Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Torfoli"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' Saesneg: ''Crowdsourcing'' Mentrau llawr gwlad neu fentrau sy’n cael eu harwain gan berson, lle y mae unigolion yn cael eu hannog i gasglu a rhannu g...') |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | |||
Saesneg: ''Crowdsourcing'' | Saesneg: ''Crowdsourcing'' | ||
− | |||
Mentrau llawr gwlad neu fentrau sy’n cael eu harwain gan berson, lle y mae unigolion yn cael eu hannog i gasglu a rhannu gwybodaeth er mwyn cynhyrchu adroddiadau trylwyr a chynhwysfawr. Bu sefydliadau [[newyddion]] yn hir ddibynnol ar gymorth gan y cyhoedd i weithredu fel ffynonellau a rhannu’r baich o gasglu gwybodaeth, yn enwedig pan fo [[stori]] bwysig yn torri, neu i gofnodi record amgylcheddol cwmni penodol er enghraifft, neu gadw golwg ar ymgyrch etholiadol gwleidydd. | Mentrau llawr gwlad neu fentrau sy’n cael eu harwain gan berson, lle y mae unigolion yn cael eu hannog i gasglu a rhannu gwybodaeth er mwyn cynhyrchu adroddiadau trylwyr a chynhwysfawr. Bu sefydliadau [[newyddion]] yn hir ddibynnol ar gymorth gan y cyhoedd i weithredu fel ffynonellau a rhannu’r baich o gasglu gwybodaeth, yn enwedig pan fo [[stori]] bwysig yn torri, neu i gofnodi record amgylcheddol cwmni penodol er enghraifft, neu gadw golwg ar ymgyrch etholiadol gwleidydd. | ||
Llinell 7: | Llinell 5: | ||
Jeff Howe oedd y cyntaf i ddefnyddio’r term ‘''crowdsourcing''’ mewn erthygl yng nghylchgrawn ''Wired'' (2006). Roedd ‘''crowdsourcing''’ yn cyfeirio at y mudiad meddalwedd cod agored (lle y mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu cod rhaglenni i brosiect cydweithredol), ''Wikipedia'' (gwyddoniadur ar-lein sy’n cynnwys cofnodion a ysgrifennwyd gan ddefnyddwyr) a gwefannau megis ''eBay'' a ''MySpace''. | Jeff Howe oedd y cyntaf i ddefnyddio’r term ‘''crowdsourcing''’ mewn erthygl yng nghylchgrawn ''Wired'' (2006). Roedd ‘''crowdsourcing''’ yn cyfeirio at y mudiad meddalwedd cod agored (lle y mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu cod rhaglenni i brosiect cydweithredol), ''Wikipedia'' (gwyddoniadur ar-lein sy’n cynnwys cofnodion a ysgrifennwyd gan ddefnyddwyr) a gwefannau megis ''eBay'' a ''MySpace''. | ||
− | Mae rhai sefydliadau newyddion yn dibynnu ar ffynonellau torfol er mwyn prosesu setiau mawr o ddata, oherwydd pan ryddheir cofnodion swyddogol helaeth i’r cyhoedd, mae’r gwaith o archwilio’r rhain ar eu pennau eu hunain yn gallu bod yn heriol dros ben i newyddiadurwyr. Trwy gymorth defnyddwyr ei gwefan newyddion, gall miloedd o wirfoddolwyr ddarllen y set o ddata gan nodi manylion a allai o bosibl fod o ddiddordeb newyddiadurol i’r sefydliad. | + | Mae rhai sefydliadau [[newyddion]] yn dibynnu ar ffynonellau torfol er mwyn prosesu setiau mawr o ddata, oherwydd pan ryddheir cofnodion swyddogol helaeth i’r cyhoedd, mae’r gwaith o archwilio’r rhain ar eu pennau eu hunain yn gallu bod yn heriol dros ben i newyddiadurwyr. Trwy gymorth defnyddwyr ei gwefan newyddion, gall miloedd o wirfoddolwyr ddarllen y set o ddata gan nodi manylion a allai o bosibl fod o ddiddordeb newyddiadurol i’r sefydliad. |
− | |||
− | + | ==Llyfryddiaeth== | |
Howe, J. 2006. The rise of crowdsourcing, ''Wired.'' 14 Mehefin, tt. 1–4. | Howe, J. 2006. The rise of crowdsourcing, ''Wired.'' 14 Mehefin, tt. 1–4. | ||
− | |||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Newyddiaduraeth]] | [[Categori:Newyddiaduraeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 12:49, 19 Chwefror 2019
Saesneg: Crowdsourcing
Mentrau llawr gwlad neu fentrau sy’n cael eu harwain gan berson, lle y mae unigolion yn cael eu hannog i gasglu a rhannu gwybodaeth er mwyn cynhyrchu adroddiadau trylwyr a chynhwysfawr. Bu sefydliadau newyddion yn hir ddibynnol ar gymorth gan y cyhoedd i weithredu fel ffynonellau a rhannu’r baich o gasglu gwybodaeth, yn enwedig pan fo stori bwysig yn torri, neu i gofnodi record amgylcheddol cwmni penodol er enghraifft, neu gadw golwg ar ymgyrch etholiadol gwleidydd.
Jeff Howe oedd y cyntaf i ddefnyddio’r term ‘crowdsourcing’ mewn erthygl yng nghylchgrawn Wired (2006). Roedd ‘crowdsourcing’ yn cyfeirio at y mudiad meddalwedd cod agored (lle y mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu cod rhaglenni i brosiect cydweithredol), Wikipedia (gwyddoniadur ar-lein sy’n cynnwys cofnodion a ysgrifennwyd gan ddefnyddwyr) a gwefannau megis eBay a MySpace.
Mae rhai sefydliadau newyddion yn dibynnu ar ffynonellau torfol er mwyn prosesu setiau mawr o ddata, oherwydd pan ryddheir cofnodion swyddogol helaeth i’r cyhoedd, mae’r gwaith o archwilio’r rhain ar eu pennau eu hunain yn gallu bod yn heriol dros ben i newyddiadurwyr. Trwy gymorth defnyddwyr ei gwefan newyddion, gall miloedd o wirfoddolwyr ddarllen y set o ddata gan nodi manylion a allai o bosibl fod o ddiddordeb newyddiadurol i’r sefydliad.
Llyfryddiaeth
Howe, J. 2006. The rise of crowdsourcing, Wired. 14 Mehefin, tt. 1–4.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.