Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech'"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Oherwydd ei naws ryfelgar a’r geiriau gwlatgar a genir iddi, hoff gan rai gredu bod yr alaw enwog hon yn dyddio o gyfnod gwrthryfel Owain Glyndŵr ''(c''.1400) neu ryfeloedd annibyniaeth Cymru cyn hynny. Yn ei ''Songs of Wales'' (1873) mae [[Brinley Richards]] yn ei dyddio i’r flwyddyn 1468. Serch hynny, yn y 18g. y gwelodd y gân olau dydd am y tro cyntaf pan gyhoeddwyd hi gan [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin) dan y teitl | + | Oherwydd ei naws ryfelgar a’r geiriau gwlatgar a genir iddi, hoff gan rai gredu bod yr alaw enwog hon yn dyddio o gyfnod gwrthryfel Owain Glyndŵr ''(c''.1400) neu ryfeloedd annibyniaeth Cymru cyn hynny. Yn ei ''Songs of Wales'' (1873) mae [[Brinley Richards]] yn ei dyddio i’r flwyddyn 1468. Serch hynny, yn y 18g. y gwelodd y gân olau dydd am y tro cyntaf pan gyhoeddwyd hi gan [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin) dan y teitl ‘Gorhoffedd Gwŷr Harlech’ yn ei gasgliad ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (Llundain, 1784). Daeth yn boblogaidd yn y ganrif ddilynol, diolch i drefniant [[corawl]] ohoni (1867) gan [[Ieuan Gwyllt]] ar y geiriau ‘Wele goelcerth wen yn fflamio’. Prin y clywir [[corau cymysg]] yn ei chanu erbyn heddiw, ond deil yn ffefryn gan [[gorau meibion]] sy’n canu trefniannau naill ai Harry Evans neu John Guard i’r geiriau ‘Harlech cyfod dy faneri, / gwêl y gelyn ennyn ynni’. Fel ''march'' mae’n boblogaidd gan [[fandiau militaraidd]], a honnodd y Kaiser Wilhelm yr Ail mai ‘Harlech’ oedd yr [[ymdeithgan]] orau oll. |
− | Daeth i sylw cynulleidfa fyd-eang pan glywyd hi yn y [[ffilm]] ''Zulu'' (1964) sy’n adrodd hanes brwydr Rorke’s Drift (1879) yn Natal, De Affrica, a gwrthsafiad | + | Daeth i sylw cynulleidfa fyd-eang pan glywyd hi yn y [[ffilm]] ''Zulu'' (1964) sy’n adrodd hanes brwydr Rorke’s Drift (1879) yn Natal, De Affrica, a gwrthsafiad arwrol carfan fechan o filwyr Prydeinig, nifer ohonynt yn Gymry (y South Wales Borderers yn ddiweddarach), yn erbyn byddin lawer mwy niferus o Zwlws. Yn y ffilm ysbrydolir yr amddiffynwyr i gyd-ganu ‘Gwŷr Harlech’ gan yr actor a’r canwr Ivor Emmanuel o Bont-rhyd-y-fen. Cenid y gân yn y ffilm, ac ar achlysur ei ''premiere'' yn sinema’r Olympia yng Nghaerdydd yn 1964, gan barti meibion Ferndale Imperial, o’r pentref yn y Rhondda lle ganed seren a chynhyrchydd y ffilm, Stanley Baker. Erbyn heddiw daeth yn arwyddgan i gefnogwyr amhersain clwb pêl-droed Dinas Caerdydd. |
'''Gareth Williams''' | '''Gareth Williams''' |
Diwygiad 13:39, 6 Ebrill 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Oherwydd ei naws ryfelgar a’r geiriau gwlatgar a genir iddi, hoff gan rai gredu bod yr alaw enwog hon yn dyddio o gyfnod gwrthryfel Owain Glyndŵr (c.1400) neu ryfeloedd annibyniaeth Cymru cyn hynny. Yn ei Songs of Wales (1873) mae Brinley Richards yn ei dyddio i’r flwyddyn 1468. Serch hynny, yn y 18g. y gwelodd y gân olau dydd am y tro cyntaf pan gyhoeddwyd hi gan Edward Jones (Bardd y Brenin) dan y teitl ‘Gorhoffedd Gwŷr Harlech’ yn ei gasgliad Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (Llundain, 1784). Daeth yn boblogaidd yn y ganrif ddilynol, diolch i drefniant corawl ohoni (1867) gan Ieuan Gwyllt ar y geiriau ‘Wele goelcerth wen yn fflamio’. Prin y clywir corau cymysg yn ei chanu erbyn heddiw, ond deil yn ffefryn gan gorau meibion sy’n canu trefniannau naill ai Harry Evans neu John Guard i’r geiriau ‘Harlech cyfod dy faneri, / gwêl y gelyn ennyn ynni’. Fel march mae’n boblogaidd gan fandiau militaraidd, a honnodd y Kaiser Wilhelm yr Ail mai ‘Harlech’ oedd yr ymdeithgan orau oll.
Daeth i sylw cynulleidfa fyd-eang pan glywyd hi yn y ffilm Zulu (1964) sy’n adrodd hanes brwydr Rorke’s Drift (1879) yn Natal, De Affrica, a gwrthsafiad arwrol carfan fechan o filwyr Prydeinig, nifer ohonynt yn Gymry (y South Wales Borderers yn ddiweddarach), yn erbyn byddin lawer mwy niferus o Zwlws. Yn y ffilm ysbrydolir yr amddiffynwyr i gyd-ganu ‘Gwŷr Harlech’ gan yr actor a’r canwr Ivor Emmanuel o Bont-rhyd-y-fen. Cenid y gân yn y ffilm, ac ar achlysur ei premiere yn sinema’r Olympia yng Nghaerdydd yn 1964, gan barti meibion Ferndale Imperial, o’r pentref yn y Rhondda lle ganed seren a chynhyrchydd y ffilm, Stanley Baker. Erbyn heddiw daeth yn arwyddgan i gefnogwyr amhersain clwb pêl-droed Dinas Caerdydd.
Gareth Williams
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.