig ar 10 Medi 1950 yn rhif 1 Library Road, yn fab i William John ac Irene Gwilliam. Hanai ei dad-cu, John Albert, glöwr a thafarnwr, o Lanymddyfri, ac ef oedd y cyntaf i adeiladu tŷ ar Library Road.[1]
Pan oedd yn yr ysgol, dechreuwyd ei alw wrth y llysenw ‘Tich Beck’[2] oherwydd ei fod yn fyr o ran taldra ynghyd â’i hoffter o’r gitarydd Jeff Beck, ac o ganlyniad cawsai ei adnabod fel Tich am weddill ei fywyd. Siaradai tad Tich gyda balchder am y cyfenw Gwilliam ac roedd y teulu i gyd, gan gynnwys Tich, yn falch iawn o’r ffaith y bu eu hewythr, John Gwilliam, yn gapten llwyddiannus iawn ar dîm rygbi Cymru yn y 1950au, gan ennill dau Grand Slam (1950/52) a churo Awstralia a Seland Newydd.[3] Er hyn, byddai pobl leol yn cyfeirio atynt fel ‘Gwilym’ a newidiodd y ‘Gwilliam’ ar lafar i ‘Gwilym’.
Dyddiau cynnar (1950-60au)
Dangosodd Tich addewid cerddorol yn gynnar yn yr ysgol. Chwaraeai’r drymiau ac offerynnau amrywiol eraill (gan gynnwys y sielo) yn dda iawn, ond pan gafodd ei gitâr cyntaf pan oedd tua wyth mlwydd oed, rhoddodd y sielo a’r drymiau o’r neilltu a dyma ddechrau ar obsesiwn gydol oes.
Pan holwyd tad Tich am y cefndir cerddorol, roedd fel petai wedi dod o unman, meddai. Roedd ganddynt fodryb, aunt Evelyn, a oedd yn canu opera amatur, ond nid oedd unrhyw un arall yn y teulu’n gerddorol.
Dros y blynyddoedd cynnar felly, bu Tich yn gwrando ar recordiau di-ri, ac ar y cyfan bu’n dysgu ei hun i chwarae’r gitâr. Byddai’n gwrando ar y Rolling Stones a’r Beatles, ond un o’i hoff fandiau o’r cyfnod oedd The Kinks. Roedd yn hoff o James Taylor a Nanci Griffith fel ysgrifenwyr caneuon. Fel gitaryddion, roedd yn hoff o Jimi Hendrix a Jeff Beck, ond yn ddiweddarach daeth yn hoff o’r Shadows ac yn enwedig Hank Marvin. Yn wir, enwodd ddau o’i feibion ar ôl Jimi a Hank. Erbyn iddo gyrraedd yr ysgol uwchradd, gallai efelychu nifer o’i arwyr.Pan aeth i Ysgol Ramadeg Tonypandy, ffurfiodd nifer o fandiau. Un o’r cyntaf oedd Tich and The Mystics pan oedd tua 14 oed. Dechreuodd Tich ennill gwobrau fel y Rhondda Musician of The Year, a thynnodd sylw hyrwyddwr lleol o’r enw Bob McClure a drefnodd fod Tich yn recordio rhai caneuon ar finyl.
Hyd y gwyddys, dyma’r recordiad cynharaf o Tich ac yr oedd yn arddangos amseru a thonyddiaeth berffaith hyd yn oed yr oed hwnnw. Roedd yn amlwg wedi creu digon o argraff i rywun drefnu iddo recordio mewn stiwdio tua 1964/5, ac nid ar chwarae bach y byddai hynny’n digwydd.
Tra oedd yn yr ysgol, daeth yn ffrindiau â bachgen hŷn nag ef o’r enw Mike Monk. Daeth y ddau’n ffrindiau oes, gyda Mike yn edrych ar ôl y Tich ifanc. O ganlyniad, byddai Tich yn galw Mike yn ‘dad’ hyd yn oed fel oedolyn.
