Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Evans, David Emlyn (1843-1913)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (→Llyfryddiaeth) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | |||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Ganed David Emlyn Evans ar 21 Medi 1843 ar fferm Penralltwen ger Tre-wen yn ardal Castellnewydd Emlyn a bu farw yn Ebrill 1913. Fe’i claddwyd yn Eglwys Llandyfrïog. Roedd yn un o’r ffigyrau mwyaf blaenllaw ym myd cerddoriaeth Gymreig rhwng 1870 a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod ei yrfa bu’n gyfansoddwr, yn feirniad, yn [[arweinydd]], yn olygydd, yn hanesydd ac yn newyddiadurwr. Ar wahân i rai gwersi achlysurol gyda John Roberts ([[Ieuan Gwyllt]]) yn 1858, roedd yn hunanaddysgedig mewn cerddoriaeth ac wedi’i drwytho’i hun mewn llyfrau [[gramadeg cerddorol]] fel ''Gramadeg Cerddoriaeth'' John Mills a ''Ceinion Cerddoriaeth'' Thomas Williams (Hafrenydd). | + | Ganed David Emlyn Evans ar 21 Medi 1843 ar fferm Penralltwen ger Tre-wen yn ardal Castellnewydd Emlyn a bu farw yn Ebrill 1913. Fe’i claddwyd yn Eglwys Llandyfrïog. Roedd yn un o’r ffigyrau mwyaf blaenllaw ym myd cerddoriaeth Gymreig rhwng 1870 a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod ei yrfa bu’n gyfansoddwr, yn feirniad, yn [[arweinydd]], yn olygydd, yn hanesydd ac yn [[newyddiadurwr]]. Ar wahân i rai gwersi achlysurol gyda John Roberts ([[Ieuan Gwyllt]]) yn 1858, roedd yn hunanaddysgedig mewn cerddoriaeth ac wedi’i drwytho’i hun mewn llyfrau [[gramadeg cerddorol]] fel ''Gramadeg Cerddoriaeth'' John Mills a ''Ceinion Cerddoriaeth'' Thomas Williams (Hafrenydd). |
Yn 1858 gadawodd ei fro enedigol am y de lle bu’n gweithio mewn siop ddillad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yno daeth yn gyfarwydd â phrysurdeb cerddorol Morgannwg, cyngherddau ac [[eisteddfodau]] di-ri, yr [[anthemau]] a’r [[oratorios]] a genid ynddynt, a chafodd y cyfle i ddilyn darlithoedd gan Ieuan Gwyllt ac eraill. Dechreuodd gyfansoddi, arwain a chanu’n gyhoeddus hefyd fel un a feddai ar lais tenor da. Bu’n gweithio fel trafaeliwr masnachol dros gwmni dillad a bu’n byw mewn sawl man yng Nghymru ac ar y Gororau gan gynnwys Cheltenham, y Drenewydd, Amwythig, Henffordd a Chemaes. Yn y pentref hwnnw yn Sir Drefaldwyn y treuliodd ugain mlynedd olaf ei fywyd a hynny ym Mron-y-gân, cyn-gartref y bardd [[Richard Davies]] (Mynyddog) yr oedd Emlyn Evans wedi priodi ei weddw. Erbyn hynny roedd yn wael ei iechyd, yn dioddef o boenau corfforol enbyd ac yn cael haint ar yr ysgyfaint yn rheolaidd. | Yn 1858 gadawodd ei fro enedigol am y de lle bu’n gweithio mewn siop ddillad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yno daeth yn gyfarwydd â phrysurdeb cerddorol Morgannwg, cyngherddau ac [[eisteddfodau]] di-ri, yr [[anthemau]] a’r [[oratorios]] a genid ynddynt, a chafodd y cyfle i ddilyn darlithoedd gan Ieuan Gwyllt ac eraill. Dechreuodd gyfansoddi, arwain