Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anomie"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''Anomie'') Datblygwyd y term ''anomie'' gan Émile Durkheim, swyddogaethwr Ffrengig dylanwadol a aned ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bym...') |
|||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Yn ôl Durkheim, mae solidariaeth organig yn gallu cymryd lle solidariaeth fecanyddol, â [[datblygu]] cyfreithiau newydd wedi’u seilio ar adfer yn hytrach na chosbi. Yn ogystal, mae mwy o gydweithredu rhwng gweithwyr gan fod natur y swyddi newydd, diwydiannol, yn aml yn fwy arbenigol ac yn dibynnu ar fwy o gydweithio na’r hen swyddi gynt. Ond roedd Durkheim yn dadlau bod sefyllfaoedd anomig yn codi pan oedd y newidiadau cymdeithasol hyn yn digwydd yn rhy gyflym, heb ddigon o amser i strwythurau newydd gymryd eu lle. Gallai hyn achosi i bobl deimlo’n ddibwrpas, a’i bod yn anodd gwybod sut y dylent fyw eu bywydau. Roedd hefyd yn gallu arwain at deimladau o arwahanrwydd a diffyg cysylltiadau cymdeithasol gydag eraill. | Yn ôl Durkheim, mae solidariaeth organig yn gallu cymryd lle solidariaeth fecanyddol, â [[datblygu]] cyfreithiau newydd wedi’u seilio ar adfer yn hytrach na chosbi. Yn ogystal, mae mwy o gydweithredu rhwng gweithwyr gan fod natur y swyddi newydd, diwydiannol, yn aml yn fwy arbenigol ac yn dibynnu ar fwy o gydweithio na’r hen swyddi gynt. Ond roedd Durkheim yn dadlau bod sefyllfaoedd anomig yn codi pan oedd y newidiadau cymdeithasol hyn yn digwydd yn rhy gyflym, heb ddigon o amser i strwythurau newydd gymryd eu lle. Gallai hyn achosi i bobl deimlo’n ddibwrpas, a’i bod yn anodd gwybod sut y dylent fyw eu bywydau. Roedd hefyd yn gallu arwain at deimladau o arwahanrwydd a diffyg cysylltiadau cymdeithasol gydag eraill. | ||
− | Defnyddiodd Durkheim y syniad o ''anomie'' yn ei waith ar hunanladdiad. ''Yn Suicide'' (Le Suicide, 1897) disgrifiodd ''anomie'' fel un o bedair ffactor gymdeithasol a allai achosi hunanladdiad. Dadleuodd fod newidiadau economaidd mawr, sy’n arwain at bobl yn ennill neu’n colli llawer o arian yn gyflym iawn, yn creu tensiwn rhwng disgwyliadau pobl a’u cyfleoedd, ac nad ydynt yn gallu | + | Defnyddiodd Durkheim y syniad o ''anomie'' yn ei waith ar hunanladdiad. ''Yn Suicide'' (''Le Suicide'', 1897) disgrifiodd ''anomie'' fel un o bedair ffactor gymdeithasol a allai achosi hunanladdiad. Dadleuodd fod newidiadau economaidd mawr, sy’n arwain at bobl yn ennill neu’n colli llawer o arian yn gyflym iawn, yn creu tensiwn rhwng disgwyliadau pobl a’u cyfleoedd, ac nad ydynt yn gallu <nowiki>addasu</nowiki> i’r sefyllfa newydd. |
Datblygodd Robert Merton, cymdeithasegwr Americanaidd, gysyniad Durkheim er mewn esbonio troseddu a gwyredd. Roedd Merton (1938) yn dadlau bod sefyllfaoedd anomig yn codi pan nad oedd unigolion yn gallu cyflawni’r nodau a ddisgwylid gan gymdeithas. Defnyddiodd esiampl y Freuddwyd Americanaidd. Yn ôl y Freuddwyd Americanaidd, mae’n bosib i bawb ennill digonedd o gyfoeth a nwyddau materol os ydynt yn gweithio’n ddigon caled. Er hyn, mewn gwirionedd roedd yn amhosib i bobl ddosbarth gweithiol wireddu’r freuddwyd hon ar y pryd oherwydd lefelau uchel o anghydraddoldeb. | Datblygodd Robert Merton, cymdeithasegwr Americanaidd, gysyniad Durkheim er mewn esbonio troseddu a gwyredd. Roedd Merton (1938) yn dadlau bod sefyllfaoedd anomig yn codi pan nad oedd unigolion yn gallu cyflawni’r nodau a ddisgwylid gan gymdeithas. Defnyddiodd esiampl y Freuddwyd Americanaidd. Yn ôl y Freuddwyd Americanaidd, mae’n bosib i bawb ennill digonedd o gyfoeth a nwyddau materol os ydynt yn gweithio’n ddigon caled. Er hyn, mewn gwirionedd roedd yn amhosib i bobl ddosbarth gweithiol wireddu’r freuddwyd hon ar y pryd oherwydd lefelau uchel o anghydraddoldeb. |
Diwygiad 19:47, 13 Mawrth 2023
(Saesneg: Anomie)
Datblygwyd y term anomie gan Émile Durkheim, swyddogaethwr Ffrengig dylanwadol a aned ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw’r gair o’r iaith Roeg yn wreiddiol: ‘anomos’ – sef ‘heb gyfraith’ (Scott, 2014). Defnyddiodd Durkheim y cysyniad i ddisgrifio sefyllfaoedd pan oedd newidiadau cymdeithasol, fel lleihad yn nylanwad crefydd, yn arwain at ddirywiad moesau a normau cymdeithasol. Yn ôl Durkheim, roedd dau fath o solidariaeth yn bosib o fewn cymdeithasau: solidariaeth fecanyddol o fewn cymdeithasau cyntefig a solidariaeth organig mewn cymdeithasau mwy modern. Yn The Division of Labour (De la division du travail social, 1893) disgrifiodd sut mae normau cymdeithasol yn gryf o fewn cymdeithasau wedi’u seilio ar solidariaeth fecanyddol, a bod pobl yn unedig oherwydd eu bod yn rhannu’r un gwerthoedd a’r un moesau. Gyda thwf solidariaeth organig, ceir mwy o amrywiaeth o ran moesau a chredoau pobl. Mae hyn yn gysylltiedig â’r newidiadau economaidd a ddigwyddodd ar ôl y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain. Arweiniodd hyn at fwy o amrywiaeth yn y mathau o swyddi yr oedd pobl yn eu gwneud.