Roedd Mike yn gerddor hefyd a aeth ymlaen i gael gyrfa fel canwr, ac felly dyma ddechrau grwp o’r enw Tich Beck Reunion. Yn y band yr oedd Lynn Phillips, Bob Watkins, Eddie Aycock a Mike Monk. Roedd y band hwn yn chwarae caneuon roc/''blues'' y cyfnod ac ambell gân wreiddiol.
=Gyrfa Gerddorol=
==Kimla Taz==
[[Delwedd:Poster_Kimla_Taz.jpeg|thumb|''Poster'' Croeso 69 Blues Festival.]] [[Delwedd:Tocyn_Kimla_Taz.jpeg|thumb|''Tocyn'' Progressive Blues Night'', 1969.'']]
Erbyn 1967, roedd Tich a Mike wedi gadael yr ysgol ac wedi symud i Gaerdydd. Ar ôl rhai newidiadau i’r aelodau, newidiodd Tich Beck Reunion i fod yn Kimla Taz, grwp a oedd yn llawn addewid, gyda Tich yn chwarae’r gitâr ac yn canu. Meddyliwyd am yr enw Kimla Taz mae’n debyg wrth iddynt basio siop Co-Op yng Nghimla ger Castell Nedd, a chyfaill iddynt a oedd yn ganwr oedd Taz.Erthygl bapur newydd am glawr albwm Kimla Taz.
Bu gwahanol aelodau i’r band hwn ar wahanol gyfnodau, ond aeth John Morgan, Pete Hurley, Robert ‘Dodo’ Wilding a Tich ymlaen i fod yn gyd-aelodau o fand Geraint Jarman.
Denodd Kimla Taz ddiddordeb mawr, gyda chwmni recordiau CBS, Decca, Page One ac RCA yn dangos diddordeb. Arwyddwyd cytundeb gyda recordiau Decca i ryddhau record ar eu label Deram.Nodyn gan Terry Lewis – llun o fewn CD Kimla Taz. Bu sesiwn recordio yn stiwdios Decca yn Llundain, a chynhyrchwyd y rhain hefyd gan Bob McClure. Dilynwyd hynny gan gigs
Ar ambell gân, efo cerddor arbennig, maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth a dyna wnaeth Tich.Ibid., t. 33.Yn wahanol i gitâr Setup Stratocaster arferol Tich, defnyddiodd Tich Les Paul ar ‘Y Dyn Oedd Yn Hoffi Pornograffi’ a Telecaster ar ‘Ambiwlans’. Gig gyntaf Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr oedd y rhyng-gol yn Aberystwyth yn 1977. Bu rhai gigs cyn hynny ond yn y flwyddyn honno y sefydlwyd y band go-iawn. Y Cynganeddwyr gwreiddiol oedd Tich, Ronald ‘Cat’ Croxford, Richard Dunn a John Morgan. Soniai Geraint fod y cyfnod hwn yn gyffrous ac y dangoswyd llawer o frwdfrydedd tuag at y band. Deuai cynulleidfaoedd mawr i’w gweld, mwy na chynulleidfaoedd bandiau lleol Saesneg ei hiaith. Er y bu llawer o gigs a’r band yn mynd o nerth i nerth, roedd Tich yn parhau i chwarae i nifer o fandiau eraill ac yn cael cynigion i chwarae i fandiau mawr poblogaidd. Roedd cerddoriaeth Geraint hefyd yn wahanol i’r hyn a berfformiai Tich fel arfer, sef ''blues'' a roc arferol. Roedd gan Geraint ddiddordeb mewn bandiau ''New Wave'' fel Television a Talking Heads a cherddoriaeth ''reggae''. ==Racing Cars (1978/79)== Tua diwedd 1978, ar ôl recordio albwm ''Hen Wlad Fy Nhadau'' gyda Geraint Jarman, gadawodd Tich y band am chwe mis er mwyn chwarae a theithio gyda’r band Racing Cars. Cafodd y band lwyddiant mawr gyda’r gân ‘They Shoot Horses Don’t They?’