a chanu’n gyhoeddus hefyd fel un a feddai ar lais tenor da. Bu’n gweithio fel trafaeliwr masnachol dros gwmni dillad a bu’n byw mewn sawl man yng Nghymru ac ar y Gororau gan gynnwys Cheltenham, y Drenewydd, Amwythig, Henffordd a Chemaes. Yn y pentref hwnnw yn Sir Drefaldwyn y treuliodd ugain mlynedd olaf ei fywyd a hynny ym Mron-y-gân, cyn-gartref y bardd [[Richard Davies]] (Mynyddog) yr oedd Emlyn Evans wedi priodi ei weddw. Erbyn hynny roedd yn wael ei iechyd, yn dioddef o boenau corfforol enbyd ac yn cael haint ar yr ysgyfaint yn rheolaidd. | ||
Llinell 8: | Llinell 7: | ||
Oherwydd ei wendid corfforol fe’i rhwystrwyd rhag dod yn arweinydd cynulleidfaol llwyddiannus ond cyfrannodd yn sylweddol at ganiadaeth y cysegr. Roedd yn olygydd diwyd casgliadau o [[emynau]] a thonau ac yn gyd-olygydd ''Y Salmydd'' (1892), ''Y Caniedydd Cynulleidfaol'' (1895), ''Caniedydd yr Ysgol Sul'' (1899) a ''Llyfr Tonau'' ac ''Emynau’r Wesleaid'' (1904). Roedd yn gyfansoddwr cynhyrchiol mewn sawl cyfrwng, ac ymhlith ei weithiau y mae 2 [[gantata]] i gyfeiliant cerddorfa, 24 [[anthem]], 36 o ranganau, a 39 o unawdau a deuawdau a threfniannau o ganeuon ac hen alawon. | Oherwydd ei wendid corfforol fe’i rhwystrwyd rhag dod yn arweinydd cynulleidfaol llwyddiannus ond cyfrannodd yn sylweddol at ganiadaeth y cysegr. Roedd yn olygydd diwyd casgliadau o [[emynau]] a thonau ac yn gyd-olygydd ''Y Salmydd'' (1892), ''Y Caniedydd Cynulleidfaol'' (1895), ''Caniedydd yr Ysgol Sul'' (1899) a ''Llyfr Tonau'' ac ''Emynau’r Wesleaid'' (1904). Roedd yn gyfansoddwr cynhyrchiol mewn sawl cyfrwng, ac ymhlith ei weithiau y mae 2 [[gantata]] i gyfeiliant cerddorfa, 24 [[anthem]], 36 o ranganau, a 39 o unawdau a deuawdau a threfniannau o ganeuon ac hen alawon. | ||
− | Honnir mai ei unawd ''Bedd Llywelyn'', cyflwynedig i Eos Morlais (Robert Rees) a’i canodd ledled Cymru ac Unol Daleithiau America, oedd y gân gyngerdd Gymraeg gyntaf. Ei emyn-donau cynulleidfaol yn unig sydd wedi sefyll prawf amser, fodd bynnag, ac fel Ieuan Gwyllt roedd ganddo farn bendant am yr hyn y dylai emyn-dôn fod: parchai Ieuan ac Ambrose Lloyd yn uwch na [[Joseph Parry]]. O’r 80 emyn- dôn a gyfansoddodd, deil ‘Trewen’ ac ‘Eirinwg’ eu gafael o hyd. | + | Honnir mai ei unawd ''Bedd Llywelyn'', cyflwynedig i Eos Morlais (Robert Rees) a’i canodd ledled Cymru ac Unol Daleithiau America, oedd y gân gyngerdd Gymraeg gyntaf. Ei [[emyn-donau]] cynulleidfaol yn unig sydd wedi sefyll prawf amser, fodd bynnag, ac fel Ieuan Gwyllt roedd ganddo farn bendant am yr hyn y dylai emyn-dôn fod: parchai Ieuan ac Ambrose Lloyd yn uwch na [[Joseph Parry]]. O’r 80 emyn- dôn a gyfansoddodd, deil ‘Trewen’ ac ‘Eirinwg’ eu gafael o hyd. |
