Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Teulu"
B |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | [[Delwedd:Teulu.jpg | right]] | + | [[Delwedd:Teulu.jpg|right]] |
==Crynodeb== | ==Crynodeb== | ||
Ym mhennod gyntaf y gyfres, yn sgîl marwolaeth annisgwyl Dr Walt, tad–yng–nghyfraith Hywel, fe'i gorfodir i wynebu'r ffaith mai dymuniad penna' ei wraig yw symud 'nôl i Aberaeron i fyw. I Hywel, sy'n feddyg llwyddiannus yn Llundain, mae'r syniad yn anathema llwyr. Chwalwyd bywyd dedwydd y teulu gyda'r datguddiad mai Dr John, nid Richard Morgan, oedd tad Hywel. Cafwyd mwy o gyfrinachau hefyd, wrth i Hywel, sy'n cael ei bortreadu gan Geraint Morgan, gael perthynas gyda'i gydweithiwr a darpar wraig ei frawd, Dr Manon. Gorffenodd y gyfres gyntaf gyda'r gwylwyr ar bigau'r draen yn dilyn priodas Llŷr a Dr Manon a thrawiad Dr John. | Ym mhennod gyntaf y gyfres, yn sgîl marwolaeth annisgwyl Dr Walt, tad–yng–nghyfraith Hywel, fe'i gorfodir i wynebu'r ffaith mai dymuniad penna' ei wraig yw symud 'nôl i Aberaeron i fyw. I Hywel, sy'n feddyg llwyddiannus yn Llundain, mae'r syniad yn anathema llwyr. Chwalwyd bywyd dedwydd y teulu gyda'r datguddiad mai Dr John, nid Richard Morgan, oedd tad Hywel. Cafwyd mwy o gyfrinachau hefyd, wrth i Hywel, sy'n cael ei bortreadu gan Geraint Morgan, gael perthynas gyda'i gydweithiwr a darpar wraig ei frawd, Dr Manon. Gorffenodd y gyfres gyntaf gyda'r gwylwyr ar bigau'r draen yn dilyn priodas Llŷr a Dr Manon a thrawiad Dr John. | ||
Llinell 84: | Llinell 84: | ||
− | [[ | + | [[Categori:Yn y Ffrâm]] |
− | [[ | + | [[Categori:Cyfresi Drama]] |
− | [[Categori: Cynyrchiadau]] | + | [[Categori:Cynyrchiadau]] |
+ | |||
+ | __NOAUTOLINKS__ |
Diwygiad 15:21, 18 Mehefin 2014
Cynnwys
Crynodeb
Ym mhennod gyntaf y gyfres, yn sgîl marwolaeth annisgwyl Dr Walt, tad–yng–nghyfraith Hywel, fe'i gorfodir i wynebu'r ffaith mai dymuniad penna' ei wraig yw symud 'nôl i Aberaeron i fyw. I Hywel, sy'n feddyg llwyddiannus yn Llundain, mae'r syniad yn anathema llwyr. Chwalwyd bywyd dedwydd y teulu gyda'r datguddiad mai Dr John, nid Richard Morgan, oedd tad Hywel. Cafwyd mwy o gyfrinachau hefyd, wrth i Hywel, sy'n cael ei bortreadu gan Geraint Morgan, gael perthynas gyda'i gydweithiwr a darpar wraig ei frawd, Dr Manon. Gorffenodd y gyfres gyntaf gyda'r gwylwyr ar bigau'r draen yn dilyn priodas Llŷr a Dr Manon a thrawiad Dr John. Yn yr ail gyfres, mae Llŷr ar fin agor clwb newydd ar y maes carafannau mae'n rhedeg ar dir y teulu. Mae e a Manon, sy'n cael ei chwarae gan Catrin Morgan, yn paratoi i symud o Fryncelyn i gartref newydd. Bydd y trydedd gyfres yn cael ei ddarlledi yn Hydref 2010.
Dyma wybodaeth o'r cwmni Apollo sy'n cynhyrchu'r ddrama:
"Saga deuluol yw ‘Teulu’ ac iddi flas meddygol. Mae’r drydedd gyfres yn cychwyn oddeutu 6 mis ers diwedd Cyfres 2 a’r teulu, bellach, yn dechrau ymgodymi a’r ffaith fod Richard Morgan wedi marw. Fel yn y ddwy gyfres flaenorol mae’r saga deuluol, emosiynol yn ganolog i’r gyfres ac yn gorwedd ochor yn ochor a’r straeon sy’n deillio o’r feddygfa yn wythnosol ac o wythnos i wythnos. Mae’r dafarn, a’r clwb hefyd yn lleoliadau reolaidd a phwysig i’r gyfres. Mae cymeriadau’r gyfres yn ymddangos ar y cyfan ymhob un o’r penodau er bod ambell i gymeriad gwadd yn dal i ymddangos mewn penodau unigol. Yn y gyfres hon, cyflwynir 3 chymeriad newydd. Nyrs arbenigol yw Anest sy’n dod i weithio i’r feddygfa ac mae Huw, ei gwr,yn y pendraw yn cael ei benodi yn rheolwr Y Cei. Mae Ffion Huws a ymddangosodd fel cyfreithwraig mewn un bennod yng Nghyfres 2 yn ail ymuno a’r cast ym mhennod 5 ac yn tyfu i fod yn un o gymeriadau rheolaidd yn y gyfres."
Manylion Pellach
Teitl Gwreiddiol: Teulu
Blwyddyn: 2008, 2010
Hyd y Ffilm: 60 munud bob pennod
Cyfarwyddwr: Delyth Thomas, Sion Humphreys, Rhys Powys, Gareth Rowlands
Sgript gan: Meic Povey, Branwen Cennard
Stori gan: Geraint Lewis
Cynhyrchydd: Branwen Cennard
Cwmnïau Cynhyrchu: Boomerang
Genre: Drama
Cast a Chriw
Prif Gast
- William Thomas (Richard)
- Mair Rowlands (Margaret)
- Geraint Morgan (Hywel)
- Rhys ap Hywel (Llyr)
- Rhian Jones (Llinos)
- Gaynor Morgan Rees (Dot)
- Heledd Baskerville (Catrin)
- Zak Daly (Owain)
- Jonathan Nefydd (Danny)
- Rhys Parry Jones (Dr John)
- Eiry Thomas (Eirlys)
- Catrin Morgan (Manon)
- Lydia Jones (Meleri)
- Dewi Rhys Williams (Eric)
- Meilyr Sion (Rhydian Lloyd)
- Bradley Freegard (Steffan)
- Steffan Rhodri (Danny)
- Beth Robert (Myra)
- Matthew Gravelle (Huw)
Ffotograffiaeth
- Ray Orton, Tony Yates
Dylunio
- Phil Rawsthorne
Cerddoriaeth
- Dyfan Jones
Sain
- Tom Logan, Andy Powell, Rolant Jones
Golygu
- Sara Jones, Angharad Owen
Manylion Technegol
Fformat Saethu: Clir Lun
Math o Sain: Stereo
Lliw: Lliw
Cymhareb: Agwedd 16:9
Gwlad: Cymru
Iaith Wreiddiol: Cymraeg
Lleoliadau Saethu: Aberaeron, Caerdydd