Glerorfa, Y: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
CadiW (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...'
 
CadiW (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''

Llinell 8: Llinell 7:
Nid oedd bwriad pendant ar y pryd i ddatblygu’r syniad o gerddorfa werin ymhellach. Ond roedd y brwdfrydedd a’r cyffro a grëwyd ar y noson yn golygu na ellid osgoi hynny. Penodwyd Stephen Rees a Robin Huw Bowen yn gyfarwyddwyr cerdd ac [[Arfon Gwilym]] a [[Sioned Webb]] yn swyddogion gweinyddol, ac aed ati o ddifri i drefnu ymarferion mewn canolfannau a oedd yn ganolog i aelodau o’r de a’r gogledd.

Perfformiodd Y Glerorfa yn agoriad swyddogol Canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau, yn 2007, ond 2008 a 2009 oedd y ddwy flynedd brysuraf. Ar ôl perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau yng Ngorffennaf 2008, Y Glerorfa oedd un o’r prif enwau fis yn ddiweddarach yng [[ngŵyl]] werin ryng-Geltaidd Lorient, Llydaw. Yn 2009 bu cyngherddau yng Nghaerdydd (Canolfan y Mileniwm), Bangor, Caernarfon, Corwen, y Bala (cyngerdd agoriadol yr [[Eisteddfod]] Genedlaethol) a’r eilwaith ym Mangor (cyfeilio i Gôr Seiriol yng Nghyngerdd Cyhoeddi’r Ŵyl [[Cerdd Dant]]). Dyna’r flwyddyn hefyd y gwnaed recordiad byw o gyngerdd yn Galeri, Caernarfon, a’i ryddhau fel cryno-ddisg ar label Sain (Sain, 2009). ‘Dyma’r cam mwyaf ymlaen i gerddoriaeth draddodiadol ers can mlynedd,’ meddai un o swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd.
Perfformiodd Y Glerorfa yn agoriad swyddogol Canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau, yn 2007, ond 2008 a 2009 oedd y ddwy flynedd brysuraf. Ar ôl [[perfformio]] yn Sesiwn Fawr Dolgellau yng Ngorffennaf 2008, Y Glerorfa oedd un o’r prif enwau fis yn ddiweddarach yng [[ngŵyl]] werin ryng-Geltaidd Lorient, Llydaw. Yn 2009 bu cyngherddau yng Nghaerdydd (Canolfan y Mileniwm), Bangor, Caernarfon, Corwen, y Bala (cyngerdd agoriadol yr [[Eisteddfod]] Genedlaethol) a’r eilwaith ym Mangor (cyfeilio i Gôr Seiriol yng Nghyngerdd Cyhoeddi’r Ŵyl [[Cerdd Dant]]). Dyna’r flwyddyn hefyd y gwnaed recordiad byw o gyngerdd yn Galeri, Caernarfon, a’i ryddhau fel cryno-ddisg ar label Sain (Sain, 2009). ‘Dyma’r cam mwyaf ymlaen i gerddoriaeth draddodiadol ers can mlynedd,’ meddai un o swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd.

Y nifer mwyaf a berfformiodd mewn unrhyw gyngerdd oedd 60. Ond wrth i nifer yr aelodau gynyddu’n gyson bu’n rhaid wynebu problemau strategol ynghylch y modd o gynnal gweithgarwch o’r fath yn y tymor hir, sef dwyn ynghyd gerddorion amatur o bob rhan o Gymru ar y naill law, ac ar yr un pryd gynnal y gweithdai ymarferol a oedd yn sail i’r cyfan. Trafodwyd yr angen am gyllid i gynnal trefnydd rhan-amser, a thrafodwyd rhannu’r Glerorfa yn ddwy, de a gogledd, am gyfran o’r flwyddyn. Ni lwyddwyd i ganfod atebion boddhaol i’r cwestiynau hyn.

Yn 2011 ymddeolodd Stephen Rees fel cyfarwyddwr cerdd ac Arfon Gwilym fel trefnydd. Penodwyd Robin Huw Bowen a Gwenno Roberts yn gyfarwyddwyr cerdd a Siwan Evans yn drefnydd. Yn hytrach nag ymarferion un diwrnod fel cynt, datblygwyd penwythnosau preswyl, a hyd at 2016 bu perfformiadau ym Mhwllheli, Harlech, Bethesda, Rhuthun, yr Wyddgrug (Gŵyl Tegeingl), Dolgellau, Caergybi a’r Bermo.
Yn 2011 ymddeolodd Stephen Rees fel cyfarwyddwr cerdd ac Arfon Gwilym fel trefnydd. Penodwyd Robin Huw Bowen a Gwenno Roberts yn gyfarwyddwyr cerdd a [[Siwan]] Evans yn drefnydd. Yn hytrach nag ymarferion un diwrnod fel cynt, datblygwyd penwythnosau preswyl, a hyd at 2016 bu perfformiadau ym Mhwllheli, Harlech, Bethesda, Rhuthun, yr Wyddgrug (Gŵyl Tegeingl), Dolgellau, Caergybi a’r Bermo.

