Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Blew, Y"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' __NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cyd...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
=Disgyddiaeth= | =Disgyddiaeth= | ||
− | + | *‘Maes B’/‘Be Sy’n Dod Rhyngom Ni’ [sengl] (Qualiton QSP7001, 1967) | |
=Llyfryddiaeth= | =Llyfryddiaeth= | ||
− | + | *Hefin Wyn, ''Be Bop a Lula’r Delyn Aur'' (Talybont, 2002) | |
− | + | *Sarah Hill, ''‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music'' (Aldershot, 2007) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Diwygiad 22:45, 25 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Er mai byrhoedlog fu gyrfa’r grŵp, chwaraeodd Y Blew ran allweddol yn natblygiad y byd canu cyfoes Cymraeg yn yr 1960au. Dyma fand, yn anad dim, a fu’n gyfrifol am foderneiddio byd pop Cymraeg a oedd hyd hynny wedi’i nodweddu gan artistiaid acwstig a cherddoriaeth braidd yn sentimental. Roedd eu perfformiadau byw herfeiddiol a’u sengl ‘Maes B’ yn arwyddocaol am eu bod wedi profi addasrwydd y Gymraeg ar gyfer canu roc.
Aelodau’r band oedd Maldwyn Pate (llais), Dafydd Evans (gitâr fas), Geraint Evans (drymiau) a Richard Lloyd (gitâr flaen). Ymunodd Dave Williams (allweddellau) yn ddiweddarach. Bu Dafydd Evans yn gwrando ar roc a rôl o’i blentyndod, a ffurfiodd fand sgiffl Saesneg, y Firebirds, gyda ffrindiau ysgol yn Llandeilo yn 1962 cyn mynd ymlaen i chwarae mewn sawl grŵp roc Saesneg yng nghanol yr 1960au. Ymddiddorai mewn llenyddiaeth a chelf gyfoes, ac yn nes ymlaen mewn seicedelia, ac roedd yn weithgar yng ngwleidyddiaeth myfyrwyr Coleg Prifysgol Aberystwyth, lle’r oedd yn astudio am radd yn y gyfraith. Bu hefyd yn canfasio dros ei dad, Gwynfor Evans, yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i gael ei ethol yn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin yn 1966. Ffurfiodd ef a Maldwyn Pate fand o’r enw Y Pedair Kaink ar gyfer perfformiad mewn cyngerdd gan Blaid Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn Awst 1966.
Roedd y perfformiad – sef cyfieithiadau o ganeuon roc Eingl-Americanaidd enwog – yn ddigon llwyddiannus i gyfiawnhau ffurfio band newydd, a daeth Y Blew i fodolaeth. Roedd pob un o’r aelodau yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, ac yn y dref honno gwnaethant ymddangos am y tro cyntaf ar lwyfan, ar 6 Chwefror 1967. Buont yn perfformio fel band proffesiynol am y deng mis nesaf, gan fynd ar deithiau cenedlaethol dair gwaith a chwarae tua hanner cant o gigiau, yn bennaf yn y de a’r canolbarth.
Rhoddodd y band bwyslais a sylw hefyd i hyrwyddo a delwedd, gan fabwysiadu slogan y Beatles gyda phosteri yn datgan ‘Mae’r Blew yn dod …’ Gyda’u sbectols haul, eu jîns a’u gwallt hir, edrychent yn hollol wahanol i’w cyfoedion yn y byd pop Cymraeg, fel Tony ac Aloma neu’r Pelydrau, a ffafriai wisg ac arddull gerddorol mwy ceidwadol. Perfformiodd y band yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1967 – achlysur y tueddir i edrych yn ôl arno heddiw fel un chwyldroadol ac arloesol, er bod cyd-destun y perfformiad (fel rhan o ‘raglen bop’ arbrofol) yn ategu’r dystiolaeth nad oedd yr ymateb cyhoeddus mor gyffrous â hynny ar y pryd.
Unig recordiad Y Blew oedd y sengl ‘Maes B’ (Qualiton, 1967). Recordiwyd dwy gân, ‘Maes B’ a ‘Beth Sy’n Dod Rhyngom Ni’ yn stiwdio’r cwmni yn Abertawe ddiwedd Medi 1967, a rhyddhawyd y sengl yn y mis Tachwedd dilynol, yn ddigon buan i ymddangos yn siartiau cyntaf Y Cymro. Er ei llwyddiant, ni chafodd sengl arall ei recordio; aeth cynlluniau ar gyfer albwm cysyniadol ar thema Eisteddfod seicedelig i’r gwellt yn sgil y penderfyniad i ddirwyn y band i ben. Aeth Richard Lloyd ymlaen i brofi llwyddiant yn y siartiau Prydeinig gyda band y Flying Pickets yn yr 1980au.
Nid Y Blew oedd y band roc Cymraeg cyntaf, yn groes i’r dyb gyffredin, ond yn sicr hwy oedd y band roc cyntaf i adael marc ar y byd pop Cymraeg. Yn ôl Hefin Wyn, ‘Doedd dim yn anghyffredin yn yr hyn yr oedd Y Blew yn ei wneud o ran ansawdd y gerddoriaeth … [ond] yr hyn a oedd yn chwyldroadol am Y Blew oedd eu bod nhw’n gwneud hynny yn Gymraeg’ (Wyn 2002, 89). Fodd bynnag, yn wahanol i rai o artistiaid y cyfnod, megis Dafydd Iwan a Huw Jones, nid oedd yna elfen wleidyddol amlwg yn perthyn i’r grŵp. Fel y dywed Sarah Hill, roedd Cymreictod y band yn ‘ffaith ieithyddol’ yn hytrach nag yn ‘ddatganiad gwleidyddol’ (Hill 2007, 65). Roedd llawer yn parhau i ganmol y band yn yr 1970au, gan gynnwys Hefin Elis, a aeth ymlaen i ffurfio Edward H Dafis.
Craig Owen Jones
Disgyddiaeth
- ‘Maes B’/‘Be Sy’n Dod Rhyngom Ni’ [sengl] (Qualiton QSP7001, 1967)
Llyfryddiaeth
- Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)
- Sarah Hill, ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music (Aldershot, 2007)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.