Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Parrott, Ian (1916-2012)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Yn gyfansoddwr, cerddor ac awdur, ganed Horace Ian Parrott yn Llundain, ond fe ymserchodd ym mywyd a diwylliant Cymru mewn bywyd hir a chyflawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Harrow cyn mynychu’r Coleg Cerdd Brenhinol a’r Coleg Newydd, Rhydychen. Treuliodd gyfnod yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd a bu’n arholi ar ran Coleg y Drindod, Llundain, yn ogystal â darlithio ym Mhrifysgol Birmingham. Fodd bynnag, yn 1950 fe’i penodwyd yn Athro Gregynog Coleg [[Prifysgol]] Cymru Aberystwyth, i olynu [[David de Lloyd]] (1883-1948), ac yno y bu hyd nes iddo ymddeol yn 1983.
+
Yn gyfansoddwr, cerddor ac awdur, ganed Horace Ian Parrott yn Llundain, ond fe ymserchodd ym mywyd a diwylliant Cymru mewn bywyd hir a chyflawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Harrow cyn mynychu’r Coleg Cerdd Brenhinol a’r Coleg Newydd, Rhydychen. Treuliodd gyfnod yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd a bu’n arholi ar ran Coleg y Drindod, Llundain, yn ogystal â darlithio ym Mhrifysgol Birmingham. Fodd bynnag, yn 1950 fe’i penodwyd yn Athro Gregynog Coleg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru Aberystwyth, i olynu [[De Lloyd, David (1883-1948) | David de Lloyd]] (1883-1948), ac yno y bu hyd nes iddo ymddeol yn 1983.
  
Yn ystod y cyfnod hwn bu’n fawr ei ddylanwad ar
+
Yn ystod y cyfnod hwn bu’n fawr ei ddylanwad ar nifer o fyfyrwyr a ddaeth wedyn yn ffigurau amlwg ym mywyd cerddorol Cymru, yn eu plith [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]], [[Harries, David (1933-2003) | David Harries]] a [[Bowen, Kenneth (g.1933) | Kenneth Bowen]]. Yr un pryd, bu iaith a diwylliant Cymru’n ddylanwad ar ei waith creadigol ef ei hun fel cyfansoddwr. Roedd yn gymeriad hoffus a bywiog, a thrwy ei waith diflino yn hybu cerddoriaeth ei wlad fabwysiedig daeth yn ffigwr adnabyddus ymhlith cerddorion Cymreig ei gyfnod. Roedd yn un o sylfaenwyr yr Urdd Er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru ([[Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru]] wedi hynny) yn 1955, ar y cyd â John Edwards.
nifer o fyfyrwyr a ddaeth wedyn yn ffigurau amlwg ym mywyd cerddorol Cymru, yn eu plith [[William Mathias]], [[David Harries]] a [[Kenneth Bowen]]. Yr un pryd, bu iaith a diwylliant Cymru’n ddylanwad ar ei waith creadigol ef ei hun fel cyfansoddwr. Roedd yn gymeriad hoffus a bywiog, a thrwy ei waith diflino yn hybu cerddoriaeth ei wlad fabwysiedig daeth yn ffigwr adnabyddus ymhlith cerddorion Cymreig ei gyfnod. Roedd yn un o sylfaenwyr yr Urdd Er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru ([[Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru]] wedi hynny) yn 1955, ar y cyd â John Edwards.
 
Fel cyfansoddwr y daeth i’r amlwg gyntaf. Graddiodd gyda DMus (Rhydychen) yn 1940 ac ymhlith ei weithiau cynnar nodedig y mae ''El Alamein'', Preliwd Symffonig i Gerddorfa Lawn (1944) a’i Symffoni Rhif 1 (1946). Yn 1947 cyfansoddodd un o’i weithiau gorau sef ''Luxor'', Argraffiad Symffonig i Gerddorfa Lawn (1947), a enillodd iddo wobr gyntaf y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol flwyddyn cyn ei benodiad i’r Gadair yn Aberystwyth; roedd y gwaith yn tynnu ar ei brofiadau seicig tra’r oedd yn y fyddin yn yr Aifft.
 
