Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Naturiolaeth"
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Daeth Naturiolaeth i’r amlwg tua diwedd y 19g. a dechrau’r 20g. fel estyniad | + | Daeth Naturiolaeth i’r amlwg tua diwedd y 19g. a dechrau’r 20g. fel estyniad ar Realaeth. Yn wahanol i Realaeth, fodd bynnag, rhoddodd awduron Naturiolaidd fwy o bwys ar gymhwyso dulliau gwyddonol i lenyddiaeth, ac yn hynny o beth, roedd y mudiad yn ddrych i dueddiadau a ffenomenâu'r oes, a bu darganfyddiadau gwyddonol a chanfyddiadau chwyldroadol llyfr Charles Darwin, ''On The Origin of Species'' (1859), yn arbennig o ddylanwadol. Nod awduron Naturiolaidd wrth gymhwyso’r dulliau hyn oedd cynnig astudiaeth fanwl, oddrychol a gwrth-ramantaidd o ddyn a hynny mewn ymateb i’r mudiad Rhamantaidd a’i rhagflaenodd. Canolbwyntiodd y Naturiolwyr yn bennaf ar fywyd y dyn cyffredin, dosbarth gweithiol gan ddangos nad oedd ganddo reolaeth dros ei dynged a’i fod yn cael ei lywodraethu gan ffactorau etifeddol ac amgylcheddol. |
Gyda’r nofel y cysylltir Naturiolaeth yn bennaf oherwydd cynigiodd y nofel y gofod angenrheidiol ar gyfer cymhwyso’r manylder gwyddonol i lenyddiaeth. Ymhlith y cyntaf i arbrofi gyda’r arddull hwn oedd y Ffrancwr Émilie Zola yn ei nofel ddylanwadol a dadleuol, ''Thérèse Raquin'' (1868). Yn y nofel cyflwynir cymeriadau a effeithiwyd gan ffactorau etifeddol amgylcheddol a genynnol, sef un o gonglfeini syniadaethol y mudiad hwn. Ond yn ogystal â darganfyddiadau roedd newidiadau economaidd yn sgil y chwyldro diwydiannol hefyd yn cyfrannu at themâu newydd a archwiliwyd yng ngwaith llenorion y mudiad. Yn hynny o beth, gellid dadlau bod i ''Monica'' (1930) gan Saunders Lewis elfennau Naturiolaidd. | Gyda’r nofel y cysylltir Naturiolaeth yn bennaf oherwydd cynigiodd y nofel y gofod angenrheidiol ar gyfer cymhwyso’r manylder gwyddonol i lenyddiaeth. Ymhlith y cyntaf i arbrofi gyda’r arddull hwn oedd y Ffrancwr Émilie Zola yn ei nofel ddylanwadol a dadleuol, ''Thérèse Raquin'' (1868). Yn y nofel cyflwynir cymeriadau a effeithiwyd gan ffactorau etifeddol amgylcheddol a genynnol, sef un o gonglfeini syniadaethol y mudiad hwn. Ond yn ogystal â darganfyddiadau roedd newidiadau economaidd yn sgil y chwyldro diwydiannol hefyd yn cyfrannu at themâu newydd a archwiliwyd yng ngwaith llenorion y mudiad. Yn hynny o beth, gellid dadlau bod i ''Monica'' (1930) gan Saunders Lewis elfennau Naturiolaidd. |
Diwygiad 22:21, 22 Medi 2016
Daeth Naturiolaeth i’r amlwg tua diwedd y 19g. a dechrau’r 20g. fel estyniad ar Realaeth. Yn wahanol i Realaeth, fodd bynnag, rhoddodd awduron Naturiolaidd fwy o bwys ar gymhwyso dulliau gwyddonol i lenyddiaeth, ac yn hynny o beth, roedd y mudiad yn ddrych i dueddiadau a ffenomenâu'r oes, a bu darganfyddiadau gwyddonol a chanfyddiadau chwyldroadol llyfr Charles Darwin, On The Origin of Species (1859), yn arbennig o ddylanwadol. Nod awduron Naturiolaidd wrth gymhwyso’r dulliau hyn oedd cynnig astudiaeth fanwl, oddrychol a gwrth-ramantaidd o ddyn a hynny mewn ymateb i’r mudiad Rhamantaidd a’i rhagflaenodd. Canolbwyntiodd y Naturiolwyr yn bennaf ar fywyd y dyn cyffredin, dosbarth gweithiol gan ddangos nad oedd ganddo reolaeth dros ei dynged a’i fod yn cael ei lywodraethu gan ffactorau etifeddol ac amgylcheddol.
Gyda’r nofel y cysylltir Naturiolaeth yn bennaf oherwydd cynigiodd y nofel y gofod angenrheidiol ar gyfer cymhwyso’r manylder gwyddonol i lenyddiaeth. Ymhlith y cyntaf i arbrofi gyda’r arddull hwn oedd y Ffrancwr Émilie Zola yn ei nofel ddylanwadol a dadleuol, Thérèse Raquin (1868). Yn y nofel cyflwynir cymeriadau a effeithiwyd gan ffactorau etifeddol amgylcheddol a genynnol, sef un o gonglfeini syniadaethol y mudiad hwn. Ond yn ogystal â darganfyddiadau roedd newidiadau economaidd yn sgil y chwyldro diwydiannol hefyd yn cyfrannu at themâu newydd a archwiliwyd yng ngwaith llenorion y mudiad. Yn hynny o beth, gellid dadlau bod i Monica (1930) gan Saunders Lewis elfennau Naturiolaidd.
Nid ar fyd y nofel yn unig y cafodd y mudiad hwn ddylanwad. Roedd dramodwyr hefyd yn credu bod y llwyfan yn cynnig cyfle da i gyflwyno portread realistig o fywyd. Bwriad dramodwyr y mudiad oedd cynnig drych i’r gynulleidfa o fywyd fel yr oedd, a hynny trwy ddefnyddio deialog a oedd yn adlewyrchu iaith bob dydd a gwisgoedd a set realistig. Cymhelliad dramodwyr dros wneud hyn oedd cynnig sioc i’w cynulleidfaoedd dosbarth canol trwy bwysleisio bod pawb yr un mor ddiymadferth, beth bynnag fo’u dosbarth cymdeithasol. Ymhlith y dramâu Naturiolaidd enwocaf y mae Ghosts (1881) gan Henrik Ibsen sy’n cyflwyno nifer o themâu a oedd yn ddadleuol a chwyldroadol ar y pryd.
Wrth gwrs, roedd i’r gwrthrychedd hwn ei gyfyngiadau. Roedd defnyddio set mor realistig a chynnal y gwrthrychedd arddullegol, a hynny ar draul plot a chymeriadau gafaelgar yn amhosibl. O ganlyniad i hynny pylu a wnaeth Naturiolaeth.
Hannah Sams
Llyfryddiaeth
Furst, L. R. a Skrine, P.N. (1971) Naturalism, cyfres ‘The Critical Idiom’ (London: Methuen & Co Ltd).
Pizer, D. (1976), Realism and Naturalism in Nineteenth-Century American Literature (New York: Russell & Russell), tt. 4-11.
Styan, J. L. (2007), Y Ddrama Gyfoes: Damcaniaethau ac Arferion: Realaeth a Naturiolaeth, cyf. Annes Glyn (Llandysul: Gwasg Gomer), tt. 1-13.