Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Telyn Rawn"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | __NOAUTOLINKS__ | |
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
[[Telyn]] gyda thannau wedi’u creu o rawn, sef y blew hir o fwng neu gynffon ceffyl. Gwelir y term am y tro cyntaf mewn testunau cyfraith o’r 13g. Roedd yn delyn ysgafn, ac yn fach iawn o’i chymharu â thelynau cyfoes, hyd yn oed y telynau ‘Celtaidd’. Roedd wedi’i gwneud o ddeunyddiau a fyddai ar gael yn rhwydd i’r gwneuthurwyr: pren ar gyfer y fframwaith, croen anifail i’w lapio o amgylch y seinfwrdd, asgwrn ar gyfer tiwnio’r delyn a rhawn ar gyfer plethu’r tannau. Ceid oddeutu 30 o dannau ar y delyn rawn, a’r tannau hynny yn ddu ac yn loyw. Fe’i chwaraeid ar yr ysgwydd chwith, yn unol â’r dull traddodiadol, gyda’r llaw chwith yn seinio’r tannau uchaf gan chwarae’r alaw, tra seinid y tannau bas gyda’r llaw dde. Plycio’r tannau gyda’r ewinedd fyddai’r dull arferol o’i seinio. Roedd gan y delyn sain ysgafn ac mae’n debygol iawn mai ar gyfer cyfeilio i’r llais canu neu wrth adrodd barddoniaeth y’i defnyddid yn bennaf. Roedd telynau rhawn yn brin iawn mewn gwledydd eraill yn ystod y 14g. | [[Telyn]] gyda thannau wedi’u creu o rawn, sef y blew hir o fwng neu gynffon ceffyl. Gwelir y term am y tro cyntaf mewn testunau cyfraith o’r 13g. Roedd yn delyn ysgafn, ac yn fach iawn o’i chymharu â thelynau cyfoes, hyd yn oed y telynau ‘Celtaidd’. Roedd wedi’i gwneud o ddeunyddiau a fyddai ar gael yn rhwydd i’r gwneuthurwyr: pren ar gyfer y fframwaith, croen anifail i’w lapio o amgylch y seinfwrdd, asgwrn ar gyfer tiwnio’r delyn a rhawn ar gyfer plethu’r tannau. Ceid oddeutu 30 o dannau ar y delyn rawn, a’r tannau hynny yn ddu ac yn loyw. Fe’i chwaraeid ar yr ysgwydd chwith, yn unol â’r dull traddodiadol, gyda’r llaw chwith yn seinio’r tannau uchaf gan chwarae’r alaw, tra seinid y tannau bas gyda’r llaw dde. Plycio’r tannau gyda’r ewinedd fyddai’r dull arferol o’i seinio. Roedd gan y delyn sain ysgafn ac mae’n debygol iawn mai ar gyfer cyfeilio i’r llais canu neu wrth adrodd barddoniaeth y’i defnyddid yn bennaf. Roedd telynau rhawn yn brin iawn mewn gwledydd eraill yn ystod y 14g. | ||
− | Mae’n bosib fod awgrym o’r gerddoriaeth a chwaraeid ar y delyn rawn i’w gael yn | + | Mae’n bosib fod awgrym o’r gerddoriaeth a chwaraeid ar y delyn rawn i’w gael yn llawysgrif [[Robert ap Huw]] (''c''.1580–1665). Yn ôl [[llawysgrifau]] a cherddi o’r cyfnod, hon oedd y delyn a ffafriai’r beirdd, fel y tystia [[cywydd]] Iolo Goch (''c''.1325–''c''.1398), ‘Moliant i’r Delyn Rawn a Dychan i’r Delyn Ledr’. Roedd yn offeryn a oedd o werth digon sylweddol i’w osod fel taliad priodasol. Ond er gwaethaf statws y delyn rawn yng nghymdeithas y cyfnod, fe gâi ei chyfnewid am delyn o fath gwahanol pan ddeuai’r cerddor yn gerddor ''cyweithas'' a chymwys yn llys Hywel Dda yn y 10g. (Harper 2007, 39). |
Gellid olrhain datblygiad cerddorion y cyfnod drwy gyfrwng yr [[offerynnau]] a chwaraeent: o’r delyn rawn i statws [[pencerdd]] yn y llysoedd. Awgryma hyn nad oedd y delyn rawn yn briodol ar gyfer y llys yn y cyfnod hwn, er gwaethaf ei phoblogrwydd gyda’r beirdd. Pan fyddai’r cerddorion wedi datblygu’u crefft yn ddigonol i ildio’r delyn hon, talent 24 ceiniog i’r pencerdd, am ei fod yn colli’i ddisgyblion mae’n debyg, a chydnabyddid y telynorion fel cerddorion nodedig. | Gellid olrhain datblygiad cerddorion y cyfnod drwy gyfrwng yr [[offerynnau]] a chwaraeent: o’r delyn rawn i statws [[pencerdd]] yn y llysoedd. Awgryma hyn nad oedd y delyn rawn yn briodol ar gyfer y llys yn y cyfnod hwn, er gwaethaf ei phoblogrwydd gyda’r beirdd. Pan fyddai’r cerddorion wedi datblygu’u crefft yn ddigonol i ildio’r delyn hon, talent 24 ceiniog i’r pencerdd, am ei fod yn colli’i ddisgyblion mae’n debyg, a chydnabyddid y telynorion fel cerddorion nodedig. | ||
