Awdl-gywydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar WICI
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Mesur cwpledol fel y cywydd deuair hirion yw’r awdl-gywydd, gyda phob cwpled yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywy...' |
Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 18: | Llinell 18: | ||
'''Alan Llwyd''' | '''Alan Llwyd''' | ||
Llyfryddiaeth | ==Llyfryddiaeth== | ||
Johnston, D. (1995), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | Johnston, D. (1995), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | ||
| Llinell 25: | Llinell 25: | ||
Morris-Jones, J. (1925), ''Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg'' (Rhydychen: Gwasg Clarendon). | Morris-Jones, J. (1925), ''Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg'' (Rhydychen: Gwasg Clarendon). | ||
{{CC BY-SA}} | |||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | |||
Fersiwn yn ôl 20:58, 19 Hydref 2016
__NOAUTOLINKS__ Mesur cwpledol fel y cywydd deuair hirion yw’r awdl-gywydd, gyda phob cwpled yn cynnwys dwy linell seithsill, ond, yn wahanol i’r cywydd, gall y llinellau ddiweddu’n acennog neu’n ddiacen. Yn ogystal, y mae diwedd y llinell gyntaf yn odli â gorffwysfa’r ail linell, a diwedd yr ail linell yn cynnal y brifodl. Dyma linellau agoriadol ‘Awdl-gywydd i Ddewi Sant’ gan Lewys Glyn Cothi:
- Mae ’mhwys, mewn crwys, lle croesant,
- ar un sant o’r ynys hon,
- Dewi gâr, lle dug urael,
- Dogwael o Geredigion,
- ac ŵyr ydiw i Geredig
- a drig ymyl dŵr eigion ...
Alan Llwyd
Llyfryddiaeth
Johnston, D. (1995), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).
Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.