Llinell 11: Llinell 10:
 
O ran ei arddull, fel llawer o’i gyfoedion Prydeinig, cadwodd o fewn terfynau tonyddiaeth ond gyda phwyslais ar y trithon sy’n aml yn creu amwysedd a ffrithiant nodweddiadol wedi’u cyplysu â rhythmau herciog. Yn ''Luxor'', er enghraifft, defnyddiodd gordiau clwstwr cymhleth. Arbrofodd gyda strwythurau cerdd mewn gweithiau megis y Concerto i’r Cor Anglais (1956) a ''Pensieri'', Concerto Grosso i Linynnau (1950). Ffrwyth ei deithio mynych ar ran Coleg y Drindod, Llundain, fel arholwr oedd Symffoni Rhif 2 ''(Round the World)'' (1960) a Phumawd Chwythbrennau Rhif 2 ''(Fresh About Cook Strait)'' (1970).
 
Cyfansoddodd nifer helaeth o weithiau siambr megis Pedwarawd Llinynnol Rhif 4 (1963), un o’i weithiau mwyaf nodedig lle cywesgir mynegiant yn goeth a strwythurol effeithiol. Gwelir dylanwad themâu Cymreig mewn operâu fel ''Yr Hwrdd Du'' ''(The Black Ram'', 1951–3), sy’n seiliedig ar themâu [[gwerinol]], a ''The Lady of Flowers'' (1981), yn ogystal â’r agorawd ''Seithenin'' (1959), un o’i weithiau mwyaf trawiadol.
+
Cyfansoddodd nifer helaeth o weithiau siambr megis Pedwarawd Llinynnol Rhif 4 (1963), un o’i weithiau mwyaf nodedig lle cywesgir mynegiant yn goeth a strwythurol effeithiol. Gwelir dylanwad themâu Cymreig mewn operâu fel ''Yr Hwrdd Du'' ''(The Black Ram'', 1951–3), sy’n seiliedig ar themâu [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | gwerinol]], a ''The Lady of Flowers'' (1981), yn ogystal â’r agorawd ''Seithenin'' (1959), un o’i weithiau mwyaf trawiadol.
  
Mae ei arddull gerddorol hefyd yn adleisio’i ddiddordebau fel hanesydd cerdd - Elgar, Warlock, Cyril Scott (ysgrifennodd gyfrolau ar y tri yn ogystal â nifer helaeth o erthyglau mewn cylchgronau rhyngwladol) a cherddoriaeth Gymreig. Meddai ar feddwl chwim, treiddgar a thrwy arwahanrwydd ei bersonoliaeth liwgar taflodd oleuni newydd ar sawl maes, gan gynnwys Amrywiadau ‘Enigma’ Elgar. Yn gynnar yn ei yrfa roedd y dylanwadau arno yn draddodiadol a cheidwadol, ond wrth iddo ddatblygu lledwyd y dylanwadau hynny i gynnwys Béla Bartók (1881-1945) - cyflwynwyd gwaith yr Hwngariad iddo gan ei gyfaill Humphrey Searle tra oedd yn Rhydychen - harmonïau y cyfansoddwr Ffrengig Olivier Messiaen (1908-92) ynghyd â [[jazz]] traddodiadol.
 
Y diwygiad cyfredol, am 16:49, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Yn gyfansoddwr, cerddor ac awdur, ganed Horace Ian Parrott yn Llundain, ond fe ymserchodd ym mywyd a diwylliant Cymru mewn bywyd hir a chyflawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Harrow cyn mynychu’r Coleg Cerdd Brenhinol a’r Coleg Newydd, Rhydychen. Treuliodd gyfnod yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd a bu’n arholi ar ran Coleg y Drindod, Llundain, yn ogystal â darlithio ym Mhrifysgol Birmingham. Fodd bynnag, yn 1950 fe’i penodwyd yn Athro Gregynog Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, i olynu David de Lloyd (1883-1948), ac yno y bu hyd nes iddo ymddeol yn 1983.