. Chwaraeodd y band hefyd ar raglenni’r BBC Top of the Pops yn 1977,''Valleys band Racing Cars call it a day'', http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/valleys-band-racing-cars-call-2136432 [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016]. a The Old Grey Whistle TestJarman a Williams (2011), ''Twrw Jarman'', tt. 49–50. ar 14 Rhagfyr 1976 a 2 Ionawr 1979''Archival recordings'', http://www.edensongs.com/recordings/recordings.html [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016]. (pan chwaraeodd Tich gyda hwy).Llun yn Jarman a Williams (2011), ''Twrw Jarman'', t. 50. Ar ôl chwe mis, dychwelodd Tich i Gymru gan adael y Racing Cars a chwarae unwaith eto gyda Geraint Jarman. Recordiodd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr sawl albwm llwyddiannus iawn, sef ''Gwesty Cymru'' (1979), ''Fflamau’r Ddraig'' (1980), ''Diwrnod i’r Brenin'' (1981) a ''Macsen'' (1983). ==Mochyn ‘apus (1983)== [[Delwedd:Mochyn_'Apus.jpeg|thumb|''Casét Mochyn 'Apus,'' Mas O'i Ben Bob Nos'' (1983).'']] Bu’r cerddor a’r actor Dewi ‘Pws’ Morris yn ffrindiau gyda Tich a Geraint Jarman ers dechrau’r 1970au, a phan ofynnodd Dyfed Thomas i Dewi a fyddai’n ystyried chwarae mewn band newydd, ei ateb oedd ‘Dim ond os ma’ Tich yn chwarae ynddo fe’.Sgwrs ffôn gyda Dewi ‘Pws’ Morris. Felly gofynnwyd i Tich a dyna ddechrau ar y band Mochyn ‘apus. Aelodau’r band oedd Dyfed Thomas,
It’s all music. It doesn’t matter what language you are singing it in. If it comes across and you give it one hundred percent ... Nothing wrong with that is there?Tich yn siarad ar y rhaglen deledu ''Geraint Jarman: Chwilio am y Llais Angerddol'', Cwmni Da (2000).Ar sawl achlysur, soniai Tich mewn manylder am gigs Corwen ac am y swn a’r cyffro oedd yno. Soniai bron nad oedd yn deall y cyffro, ond fel artist roedd yn ei fwynhau’n fawr ac yn amlwg yn byw oddi ar y cyffro a’r egni hwn. Mae’n bosib na chwaraeodd Tich lawer y tu allan i Gymru oherwydd rhesymau personol/teuluol neu ddiffyg uchelgais a hyder. Er hynny, mae’r ffaith iddo ddewis parhau i chwarae i’r bandiau Cymraeg hefyd tan y diwedd yn rhoi rhywfaint o fesur o’i falchder Cymreig. =Marwolaeth= Ar 19 Mehefin 2005, bu farw Tich mewn tân yn nhy ffrind iddo yng Nghaerdydd. Dyfarnwyd yn ddiweddarach mai marwolaeth ddamweiniol ydoedd o ganlyniad i effeithiau mwg ar ôl i gannwyll ddisgyn mewn ystafell ymolchi. Bu’r sylwadau am ei farwolaeth a’r golled i’r genedl yn fesur yn ei hun o’i boblogrwydd. Mae’n drawiadol fod nifer y sylwadau oddi wrth bobl Cymraeg a di-Gymraeg cyn gymaint â’i gilydd. Ac er, efallai, nad oedd y bobl hynny wedi cymysgu’n uniongyrchol â’i gilydd, llwyddodd Tich i bontio’r ddwy garfan o Gymry. Mae’n anodd