Yn ôl Durkheim, mae solidariaeth organig yn gallu cymryd lle solidariaeth fecanyddol, â datblygu cyfreithiau newydd wedi’u seilio ar adfer yn hytrach na chosbi. Yn ogystal, mae mwy o gydweithredu rhwng gweithwyr gan fod natur y swyddi newydd, diwydiannol, yn aml yn fwy arbenigol ac yn dibynnu ar fwy o gydweithio na’r hen swyddi gynt. Ond roedd Durkheim yn dadlau bod sefyllfaoedd anomig yn codi pan oedd y newidiadau cymdeithasol hyn yn digwydd yn rhy gyflym, heb ddigon o amser i strwythurau newydd gymryd eu lle. Gallai hyn achosi i bobl deimlo’n ddibwrpas, a’i bod yn anodd gwybod sut y dylent fyw eu bywydau. Roedd hefyd yn gallu arwain at deimladau o arwahanrwydd a diffyg cysylltiadau cymdeithasol gydag eraill.
Defnyddiodd Durkheim y syniad o anomie yn ei waith ar hunanladdiad. Yn Suicide (Le Suicide, 1897) disgrifiodd anomie fel un o bedair ffactor gymdeithasol a allai achosi hunanladdiad. Dadleuodd fod newidiadau economaidd mawr, sy’n arwain at bobl yn ennill neu’n colli llawer o arian yn gyflym iawn, yn creu tensiwn rhwng disgwyliadau pobl a’u cyfleoedd, ac nad ydynt yn gallu addasu i’r sefyllfa newydd.
Datblygodd Robert Merton, cymdeithasegwr Americanaidd, gysyniad Durkheim er mewn esbonio troseddu a gwyredd. Roedd Merton (1938) yn dadlau bod sefyllfaoedd anomig yn codi pan nad oedd unigolion yn gallu cyflawni’r nodau a ddisgwylid gan gymdeithas. Defnyddiodd esiampl y Freuddwyd Americanaidd. Yn ôl y Freuddwyd Americanaidd, mae’n bosib i bawb ennill digonedd o gyfoeth a nwyddau materol os ydynt yn gweithio’n ddigon caled. Er hyn, mewn gwirionedd roedd yn amhosib i bobl ddosbarth gweithiol wireddu’r freuddwyd hon ar y pryd oherwydd lefelau uchel o anghydraddoldeb.
Dadleuodd Merton fod methu cyflawni’r freuddwyd yn bygwth statws cymdeithasol unigolion, gan fod yna awgrym fod pobl nad oedd yn gallu ei gwireddu yn ddiog. Roedd y bai, felly, ar yr unigolyn am fethu ennill y cyfoeth hwn, ac o ganlyniad roedd yn defnyddio troseddu fel ffordd o gynnal ei statws cymdeithasol. Mae syniadau Merton bellach wedi eu beirniadu’n helaeth, yn bennaf oherwydd nad oedd wedi ystyried troseddu gan y dosbarth canol, yn ogystal â rôl isddiwylliannau wrth ddatblygu a chynnal troseddu (Giddens a Sutton, 2017). Er hyn, mae’r syniad bod troseddu’n digwydd pan fydd gwahaniaeth rhwng disgwyliadau cymdeithasol a gallu pobl i’w gwireddu yn dal yn ddylanwadol o fewn troseddeg fodern.
Rhian Barrance
Llyfryddiaeth
Durkheim, É. (1897/2002), Suicide (London: Routledge).
Giddens, A. a Sutton, P. (2017), Essential Concepts in Sociology (Cambridge: Polity Press).
Merton, R. H. (1938), ‘Social Structure and Anomie’, American Sociological Review, 3 (5), 672–82.
Scott, J. (2014), A Dictionary of Sociology (Oxford: Oxford University Press).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.