Mae’n werth nodi tri gwaith [[corawl]] gweddol hir o’i eiddo’n ogystal, sef ''Y Tylwyth Teg'' (opereta), ''Y Caethgludiad'' (oratorio) a’i drefniant ar gyfer cerddorfa lawn o’r [[oratorio]] Gymraeg gyntaf, ''Ystorm Tiberias'' gan Edward Stephen (Tanymarian). Ef hefyd oedd un o’r rhai cyntaf i drefnu alawon Cymreig i leisiau merched, a diolch iddo ef a datganiadau côr merched enwog Madam [[Clara Novello Davies]], ffurfiwyd [[corau merched]] drwy Gymru ac maent yn boblogaidd hyd heddiw. | Mae’n werth nodi tri gwaith [[corawl]] gweddol hir o’i eiddo’n ogystal, sef ''Y Tylwyth Teg'' (opereta), ''Y Caethgludiad'' (oratorio) a’i drefniant ar gyfer cerddorfa lawn o’r [[oratorio]] Gymraeg gyntaf, ''Ystorm Tiberias'' gan Edward Stephen (Tanymarian). Ef hefyd oedd un o’r rhai cyntaf i drefnu alawon Cymreig i leisiau merched, a diolch iddo ef a datganiadau côr merched enwog Madam [[Clara Novello Davies]], ffurfiwyd [[corau merched]] drwy Gymru ac maent yn boblogaidd hyd heddiw. |
Diwygiad 21:28, 19 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ganed David Emlyn Evans ar 21 Medi 1843 ar fferm Penralltwen ger Tre-wen yn ardal Castellnewydd Emlyn a bu farw yn Ebrill 1913. Fe’i claddwyd yn Eglwys Llandyfrïog. Roedd yn un o’r ffigyrau mwyaf blaenllaw ym myd cerddoriaeth Gymreig rhwng 1870 a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod ei yrfa bu’n gyfansoddwr, yn feirniad, yn arweinydd, yn olygydd, yn hanesydd ac yn newyddiadurwr. Ar wahân i rai gwersi achlysurol gyda John Roberts (Ieuan Gwyllt) yn 1858, roedd yn hunanaddysgedig mewn cerddoriaeth ac wedi’i drwytho’i hun mewn llyfrau gramadeg cerddorol fel Gramadeg Cerddoriaeth John Mills a Ceinion Cerddoriaeth Thomas Williams (Hafrenydd).
Yn 1858 gadawodd ei fro enedigol am y de lle bu’n gweithio mewn siop ddillad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yno daeth yn gyfarwydd â phrysurdeb cerddorol Morgannwg, cyngherddau ac eisteddfodau di-ri, yr anthemau a’r oratorios a genid ynddynt, a chafodd y cyfle i ddilyn darlithoedd gan Ieuan Gwyllt ac eraill. Dechreuodd gyfansoddi, arwain a chanu’n gyhoeddus hefyd fel un a feddai ar lais tenor da. Bu’n gweithio fel trafaeliwr masnachol dros gwmni dillad a bu’n byw mewn sawl man yng Nghymru ac ar y Gororau gan gynnwys Cheltenham, y Drenewydd, Amwythig, Henffordd a Chemaes. Yn y pentref hwnnw yn Sir Drefaldwyn y treuliodd ugain mlynedd olaf ei fywyd a hynny ym Mron-y-gân, cyn-gartref y bardd Richard Davies (Mynyddog) yr oedd Emlyn Evans wedi priodi ei weddw. Erbyn hynny roedd yn wael ei iechyd, yn dioddef o boenau corfforol enbyd ac yn cael haint ar yr ysgyfaint yn rheolaidd.
Oherwydd ei wendid corfforol fe’i rhwystrwyd rhag dod yn arweinydd cynulleidfaol llwyddiannus ond cyfrannodd yn sylweddol at ganiadaeth y cysegr. Roedd yn olygydd diwyd casgliadau o emynau a thonau ac yn gyd-olygydd Y Salmydd (1892), Y Caniedydd Cynulleidfaol (1895), Caniedydd yr Ysgol Sul (1899) a Llyfr Tonau ac Emynau’r Wesleaid (1904). Roedd yn gyfansoddwr cynhyrchiol mewn sawl cyfrwng, ac ymhlith ei weithiau y mae 2 gantata i gyfeiliant cerddorfa, 24 anthem, 36 o ranganau, a 39 o unawdau a deuawdau a threfniannau o ganeuon ac hen alawon.
