Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mas-Symudiad"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''mass movement'') Mae hyn yn golygu symudiad deunydd i lawr llethr o dan ddylanwad disgyrchiant, heb gymorth uniongyrchol gan ddŵr neu iâ. ...')
(Dim gwahaniaeth)

Diwygiad 11:25, 29 Awst 2013

(Saesneg: mass movement)

Mae hyn yn golygu symudiad deunydd i lawr llethr o dan ddylanwad disgyrchiant, heb gymorth uniongyrchol gan ddŵr neu iâ. Efallai bydd dŵr ac iâ yn gweithredu fel irwr fodd bynnag. Mae prosesau mas-symudiad yn medru digwydd dros raddfeydd gofodol ac amserol amrywiol iawn. Er enghraifft, bydd gronynnau unigol yn cael eu symud ychydig gentimetrau dros gyfnod o ganrifoedd gan ymgripiad pridd tra bod tirlithriadau sydd yn symud darnau cyfan o fynyddoedd yn digwydd o fewn ychydig funudau. Y tirlithriad mwyaf a gofnodwyd ar y ddaear erioed oedd llithriad Saidmarreh yn ne orllewin Iran 10,000 o flynyddoedd yn ôl pryd y symudodd llwyth o galchfaen 15 km o hyd, 5 km o led ac o leiaf 300 m o ddyfnder nifer o gilometrau.

Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar symudiad deunydd i lawr y llethr. Graddiant yw un o’r ffactorau pwysicaf. Mae grym disgyrchiant sydd yn gweithredu ar ddeunydd ar lethr yn rhannu i ddwy elfen: cydran lawr-llethr a chydran normal i’r llethr. Mae’r gydran lawr-llethr yn gosod straen groesrym ar y bloc sydd yn gweithredu ar yr un plân â’r llethr (yn gyfochrog i ongl y llethr) ac yn tynnu’r deunydd i lawr y llethr. Mae’r gydran normal i’r llethr yn gweithredu ar ongl sgwâr i’r llethr ac yn ceisio atal symudiad drwy ddal y bloc yn ei le. Mae ffrithiant rhwng y deunydd a’r llethr hefyd yn ceisio atal y deunydd rhag symud i lawr y llethr.

Yn gyffredinol, rhennir prosesau mas-symudiad i bum math – cwympiadau (falls), llithriadau (slides), llifoedd (flows), priddlifoedd (solifluction) ac ymgripiad pridd (soil creep). Mae’r rhain yn amrywio’n eang o ran graddfa amser, er enghraifft gall cwympiadau ddigwydd mewn mater o eiliadau tra bod ymgripiad yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd. Mae cwymp yn digwydd pan fo deunydd rhydd (creigiau, clogfeini a cherrig) yn cwympo’n fertigol o dan ddylanwad disgyrchiant. Mae llithriadau yn digwydd ar hyd plân croesrym diffiniedig rhwng y deunydd sydd yn symud a’r llethr oddi tano. Mae’r plân yma yn arwyneb 2-ddimensiwn sydd yn gorwedd yn gyfochrog â’r llethr ar gyfer llithriadau trawsfudol (translational slides), ond sydd â siâp ceugrwm ar gyfer llithriadau cylchdro (rotational slides) sydd fel arfer yn digwydd mewn haenau trwchus o ddeunydd cydlynol, unffurf. Yn wahanol i lithriadau, nid oes gan lifoedd blân croesrym diffiniedig. Er bod y croesrym mwyaf yn digwydd ar waelod y llif, mae’r symudiad yn digwydd o fewn corff y deunydd sydd yn llifo. Tra bod lleidlifoedd fel arfer yn cynnwys cydran hylifol uchel iawn, mae tirlifiau yn tueddu i fod yn rhannol hylifol ac yn rhannol solid. Fel arfer mae gan lifoedd cyflym ffiniau penodol sydd yn dilyn llwybrau traenio penodol sydd yn bodoli. Mae priddlifoedd yn fath o lif ac yn golygu symudiad araf deunydd i lawr y llethr. Mae’n gysylltiedig gyda gwthiad pridd (soil heave) lle mae deunydd yn cael ei symud yn fertigol oherwydd chwyddo neu grebachiad gronynnau clai, neu dyfiant a dadmer crisialau iâ. Mae cylchoedd felly yn medru hyrwyddo symudiad y deunydd i lawr llethr. Mae ymgripiad pridd yn broses dymor hir pryd y bydd deunydd yn symud yn araf i lawr y llethr o dan ddylanwad disgyrchiant.

Llyfryddiaeth

Charlton, R (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.

Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376 tt.