|
|
Llinell 1: |
Llinell 1: |
− | (1934-92)
| |
| | | |
− | Un o brif gyfansoddwyr Cymru yn ail hanner yr 20g. ac un o’r ychydig i ennill bri rhyngwladol. Roedd yn frodor o Hendy-gwyn ar Daf a dechreuodd chwarae’r piano yn dair oed a chyfansoddi yn bump. Nid oedd cyfl e i astudio cerddoriaeth yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn (lle’r oedd ei dad yn athro hanes) ond cafodd wersi piano gan David Lloyd Phillips yn Llanfyrnach.
| |
− |
| |
− | Aeth William Mathias i Goleg Prifysgol Aberystwyth yn 1952 gan raddio yn 1956 ac yna aeth i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain am dair blynedd i astudio gyda’r cyfansoddwr Lennox Berkeley (1903–89). Fe’i penodwyd yn ddarlithydd cerdd ym Mangor yn 1959 cyn iddo symud am gyfnod i Brifysgol Caeredin yn 1968. Dychwelodd i Fangor yn Athro cerdd yn 1970 gan ymddeol i ganolbwyntio ar gyfansoddi yn 1987. Yn 1972 sefydlodd Ŵyl Gerdd Gogledd Cymru yn Llanelwy gan ei rhedeg tan ei farwolaeth annhymig yn 1992. Fel aelod dylanwadol o Gyngor Celfyddydau Cymru a nifer o bwyllgorau eraill bu’n ffigwr allweddol ym mywyd cerddorol Cymru yn gyffredinol a chafodd ei urddo’n CBE yn 1985.
| |
− |
| |
− | Cyfansoddodd Mathias yn helaeth cyn mynd i’r coleg a chyfaddefodd ei fod yn ‘hunanddysgedig cyn hynny ac wedyn hefyd i bob pwrpas’. Mae’r dylanwadau cynnar arno yn deillio’n amlwg o waith cyfansoddwyr Seisnig y cyfnod megis William Walton a Benjamin Britten, a dengys hefyd ymwybyddiaeth o feistri cyfandirol fel Bela Bartók a Paul Hindemith. Ond mae’r [[acen]] bersonol yn amlwg hefyd yn y gweithiau cydnabyddedig cyntaf fel y Concerto Piano Rhif 1 a’r Sonatina Clarinet. Yn Llundain aeth trwy gyfnod byr o arbrofi gyda chyfresiaeth ond buan y penderfynodd mai mewn iaith gyweiriol yr oedd ei reddf hanfodol ac erbyn y Divertimento i Linynnau a’r Darnau Byrfyfyr i’r delyn mae ei hunaniaeth arddulliol yn amlwg.
| |
− |
| |
− | Dywedodd mai sefydlu techneg offerynnol a cherddorfaol gadarn oedd ei uchelgais gyntaf gan fod hyn yn brin yn y traddodiad amatur lleisiol yng Nghymru. Fel ei gyfoeswr Alun Hoddinott daeth y mwyafrif o’i lwyddiannau offerynnol cynnar yn Lloegr ac fel yntau roedd ennill cytundeb cyhoeddi fel cyfansoddwr ‘preswyl’ i Wasg Prifysgol Rhydychen yn gaffaeliad arbennig gan ei sefydlu yn un o enwau disgleiriaf ei genhedlaeth.
| |
− |
| |
− | Fel Hoddinott hefyd sefydlodd Mathias berthynas werthfawr gyda Gŵyl Llandaf, a oedd, o dan gyfarwyddyd goleuedig Christopher Cory, yn comisiynu cyfansoddwyr Cymreig yn gyson. Wedi’r Ail Concerto Piano yn 1961 cafodd Mathias lwyddiant nodedig yno gyda ''St Teilo'' yn 1963, gwaith corawl ac iddo elfen o lwyfannu sy’n amlygu dawn arbennig i gyfathrebu ar gynfas eang. Yn seiliedig ar yr emyndôn hynafol ‘Braint’, mae Mathias yma yn arddel ei dreftadaeth Gymreig mewn modd anghyffredin ar y pryd. Erbyn hyn hefyd roedd wedi ennill bri fel cyfansoddwr corawl i’r Eglwys Anglicanaidd a hefyd am nifer o weithiau poblogaidd i’r organ megis yr ''Amrywiadau ar Emyn-dôn Gymreig''.
| |
− |
| |
− | Yn ystod y cyfnod hwn daeth dylanwad Michael Tippett i’r amlwg, yn enwedig y bydysawd sŵn sy’n perthyn i opera gyntaf Tippett, ''The Midsummer Marriage'' (1946–52), opera a welwyd gan Mathias yn ystod ei gyfnod yn Llundain yn 1957. Mae elfen Geltaidd gref yn perthyn i’r opera a dyma’r tirlun a ddefnyddiwyd gan Mathias i greu naws o ddefod a chyfriniaeth mewn gweithiau cerddorfaol fel y Symffoni Gyntaf yn 1966. Daw hyn i benllanw yn y ''Dawnsiau Celtaidd'' a gyfansoddwyd i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 1972.
| |
− |
| |
− | Yn 1974 daeth perfformiad cyntaf y gantata ''This Worlde’s Joie'' yng Ngŵyl Abergwaun â sylw arbennig i Mathias ac yn sgil perfformiad a recordiad yn Llundain daeth yn ffefryn gan gymdeithasau corawl ledled Prydain. Yn 1974 hefyd digwyddodd y cyfansoddwr glywed [[drama]] radio gan Iris Murdoch, ''The Servants and the Snow'', a ddaeth yn sylfaen i’r opera a gomisiynwyd gan Opera Cenedlaethol Cymru i’w pherfformio yn ystod tymor 1980. Mae’r awyrgylch tywyll, ond gloyw hefyd, sy’n gefndir i’r opera yn cyniwair yn yr un modd y tu cefn i’r gweithiau a gyfansoddwyd tra bu’n saernïo’r [[libreto]], rhai megis ''Vistas'', ''Helios'' a ''Requiescat'' i gerddorfa. Mae’r dylanwad yn gryf yn ogystal ar nifer o’r darnau a ddilynodd, fel yr Ail Symffoni, ''Lux aeterna'' a’r Concerto Organ i Gillian Weir.
