Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Yr hen benillion"
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Mae’r corff hwn o ganu yn cynnwys penillion ar fesur y [[triban]], yr awdl-gywydd a’r mesur tri thrawiad. Y patrwm mwyaf cyffredin, fodd bynnag, yw’r pennill sy’n cynnwys pedair llinell, ac yn odli ''aabb'', megis yn y pennill cyfarwydd: | Mae’r corff hwn o ganu yn cynnwys penillion ar fesur y [[triban]], yr awdl-gywydd a’r mesur tri thrawiad. Y patrwm mwyaf cyffredin, fodd bynnag, yw’r pennill sy’n cynnwys pedair llinell, ac yn odli ''aabb'', megis yn y pennill cyfarwydd: | ||
− | |||
::Ar lan y môr mae carreg wastad | ::Ar lan y môr mae carreg wastad | ||
Llinell 11: | Llinell 10: | ||
::Ac ambell gangen o rosmari. | ::Ac ambell gangen o rosmari. | ||
− | |||
Bernir bod llawer o’r rhain yn benillion a oedd yn wreiddiol yn rhan o gerddi hwy ond bod y penillion eraill wedi eu colli. Fe’u diogelwyd ar lafar trwy eu canu—esbonia hyn yr enw ‘penillion telyn’—a thrwy eu hadrodd. Maent yn dal yn boblogaidd hyd heddiw. Anodd eu dyddio ond dechreuwyd eu cofnodi yn y llawysgrifau o’r 16g. ymlaen. Mae’r rhan fwyaf yn ddienw ond ceir yn eu plith lawer a luniwyd gan ferched. Diau fod nifer wedi eu llunio trwy efelychu penillion cynharach; egyr sawl un â geiriau megis ‘Mae gennyf …’, ‘Llawer gwaith …’, ‘Tri pheth …’. Lewis Morris yn y 18g. oedd y cyntaf i amgyffred eu hapêl, a dechreuwyd eu casglu o dan ei ddylanwad ef a mudiad eisteddfodol y 19g. Mae dylanwad yr hen benillion i’w weld yn amlwg ar ei gerdd fwyaf adnabyddus ‘Caniad y gog i Feirionnydd’. Defnyddiwyd mesur yr hen bennill ynghyd â’r [[triban]] yn helaeth yn yr anterliwtiau a luniwyd yn ystod y 18g. | Bernir bod llawer o’r rhain yn benillion a oedd yn wreiddiol yn rhan o gerddi hwy ond bod y penillion eraill wedi eu colli. Fe’u diogelwyd ar lafar trwy eu canu—esbonia hyn yr enw ‘penillion telyn’—a thrwy eu hadrodd. Maent yn dal yn boblogaidd hyd heddiw. Anodd eu dyddio ond dechreuwyd eu cofnodi yn y llawysgrifau o’r 16g. ymlaen. Mae’r rhan fwyaf yn ddienw ond ceir yn eu plith lawer a luniwyd gan ferched. Diau fod nifer wedi eu llunio trwy efelychu penillion cynharach; egyr sawl un â geiriau megis ‘Mae gennyf …’, ‘Llawer gwaith …’, ‘Tri pheth …’. Lewis Morris yn y 18g. oedd y cyntaf i amgyffred eu hapêl, a dechreuwyd eu casglu o dan ei ddylanwad ef a mudiad eisteddfodol y 19g. Mae dylanwad yr hen benillion i’w weld yn amlwg ar ei gerdd fwyaf adnabyddus ‘Caniad y gog i Feirionnydd’. Defnyddiwyd mesur yr hen bennill ynghyd â’r [[triban]] yn helaeth yn yr anterliwtiau a luniwyd yn ystod y 18g. |
Diwygiad 15:42, 26 Awst 2016
Mae’r corff hwn o ganu yn cynnwys penillion ar fesur y triban, yr awdl-gywydd a’r mesur tri thrawiad. Y patrwm mwyaf cyffredin, fodd bynnag, yw’r pennill sy’n cynnwys pedair llinell, ac yn odli aabb, megis yn y pennill cyfarwydd:
- Ar lan y môr mae carreg wastad
- Lle bûm yn siarad gair â’m cariad;
- O amgylch hon fe dyf y lili
- Ac ambell gangen o rosmari.
Bernir bod llawer o’r rhain yn benillion a oedd yn wreiddiol yn rhan o gerddi hwy ond bod y penillion eraill wedi eu colli. Fe’u diogelwyd ar lafar trwy eu canu—esbonia hyn yr enw ‘penillion telyn’—a thrwy eu hadrodd. Maent yn dal yn boblogaidd hyd heddiw. Anodd eu dyddio ond dechreuwyd eu cofnodi yn y llawysgrifau o’r 16g. ymlaen. Mae’r rhan fwyaf yn ddienw ond ceir yn eu plith lawer a luniwyd gan ferched. Diau fod nifer wedi eu llunio trwy efelychu penillion cynharach; egyr sawl un â geiriau megis ‘Mae gennyf …’, ‘Llawer gwaith …’, ‘Tri pheth …’. Lewis Morris yn y 18g. oedd y cyntaf i amgyffred eu hapêl, a dechreuwyd eu casglu o dan ei ddylanwad ef a mudiad eisteddfodol y 19g. Mae dylanwad yr hen benillion i’w weld yn amlwg ar ei gerdd fwyaf adnabyddus ‘Caniad y gog i Feirionnydd’. Defnyddiwyd mesur yr hen bennill ynghyd â’r triban yn helaeth yn yr anterliwtiau a luniwyd yn ystod y 18g.
Ond yr oedd eraill wedi gweld addaster y mesur cyn dyddiau Lewis Morris. Lluniwyd corff helaeth o gerddi ar fesur yr hen bennill o’r 16g. ymlaen gan feirdd megis Rhisiart Gwyn, y merthyr Catholig (m. 1584), Richard Hughes o Gefn Llanfair (m. 1618) a Morgan Llwyd, y piwritan (m. 1659). Yr un a gysylltir â’r mesur yn fwy na neb yw’r Ficer Rhys Prichard (m. 1644). Gwnaeth beth mentrus trwy arddel cyfrwng cyfarwydd, ond diurddas ddigon, wrth geisio annog ei blwyfolion yn Llanymddyfri i fyw bywydau bucheddol, ac wrth gyflwyno i’w sylw neges y Beibl.
Cynfael Lake
Llyfryddiaeth
T.H. Parry-Williams (1965) (gol.), Hen Benillion (Llandysul: Gwasg Gomer).
Rhiannon Ifans (1983), Sêrs a Rybana: Astudiaeth o’r Canu Gwasael (Llandysul: Gwasg Gomer).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.