meddwl am artist arall a fyddai wedi ennyn yr un ymateb. Daeth torf helaeth i’r angladd, nifer o’r dorf yn artistiaid adnabyddus fel Dave Edmunds ac aelodau o Budgie a Man ynghyd â bandiau y chwaraeodd Tich iddynt. Gorffennwyd y seremoni gyda fersiwn Tich o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn atseinio, eiliad ddirdynnol a fydd yn aros yng nghof pawb a oedd yno. =Casgliadau= Felly, sut mae mesur cyfraniad Tich Gwilym i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg? Gall barn am allu cerddorol a chymeriad rhywun wrth gwrs fod yn bersonol, ond pan edrychir ar y dystiolaeth yn ei gyfanrwydd, credaf ei fod yn hollol briodol fod Tich Gwilym yn cael ei adnabod fel eicon Cymraeg ac un o’r gitaryddion gorau o Gymru, os nad y byd. Nid yw recordiadau bob tro’n gwneud cyfiawnder ag artistiaid sy’n byw yn y foment ac yn byw oddi ar egni cynulleidfa, ac felly wrth wrando ar hen recordiadau Tich clywir fflachiadau o’i allu cerddorol, ond nid yw’n ddigon i wneud cyfiawnder ag ef fel cerddor. Rwy’n teimlo y gellir mesur ei safon yn ôl y cwmni a gadwai, y cerddorion a oedd yn ei edmygu a’r cerddorion a ofynnai iddo chwarae gyda hwy. Nid oes amheuaeth y gallai fod wedi chwarae o amgylch y byd oherwydd ei dalent. Flwyddyn ar ôl marwolaeth Tich, trefnwyd gig gan ei ffrind Mike Monk yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd i gofio amdano, ac i godi arian ar gyfer cronfa i helpu talentau cerddorol ifanc. Roedd y ffaith i 80 o fandiau gysylltu er mwyn mynegi eu dymuniad i chwarae yn y gig yn fesur o boblogrwydd Tich. Yn y diwedd bu’n rhaid cwtogi’r nifer i saith, gan gynnwys Racing Cars, Snatch It Back a Man. Daeth cannoedd o bobl i’w angladd, gan gynnwys cerddorion mwyaf blaengar Cymru ac o amgylch y byd. Trwy arddangos ei dalent o safon ryngwladol, danfonodd neges i gynulleidfaoedd Cymru, gan ddweud bod y Cymry Cymraeg gystal â phawb arall, ac o ganlyniad mae’n siwr iddo ysbrydoli a chodi safon cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd sy’n anodd ei fesur. Ceid agweddau yn y 1970au y dylai pob aelod o fand mewn gig Cymraeg allu siarad Cymraeg. Trwy ddangos hyder a pharhau i chwarae, adeiladodd Tich bont rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg gan ddweud ‘it’s all music’, ac erbyn hyn mae’r agweddau hyn wedi newid. Roedd gan Tich hyder a pharch yng ngherddoriaeth artistiaid megis Siân James, Heather Jones a Geraint Jarman a hwythau yn ei ddawn offerynnol safonol ef, a thrwy hynny datblygwyd parch ehangach o du’r di-Gymraeg at gerddoriaeth Gymraeg gan hefyd gyrraedd y tu hwnt i Glawdd Offa. Mae’n siwr i hyn fod yn gymorth i’r bandiau a ddilynodd (fel y Super Furry Animals a Catatonia) i gael llwyddiant. Tra ceir rhywfaint o wrth-ddweud am wahanol agweddau ar ei gymeriad a gwahanol brofiadau o fod yn ei gwmni, mae pawb yn unfrydol ei fod yn athrylith ar y gitâr ac yn athrylith fel cerddor. Pan holwyd Peredur ap Gwynedd yn
