Deus ex machina
Disgrifiad Lladin yw deus ex machina, sef ‘duw allan o beiriant’, sy’n cyfeirio’n wreiddiol at fath penodol ar ddiweddglo mewn dramâu Groegaidd. Mewn trasiedïau Groegaidd, yn enwedig dramâu Euripides, defnyddiwyd peiriant i ollwng duw ar y llwyfan er mwyn achub yr arwr a’i alluogi i ddatrys problemau annatrysadwy’r plot. Dull traddodiadol o sicrhau dénouement, sef diweddglo taclus i’r ddrama, oedd deus ex machina. Yn ôl Aristoteles, dylid defnyddio'r dechneg hon er mwyn datrys elfennau sydd y tu hwnt i'r ddrama ei hun, megis ar ffurf proffwydoliaeth am yr hyn sydd i ddod.
Erbyn hyn, defnyddir y term yn drosiadol i ddisgrifio unrhyw ddiweddglo dramayddol sy’n ymddatrys mewn ffordd annisgwyl ac anghredadwy. Gwneir hyn er enghraifft drwy gyflwyno cymeriad annisgwyl megis Hymen sy'n priodi'r cymeriadau ar ddiwedd As You Like It Shakespeare neu drwy gyflwyno ffaith neu eitem annisgwyl megis canfyddiad y cwd o arian yn Gwen Tomos Daniel Owen. Yn aml, caiff y dechneg ei defnyddio os nad yw’r dramodydd yn gallu canfod datrysiad rhesymegol i’w ddrama. Gellir ei defnyddio hefyd mewn ffordd eironig er mwyn herio’r dibyniad ar ddatrysiadau gwleidyddol neu ddwyfol fel yn achos Tartuffe Molière.
Rhianedd Jewell
Llyfryddiaeth
Lucas, D. W. (1968), Aristotle: “Poetics” (Oxford: Clarendon Press).