Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffugenw"
(Dadwneud y golygiad 2276 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)) |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | Enwau dychmygol neu enwau benthyg a fabwysiedir gan lenorion ac eraill ym myd y celfyddydau, un ai’n barhaol neu dros dro. Yn Saesneg mae ''pen-name'' yn bras gyfateb i ‘enw barddol’, a ''pseudonym'' yn bras-gyfateb i ‘ffugenw’. Benthyciodd y Saesneg hefyd ''nom de plume''; dywed arbenigwyr mai ffug-Ffrangeg yw hwn; ond bod ''nom de guerre'' yn Ffrangeg dilys am ffugenw awdur polemig neu ddadleuol. | + | Enwau dychmygol neu enwau benthyg a fabwysiedir gan lenorion ac eraill ym myd y celfyddydau, un ai’n barhaol neu dros dro. Yn Saesneg mae ''pen-name'' yn bras gyfateb i ‘enw barddol’, a ''pseudonym'' yn bras-gyfateb i ‘ffugenw’. Benthyciodd y Saesneg hefyd ''nom de plume''; dywed arbenigwyr mai ffug-Ffrangeg yw hwn; ond bod ''nom de guerre'' yn Ffrangeg dilys am ffugenw awdur polemig neu ddadleuol. |
− | Dyma ddarn sgwrs rhwng | + | Dyma ddarn sgwrs rhwng [[Dafydd]] a’r Dyn Bara yn nrama W. S. Jones, ''[[Dafydd]] y Garreg'': |
::BARA: Carrag Sion Llwyd. Oedd ’na ddim rwbath du hefyd dwch? | ::BARA: Carrag Sion Llwyd. Oedd ’na ddim rwbath du hefyd dwch? |
Diwygiad 10:40, 7 Chwefror 2018
Enwau dychmygol neu enwau benthyg a fabwysiedir gan lenorion ac eraill ym myd y celfyddydau, un ai’n barhaol neu dros dro. Yn Saesneg mae pen-name yn bras gyfateb i ‘enw barddol’, a pseudonym yn bras-gyfateb i ‘ffugenw’. Benthyciodd y Saesneg hefyd nom de plume; dywed arbenigwyr mai ffug-Ffrangeg yw hwn; ond bod nom de guerre yn Ffrangeg dilys am ffugenw awdur polemig neu ddadleuol.
Dyma ddarn sgwrs rhwng Dafydd a’r Dyn Bara yn nrama W. S. Jones, Dafydd y Garreg:
- BARA: Carrag Sion Llwyd. Oedd ’na ddim rwbath du hefyd dwch?
- DAFYDD: Oes, mae nhw bob lliwia.
Digon gwir. Du, llwyd, coch a gwyn yw’r lliwiau mwyaf cyffredin, gydag ambell un gwahanol fel Siôn Dafydd Las. Daeth enw + lliw + bro yn fformiwla ddefnyddiol (Dafydd Ddu Eryri, Dewi Wyn o Eifion), gydag ambell gynsail o’r oes cyn bod ffugenwau, fel Dafydd Llwyd o Fathafarn neu Rhys Goch Eryri. Gwelwyd mewnosod enw’r fro rhwng dau enw bob-dydd, a hwnnw wedyn yn dod yn enw mwyaf cyfarwydd y bardd (John Hughes – John Ceiriog Hughes – Ceiriog). Hoff gan y beirdd hefyd atgyfodi, megis ynddynt eu hunain, ryw fardd neu arwr o’r gorffennol (Cynddelw, Gwalchmai, Cynan, Taliesin o Eifion). Weithiau dychwelir i’r byd Clasurol (Brutus, Anthropos, Eta Delta). Ceir y terfyniad Mabinogaidd -on (Alafon, Gwyneddon, Tegidon). Eid yn ‘Eos y Fan-a’r fan’ neu’n ‘Alaw Rhywbeth-neu’i-gilydd’. Ac yr oedd posibiliadau eraill ddigon, fel y gwelir o edrych rhestr y ‘Ffugenwau, etc’ yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940.