Ma' Tich dal yn un o fy hoff gitaryddion, ac rwy’n ei glodfori yr un maint â phobl fel Stevie Ray Vaughan, Jimmy Page, Jimi Hendrix ...” Tich oedd y rheswm nes i ddechrau chwarae’r gitâr. Nes i weld e’n fyw pan o’n i’n 9 mlwydd oed, a nes i benderfynu taw gitâr o’n i’n mynd i chwarae ar ôl y diwrnod ’na.Mae Mike Monk yn sôn am gigs y chwaraeodd Tich ynddynt er mwyn cefnogi Peter Green, un o gitaryddion ''blues'' mwyaf y byd. Peter Green a ysgrifennodd Albatross gyda Fleetwood Mac a nifer o ganeuon ''blues'' enwog eraill. Mewn gig yng Nghanolfan Hamdden Gorseinon rai blynyddoedd cyn i Tich farw, safodd Peter Green ddeng troedfedd oddi wrth Tich gan syllu arno drwy gydol y gig; roedd wrth ei fodd gyda’i chwarae ac yn cofio Tich ers pan oedd yn fachgen yn chwarae gyda Kimla Taz. Ceir nifer o storïau tebyg gan fandiau a cherddorion byd enwog am Tich, sy’n fesur o’i fawredd fel cerddor. Ein hetifeddiaeth yw’r safon a’r ymroddiad diflino y dangosodd i’w offeryn a’i grefft. Yn berson diymhongar, gadawodd i’r gerddoriaeth siarad ar ei ran. Bydd yn bren mesur teilwng i bob aelod o fand o Gymru yn y dyfodol, boed yn Gymraeg ei iaith ai peidio. =Atodiadau= ==Atodiad 1: Offer== '''Sain drydanol yn gyffredinol''' Yn nhraddodiad chwaraewyr ''blues'' y cyfnod, cadwai Tich at yr offer angenrheidiol yn unig, mwy na thebyg gyda’r meddylfryd o gadw trywydd y sain mor bur â phosibl. Ar gyfer gitâr drydanol, defnyddiai ''setup'' tebyg i hyn:
Fender Stratocaster > Vox Distortion Pedal > Watkins Tape Echo (ar gyfer caneuon fel ‘Gwesty Cymru’) > Mwyhadur VOX AC 30 (TOP BOOST).Defnyddiai fwyhaduron a phedalau gwahanol, ond fel arfer roedd y ''setup'' cyffredinol yr un peth, sef mwyhadur ''valve'', Stratocaster a phedal ''distortion/overdrive''. Fel arfer, chwaraeai’n uchel iawn er mwyn galluogi iddo gael y ''feedback'' angenrheidiol i gynnal nodau hir, a oedd yn rhan nodweddiadol o’i dôn unigryw. '''Gitarau trydan''' Cysylltir Tich â’r Stratocaster yn bennaf ond defnyddiodd sawl gitâr yn ystod ei yrfa. Dyma rai o’r gitarau a chwaraeai: * Stratocaster Japanese Vintage Squire lliw pinc, 1983. * Fender Stratocaster 1977 du gyda ''scratchplate'' gwyn a gwddf masarnen (defnyddir hon ar ‘Ethiopia Newydd’ a ‘Gwesty Cymru’).Yn ôl Siôn Jones, mae llun hefyd yn ''Sgrech'' o’r un cyfnod. * Stratocaster naturiol * Stratocaster Sunburst * Telecaster (defnyddir hon ar ‘Ambiwlans’)Jarman a Williams (2011), ''Twrw Jarman'', t. 42. * Les Paul (defnyddir hon ar ‘Y Dyn Oedd Yn Hoffi Pornograffi’)Ibid. * Hen gitâr trydan coch gydag un cipyn (''pickup'')''Roc ‘Rol Te'', HTV, 