− | Diflannodd y delyn rawn yn gyfan gwbl erbyn y 14g. ac nid oes unrhyw enghraifft wedi goroesi. Mae rhai gwneuthurwyr telynau yn yr 21g. wedi ceisio adeiladu atgynyrchiadau o’r delyn rawn, ond i ddibenion hanesyddol yn hytrach nag ar gyfer | + | Diflannodd y delyn rawn yn gyfan gwbl erbyn y 14g. ac nid oes unrhyw enghraifft wedi goroesi. Mae rhai gwneuthurwyr telynau yn yr 21g. wedi ceisio adeiladu atgynyrchiadau o’r delyn rawn, ond i ddibenion hanesyddol yn hytrach nag ar gyfer perfformio. Fe’i disodlwyd yn bennaf o ganlyniad i dwf ym mhoblogrwydd y delyn ledr. |
'''Gwawr Jones''' | '''Gwawr Jones''' |
Diwygiad 21:21, 27 Ebrill 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Telyn gyda thannau wedi’u creu o rawn, sef y blew hir o fwng neu gynffon ceffyl. Gwelir y term am y tro cyntaf mewn testunau cyfraith o’r 13g. Roedd yn delyn ysgafn, ac yn fach iawn o’i chymharu â thelynau cyfoes, hyd yn oed y telynau ‘Celtaidd’. Roedd wedi’i gwneud o ddeunyddiau a fyddai ar gael yn rhwydd i’r gwneuthurwyr: pren ar gyfer y fframwaith, croen anifail i’w lapio o amgylch y seinfwrdd, asgwrn ar gyfer tiwnio’r delyn a rhawn ar gyfer plethu’r tannau. Ceid oddeutu 30 o dannau ar y delyn rawn, a’r tannau hynny yn ddu ac yn loyw. Fe’i chwaraeid ar yr ysgwydd chwith, yn unol â’r dull traddodiadol, gyda’r llaw chwith yn seinio’r tannau uchaf gan chwarae’r alaw, tra seinid y tannau bas gyda’r llaw dde. Plycio’r tannau gyda’r ewinedd fyddai’r dull arferol o’i seinio. Roedd gan y delyn sain ysgafn ac mae’n debygol iawn mai ar gyfer cyfeilio i’r llais canu neu wrth adrodd barddoniaeth y’i defnyddid yn bennaf. Roedd telynau rhawn yn brin iawn mewn gwledydd eraill yn ystod y 14g.
Mae’n bosib fod awgrym o’r gerddoriaeth a chwaraeid ar y delyn rawn i’w gael yn llawysgrif Robert ap Huw (c.1580–1665). Yn ôl llawysgrifau a cherddi o’r cyfnod, hon oedd y delyn a ffafriai’r beirdd, fel y tystia cywydd Iolo Goch (c.1325–c.1398), ‘Moliant i’r Delyn Rawn a Dychan i’r Delyn Ledr’. Roedd yn offeryn a oedd o werth digon sylweddol i’w osod fel taliad priodasol. Ond er gwaethaf statws y delyn rawn yng nghymdeithas y cyfnod, fe gâi ei chyfnewid am delyn o fath gwahanol pan ddeuai’r cerddor yn gerddor cyweithas a chymwys yn llys Hywel Dda yn y 10g. (Harper 2007, 39).
Gellid olrhain datblygiad cerddorion y cyfnod drwy gyfrwng yr offerynnau a chwaraeent: o’r delyn rawn i statws pencerdd yn y llysoedd. Awgryma hyn nad oedd y delyn rawn yn briodol ar gyfer y llys yn y cyfnod hwn, er gwaethaf ei phoblogrwydd gyda’r beirdd. Pan fyddai’r cerddorion wedi datblygu’u crefft yn ddigonol i ildio’r delyn hon, talent 24 ceiniog i’r pencerdd, am ei fod yn colli’i ddisgyblion mae’n debyg, a chydnabyddid y telynorion fel cerddorion nodedig.
Diflannodd y delyn rawn yn gyfan gwbl erbyn y 14g. ac nid oes unrhyw enghraifft wedi goroesi. Mae rhai gwneuthurwyr telynau yn yr 21g. wedi ceisio adeiladu atgynyrchiadau o’r delyn rawn, ond i ddibenion hanesyddol yn hytrach nag ar gyfer perfformio. Fe’i disodlwyd yn bennaf o ganlyniad i dwf ym mhoblogrwydd y delyn ledr.
Gwawr Jones
Llyfryddiaeth
- Sally Harper, Music in Welsh Culture Before 1650 (Aldershot, 2007)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.