Yn ystod y cyfnod hwn bu’n fawr ei ddylanwad ar nifer o fyfyrwyr a ddaeth wedyn yn ffigurau amlwg ym mywyd cerddorol Cymru, yn eu plith William Mathias, David Harries a Kenneth Bowen. Yr un pryd, bu iaith a diwylliant Cymru’n ddylanwad ar ei waith creadigol ef ei hun fel cyfansoddwr. Roedd yn gymeriad hoffus a bywiog, a thrwy ei waith diflino yn hybu cerddoriaeth ei wlad fabwysiedig daeth yn ffigwr adnabyddus ymhlith cerddorion Cymreig ei gyfnod. Roedd yn un o sylfaenwyr yr Urdd Er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru (Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru wedi hynny) yn 1955, ar y cyd â John Edwards.

Fel cyfansoddwr y daeth i’r amlwg gyntaf. Graddiodd gyda DMus (Rhydychen) yn 1940 ac ymhlith ei weithiau cynnar nodedig y mae El Alamein, Preliwd Symffonig i Gerddorfa Lawn (1944) a’i Symffoni Rhif 1 (1946). Yn 1947 cyfansoddodd un o’i weithiau gorau sef Luxor, Argraffiad Symffonig i Gerddorfa Lawn (1947), a enillodd iddo wobr gyntaf y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol flwyddyn cyn ei benodiad i’r Gadair yn Aberystwyth; roedd y gwaith yn tynnu ar ei brofiadau seicig tra’r oedd yn y fyddin yn yr Aifft.

O ran ei arddull, fel llawer o’i gyfoedion Prydeinig, cadwodd o fewn terfynau tonyddiaeth ond gyda phwyslais ar y trithon sy’n aml yn creu amwysedd a ffrithiant nodweddiadol wedi’u cyplysu â rhythmau herciog. Yn Luxor, er enghraifft, defnyddiodd gordiau clwstwr cymhleth. Arbrofodd gyda strwythurau cerdd mewn gweithiau megis y Concerto i’r Cor Anglais (1956) a Pensieri, Concerto Grosso i Linynnau (1950). Ffrwyth ei deithio mynych ar ran Coleg y Drindod, Llundain, fel arholwr oedd Symffoni Rhif 2 (Round the World) (1960) a Phumawd Chwythbrennau Rhif 2 (Fresh About Cook Strait) (1970).

Cyfansoddodd nifer helaeth o weithiau siambr megis Pedwarawd Llinynnol Rhif 4 (1963), un o’i weithiau mwyaf nodedig lle cywesgir mynegiant yn goeth a strwythurol effeithiol. Gwelir dylanwad themâu Cymreig mewn operâu fel Yr Hwrdd Du (The Black Ram, 1951–3), sy’n seiliedig ar themâu gwerinol, a The Lady of Flowers (1981), yn ogystal â’r agorawd Seithenin (1959), un o’i weithiau mwyaf trawiadol.

Mae ei arddull gerddorol hefyd yn adleisio’i ddiddordebau fel hanesydd cerdd - Elgar, Warlock, Cyril Scott (ysgrifennodd gyfrolau ar y tri yn ogystal â nifer helaeth o erthyglau mewn cylchgronau rhyngwladol) a cherddoriaeth Gymreig. Meddai ar feddwl chwim, treiddgar a thrwy arwahanrwydd ei bersonoliaeth liwgar taflodd oleuni newydd ar sawl maes, gan gynnwys Amrywiadau ‘Enigma’ Elgar. Yn gynnar yn ei yrfa roedd y dylanwadau arno yn draddodiadol a cheidwadol, ond wrth iddo ddatblygu lledwyd y dylanwadau hynny i gynnwys Béla Bartók (1881-1945) - cyflwynwyd gwaith yr Hwngariad iddo gan ei gyfaill Humphrey Searle tra oedd yn Rhydychen - harmonïau y cyfansoddwr Ffrengig Olivier Messiaen (1908-92) ynghyd â jazz traddodiadol.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Lyn Davies, ‘Ian Parrott’, Contemporary Composers (Llundain a Chicago, 1992)
  • Ian Parrott, Parrottcisms: The Autobiography of Ian Parrott, British Music Society Monograph No. 5 (Essex, 2003)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.