5/11/1985. * Stratocaster coch newydd.Ibid. Roedd Tich yn hoff o’r gitarau Japanese Vintage SquireCadarnhawyd gan Peredur ap Gwynedd, fersiwn rad o’r Stratocaster llawn gan Fender. Yn ddiweddarach, chwaraeai’r Stratocaster naturiol gan amlaf. Roedd ganddo nifer o gitarau yr adeiladodd ei hun a rhai a adeiladodd ar y cyd â’i frawd Adrian. Mae’n fwy na thebyg mai un o’r rhain sydd ar y llun cynnar o’r band Tich Beck Reunion. Roedd Tich yn feistr ar osod y Stratocaster, a byddai nifer o gitaryddion ifanc yn gofyn iddo i’w gosod yn iawn. Yn ôl Siôn Jones, byddai’n gosod pont y tremolo yn is na’r hyn a argymhellir gan gwmni Fender, gan adael dim ond digon o le i ddyfnder plectrwm ffitio o dan y bont, h.y. yn agos i gorff y gitâr ond heb gyffwrdd. Gyda’i brofiad o adeiladu gyddfau i’r gitârs gyda’i frawd a oedd yn saer coed, gwyddai Tich yn reddfol a oedd angen ffeilio cribell (''fret'') benodol ar gitâr. Roedd Siôn yn dweud iddo chwarae ambell un o gitarau Tich a’u bod yn rhwydd ac yn llyfn i’w chwarae. Roedd y ''tremolo'' hefyd yn symud yn rhwydd ac yn ddiffwdan.
Siôn Jones yn sôn am y Stratocaster a gafodd gan Tich Gwilym.
Effeithiau
- Pedal fuzz[4]
- Pedal Vox Distortion (siâp V)
- Big Muff[5]
- Watkins Tape Echo
- Pedal octave
- Ibanez Tube Screamer TS-808[6]
Yr hyn sy’n drawiadol yma yw na ddefnyddiai bedal ‘wah-wah’ yn aml o gwbl, yn wahanol i Jimi Hendrix a Eric Clapton.
Mwyhaduron
- Vox AC30 (top boost) – sawl un dros y blynyddoedd.
- Hi-Watt Head i mewn i gabinet seinyddion 4 x 12.
- Mesa Boogie brown[7]
Tannau: Pwysau 10 h.y. .010, .013, .017, .026, .036, .046.
Gitarau acwstig: Roedd ganddo wahanol gitarau ac mae’n chwarae gitâr 12 llinyn ar ambell drac. Y brif gitâr acwstig oedd ganddo oedd Epiphone J200 neu rywbeth tebyg (mae’n bosibl mai oddi wrth Meic Stevens y daeth hwn yn wreiddiol).
Arall: Charango
Atodiad 2: Yn y stiwdio
Tra bod nifer o recordiadau o Tich, roedd Tich ar ei orau yn chwarae’n fyw, yn ymateb i gynulleidfa. Dywedodd Siân James y teimlai fod Tich yn gweld gwaith stiwdio gyda hi’n anodd a’i fod yn teimlo bod pwysau arno i berfformio. Mae’n bosibl nad ymatebai gonestrwydd artistig Tich yn dda i awyrgylch annaturiol y stiwdio, a oedd yn ei wneud yn anodd iddo fod yn greadigol.
Atodiad 3: Techneg
Roedd Tich yn feistr ar bob math o dechnegau ar y gitâr, ac yn gallu eu cyflawni’n ddiymdrech yng nghanol caneuon. Er mai sylfaen y blues oedd i’w arddull chwarae, gallai addasu i chwarae reggae, canu gwlad a roc trwm i safon uchel iawn. Ar yr acwstig, gallai chwarae cordiau cyffredin neu chwarae â’r bysedd ac roedd yr un mor gyfforddus yn chwarae unawd ar y gitâr acwstig a’r gitâr drydan. Gallai chwarae gyda gwddf potel neu slide yn dda iawn a gallai efelychu arddull Robert Johnson yn berffaith.
