Peiran
(Saesneg: cirque)
Peirannau yw un o nodweddion amlycaf erydiad rhewlifol mewn tirweddau mynyddig. Mae’r tirffurf arbennig hwn wedi’i gyffelybu i gadair freichiau creigiog neu fasn mawr sy’n agored ar i waered, ond ar i fyny fe’i nodweddir gan gefnfur bwaog sy’n fwy serth o lawer na llawr y peiran. Yn wir, wrth ddisgrifio peirannau, mae’r rhan fwyaf o awduron wedi rhoi cryn bwyslais ar dair elfen ‘nodweddiadol’, sef eu cefnfuriau serth, eu creigloriau (rock floors) gwastad neu orddwfn (a all fod ar ffurf creicafnau [rock basins]) a’u ffurfiau bwaog syml. Ond nid tirffurfiau syml mohonynt ac oherwydd eu bod yn amrywiol iawn eu ffurf a’u maint nid oes diffiniad boddhaol a diamwys o beiran ar gael. Dyna sy’n egluro pam fod cyfanswm y peirannau a gofnodwyd mewn tair astudiaeth wahanol o beirannau’r Alban, yn amrywio rhwng 347 a 876! Serch hynny, mae gwahanol fesuriadau wedi cael eu defnyddio mewn ymgais i ddisgrifio eu ffurf a’u lleoliad, megis: hyd o’r cefnfur i’r trothwy; lled rhwng ochrau’r cefnfur bwaog; dyfnder o grib y cefnfur i’r llawr; uchder y trothwy; arwynebedd; cyfaint a chyfeiriadaeth (orientation, aspect). At hynny, gellir disgrifio hydbroffil peiran drwy ddefnyddio’r gromlin logarithmig ganlynol:
y = k(1 – x)e-x
y yw’r uchder; x yw’r hyd; k yw’r cysonyn yn disgrifio ceugrymedd yr hydbroffil; e yn gysonyn
Am y rhan fwyaf o beirannau mae gwerth rhif-k rhwng 0.5 a 2. Pan fo k = 2, mae’r basn dan gysgod y cefnfur yn ddwfn a’r cefnfur ei hun yn serth; pan fo k = 0.5, mae’r peiran yn fas ac iddo lawr sydd naill ai’n wastad neu’n gogwyddo ar i waered. Felly, mae gwerthoedd uchel k yn cyfateb i beirannau gorddwfn, datblygedig iawn. Fodd bynnag, ni ellir priodoli ffurfiant y fath beirannau i un cyfnod rhewlifol penodol, gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn gynnyrch erydiad yn ystod cyfres o rewlifiannau. At hynny, mae eu hunion ffurf yn dibynnu ar litholeg ac adeiledd y creigiau y naddwyd y peirannau ohonynt.
Mae’r hydbroffil a ddisgrifir gan y rhif k yn gynnyrch erydiad tanrewlifol (pliciad a sgrafelliad [quarrying and abrasion]) godre’r cefnfur a llawr y peiran, tra bod enciliad y cefnfur yn ganlyniad i waith rhewi-dadmer a más-symudiad sy’n cyflenwi creigiau rhewfriw i’r rhewlif a’i arfogi â llwyth o ddeunydd sgraffiniol. Er mwyn i’r erydiad tanrewlifol fod yn gwbl effeithiol y mae’n rhaid bod y rhewlif peiran yn meddu ar wadn cynnes, gan mai presenoldeb dŵr tawdd sy’n sbarduno llif cylchlithro (rotational slip) yr iâ sy’n esgor ar greicafnau. Mae creicafnau gorddwfn yn tystio i erydiad tanrewlifol tra effeithiol, e.e. mae Glaslyn, wrth odre’r Wyddfa, yn llenwi creicafn ac iddo ddyfnder o oddeutu 39 m.
Mae’r ddamcaniaeth fod pryd a gwedd peirannau yn esblygu gyda threiglad amser yn seiliedig ar y dybiaeth fod pob poblogaeth o dirffurfiau esblygol yn cynnwys nifer o enghreifftiau sy’n cynrychioli gwahanol gamau yn eu hesblygiad. Ar sail y modelau a awgrymwyd, ymddengys fod uwcholwg a hirbroffil peiran yn mynd yn fwyfwy caeedig wrth i’w faint gynyddu o ganlyniad i enciliad parhaus y cefnfur a thyrchu’r llawr.
Mewn tirweddau rhewlifol, megis Eryri, gellir defnyddio uchder a chyfeiriadaeth (orientation, aspect) peirannau i ddarparu gwybodaeth balaeohinsoddol gyffredinol, gan fod uchder pob peiran yn cynnig brasamcan o uchder yr eirlin rhanbarthol (regional snowline), a bod cyfeiriadaeth y rhewlif a greodd y peiran dan reolaeth y prifwyntoedd eiraog a’r pelydriad heulog (solar radiation). Felly, mae uchder lloriau peirannau Eryri, er enghraifft, yn graddol godi wrth eu holrhain o’r de-orllewin i’r gogledd-ddwyrain ac mae’r rhan fwyaf ohonynt, gan gynnwys peirannau eraill hemisffer y gogledd, yn wynebu’r gogledd-ddwyrain.
Llyfryddiaeth
- Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) Glaciers and Glaciation, Arnold, Llundain, tt. 356–9, 368–72.
- Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms, Wiley, Chichester, tt. 169–73.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.