| |
− |
| |
− | Ond ni bu derbyniad beirniadol ffafriol i opera ''The Servants'' er cymaint y mwynhad a fynegwyd gan gynulleidfaoedd, a chafodd hynny effaith ddwys ar Mathias. Cafodd hwb arbennig felly yn 1981 pan dderbyniodd wahoddiad i gyfansoddi anthem ar gyfer gwasanaeth priodas Tywysog Cymru yng Nghadeirlan St. Paul. Roedd ''Let the People Praise Thee, O God'' yn hollol nodweddiadol o [[arddull]] fachog Mathias ac yn gweddu’n berffaith i’r achlysur. Yn sgil y llwyddiant hwn daeth gwahoddiadau lu am anthemau amrywiol a galwadau cyson i’r cyfansoddwr ymweld ag amrywiol wledydd, yr Unol Daleithiau yn enwedig.
| |
− |
| |
− | Nid fel elfen achlysurol yr ystyriai Mathias ei gyfraniad i gerddoriaeth yr eglwys a chyfeiriai’n aml at ei athroniaeth gynhwysol a oedd yn gweld undod di-syfl rhwng y byd a’r betws, y sanctaidd a’r seciwlar. Daeth hyn yn amlwg yn ei weithiau diweddaraf gan gyrraedd uchafbwynt yn y symffoni-gorawl ''World’s Fire'' sy’n osodiad o eiriau Gerard Manley Hopkins i ddathlu canmlwyddiant marw’r bardd yn 1989. Dyma waith athrylithgar a agorodd borth at y gweithiau olaf meistrolgar a ddaeth cyn ei farw: y Drydedd Symffoni, y Concerto Feiolin i Gyorgy Pauk ac ''In [[Arcadia]]''.
| |
− |
| |
− | Erbyn cyfansoddi’r gweithiau hyn roedd Mathias yn deall bod ei amser yn prinhau ond cafodd fodlonrwydd wrth ymroi i greu synthesis ieithyddol sy’n cyfuno elfennau gwrthgyferbyniol mewn ysbryd agored. Gellir deall hyn yn awr fel cam blaengar tuag at estheteg newydd sydd bellach yn ffynnu’n rhyngwladol yn hytrach na’r dianc ceidwadol i’r gorffennol a fu’n sail gyson i feirniadaeth ar ei waith o’r 1960au ymlaen. Roedd ymwybyddiaeth gynnar y cyfansoddwr o ddylanwad ac o bosibiliadau jazz mewn iaith ‘glasurol’ yn perthyn i’r blaengarwch yn ei gymeriad ac yn elfen hollol newydd yng ngherddoriaeth Cymru.
| |
− |
| |
− | Roedd Mathias yn hapus i arddel ei Gymreictod cerddorol ac o’r 1960au ymlaen fe geisiodd droi at y traddodiad barddol cynnar i greu cysylltiad celfyddydol ar draws y canrifoedd a oedd yn camu dros y cyfnodau hesb hynny pan na allai Cymru gymharu’n gerddorol â chyfandir Ewrop. Yn y Concerto Telyn i Osian Ellis yn 1970 a’r ''Elegy for a Prince'' i Geraint Evans yn 1972, mae’n creu cywaith eithriadol sy’n cyfannu elfennau o’r gorffennol gan arwain hefyd at ddyfodol egnïol a gobeithiol. Sefydlwyd Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon yn 2002 sy’n gofeb fyw i gerddor aruthrol.
| |
− |
| |
− | '''Geraint Lewis'''
| |
− |
| |
− | ==Llyfryddiaeth==
| |
− |
| |
− | I. Parrott, ‘The Music of William Mathias’, ''Anglo-Welsh Review'', xiv (1964), 74–8
| |
− |
| |
− | M. Boyd, ''William Mathias'' ([[Caerdydd]], 1978)
| |
− |
| |
− | E. Forbes, ‘The Choral Music of William Mathias’, ''American Choral Review'', xxi/4 (1979)
| |
− |
| |
− | G. Lewis, ‘Mathias: Towards the Second Symphony’, ''Musical Times'', cxxv (1984), 629–31
| |
− |
| |
− | ———, ‘Mathias’s Organ Concerto’, ''Musical Times'', cxxvii (1986), 107–8
| |
− |
| |
− | ———, ‘Éloge and Elegy: Two New Works by William Mathias’, ''Musical Times'', cxxxiii (1992), 18–20
| |
− |
| |
− | J. E. Andrews, ‘The Vocal Works of William Mathias’, ''The Diapason'', lxxxiv/9 (1993), 16–17
| |
− |
| |
− | B. L. Leach, ‘The Organ Works of William Mathias’, ''The Diapason'', lxxiv/10 (1993), 14–15
| |
− |
| |
− | J. E. McCray, ‘The Choral Music of William Mathias’, ''The Diapason'', lxxxiv/9 (1993), 14–15
| |
− |
| |
− | ''William Mathias 1934–1992'', National Library of Wales, 1 Nov–31 Dec 1994 (Aberystwyth, 1994) [catalog arddangos]
| |
− |
| |
− | S. R. Craggs, ''William Mathias: a Bio-Bibliography'' (Westport, CT, 1995)
| |