'''Arfon Gwilym'''
'''Arfon Gwilym'''

Fersiwn yn ôl 17:36, 7 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Adlewyrchiad o’r diddordeb newydd yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru oedd ffurfio Y Glerorfa ar gyfer cyngerdd yn Galeri, Caernarfon, yn Nhachwedd 2006. Cyngerdd oedd hwn i nodi pen-blwydd Clera, y gymdeithas offerynnau traddodiadol, yn ddeg oed. Roedd Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn westeion arbennig.

Mae’r enw Clerorfa yn gyfuniad o’r gair ‘cerddorfa’ ac enw’r mudiad, Clera. Roedd pedwar o arweinwyr Clera yn gyd-gyfrifol am y gwahanol ‘setiau’ a gyflwynwyd y noson honno: Huw Roberts, Stephen Rees, Robin Huw Bowen a Jeff Hughes. Nifer yr aelodau y noson honno oedd 39, yn ffidlwyr, telynorion, ffliwtwyr a chwaraewyr pibgorn a phibau. Roedd y mwyafrif o’r aelodau yn gynnyrch y gweithdai undydd y bu Clera yn eu cynnal yn gyson mewn gwahanol rannau o’r wlad dros y blynyddoedd blaenorol. Nod y noson oedd cyflwyno gwahanol agweddau ar draddodiad gwerin Cymru – canu gwerin, dawnsio gwerin, ond yn bennaf cerddoriaeth offerynnol.

Nid oedd bwriad pendant ar y pryd i ddatblygu’r syniad o gerddorfa werin ymhellach. Ond roedd y brwdfrydedd a’r cyffro a grëwyd ar y noson yn golygu na ellid osgoi hynny. Penodwyd Stephen Rees a Robin Huw Bowen yn gyfarwyddwyr cerdd ac Arfon Gwilym a Sioned Webb yn swyddogion gweinyddol, ac aed ati o ddifri i drefnu ymarferion mewn canolfannau a oedd yn ganolog i aelodau o’r de a’r gogledd.

Perfformiodd Y Glerorfa yn agoriad swyddogol Canolfan Tŷ Siamas, Dolgellau, yn 2007, ond 2008 a 2009 oedd y ddwy flynedd brysuraf. Ar ôl perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau yng Ngorffennaf 2008, Y Glerorfa oedd un o’r prif enwau fis yn ddiweddarach yng ngŵyl werin ryng-Geltaidd Lorient, Llydaw. Yn 2009 bu cyngherddau yng Nghaerdydd (Canolfan y Mileniwm), Bangor, Caernarfon, Corwen, y Bala (cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol) a’r eilwaith ym Mangor (cyfeilio i Gôr Seiriol yng Nghyngerdd Cyhoeddi’r Ŵyl Cerdd Dant). Dyna’r flwyddyn hefyd y gwnaed recordiad byw o gyngerdd yn Galeri, Caernarfon, a’i ryddhau fel cryno-ddisg ar label Sain (Sain, 2009). ‘Dyma’r cam mwyaf ymlaen i gerddoriaeth draddodiadol ers can mlynedd,’ meddai un o swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd.

Y nifer mwyaf a berfformiodd mewn unrhyw gyngerdd oedd 60. Ond wrth i nifer yr aelodau gynyddu’n gyson bu’n rhaid wynebu problemau strategol ynghylch y modd o gynnal gweithgarwch o’r fath yn y tymor hir, sef dwyn ynghyd gerddorion amatur o bob rhan o Gymru ar y naill law, ac ar yr un pryd gynnal y gweithdai ymarferol a oedd yn sail i’r cyfan. Trafodwyd yr angen am gyllid i gynnal trefnydd rhan-amser, a thrafodwyd rhannu’r Glerorfa yn ddwy, de a gogledd, am gyfran o’r flwyddyn. Ni lwyddwyd i ganfod atebion boddhaol i’r cwestiynau hyn.

Yn 2011 ymddeolodd Stephen Rees fel cyfarwyddwr cerdd ac Arfon Gwilym fel trefnydd. Penodwyd Robin Huw Bowen a Gwenno Roberts yn gyfarwyddwyr cerdd a Siwan Evans yn drefnydd. Yn hytrach nag ymarferion un diwrnod fel cynt, datblygwyd penwythnosau preswyl, a hyd at 2016 bu perfformiadau ym Mhwllheli, Harlech, Bethesda, Rhuthun, yr Wyddgrug (Gŵyl Tegeingl), Dolgellau, Caergybi a’r Bermo.

Arfon Gwilym

Disgyddiaeth

Yn Fyw – Live (Sain SCD2607, 2009)

__NOAUTOLINKS__

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.