Mae nifer o bobl wedi canmol gallu Tich i chwarae rhythm yn rhagorol gyda’i law dde. Roedd yn ddrymiwr da iawn mae’n debyg ac mae’n amlwg i hyn roi dawn amseru iddo.
Rhai technegau nodweddiadol
Pinch harmonics – chwarae’r nodyn gyda’r plectrwm a’r bys yn cyffwrdd y llinyn i greu’r harmonig (enghraifft ar ‘Ambiwlans’).
Violining – defnyddio’r rheolydd sain ar y gitâr i dorri dechrau’r sain i ffwrdd.
Defnydd o dannau agored (enghraifft ar ‘Cwn Hela’).
Rhediad tripledi (enghraifft ar ddiwedd ‘Cae’r Saeson’).
Yn dilyn, ceir esiamplau o arddull chwarae Tich ar gyfer gitaryddion er mwyn arddangos rhywfaint o’i syniadau. Y bwriad yma yw dangos rhai o’i dechnegau a’i syniadau fel man cychwyn gan obeithio y bydd yn ysbrydoli gwrando mwy treiddgar.
Ceir enghraifft lawn ac enghraifft heb gitâr (trac cefndirol) ar gyfer ymarfer. Ceir sgôr a TAB i bob unawd. Tra bod y rhain yn rhoi rhywfaint o syniad o’i arddull chwarae, awgrymir yn gryf y dylid gwrando ar y traciau gwreiddiol i gael gwell blas. Mae rhestr wrando isod hefyd.
Enghraifft gitâr drydan – ysbrydolwyd gan draciau fel ‘Ethiopia Newydd’, ‘Cae’r Saeson’, ‘Cwn Hela’ a ‘Gwesty Cymru'.
Gitâr drydan a chyfeiliant
Cyfeiliant yn unig
- Bar 1–3: defnydd o’r whammy bar a phlygu traw’r nodau trwy blygu’r tannau er mwyn ychwanegu dwyster i’r vibrato cyffredin.
- Bar 4: triliau neu droadau yn dilyn patrwm pentatonig ar y cyfan.
- Bar 5–8: rhagor o blygu tannau a fibrato.
- Bar 9: triliau a throadau yn dilyn patrwm pentatonig ar y cyfan.
- Bar 17–19: dechrau syniad rhythmig a oedd yn nodweddiadol iawn o chwarae solos Tich.
- Bar 27, 28 a 31, 32: defnydd o feedback er mwyn dal nodau’n hirach a defnydd o’r whammy bar er mwyn newid y traw ychydig.
Enghraifft acwstig – ysbrydolwyd gan draciau fel ‘Distaw’ Siân James
Gitâr acwstig a chyfeiliant
Cyfeiliant yn unig
Roedd Tich yn feistr ar chwarae’r gitâr yn deimladwy, ac wrth chwarae’r gitâr acwstig, amlygai fwy o deimlad. Ar ‘Distaw’, mae’n defnyddio llawer o ddynameg wrth chwarae a cheir brawddegu cerddorol gwych er mwyn creu unawd llawn teimlad.
Nid oedd Tich ofn tawelwch a gadael lle i’r gerddoriaeth anadlu, ac mae ‘Distaw’ yn enghraifft wych o adael lle rhwng brawddegau cerddorol pwrpasol.
- Bar 1–4: defnydd o dannau agored i greu swn llawn a mwy o ddwyster.
- Bar 5–8: defnydd o hammer-on a pull-offs. Mae angen nerth yn y bysedd ar gyfer gwneud hyn.
- Bar 10: rhediad o dripledi yn ychwanegu cyffro annisgwyl.
- Bar 18: brawddeg sy’n cefnogi’r newid harmoni ar y piano.
Atodiad 4: Rhestr wrando gychwynnol
Dyma fan cychwyn i gael blas ar Tich yn chwarae. Mae albymau cynnar Geraint Jarman yn dda iawn ac yn dangos ystod eang o arddulliau chwarae Tich.
