Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, J. Glyn (1870-1953)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *J. Glyn Davies, ''Cerddi Huw Puw'' (Caerdydd, 1922) | |
− | + | *———, ''Cerddi Robin Goch'' (Llundain, 1935) | |
− | + | *———, ''Cerddi Portinllaen'' (Llundain, 1936) | |
− | + | *———, ‘Rhamant y Môr’, ''Lleufer'', V/2 (Haf, 1949), 55– 63 | |
− | + | *———, ''Cerddi Edern a cherddi eraill'' (Lerpwl, 1955) | |
− | + | *Hettie Glyn Davies, ''Hanes Bywyd John Glyn Davies'' (Lerpwl, 1965) | |
− | + | *Iorwerth C. Peate, ‘John Glyn Davies: Agweddau ar ei bersonoliaeth’, ''Taliesin'', 25 (Rhagfyr, 1972), 50–55 | |
− | + | *J. Glyn Davies, ''Fflat Huw Puw a Cherddi Eraill'' (Llandysul, 1992) | |
− | + | *Delyth G. Morgans, ‘J. Glyn Davies a chaneuon Huw Puw’ (traethawd BA Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, 2000) | |
− | + | *Cledwyn Jones, ''Mi wisga’i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870–1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern'' (Caernarfon, 2003) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Diwygiad 14:25, 4 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Awdur, ysgolhaig, casglwr, bardd, cofnodwr a chyfansoddwr caneuon oedd John Glyn Davies. Brodor o Lerpwl ydoedd ac aelod o deulu Cymreig a oedd yn ddisgynyddion i Angharad James, Dolwyddelan (1677–1749) a’r Parch. John Jones, Tal-y-sarn (1797–1857).
Yn dilyn prentisiaeth mewn swyddfa llongau hwylio (Rathbone Bros., Lerpwl) ymfudodd am gyfnod i Seland Newydd i gloddio am aur. Fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Gymraeg Auckland, rhoddodd bwys mawr ar gerddoriaeth Cymru a thraddodiad y delyn yng ngweithgaredd ei gyd-Gymry alltud cyn dychwelyd i Aberystwyth a dechrau’r gwaith o sefydlu Llyfrgell Gymraeg yno (Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiweddarach).
Yn 1907, trwy wahoddiad Kuno Meyer, cafodd ei benodi’n ddarlithydd yn Adran Gelteg Prifysgol Lerpwl, a bu’n allweddol yn sefydlu Adran Gymraeg yn y sefydliad hwnnw ac ym Mhrifysgol Dulyn. Canai’r delyn, y piano a’r ffidil, ac ymddiddorai yn y sipsiwn Cymreig (teulu Abram Wood; gw. Woodiaid, Teulu’r) ynghyd â’u cyfraniad neilltuol i fyd cerddoriaeth, offerynnau traddodiadol a dawns yng Nghymru’r 19g. Yn ystod ei deithiau darlithio a’i fordeithiau cyson taniwyd ei ddiddordeb mewn caneuon sianti a chaneuon môr. Ei blant, fodd bynnag, a’i hysgogodd i gyfansoddi caneuon. Teimlai fod bwlch mawr ym myd caneuon Cymraeg ar gyfer yr ifanc ac anfarwolwyd enwau ei ferched yn un o’i ganeuon:
- Gwen a Mair ac Elin
- Yn bwyta lot o bwdin;
- A Benja bach yn mynd o’i go’,
- A chrïo’n anghyffredin.
Pen Llŷn ac ardaloedd Morfa Nefyn ac Edern yn benodol a fu’n sail i Gymreictod J. Glyn Davies. Yno, yn ystod ei wyliau haf fel plentyn ac fel oedolyn, y cyfoethogwyd ei fedr ar yr iaith ac yr ehangwyd ar ei brofiad o’r môr. Yn Llŷn y clywodd ei sianti gyntaf a’r alawon hynny fu’n ysbrydoliaeth i’w gasgliadau – Cerddi Huw Puw (1922), Cerddi Portinllaen (1936) a Cerddi Edern (1955). Cyfrannodd hefyd fel ymchwilydd i fyd cerdd dant yng Nghymru er nad oedd yn ddatgeinydd nac yn osodwr. Yn hytrach, cyhoeddoedd erthyglau o safbwynt un a werthfawrogai’r traddodiad a bu’n olrhain twf a datblygiad y grefft yng ngoleuni’r dystiolaeth a geir yn llawysgrifau Lewis Morris o Fôn.
Ei gyfarfyddiad ag Edward Wood yng Ngwesty’r Plas Coch, Y Bala (c.1892) yn ogystal ag arbenigedd ei gyd-ddarlithydd yn Lerpwl, John Sampson (1862– 1931), fodd bynnag a enynnodd ei ddiddordeb yng ngallu cerddorol y Sipsiwn Cymreig. Trwy gyfrwng ei ohebiaeth gydag aelodau o’r teulu, a’i ymweliadau cyson â’u gwersylloedd, daeth i werthfawrogi mwy am arferion y Romani a dyfnhawyd ei ddealltwriaeth o’r traddodiad brodorol Cymreig yn ei grynswth.
Er mor amrywiol fu ei allbwn, fel cyfansoddwr caneuon i blant y daeth i amlygrwydd. Cyhoeddodd dair cyfrol odidog o ganeuon rhwng 1922 ac 1936 sy’n gyfuniad o weithiau gwreiddiol i gyfeiliant syml y piano (e.e. ‘Mam, ga i ffliwt?’), addasiadau o alawon a cheinciau Cymreig, megis ‘Fflat Huw Puw’ (gw. ‘Y Dydd cyntaf o Awst’ yng nghyfrol John Parry, The Welsh Harper (1839)) ac alawon morwrio (e.e. ‘Tŷ a gardd’) o Ddenmarc, Llydaw, Lloegr, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.
Ymledodd poblogrwydd ei waith a’i ganeuon ar aelwydydd Cymru oherwydd eu defnydd mewn ysgolion cynradd ac ar lwyfannau eisteddfodol a chyngherddau. Ar brydiau, ystyriwyd rhai ohonynt yn ganeuon ac alawon gwerin yn llinach y traddodiad llafar Cymreig, ond rhaid cofio mai cynnyrch cerddor, cyfansoddwr a threfnydd cerddoriaeth ydynt ac mai eu naws gofiadwy, eu halawon canadwy a’u geiriau syml fu’n gyfrwng i’w poblogeiddio yng Nghymru’r 20g. a’r 21g.
Delyth G. Morgans Phillips
Llyfryddiaeth
- J. Glyn Davies, Cerddi Huw Puw (Caerdydd, 1922)
- ———, Cerddi Robin Goch (Llundain, 1935)
- ———, Cerddi Portinllaen (Llundain, 1936)
- ———, ‘Rhamant y Môr’, Lleufer, V/2 (Haf, 1949), 55– 63
- ———, Cerddi Edern a cherddi eraill (Lerpwl, 1955)
- Hettie Glyn Davies, Hanes Bywyd John Glyn Davies (Lerpwl, 1965)
- Iorwerth C. Peate, ‘John Glyn Davies: Agweddau ar ei bersonoliaeth’, Taliesin, 25 (Rhagfyr, 1972), 50–55
- J. Glyn Davies, Fflat Huw Puw a Cherddi Eraill (Llandysul, 1992)
- Delyth G. Morgans, ‘J. Glyn Davies a chaneuon Huw Puw’ (traethawd BA Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, 2000)
- Cledwyn Jones, Mi wisga’i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870–1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern (Caernarfon, 2003)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.