Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Harper, John (g.1947)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | |||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
Ysgolhaig, [[arweinydd corawl]] a chyfansoddwr. Astudiodd John Martin Harper yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt cyn cwblhau PhD ar gerddoriaeth y cyfansoddwr Eidalaidd Girolamo Frescobaldi (1583–1643) ym Mhrifysgol Birmingham yn 1975. Bu’n ddarlithydd ac ''informator choristarum'' yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, rhwng 1981 ac 1990, lle bu’n arwain côr y coleg, cyn ei benodi’n Athro a Phennaeth Adran Cerddoriaeth [[Prifysgol]] Bangor rhwng 1991 ac 1998. | Ysgolhaig, [[arweinydd corawl]] a chyfansoddwr. Astudiodd John Martin Harper yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt cyn cwblhau PhD ar gerddoriaeth y cyfansoddwr Eidalaidd Girolamo Frescobaldi (1583–1643) ym Mhrifysgol Birmingham yn 1975. Bu’n ddarlithydd ac ''informator choristarum'' yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, rhwng 1981 ac 1990, lle bu’n arwain côr y coleg, cyn ei benodi’n Athro a Phennaeth Adran Cerddoriaeth [[Prifysgol]] Bangor rhwng 1991 ac 1998. | ||
− | Tra ym Mangor, gwnaeth lawer i hyrwyddo a datblygu [[ysgolheictod]] ym maes cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig, gan sefydlu ar y cyd gyda’i wraig, y cerddoregydd [[Sally Harper]], Ganolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru. Trefnwyd nifer o gynadleddau a chyhoeddiadau o dan enw’r ganolfan rhwng 1995 a 2005, gan gynnwys y cyfnodolyn ''Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History'' (Gwasg Prifysgol Cymru). Gan ymddiddori’n bennaf ym maes [[cerddoriaeth gynnar]], cyhoeddodd lyfr ''The Forms and Orders of the Western Liturgy'' (Gwasg Clarendon, 1991), ynghyd â chyfres o recordiadau o gerddoriaeth gorawl Saesneg gyda chôr Coleg Magdalen. | + | Tra ym Mangor, gwnaeth lawer i hyrwyddo a [[datblygu]] [[ysgolheictod]] ym maes cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig, gan sefydlu ar y cyd gyda’i wraig, y cerddoregydd [[Sally Harper]], Ganolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru. Trefnwyd nifer o gynadleddau a chyhoeddiadau o dan enw’r ganolfan rhwng 1995 a 2005, gan gynnwys y cyfnodolyn ''Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History'' (Gwasg Prifysgol Cymru). Gan ymddiddori’n bennaf ym maes [[cerddoriaeth gynnar]], cyhoeddodd lyfr ''The Forms and Orders of the Western Liturgy'' (Gwasg Clarendon, 1991), ynghyd â chyfres o recordiadau o gerddoriaeth gorawl Saesneg gyda chôr Coleg Magdalen. |
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== |
Diwygiad 20:07, 24 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ysgolhaig, arweinydd corawl a chyfansoddwr. Astudiodd John Martin Harper yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt cyn cwblhau PhD ar gerddoriaeth y cyfansoddwr Eidalaidd Girolamo Frescobaldi (1583–1643) ym Mhrifysgol Birmingham yn 1975. Bu’n ddarlithydd ac informator choristarum yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, rhwng 1981 ac 1990, lle bu’n arwain côr y coleg, cyn ei benodi’n Athro a Phennaeth Adran Cerddoriaeth Prifysgol Bangor rhwng 1991 ac 1998.
Tra ym Mangor, gwnaeth lawer i hyrwyddo a datblygu ysgolheictod ym maes cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig, gan sefydlu ar y cyd gyda’i wraig, y cerddoregydd Sally Harper, Ganolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru. Trefnwyd nifer o gynadleddau a chyhoeddiadau o dan enw’r ganolfan rhwng 1995 a 2005, gan gynnwys y cyfnodolyn Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History (Gwasg Prifysgol Cymru). Gan ymddiddori’n bennaf ym maes cerddoriaeth gynnar, cyhoeddodd lyfr The Forms and Orders of the Western Liturgy (Gwasg Clarendon, 1991), ynghyd â chyfres o recordiadau o gerddoriaeth gorawl Saesneg gyda chôr Coleg Magdalen.
Disgyddiaeth
- The English Carol (Alpha Collection ACA527, 1984)
- The English Anthem (c.1830–1900) (Alpha Collection ACA538, 1984)
- The English Anthem, Volume Two: The Seventeenth and Eighteenth Centuries (Alpha Collection CDCA912, 1990)
- Christmas Carols from Oxford (Regis Records RRC1190, 1990)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.