Gobaith Mawr y Ganrif
- 4. ‘Lle Mae’r Bobl Gwyllt Yn Byw’ – (0’25”: Llaw dde yn awgrymu ‘Rhywbeth Bach Yn Poeni Pawb O Hyd’ a ryddhawyd yn ddiweddarach).
- 7. ‘Gwylio y Byd Ar Y Teledu’.
Tacsi i'r Tywyllwch
Dangos gwahanol arddulliau Tich – reggae, gwlad:
- 2. ‘Y Dyn Oedd yn Hoffi Pornograffi’
- 3. ‘Tacsi i’r Tywyllwch’
- 4. ‘Ambiwlans’
- 5. ‘Wele Gwawriodd’
Hen Wlad Fy Nhadau
- 1. ‘Ethiopia Newydd’
- 2. ‘Methu Dal y pwysau’ (riff ar y dechrau)
Gwesty Cymru
- 1. ‘Gwesty Cymru’
- 2. ‘Beirdd Gwleidyddol’
- 3. ‘Byth yn Mynd i Redeg Bant’
- 10. ‘Pwy all Brynu Dy Feddylie?’
Fflamau'r Ddraig
- 2. ‘Cwn Hela’
- 6. ‘Cae’r Saeson’
- 8. ‘Rhywbeth Bach’ (chwarae rhythmig Tich)
- 9. ‘Colli Ti’
O ran egni a chael ysbrydoliaeth, mae’r recordiadau byw yn dda iawn ac efallai’n well na’r albymau stiwdio am ddangos beth oedd yn gwneud Tich yn arbennig.
Siân James: Distaw
- 11. ‘Distaw’ – enghraifft ragorol o’r ffordd y defnyddiai Tich ddynameg a brawddegu cerddorol mewn unawd acwstig.
Disgyddiaeth
Gweler Tich Gwilym: Disgyddiaeth.
Gwybodaeth bellach
Mae llawer o wybodaeth a chlipiau ar gael ar y we a gellir defnyddio’r wybodaeth ar y dudalen hon i chwilio am ragor o ffynonellau a chlipiau sain e.e. o fandiau fel Mrs Huggett. Ceir clipiau sain ar y gwefannau canlynol:
Mae'r dudalen Tich Gwilym: Cyfweliadau yn cynnwys gwybodaeth am yr unigolion a gyfwelwyd wrth baratoi'r dudalen hon.
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfweliad ag Adrian a William John Gwilliam.
- ↑ Cyfweliad â Mike Monk.
- ↑ A Brief History of the Welsh Rugby Union, http://www.wru.wales/eng/thewru/history/brief_history.php [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
- ↑ Adeiladwyd gan ffrind – defnyddir ar 'Tacsi i’r Tywyllwch' ac 'Y Dyn Oedd Yn Hoffi Pornograffi'.
- ↑ I’w weld ar recordiad yn y Royal Oak, Roc ’Rôl Te, HTV, 5/11/1985.
- ↑ Cyfweliad gyda Peredur ap Gwynedd.
- ↑ I’w weld ar recordiad yn y Royal Oak, Roc ’Rôl Te, HTV, 5/11/1985.
Diolchiadau
Dymuna'r awdur ddiolch i: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Y Llyfrgell Genedlaethol a’r Archif Sain, Siân James, Siôn a Gwyn Jones, Geraint Jarman, Adrian Gwilliam a’r teulu, Mike Monk, Stephen Rees, Dewi ‘Pws’ Morris, Heledd ap Gwynfor, Peredur ap Gwynedd, Gari Melville, Eurof Williams, Dafydd Pierce, Gerallt Llewelyn, Pete Hurley a phawb arall a gyfrannodd at y prosiect.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.
- Ceir telerau defnydd pob llun ar dudalen y llun hwnnw (noder y cedwir pob hawl ar rai o'r lluniau).