Creadigaeth y 18g. yw’r ffugenw Cymraeg, fel cynifer o bethau eraill yn ein diwylliant. Yn achlysurol yr âi Goronwy Owen a Lewis Morris yn ‘Llywelyn Ddu o Fôn’ a ‘Goronwy Ddu o Fôn’. Aeth Evan Evans yn ‘Ieuan Fardd’, yn ogystal â derbyn gan y Morrisiaid ei lasenw, ‘Ieuan Brydydd Hir’. Bu Edward Williams yn ‘Iorwerth Gwilym’ a ‘Iorwerth Morganwg’ cyn setlo ar ‘Iolo Morganwg’. Cenhedlaeth Iolo, plant y 1740au, a’r rhai a ddaeth i’w haeddfedrwydd gyda sefydlu cymdeithas y Gwyneddigion yn 1770, oedd y llenorion Cymraeg cyntaf i fabwysiadu’r enw barddol yn brif enw, ac yn lle’r enw bedyddiedig. Digwyddodd hynny oherwydd cyfuniad o ffactorau, yn cynnwys ailgychwyn yr Eisteddfod a sefydlu Gorsedd y Beirdd, a’r un pryd sefydlogi’r cyfenwau Saesneg ystrydebol, anniddorol. Yr oedd cymryd ffugenw yn drwydded i fyd amgen Cymraeg, cyfochrog â’r byd bob-dydd, fel bod John Jones, erbyn tua chanol Oes Victoria, wrth fynd yn ‘John Aelod Jones’ yn sicrhau ei gyfaill Walter na wna dyn ddim ohoni ym myd llên heb ffugenw.
Mae’r enw barddol gyda ni o hyd, ac wrth reswm mae gan bawb ei enw yng Ngorsedd – hyd yn oed os yw’n union yr un peth â’i enw bedyddiedig. Ond daeth oes yr ‘enwau barddol mawr’, sef y cyfnod yr oedd enw barddol yn brif enw ar lenorion cenedlaethol, amlwg, i ben gyda marw Gwenallt (1968) a Chynan (1970). Dyna ddau gan mlynedd union oddi ar sefydlu’r Gwyneddigion. Temtasiwn yw gofyn, ai dyna’r ddau gan mlynedd pryd y gallai’r beirdd a’r llenorion gredu fod bywyd amgen, Cymraeg yn bosibl (ond ei warchod) ochr yn ochr â’r bywyd swyddogol, Saesneg? Ai dyna’r ddau gan mlynedd y parhaodd gwaddol deffroadau’r ddeunawfed ganrif yn fyw a chynhyrchiol?
Dynion, gan mwyaf, fu’n mynnu ffugenwau. Ond mae i Wenynen Gwent, Cranogwen, Moelona, Mam o Nedd a merched nodedig eraill eu rhan yn yr hanes.
Mae dosbarth arbennig o enwau mabwysiedig nad ydynt yn swnio’n ‘farddol’ o gwbl. Aeth Annie Harriet Hughes yn ‘Gwyneth Vaughan’ a Louie Myfanwy Thomas yn 'Jane Ann Jones'. Bu D. Tecwyn Lloyd yn ‘E. H. Francis Thomas’ at un pwrpas penodol, ysgrifennu ei straeon ysbryd. Cyhoeddodd Selyf Roberts un nofel dan enw ‘Eirwen Mathews’. Fel dramodydd bu Mathew Williams yn ‘Ieuan Griffiths’. Gwyddai pawb mai John Roberts Williams oedd ‘John Aelod Jones’ pan ailymddangosodd y cymeriad hwnnw yn y wasg Gymraeg. ‘Meirion Jones’ oedd biau cyfresi cynharaf ‘SOS Galw Gari Tryfan’, ond dychwelodd ef at ei enw iawn, Idwal Jones.
Peth braidd yn wahanol yw’r ffugenw a gymerir am y tro ac at bwrpas cystadleuaeth, mewn gobaith o glywed cyhoeddi ‘enw’r bardd buddugol yw ...’. Anfarwolwyd ambell un o’r ffugenwau hyn un ai oherwydd arbenigrwydd y gwaith neu’r achlysur (Tir na nÓg, Llion, Fleur de Lys) neu oherwydd natur ddadleuol yr achos (Alwyn Arab, Alastor, Dedalus, Efnisien, Ianws).
Ni bu llawer o ffugenwau ymhlith llenorion Saesneg Cymru. Eithriadau yn profi’r rheol yw ‘Orinda’ (Katherine Phillips) ac ‘Owen Rhoscomyl’ (Robert Scourfield Milne). Ond ledled y byd bu tipyn o fynd ar y ffugenw. Er nad oes Gorsedd Beirdd yn Hollywood, ceir yno ddigonedd o ‘enwau barddol’ – Richard Burton, John Wayne, Doris Day, Marilyn Monroe, Clark Gable a llawer, llawer eraill. Ffugenwau llenyddol mawr o’r 20g. yw ‘George Orwell’ (Eric Blair) a ‘Hugh MacDiarmid’ (Christopher Murray Grieve). Am ddau o’r enwau barddol enwocaf erioed trown i Ffrainc, at François-Marie Arouet – ‘Voltaire’, a Jean-Baptiste Poquelin – ‘Molière’.
Dafydd Glyn Jones
Llyfryddiaeth
Davies, M. B. (1953), ‘Mynegai A – Ffugenwau, etc’, Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion), t. 1067.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.