Honnir mai ei unawd Bedd Llywelyn, cyflwynedig i Eos Morlais (Robert Rees) a’i canodd ledled Cymru ac Unol Daleithiau America, oedd y gân gyngerdd Gymraeg gyntaf. Ei emyn-donau cynulleidfaol yn unig sydd wedi sefyll prawf amser, fodd bynnag, ac fel Ieuan Gwyllt roedd ganddo farn bendant am yr hyn y dylai emyn-dôn fod: parchai Ieuan ac Ambrose Lloyd yn uwch na Joseph Parry. O’r 80 emyn- dôn a gyfansoddodd, deil ‘Trewen’ ac ‘Eirinwg’ eu gafael o hyd.
Mae’n werth nodi tri gwaith corawl gweddol hir o’i eiddo’n ogystal, sef Y Tylwyth Teg (opereta), Y Caethgludiad (oratorio) a’i drefniant ar gyfer cerddorfa lawn o’r oratorio Gymraeg gyntaf, Ystorm Tiberias gan Edward Stephen (Tanymarian). Ef hefyd oedd un o’r rhai cyntaf i drefnu alawon Cymreig i leisiau merched, a diolch iddo ef a datganiadau côr merched enwog Madam Clara Novello Davies, ffurfiwyd corau merched drwy Gymru ac maent yn boblogaidd hyd heddiw.
Roedd yn gyd-olygydd sawl cyfnodolyn: Y Gerddorfa (1872–81), Cronicl y Cerddor (1880–83) a’r mwyaf hirhoedlog, Y Cerddor (o 1889 hyd at ei farwolaeth). Cyd-olygai’r cylchgrawn dylanwadol Y Cerddor gyda David Jenkins (1848–1915), gan dderbyn cymorth gan William Morgan Roberts (1853–1923). Eu bwriad oedd creu cyfnodolyn a fyddai’n hybu diddordeb ym maes astudio cerddoriaeth ac yn cyfrannu at ffyniant y genedl Gymreig. Cafwyd ynddo erthyglau, gwersi cerddorol, bywgraffiadau, adolygiadau a beirniadaethau, ac ymdriniwyd â datblygiadau cerddorol yn lleol ac yn rhyngwladol (gw. Morgans 2002).
Cyfrannai hefyd yn gyson ar faterion cerddorol yng Nghymru i bapurau fel y Cardiff Times a’r South Wales Weekly News. Roedd yn ysgrifennwr medrus yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd. Pwysleisiai’r angen am lenyddiaeth feirniadol ddeallus i gefnogi astudiaethau ar hanes ac ysgolheictod cerddoriaeth, ac ymchwiliai’n drylwyr i hanes cyfansoddwyr a’u gweithiau o fewn genres penodol. Roedd yn gyson awyddus i ddiwygio safonau a dyrchafu chwaeth yr Eisteddfod Genedlaethol lle y’i gwelid yn beirniadu’n aml, yn llym a miniog yn y ddwy iaith. Yn wir, yn 1908 cyflwynwyd rhodd iddo fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth yng Nghymru, o dan nawdd yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn ôl David Jenkins, ‘yr oedd yn gyfaill ffyddlon ond yn elyn peryglus’ (Jenkins 1913, 51), er nad oedd ei farn bob amser yn sicr: teimlai fod Elgar wedi ei organmol, ac er gwaethaf ei awydd i weld ei gyd-genedl yn ymryddhau o hualau Handel a Haydn, doedd ganddo fawr ddim i’w ddweud wrth yr un cyfansoddwr ar ôl ei hoff gyfansoddwr, Felix Mendelssohn. Hwyrach mai Emlyn Evans oedd yr olaf o blith carfan o gerddorion hunanaddysgedig Cymreig a oedd yn weithgar yn y 19g., ac ar wahân i’w safonau uchel a’i amynedd prin, ei nodweddion arbennig oedd ei amlochredd, ei ddiwydrwydd a’i ddyfalbarhad diflino wrth greu a hyrwyddo cerddoriaeth yng Nghymru yn y 30 mlynedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gwawr Jones
Llyfryddiaeth
- ‘Testimonial to Mr. Emlyn Evans’, The Musical Herald, 719 (1 Chwefror 1908), 51
- David Jenkins, Y Cerddor (Mai, 1913), 51
- E. Keri Evans, Cofiant D. Emlyn Evans (Lerpwl, 1919)
- Owain Edwards ac A.F. Leighton Thomas, ‘Evans, David Emlyn’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
- Delyth Morgans, ‘Y Cerddor: Cyfnodolyn y Werin’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2002), 105–119
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.